Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad personol oedd yn peri rhagfarn.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu at unrhyw faterion brys cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 297 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023.

 

Materion yn codi - Darparodd y Cynghorydd Elson ddiweddariad ar lafar i’r Pwyllgor ar gofnodion y Grŵp Craffu Cyfalaf blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023.  Hysbysodd yr aelodau bod y grŵp wedi derbyn diweddariad ar gyllid gan Bennaeth Cyllid.  

Trafododd y Grŵp y Cynnig Cyfalaf mewn perthynas â’r Warchodfa Natur yn Fferm Green Gates yn Llanelwy.  Byddai’n cael ei ariannu yn bennaf gan Grantiau SPF.

Cyflwynwyd adroddiad hefyd ar y Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a oedd yn darparu gwybodaeth gefndirol ar gyfer aelodau. 

Trafododd y Grŵp Ffyniant Bro a’r Cronfeydd Ffyniant Gyffredin, a rhestrwyd 8 achos busnes, ni ofynnwyd cwestiynau ar yr achosion hynny. 

 

Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r swyddogion am drefnu a chwrdd ag aelodau ar yr orsaf trosglwyddo gwastraff newydd yn Ninbych.  Teimlai bod yr ymweliad safle wedi bod yn hynod o ddiddorol ac yn fuddiol i’w weld gyda llygaid ei hun.  Roedd yr aelodau'n edrych ymlaen at ymweliad yn y dyfodol i weld y safle ar waith.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Merfyn Parry am ddiweddariad ar y Grŵp Tasg a Gorffen Llifogydd, dywedodd y Cydgysylltydd Craffu bod cais yn cael ei wneud ar hyn o bryd ym mhob Grŵp Ardal Aelod i enwebu cynrychiolydd i sefydlu'r grŵp a threfnu cyfarfodydd y grŵp gorchwyl a gorffen.

 

Tynnodd y Cydlynydd Craffu sylw at yr adolygiad o Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a oedd ar fin cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn ond roedd rhaid ei ohirio i gyfarfod y pwyllgor nesaf yn Hydref 2023.  

 

Felly:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 29 Mehefin 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir o’r achos.

 

5.

YMGYSYLLTU Â FFORWM GOFAL CYMRU A DARPARWYR GOFAL YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 296 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gwasanaeth Digartrefedd (copi ynghlwm) yn edrych ar y cynnydd a wnaed wrth annog Fforwm Gofal Cymru a darparwyr gofal cymdeithasol lleol i ymgysylltu â’r Cyngor mewn perthynas â darpariaeth gofal cymdeithasol a gosod ffioedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw), gan atgoffa aelodau bod yr adroddiad yn dilyn i fyny ar yr adroddiad brys ar benderfyniad y Cabinet i dderbyn argymhelliad y grŵp ar gyfer Ffi Ranbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24 yn Rhagfyr 2022.  Roedd y Pwyllgor wedi cwrdd i drafod y penderfyniad yn gynharach yn y flwyddyn a gofynnwyd am adroddiad yn diweddaru gan Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Digartrefedd ar eu hymrwymiad gyda Fforwm Gofal Cymru a Darparwyr Gofal yn Sir Ddinbych.

 

Nododd yr Aelod Arweiniol bod yr adroddiad yn gryno am fod y broses gosod ffi ar gyfer 2024/24 dal yng nghamau cynnar y broses. Yn ei barn hi roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiad yr Awdurdod i annog perthnasau tryloyw a chyd-gynhyrchiol gyda darparwyr yn Sir Ddinbych.

 

Byddai'r gwasanaeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl ddarparwyr ar gyfer y broses gosod ffioedd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Pwysleisiwyd i'r aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd trafod y pryderon a godwyd yn flaenorol ynghylch ymgysylltu â Fforwm Gofal Cymru a darparwyr gofal lleol.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau i’r Aelod Arweiniol am y cyflwyniad a pharhaodd drwy bwysleisio bod ymgysylltu â darparwyr yn rhan o rôl y swyddog o ddydd i ddydd. Roedd cyfathrebu cyson rhwng yr Awdurdod a darparwyr. Ar draws Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd roedd yr awdurdod yn gweithio ochr yn ochr â nifer o ddarparwyr ac yn comisiynu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi anghenion dinasyddion Sir Ddinbych ac yn aml unigolion sy'n byw y tu allan i'r awdurdod.

 

Darparodd yr adroddiad trosolwg o’r ymrwymiad ychwanegol yr oedd swyddogion wedi’i gael gyda darparwyr yn dilyn yr adroddiad cynharach yn y flwyddyn.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y darparwyr hynny sy’n cynnig gofal preswyl a gofal cartref. 

