Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Bill Cowie, David Simmons a Hugh
Evans (Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi). |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 115 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn eitem rhif 8 fel
perchennog busnes yn Rhuthun. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Notice of items which, in the opinion of the Chair, should be considered at the meeting as a matter of urgency pursuant to Section 100B(4) of the Local Government Act 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 8 Medi 2016 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 8 Medi, 2016:- PENDERFYNWYD – y
dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
DARPARIAETH YR ADRAN GWAITH A PHENSIYNAU/PEOPLE PLUS YN SIR DDINBYCH PDF 87 KB 1.
Trafod gweledigaethau'r ddau
sefydliad ar gyfer trigolion Sir Ddinbych, sut maen nhw’n bwriadu darparu eu
gweledigaethau i wella deilliannau i ddefnyddwyr gwasanaethau, y rhesymau dros
y penderfyniad i ail-leoli gwasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau i'r Fflint
a chanlyniad yr asesiadau effaith a wnaed i gael gwybodaeth i benderfynu. 2.
Trafod gyda'r Adran Gwaith a
Phensiynau y Rhaglen Gwaith ac Iechyd newydd a sut y gall y Cyngor fod yn
gysylltiedig â'r rhaglen hon er budd trigolion y Sir Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol ei
hadroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn hysbysu’r Pwyllgor ynglŷn
â’r cefndir ar gyfer adleoli gwasanaethau a gomisiynir gan yr Adran Gwaith a
Phensiynau i gynorthwyo pobl ddi-waith i dderbyn gwaith o'r Rhyl i’r Fflint.
Eglurodd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi comisiynu Rehab Jobfit i
ddarparu’r gwasanaethau hyn ar eu rhan, ac roeddent hwythau wedi
is-gontractio’r gwaith i PeoplePlus. Roedd y contract ar gyfer darparu’r rhaglen bresennol o wasanaethau yn dod
i ben ddiwedd mis Mawrth 2017. O fis Ebrill 2017 roedd yr Adran Gwaith a
Phensiynau yn bwriadu darparu Rhaglen Waith ac Iechyd newydd, ac nid oedd y
contract ar gyfer y Rhaglen wedi’i ddyfarnu eto. Croesawodd y Cadeirydd y canlynol i’r cyfarfod; Mr
John Bisby (Rheolwr Rhanbarthol, Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gyfer yr Adran
Gwaith a Phensiynau), a Mr Joel Payne (Rheolwr Rhanbarthol, Gogledd a De Cymru,
PeoplePlus) a Mr Brett Smith (Rheolwr PeoplePlus, y Fflint). Eglurodd
Rheolwr Rhanbarthol PeoplePlus, gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, y rhesymau
dros benderfyniad y sefydliad i adleoli rhan o’i waith o’r Rhyl i’r Fflint. Pwysleisiodd eu bod yn parhau i weithredu gwasanaeth allgymorth yn y Rhyl
at ddibenion darparu cymorth cyflogaeth a hyfforddiant sgiliau. Mae llwyddiant gwasanaethau PeoplePlus i gael mwy o
bobl i dderbyn gwaith yn golygu bod llai o unigolion yn cael eu hatgyfeirio i’r
ganolfan yn y Rhyl. Roedd unrhyw un yn yr ardal sy’n cael eu
hatgyfeirio yn cael eu hatgyfeirio i swyddfa’r Fflint, lle'r oedd mwy o
wasanaethau ar gael. Byddai’r rhai sy’n cael eu hatgyfeirio i’r Fflint
yn derbyn eu costau teithio a byddai staff yn gweithio gyda nhw mewn ymgais i’w
cynorthwyo i dderbyn mynediad at wasanaethau a'r farchnad swyddi. Eglurodd y Rheolwr Rhanbarthol bod sawl ‘chwedl’
wedi codi yn dilyn cyhoeddiad y penderfyniad i adleoli’r gwasanaethau o’r Rhyl
i’r Fflint, gan bwysleisio y byddai pobl nad oeddent yn gallu teithio i’r
Fflint yn cael eu gweld yn swyddfa allgymorth y Rhyl, a oedd wedi’i leoli yng
nghanol y dref yn awr, wrth ymyl 'Canolfan y Rhyl’. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd, er y bu'n rhaid i'r sefydliad adael eu heiddo
blaenorol yn y Rhyl yn gynharach na’r disgwyl roeddent wedi ymgynghori’n
helaeth gyda’r landlord a’r staff ynglŷn ag adleoli i safle arall yn y
dref am gyfnod sylweddol gan eu bod yn teimlo nad oedd yr eiddo yn ‘addas i
bwrpas’. Darparodd y Rheolwr Rhanbarthol fanylion: ·
ynglŷn â sylfaen
cwsmeriaid y sefydliad yn ardal y Rhyl (gan gynnwys eu hadborth ynglŷn â’r
newidiadau ar ôl adleoli mwyafrif y gwasanaethau i’r Fflint, a oedd yn
gadarnhaol yn gyffredinol); ac ·
ynglŷn ag
ystadegau cyfanswm y cyfraddau trawsnewid swyddi a pherfformiad yn erbyn y
targedau a osodwyd (roedd y mwyafrif ohonynt wedi'u diwallu neu eu rhagori) Yna amlinellodd Rheolwr Rhanbarthol yr Adran Gwaith
a Phensiynau’r trawsnewidiad yn ei wasanaeth ar hyn o bryd fel rhan o gyflwyno
'Rhaglen newydd Iechyd a Gwaith’, a fyddai'n weithredol ym mis Ebrill 2017.
