Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGANIADAU BUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts a’r Aelod Cyfetholedig, Gareth Williams, fuddiant personol yn Eitem 3 ar yr Agenda – Galw i mewn y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 68 KB

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd fod penderfyniad a wnaed gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr 2014 i gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd wedi cael ei alw i mewn ar gyfer adolygiad. O ganlyniad, er mwyn cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefn Galw-i-Mewn y Cyngor a oedd yn nodi bod yn rhaid i bwyllgor archwilio ystyried penderfyniad a alwyd i mewn o fewn pum niwrnod gwaith, roedd wedi cytuno i ystyried y mater fel eitem frys o fusnes ar agenda’r cyfarfod cyfredol. Roedd holl aelodau’r Pwyllgor gan gynnwys aelodau cyfetholedig wedi cael copïau o’r adroddiad a’r atodiadau a gafodd eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr.

 

Galw i mewn y Cynnig Arfaethedig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd.

 

Yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr 2014 fe gymeradwyodd Cabinet Sir Ddinbych yr argymhelliad canlynol:

 

“… cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr o 31 Awst 2014, gyda’r disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn amodol ar ddewis rhieni.”

 

Cafodd y penderfyniad uchod ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ar 17 Ionawr 2014 ac yn unol â Gweithdrefn Galw-i-Mewn y Cyngor, ni chafodd y penderfyniad ei weithredu ar unwaith, gan alluogi Cynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet i alw’r penderfyniad i mewn ar gyfer archwiliad, os oeddent yn teimlo’i fod yn deilwng o gael ei archwilio.

 

Daeth ffurflen “Hysbysiad Galw-i-Mewn”, wedi’i lofnodi gan nifer gofynnol y Cynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet, i law ar 20 Ionawr. 

 

Y seiliau dros alw’r penderfyniad i mewn oedd:

 

(i)            Methiant i ymgynghori; a

(ii)          Rhagfarnu’r penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr D C

 

Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau benderfynu, yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynwyd iddynt, a oedd y Pwyllgor yn credu y dylai’r Cabinet adolygu ei benderfyniad gwreiddiol, ac os felly, ar ba seiliau.

 

Gan fod penderfyniad y Cabinet ar 14 Ionawr yn ymwneud â darpariaeth addysg y Cyngor, roedd gan Aelodau cyfetholedig statudol yr Awdurdod ar gyfer addysg ar y Pwyllgor Archwilio hawl i gyfranogi’n llawn yn y drafodaeth am y penderfyniad a Alwyd i Mewn fel Aelodau o’r Pwyllgor.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Huw Williams gyflwyno’r cais galw-i-mewn. Fe wnaeth hefyd gyflwyno cynrychiolwyr y Corff Llywodraethol a’r cynrychiolwyr Esgobaethol a fyddai’n cyflwyno’u hachos, gan geisio adolygiad o’r penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad statudol ynghylch y bwriad i gau’r ysgol. Rhoddodd y Cynghorydd Williams grynodeb byr o hanes Ysgol Llanbedr D C.  

 

Roedd y Parchedig Chew yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno tystiolaeth fel Rheithor Llanbedr D C ac yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Llanbedr D C. 

 

Roedd Anthony Smith yn bresennol yn y cyfarfod fel Is-gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Llanbedr D C.

 

Roedd Rosalind Williams yn bresennol yn y cyfarfod fel cynrychiolydd yr Esgobaeth.

 

Cychwynnodd y Parchedig Chew y ddadl o blaid cadw Ysgol Llanbedr D C ar agor fel a ganlyn: 

 

(i)            Roedd ef dan y ddealltwriaeth mai’r prif nod oedd gostwng nifer y lleoedd gwag. Roedd yr ysgol ar y trywydd iawn i fod yn llawn dros y ddwy flynedd nesaf. Byddai perygl difrifol i ddewis rhieni pe bai’r ysgol yn cael ei chau.

(ii)          Nid oedd rhanddeiliaid allweddol, megis meithrinfa Munchkins, wedi cael eu hystyried

(iii)         Roedd y penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr D C yn un a wnaed rhag blaen, a oedd yn groes i God Ymarfer Llywodraeth Cymru.