 

Diolchodd y Cadeirydd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion am y cyflwyniad a’r adroddiad manwl.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau rhoddodd y swyddogion a’r cynrychiolwyr fwy o fanylion am y canlynol: 

·         Roedd y pryder yr oedd aelodau wedi'i godi'n flaenorol yn ymwneud â diffyg ymgysylltu gan ddarparwyr i drafod ffioedd a chostau. Pwysleisiodd swyddogion fod y gwasanaeth wedi ymgysylltu â darparwyr ynghylch y ffioedd, roedd swyddogion yn siomedig â nifer y darparwyr a oedd wedi ymgysylltu'n ffurfiol â'r adran yn y broses. Roedd swyddogion wedi ymrwymo i geisio cynyddu ymgysylltiad â darparwyr gofal wrth symud ymlaen. Clywodd yr aelodau fod swyddogion yn gweithio gyda darparwyr yn rhanbarthol gan fod nifer o ddarparwyr yn cynnig gwasanaethau ar draws nifer o awdurdodau.

·         Roedd ymateb ymgysylltu gan ddarparwyr yn hanesyddol isel, ac roedd ceisio data ariannol yn aml yn gwaethygu'r mater.

·         Yn yr adroddiad, amlygwyd bod y Prif Reolwr - Gwasanaethau Gweithredol wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda Fforwm Gofal Cymru. Dywedodd fod y cyfarfodydd a fynychodd wedi bod yn addysgiadol a chadarnhaol. Pwysleisiwyd bod y Prif Weithredwr ynghyd â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg wedi cyfarfod â Fforwm Gofal Cymru. Cafodd yr Awdurdod ddeialog agored gyda Fforwm Gofal Cymru ac roedd yn awyddus i feithrin perthynas dda a chadarnhaol.

·         Yn ystod y pandemig Covid, bu swyddogion ar draws yr Awdurdod yn ymladd dros ddarparu offer amddiffynnol personol (PPE), brechiadau, ac ystyriaethau eraill ar gyfer gweithwyr gofal. Roedd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a FfGC, ar achosion o’r fath ac wedi parhau yn dilyn llacio’r cyfyngiadau.  Mae’r achos i barhau gyda darpariaeth PPE i ddarparwyr gofal cymdeithasol am barhau ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 392 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy’r adroddiad Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Craffu Pwyllgorau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 19 Hydref 2023, yn cynnig tair eitem ar gyfer y rhaglen.

     I.        Adroddiad Cynnydd ar y Model Gwasanaeth Gwastraff Newydd;

    II.        Rhaglen Adfywio a Llywodraethu Y Rhyl ac

  III.        Adolygiad o Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr.

 

Anogodd y Cydlynydd Craffu aelodau os oedd ganddyn nhw unrhyw broblemau neu bryderon eu bod nhw’n cwblhau a dychwelyd Ffurflen Cynnig Aelodau (Atodiad 2) i’w trafod yn y cyfarfod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu nesaf ar 3 Hydref 2023. 

 

Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet petai’r Pwyllgor eisiau craffu ar unrhyw faterion sydd ar ddod.

 

Felly, dyma’r Pwyllgor yn:

 

PENDERFYNU: derbyn yr adroddiad a chadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor, fel y nodir yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd James Elson adborth ar gyfarfod Grŵp Caffael Cyfalaf a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2023.  Trafododd y grŵp 4 neu 5 eitem wahanol gan gynnwys eitem oedd yn adolygu llifogydd ym mynwent Rhuddlan gyda’r grŵp yn gofyn am ymgynghoriad pellach.  Darparodd y Cynghorydd Elson aelodau gyda disgrifiad byr o adroddiadau eraill a gyflwynwyd i’r grŵp.  Hysbysodd aelodau fod pont Llannerch ar gyfnod 2 - cam cynllunio, ac roedd yn braf clywed bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gefnogi’r datblygiad hwn dros y 2 flynedd nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Elson wrth yr aelodau fod trafodaeth wedi bod ynglŷn â gwaith atgyweirio wal ardd Nantclwyd y Dre. Roedd y prosiect wedi gorwario a byddai’n golygu gwaith atgyweirio a fyddai o bosib yn costio £650,000 ac fe awgrymodd y byddai’n bwnc y dylai Caffael ei drafod.  Cytunodd i lenwi ffurflen cynnig gan aelodau i Graffu. 

 

Cododd y Cynghorydd Cheryl Williams bryderon am y rhaglen chwynnu sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.  Cynghorodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Williams i ysgrifennu at y swyddog priodol a gofyn am adroddiad i’w Grŵp Ardal yr Aelodau.

 

 

 

 

Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r Swyddogion am y gefnogaeth a’u presenoldeb yn y cyfarfod gan ddod â’r cyfarfod i ben.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.55am.