Roedd gan y rhaglen hon ymagwedd llai cyfyngol a byddai'n canolbwyntio ar
anghenion yr unigolyn a’r cyflogwr. Byddai'r gwasanaeth newydd yn canolbwyntio ar gynorthwyo a chefnogi pobl i
dderbyn gwaith, gan weithio gyda nhw a'u cyflogwyr a'r sgiliau sydd eu hangen
mewn marchnad swyddi sy'n newid yn barhaus. Eglurodd o ddiwedd mis Mawrth 2017 byddai’r Adran Gwaith a Phensiynau yn
rhoi’r gorau i atgyfeirio pobl at PeoplePlus ar gyfer gwasanaethau rhaglenni
gwaith, ond byddai’n parhau i gefnogi cwsmeriaid presennol i dderbyn gwasanaethau PeoplePlus. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, ymatebodd
cynrychiolwyr y ddau sefydliad:
|
|
RHEOLI CEFNOGI BYW'N ANNIBYNNOL PDF 102 KB Amlinellu'r manteision posibl o fabwysiadu dull symlach
o reoli’r gwasanaethau hyn ar gyfer y ddau ddefnyddiwr gwasanaeth a'r Cyngor,
a'r llinell amser ar gyfer ei fabwysiadu. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol
(Gwasanaethau Oedolion a Phlant) adroddiad, gan gynghori bod yr adroddiad yn
amlinellu buddion posibl symleiddio
rheolaeth Gwasanaethau Cefnogi Byw'n Annibynnol ac Ailalluogi, tra'n cadw
annibyniaeth elfen darpariaeth weithredol y gwasanaethau. Cynghorwyd yr aelodau fod dangosyddion cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cefnogi
Byw’n Annibynnol, drwy Grant Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru (LlC), ar gyfer
2017/18 yn ymddangos yn ffafriol. Ymatebodd Pennaeth
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r swyddogion i gwestiynau’r Aelodau: ·
gan egluro’r termau yn
yr adroddiad mewn perthynas â gwahanol swyddi 'darparwyr gofal’, gan bwysleisio
y gallai Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig ddarparu
elfennau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. ·
Nodwyd, yn ogystal â
darparu arbedion ariannol ar gyfer y Cyngor drwy gael un rheolwr yn lle dau,
dylai uno'r gwasanaethau o dan un rheolwr wella darpariaeth gwasanaeth a
darparu gwasanaeth di-dor i'r defnyddiwr gwasanaeth; ·
cadarnhawyd y gallai
achosi mwy o gyfleoedd dilyniant gyrfa ar gyfer y staff; ·
gan gydnabod bod
symleiddio rheolaeth y gwasanaethau yn cael ei gymell yn rhannol gan y
gyllideb, cynghorwyd hefyd y dylai’r strwythur newydd ddarparu gwasanaethau
ymyrraeth o well ansawdd a gwella gwydnwch defnyddwyr gwasanaeth o ganlyniad i
hyn. Byddai hefyd yn cefnogi’r gwaith
o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o ddiogelu pobl ddiamddiffyn
ac yn eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol am gyn hired â phosibl a sicrhau fod gan
bobl fynediad at dai o ansawdd da; ·
cynghorwyd y byddai
pob swydd wag yn cael ei hadolygu i benderfynu a oedd yn diwallu gofynion
Safonau'r Gymraeg; ·
Cadarnhawyd bod 7
allan o'r 21 o argymhellion yn Adolygiad Gwasanaeth Cefnogi Pobl yn weddill ar
hyn o bryd, roedd mwyafrif y camau sy’n weddill yn gysylltiedig â’r
ailstrwythuro presennol ac felly dylid eu darparu o fewn y terfyn amser a
gytunwyd; ·
eglurwyd pan yr
ystyrir rhyddhau cleifion mewnol mewn ysbytai roedd gweithdrefn rhyddhau o’r
ysbyty yr oedd yn rhaid ei dilyn i sicrhau eu bod yn ddigon iach i gael eu
rhyddhau ac y byddent yn ddiogel yn eu cartref eu hunain; ·
Hysbyswyd y Pwyllgor
pe bai preswylwyr, gofalwyr neu gynghorwyr eisiau cyflwyno ymholiad ynglŷn
â’r gwasanaethau sydd ar gael dylent gysylltu â’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad
Sengl fel cam cyntaf. Roedd cysylltu â’r
Pwynt Mynediad Sengl yn dechrau’r sgwrs “Beth sy’n Bwysig" gan arwain at
flaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer pob unigolyn i ddiwallu eu hanghenion
penodol. Roedd hefyd yn borth ar gyfer
unigolion oedd heb deulu neu gyfeillion gerllaw i’w cefnogi i gael cymorth a
chefnogaeth; a ·
cadarnhawyd y byddai
ymgynghoriad gyda’r staff ynglŷn â’r strwythur newydd a’r amodau a