 

Cododd Anthony Smith y pwyntiau canlynol:

 

(i)           Hepgoriadau yn yr adroddiad a’r ddogfen a oedd wedi cael ei chyflwyno i Aelodau’r Cabinet.

(ii)          Methiant i ymgynghori’n ddigonol. Roedd yr ymgynghoriad ffurfiol a gwblhawyd wedi methu ag ystyried rhagolygon genedigaethau,  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 158 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2013 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cafodd Cofnodion y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2013 eu cyflwyno.

 

PENDERFYNWYD y dylai Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2013 gael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

Ar y pwynt hwn cafwyd egwyl o 10 munud (11.45 a.m.)

 

Fe ailgynullodd y cyfarfod am 11.55 a.m. a chyda chydsyniad y Pwyllgor fe amrywiodd y Cadeirydd drefn busnes y cyfarfod

 

 

5.

CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL (ADRODDIAD CHWARTEROL) pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol a’r Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes (copi ynghlwm) sy'n monitro perfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei gynlluniau tref a’u budd i'r trefi eu hunain a chymunedau ymhellach i ffwrdd.

10.55 a.m. – 11.35 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes gyflwyno’r adroddiad ar Gynlluniau Tref ac Ardal (a oedd wedi cael ei gylchredeg yn flaenorol) i fonitro perfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynlluniau Tref a’u manteision i’r trefi eu hunain a chymunedau pellennig.

 

Byddai’r holl Gynlluniau Tref ac Ardal (ac eithrio Bodelwyddan) yn cael eu mabwysiadu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Roedd y Prif Weithredwr wedi gofyn am adolygiad llawn o’r cynlluniau tref i adolygu’r effaith o’i chymharu â’r adnodd o ran costau. Byddai’r adolygiad yn cael ei gynnal yn gynnar yn y flwyddyn ariannol.

 

Roedd yr holl ddyraniadau wedi cael eu cytuno gan y Cabinet. Ar y pryd roedd cyllid ychwanegol o £356,000 wedi cael ei ddyrannu ar gyfer cynlluniau tref ac ardal yn 2014/15, y gellid cyflwyno cynnig amdano.

 

Roedd y dull wedi bod yn gyson ar draws pob ardal wledig. Roedd cyllid a oedd wedi cael ei ddyrannu o’r gyllideb tref ac ardal yn flaenoriaeth ar gyfer blwyddyn 1. Roedd y cynlluniau’n rhai dros nifer o flynyddoedd, nid dim ond yn gynllun un flwyddyn.

 

Ffynhonnell cyllid arall oedd cyllid grant allanol. Roedd Cynghorau Tref a Chymuned yn rhoi llawer o ymdrech tuag at archwilio ffrydiau cyllido eraill ar gyfer prosiectau. Roedd posibilrwydd o gyllid cyfatebol hefyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley a ellid cofnodi y dylid parhau â’r penwythnos “Drysau Agored” yn Rhuthun gan ei fod yn denu nifer fawr o ymwelwyr i’r dref.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau’n nodi’r cynnydd a oedd yn cael ei wneud wrth gyflawni Cynlluniau Tref ac Ardal.

 

 

6.

RHAGLEN Y RHYL YN SYMUD YMLAEN (ADRODDIAD CHWARTEROL) pdf eicon PDF 86 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes (Arweinydd Tîm Arfordirol) (copi ynghlwm) i alluogi'r Pwyllgor i werthuso a monitro cynnydd a chyflawniadau’r Rhaglen o ran darparu ei ganlyniadau disgwyliedig, a nodi unrhyw lithriadau o ran darparu’r Rhaglen.

10.10 a.m. – 10.40 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth Arweinydd y Tîm Arfordirol gyflwyno’r Adroddiad Chwarterol ar Raglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (a oedd wedi cael ei gylchredeg yn flaenorol) i alluogi’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau i werthuso a monitro cynnydd a chyflawniadau’r Rhaglen wrth ddwyn y deilliannau disgwyliedig, ac i adnabod unrhyw llithriant o ran cyflawni’r rhaglen.

