Rhaglen

Rhaglen

Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin

Eitemau
Rhif Eitem

RHAN 1 - GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I'R RHAN HON O'R CYFARFOD

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes sydd wedi ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod yma.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 124 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 19eg Ionawr 2012.

 

5.

DIGWYDDIAD BEICIO ETAPE CYMRU pdf eicon PDF 118 KB

I ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan Brif Swyddog Adfywio a Strategaeth Fuddsoddi sy’n rhoi manylion y trefniadau ar gyfer digwyddiad Etape Cymru 2011 a’r effaith a gafodd ar y gymuned leol, ac yn gofyn am arsylwadau’r Pwyllgor i gynorthwyo gyda gwella strategaethau cynllunio a chyfathrebu ar gyfer unrhyw ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol.

 

6.

FFIOEDD A THALIADAU ANGORI HARBWR Y FORYD pdf eicon PDF 118 KB

I ystyried adroddiad gan Reolwr Prosiect y Rhyl yn Symud Ymlaen a’r Rheolwr Adfywio a Datblygu Morwrol (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio arsylwadau’r Pwyllgor a chefnogaeth i’r trefniadau rheoli arfaethedig a’r taliadau am angori yn Harbwr y Foryd.

7.

NEWIDIADAU I'R STRATEGAETH CEFNOGI POBL AR GYFER 2012 I 2014 A'R CYNLLUN GWEITHREDOL AR GYFER 2012/13 pdf eicon PDF 244 KB

I ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan y Rheolwr Cefnogi Pobl sy’n ceisio barn y Pwyllgor ar y Strategaeth Cefnogi Pobl ar gyfer 2012 i 2014 a’r Cynllun Gweithredol cysylltiedig ar gyfer 2012/13.

 

8.

AROLWG PRESWYLWYR pdf eicon PDF 72 KB

I ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan y Swyddog Gwella Corfforaethol sy’n darparu canfyddiadau’r Arolwg Preswylwyr ac sy’n ceisio barn y Pwyllgor ynglŷn â sut y dylid gweithredu’r argymhellion sy’n deillio o’r arolwg a’u monitro wedi hynny.

 

9.

CYLLID CYMUNEDOL pdf eicon PDF 129 KB

I ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Dysgu a Chymunedau sy’n darparu Aelodau â throsolwg o’r system ar gyfer dyrannu cyllid i Grwpiau Aelodau Ardal a manylion cyllid cymunedol potensial yn y dyfodol.  Yn ogystal mae’r adroddiad yn amlinellu cynigion i ddatblygu Cronfa Waddol Gymunedol ac yn ceisio barn y Pwyllgor ar effeithiolrwydd y cyllid a ddyrannwyd i Grwpiau Aelodau Ardal ac ar y cynigion i greu Cronfa Waddol.

Dogfennau ychwanegol:

10.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 154 KB

I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor

RHAN 2 - EITEMAU CYFRINACHOL