thelerau cysylltiedig yn dechrau ar 8 Tachwedd 2016. Ar ddiwedd y drafodaeth gofynnodd y Pwyllgor :
Felly: PENDERFYNWYD:- (i)
yn amodol ar yr arsylwadau uchod ac ar dderbyn sicrwydd na fyddai
symleiddio rheolaeth y gwasanaethau yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau’r
rheng flaen ac y byddai’n cefnogi darpariaeth integredig effeithiol
gwasanaethau gofal iechyd a chefnogaeth i breswylwyr, y dylid derbyn yr
adroddiad; a (ii) bod adroddiad cynnydd pellach o ran symleiddio’r strwythur rheoli, gan gynnwys gwybodaeth am y dangosyddion a ddefnyddir i fesur effeithiolrwydd y gwasanaethau i ddarparu’r canlyniadau arfaethedig yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
STRATEGAETH RHEOLI RISG LLIFOGYDD PDF 196 KB Dealltwriaeth o'r gweithgareddau y mae'r Cyngor
yn eu cyflawni i reoli risg llifogydd yn y sir a phenderfynu a yw'r rhain yn
ddigonol ac yn briodol i gyflawni amcanion y Strategaeth Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar
‘Reoli Risg Llifogydd Arfordirol ac Erydu yng Nghymru’ (a oedd ynghlwm fel
atodiad 1 i’r adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol) pwysleisiodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus fod hwn yn adroddiad cenedlaethol. Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, fel dirprwy’r
Rheolwr Risg Llifogydd, sylw’r aelodau at baragraff 4.1 yr adroddiad eglurhaol
a oedd yn amlygu prif bwyntiau’r adroddiad cenedlaethol o safbwynt Sir
Ddinbych. Eglurodd hefyd fod diweddariad cynnydd o ran
gweithredu'r amcanion, canlyniadau a mesurau Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd
y Cyngor ynghlwm i'r adroddiad fel atodiad 2 hefyd er gwybodaeth i’r Aelodau. Yn ogystal â’r camau a nodwyd yn y Strategaeth at
ddibenion lliniaru risg llifogydd yn Sir Ddinbych, roedd mesurau eraill wedi’u
cymryd mewn ymgais i leihau’r risg, er enghraifft, mesurau gweithredol megis
arolygu ceuffosydd yn rheolaidd, gwagio rhigolau ac ati. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, eglurodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd a
Chyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a'r Parth
Cyhoeddus:
Roedd Aelodau yn credu y byddai’n ddefnyddiol pe
gellir ffurfio partneriaeth rhwng y Cyngor, perchnogion tir lleol a Chyfoeth
Naturiol Cymru at ddibenion carthu a chynnal dyfrffyrdd i leihau risg
llifogydd. Felly teimla’r Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol
gwahodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfarfod yn y dyfodol i drafod materion rheoli
dŵr. Yn ystod y drafodaeth gofynnodd y Cadeirydd i’r
Aelodau oedd wedi codi materion mewn perthynas â phryderon llifogydd lleol
penodol iawn neu fesurau lliniaru gyda Rheolwr Risg Llifogydd ac i adrodd
unrhyw broblemau sy’n hysbys gyda cheuffosydd (gan gynnwys ceuffosydd wedi
gordyfu neu eu rhwystro) i’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer er mwyn eu rhestru ar
system Rheoli Cyswllt Cwsmer ar unwaith a'u rhestru ar gyfer arolwg. Byddai cwestiynau ychwanegol a godwyd yn ystod y cyfarfod ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
EFFAITH Y CYNNYDD MEWN TALIADAU PARCIO CEIR AR Y SIR PDF 100 KB Archwilio’r effaith y mae’r cynnydd mewn
taliadau parcio ceir yn ei gael ar ganol trefi’r sir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn ei gyflwyniad, atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod y fethodoleg ar
gyfer gosod prisiau parcio priodol ar draws y sir wedi’i archwilio gan y
Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2015 a bod y Pwyllgor wedi argymell bod y pris
parcio is o'r ddau a gynigiwyd yn cael ei weithredu. Roedd penderfyniadau ynglŷn â ffioedd a phrisiau parcio yn bŵer
wedi’i ddirprwyo i'r Prif Swyddog ac ar ôl ystyried yr holl wybodaeth berthnasol
roedd y Swyddog Arweiniol wedi penderfynu y byddai’n well codi’r pris uchaf o’r
ddau.