 

Cadarnhawyd y byddai Swyddfa’r Harbwrfeistr, ar ôl ei chwblhau, hefyd yn cynnwys caffi a busnes arall o fewn yr adeilad.

 

Codwyd y mater ynglŷn â chyflwr adfeiliedig y bordiau o amgylch yr hen ffair bleser. Roedd y Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes (RhDEaB) wedi bod mewn cysylltiad â pherchnogion y tir, Scarborough Developments. Roeddent hwy wedi rhoi sicrwydd i’r RhDEaB y byddai cynrychiolydd ar ran y Cwmni’n ymweld â’r safle ar ddydd Llun 27 Ionawr. Roedd y RhDEaB wedi cysylltu â’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a gadarnhaodd y gellid cymryd camau gorfodi. Pe na bai cyflwr y bordiau wedi gwella erbyn diwedd yr wythnos ganlynol, byddai rhybudd yn cael ei gyflwyno i Scarborough Developments a graddfa amser yn cael ei rhoi. Pe na bai’r gwaith yn cael ei wneud erbyn y dyddiad penodol yna byddai Sir Ddinbych yn gwneud y gwaith a byddai pridiant yn cael ei roi ar y tir.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau yn yr Arena Ddigwyddiadau wedi dod i ben, ond bod gwaith yn mynd rhagddo dan y Cynllun Tref i archwilio ffrydiau cyllido eraill posib.

 

Cytunodd holl Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn bresennol eu bod am i’w diolchiadau gael eu cofnodi a’u cyfleu i’r RhDEaB ac Arweinydd y Tîm Arfordirol am y gwaith gwych yr oeddent yn ei wneud.

 

PENDERFYNWYD y byddai Aelodau’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau’n nodi’r cynnydd a oedd wedi cael ei wneud.

 

 

7.

CYFAMOD CYMUNEDOL GYDA'R LLUOEDD ARFOG (TACH/ RHAG 2013) pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Ymgysylltu â'r Gymuned (copi ynghlwm), er mwyn rhoi diweddariad blynyddol ar sut mae'r mesurau a gyflwynwyd o dan y cyfamod wedi cefnogi cymuned y lluoedd arfog yn Sir Ddinbych, ac er mwyn i'r Pwyllgor ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth er mwyn cryfhau'r cyfamod.

9.35 a.m. – 10.10 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau gyflwyno’r Adroddiad ar y Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd Arfog (a oedd wedi cael ei gylchredeg yn flaenorol) i Aelodau ystyried diweddariad blynyddol ar y modd y mae’r mesurau a gyflwynwyd dan y cyfamod wedi rhoi cymorth i gymuned y lluoedd arfog yn Sir Ddinbych ac i’r Pwyllgor ystyried a yw’n ofynnol gwneud unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth gyda golwg ar gryfhau’r cyfamod.

 

Datganiad gwirfoddol o gydgymorth rhwng cymuned sifil a chymuned leol y lluoedd arfog yw Cyfamod Cymunedol. Roedd wedi’i fwriadu i ategu Cyfamod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog a oedd yn amlinellu’r rhwymedigaeth foesol rhwng y Wlad, y Llywodraeth a’r Lluoedd Arfog, ar lefel leol.

 

Fe wnaeth y Cyngor Llawn fabwysiadu’r Cyfamod yn ffurfiol ar 11 Medi 2012 a gofyn i’r Pwyllgor Archwilio ei argyhoeddi ei hun ynghylch y mesurau yr oedd Sir Ddinbych yn dymuno’u mabwysiadu.

 

Cytunodd y Cyngor i enwebu “Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog” (Yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Y Cynghorydd Huw Irving) a rhywun penodol i fod yn “Swyddog Arweiniol y Lluoedd Arfog” (Y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol).