O ganlyniad, pan weithredwyd y penderfyniad
derbyniwyd rhyw faint o ymatebion anffafriol gan breswylwyr a busnesau. Mewn ymateb i'r pryderon hyn roedd y Pwyllgor wedi gofyn fod adroddiad ar
effaith y cynnydd mewn prisiau ar drefi’r sir yn cael ei gyflwyno i’w ystyried
gan yr aelodau. Croesawodd y Cadeirydd ddau aelod o’r cyhoedd a
oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac fe’u cynghorwyd y gallant rannu eu sylwadau
gyda’r Pwyllgor ar ôl cyflwyno’r adroddiad ffurfiol. Gan gyflwyno’r adroddiad a’r atodiadau cysylltiol, atgoffodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus y Pwyllgor mai’r cynnydd mewn prisiau parcio a
gyflwynwyd ym mis Ebrill 2016 oedd y cynnydd cyntaf yn Sir Ddinbych ers 2009.
Pwysleisiodd nad oedd yr holl brisiau wedi cynyddu, er enghraifft roedd cost
trwydded parcio flynyddol wedi parhau'r un fath. Roedd y fenter hirsefydlog sy’n caniatáu i bob
cyngor tref enwebu pum diwrnod parcio am ddim yn eu tref bob blwyddyn wedi’i
gadw hefyd, ynghyd â’r arfer o ganiatáu parcio am ddim ym mhob tref o 3pm yn
ddyddiol yn y 4 wythnos cyn y Nadolig. Hysbysodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor fod dau
gyngor tref, ar ôl clywed am y prisiau parcio newydd, wedi bod yn arloesol ac
wedi penderfynu rhoi cymhorthdal ar gyfer prisiau parcio yn eu trefi penodol
o’u harian eu hunain, roedd eraill o’r farn nad oedd hyn yn hanfodol. Wrth annerch y Pwyllgor
nododd aelod o’r cyhoedd:
Yn dilyn trafodaeth,
codwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:
|
|
Archwilio’r broses, y fethodoleg a’r meini prawf
ar gyfer ymgymryd ag archwiliadau diogelwch ar y ffyrdd mewn perthynas â
cheisiadau cynllunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ac eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y
broses a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgymryd ag archwiliadau
diogelwch ar y ffyrdd mewn perthynas â cheisiadau cynllunio, gan gynnwys y
meini prawf ar gyfer y gofynion ar gyfer archwilio diogelwch ar y ffyrdd. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau eglurodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y
Gwasanaeth a’r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd: ·
y byddai datblygwr
sy’n cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio yn penodi ymgynghorydd dylunio ar
gyfer y datblygiad arfaethedig. Fel rhan o’r broses ddylunio gynnar byddai archwiliad rhagarweiniol
diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei gyflawni. Byddai’r archwiliad rhagarweiniol hwn yn ystyried materion megis gwelededd
mewn cyffyrdd ffordd ac ati. ·
byddai’n rhaid
dogfennu’r holl bwyntiau diogelwch ffyrdd a godwyd gan y swyddogion cynllunio
yn ystod y broses ymgeisio yn y cais cynllunio terfynol, gan gynnwys y mesurau
fyddai’n cael eu cynnwys yn y cynlluniau datblygu i liniaru unrhyw risgiau a
nodwyd; ·
roedd canllaw
‘Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd’, yr oedd copi ohono ynghlwm i’r adroddiad,
yn ddogfen dechnegol y cedwir ati wrth ymgymryd ag archwiliadau diogelwch ar y
ffyrdd. Mae’r ddogfen hon yn nodi fod
yn rhaid i o leiaf un person sy’n ymgymryd â’r archwiliad feddu ar ‘Dystysgrif
Cymhwysedd’. Ar ôl derbyn yr adroddiad
archwilio byddai un o beirianwyr diogelwch ar y ffyrdd cymwys y Cyngor yn
sicrhau ansawdd yr asesiad, ac os oes angen byddai’n ei atgyfeirio yn ôl i’r
datblygwr gyda chais eu bod yn mynd i’r afael â’r ymholiadau cyn symud y cais
yn ei flaen i’r cam nesaf; ·
byddai unrhyw farciau
ffordd neu gynlluniau draenio sydd wedi’u cynnwys mewn ceisiadau cynllunio'n
cael eu hasesu o ran ansawdd gan beirianwyr cymwys a gyflogir gan y Cyngor; ·
unwaith y bydd
caniatâd cynllunio wedi’i roi, ac os yw gwaith ar briffyrdd yn un o‘r amodau a
nodwyd ar gyfer cymeradwyo’r caniatâd, byddai’r broses o archwilio diogelwch ar
y ffyrdd yn symud ymlaen i Gam 2. Ar y cam hwn byddai’n rhaid i’r datblygwr
geisio cymeradwyaeth priffyrdd ar gyfer newidiadau i’r briffordd e.e. adeiladu
cylchfan, peintio llinellau ac ati; Eglurodd y Cynghorydd Alice Jones i’r Pwyllgor, er
gwaethaf y sicrwydd a roddir gan y swyddogion ynglŷn â chadernid ac
annibyniaeth archwiliadau diogelwch ar y ffyrdd, roedd hi’n bendant eu bod wedi
methu ar gyfer preswylwyr Bodelwyddan yn ystod cais cynllunio diweddar yng
nghanol y pentref. Rhoddodd fanylion i’r Pwyllgor ynglŷn ag
amgylchiadau’r cais cynllunio penodol hwn, gan bwysleisio ei safbwynt nad oedd
yr Archwiliad Diogelwch ar y Ffyrdd a baratowyd ar gyfer y cais hwn wedi cydymffurfio
â’r holl feini prawf a awgrymir sydd wedi'u rhestru yn yr adran ar ‘Briff
Archwilio Diogelwch ar y Ffyrdd’ yn nogfen ‘Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd. Teimla’r Cynghorydd Jones fod nifer o ffactorau pwysig wedi’u hepgor neu eu
diystyru yn yr archwiliad diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer y cais penodol hwn
e.e. mynediad i bobl anabl, llwybr diogel i’r ysgol ac ati. Yn dilyn trafodaeth fanwl cafwyd consensws y byddai’n ddefnyddiol pe gellir trefnu gweithdy hyfforddiant ar gyfer holl aelodau’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn egluro’r broses, y fethodoleg a’r meini prawf ar gyfer y broses archwilio diogelwch ar y ffyrdd a’u defnydd mewn perthynas â’r ceisiadau cynllunio. Dylai’r gweithdy fod yn sesiwn hanner diwrnod ac wedi’i gadeirio gan Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a dylid defnyddio enghraifft Bodelwyddan a nodwyd gan y Cynghorydd Alice Jones fel un o’r enghreifftiau yn y gweithdy. Dylid cyflwyno unrhyw argymhellion sy’n deillio o’r gweithdy ac sydd angen cymeradwyaeth ffurfiol gan aelodau etholedig ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 107 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: A copy of a report by the
Scrutiny Coordinator (SC), which requested the Committee to review and agree its forward work programme and which
provided an update on relevant issues, had been circulated with the papers for the meeting. A copy of the
‘Member’s proposal form’ had been included in Appendix 2 The SC requested that
any proposals be submitted to herself.
The Cabinet Forward Work Programme had been included as Appendix 3, and
a table summarising recent Committee resolutions and advising on progress with
their implementation, had been attached at Appendix 4. The
Committee considered its draft Forward Work Programme for future meetings,
Appendix 1 and the following amendments and additions were
agreed:- ·
Natural Resources Wales be invited to attend
Communities Scrutiny Committee at their earliest convenience; ·
Supporting Independent Living and Car Parking
items be added to the 23rd March 2017 agenda. RESOLVED that, subject to
the above additions and agreements, the Forward Work Programme as set out in
Appendix 1 to the report be approved. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar wahanol Fyrddau a
Grwpiau’r Cyngor Cofnodion: There were no reports to be presented. The meeting concluded at 13:50 |