 

Roedd gweithdy wedi cael ei gynnal gyda chynrychiolwyr o elusennau allweddol y lluoedd arfog a sefydliadau yn y sector cyhoeddus i wella dealltwriaeth am y materion sy’n wynebu personél a chyn-aelodau’r lluoedd arfog. Rôl y gweithgor oedd cydlynu camau gweithredu, adnabod bylchau yn y ddarpariaeth a chyfnewid gwybodaeth ac arfer da. 

 

Un o’r camau gweithredu allweddol a adnabuwyd gan y Cyfamod oedd yr angen i sefydlu tudalen wybodaeth bwrpasol ar wefan Cyngor Sir Ddinbych gyda dolenni i sefydliadau a allai roi cyngor a chymorth mewn perthynas â materion sy’n amrywio o bryderon ynghylch lles i gyngor ynghylch gyrfaoedd.

 

Roedd y Fyddin wedi cysylltu â Chyngor Sir Ddinbych gyda phrosiect ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan i ddatblygu profiad ymwelwyr/addysgol yn y Castell a fyddai’n cynnwys rhwydwaith ffosydd cynhwysfawr o’r Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Bu cais am gyllid o Gronfa Gymunedol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn llwyddiannus ac fe gymeradwywyd grant o £225,000. Roedd disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn y gwanwyn a bydd y prosiect yn un am bum mlynedd. Ar ddiwedd y pum mlynedd, byddai Ymddiriedolaeth y Castell yn dod yn gyfrifol am y ffosydd. Byddai plant ysgol yn cael eu hannog i ymweld â’r ffosydd ac roedd rhaglen addysgol yn cael ei datblygu at y diben hwn ledled Gogledd Cymru a Sir Gaer.

 

Rôl y Cyngor fyddai monitro’r agwedd ariannol ar y prosiect a rhyddhau arian yn briodol.

 

Roedd tystiolaeth bod nifer o bersonél y lluoedd arfog sy’n gadael y lluoedd arfog yn dioddef problemau ariannol a seicolegol. Roedd Sir Ddinbych yn gweithio gyda grwpiau partner i gynorthwyo’r bobl hyn i gael eu hintegreiddio o fewn y gymuned.

 

Roedd y Cynghorydd Cefyn Williams yn teimlo, o safbwynt cydraddoldebau, na ddylai personél y lluoedd arfog gael blaenoriaeth dros bobl leol ar gyfer tai oni bai fod ganddynt gysylltiad lleol. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe hysbysodd y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol fel a ganlyn:

  • Roedd personél y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi ymweld â’r Awdurdod i hyfforddi staff Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gwasanaethau Cymdeithasol ar anghenion penodol personél y fyddin
  • Roedd darn o waith ar fin cael ei wneud i fapio materion allweddol sy’n effeithio ar bersonél y lluoedd arfog a’r sefydliadau hynny a allai eu helpu. Rhoddodd y Swyddog Prosiect Graddedig amlinelliad byr o’i rôl hi yn y gwaith mapio hwn.
  • Dywedodd y byddai’n gwneud ymholiadau i weld a oedd unrhyw gyllid ar gael i alluogi perthnasau dioddefwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a pherthnasau personél a laddwyd mewn rhyfeloedd eraill i fynd i weld eu beddi yn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 87 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ynglŷn â materion perthnasol.

11.35 a.m. – 11.55 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) a oedd yn gofyn i’r Aelodau adolygu’r Rhaglen Waith Archwilio ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.

 

Cytunodd yr Aelodau â’r cais am adroddiad ar y Polisi a Rhaglen Torri Lleiniau Glas ar Ymylon Priffyrdd ar gyfer 2014/15 ym mis Ebrill

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod:

 

(a)   y byddai Rhaglen Waith y Pwyllgor yn cael ei chymeradwyo; ac

(b) y byddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn gwasanaethu fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor sy’n aelodau o wahanol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

11.55 a.m. – 12.10 p.m.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Joe Welch a Cefyn Williams adborth byr o gyfarfodydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol; Grwpiau Herio Gwasanaethau Adnoddau Dynol, Hamdden, Cyfathrebu a Marchnata a Phriffyrdd ac Amgylcheddol.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.20 p.m.