Agenda and draft minutes
Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, RUSSELL HOUSE, RHYL
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na rhai sy’n
rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel
materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 16eg Gorffennaf 2012 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 16eg
Gorffennaf 2012. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
FFRWD WAITH ADFYWIO GORLLEWIN Y RHYL PDF 135 KB Ystyried adroddiad
gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu
nodau ac amcanion y Strategaeth, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r
rhagolygon o ran gwireddu manteision. 10.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn
Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd o ran cyflawni Ffrwd
Waith Adfywio Gorllewin y Rhyl yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, y
goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision,
wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Er mwyn cyflawni'n
effeithiol, roedd gwaith Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen wedi ei
drefnu mewn ffrydiau gwaith:- ·
Ardal
Adfywio Gorllewin y Rhyl ·
Twristiaeth
a’r Llain Arfordirol ·
Manwerthu
a Chanol y Dref Roedd Prosiect
Gwella Tai Gorllewin y Rhyl yn barhad o’r gwaith parhaus yng Ngorllewin y Rhyl
dan Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru. Amlinellwyd amcanion a
manteision y Prosiect yn yr adroddiad, ynghyd â chyfrifoldebau Bwrdd y Prosiect
Gwella ar gyfer cyflawni’r prosiect. Esboniodd Rheolwr y Rhaglen y byddai delio
â’r materion a oedd wedi bodoli ers amser maith yn yr ardal yn helpu creu
argraff fwy cadarnhaol o’r dref yn gyffredinol a thrwy hynny gael manteision
adfywio mwy pell-gyrhaeddol. Trwy greu cymuned mwy cytbwys byddai’r prosiect yn
lleihau amddifadiad yn yr ardal, sef un o ganlyniadau allweddol y flaenoriaeth.
Byddai hefyd yn hybu hyder y sector preifat yn y Rhyl ac yn ysgogi buddsoddiad
pellach yn y sector preifat a hyder trwy greu swyddi newydd, cyfleoedd busnes a
hybu twristiaeth. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr angen i gydnabod a delio â’r
gwendidau a adnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei Hadroddiad Gwella
Blynyddol ar y Cyngor, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2012, a nododd fylchau ym
mecanwaith a chefnogaeth y Cyngor tuag at y Rhaglen. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen yr aelodau at yr adroddiad a’r
atodiadau cysylltiedig a oedd yn manylu sut byddai’r prosiect yn cael effaith
uniongyrchol ar y Blaenoriaethau Corfforaethol newydd arfaethedig, y costau
tebygol a’r ffrydiau ariannu, y risgiau a adnabuwyd mewn perthynas â’i
gyflawni, a’r cyfathrebu a’r gwaith ymgynghori a ymgymerwyd gyda’r gymuned yn
yr ardal. Pwysleisiwyd bod y cyllid wedi
ei ddyrannu’n benodol ar gyfer Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, ac na
ellid ei ddefnyddio y tu allan i’r Rhyl nac ar brosiectau amgen. Cyfeiriwyd at
Floc 1, y Parc Trefol, a oedd yn golygu gweddnewid yr ardal yn ardal werdd.
Mynegwyd pryder y gallai’r cyfnod ar ôl cwblhau’r prosiect fod â goblygiadau
ariannol mewn perthynas â chynnal a chadw’r man gwyrdd, a byddai angen delio â
hyn gyda’r datblygwyr gan y byddai opsiynau posibl a chyfrifoldebau yn elfen
allweddol yn y broses o ddylunio a chynllunio. Hysbyswyd yr Aelodau bod
canllawiau cynllunio atodol drafft wedi eu cyhoeddi a oedd yn amlinellu
datblygiad yr ardal yn y dyfodol. Mewn
ymateb i gwestiwn, esboniodd Rheolwr y Rhaglen bod cytundeb wedi ei lunio, gyda
Chymdeithas Tai Clwyd Alun yn unig, y byddai pobl a oedd yn byw yn ardal y
prosiect yn cael lefel o flaenoriaeth mewn perthynas â’r rhestr dai, er mwyn
delio ag amserlenni. Pwysleisiodd y Cynghorydd J.M. Davies bwysigrwydd yr angen i newid syniad pobl ledled y DU ynglŷn â’r Rhyl, ac arwyddocad cael atyniad mawr i’r dref i ddenu ymwelwyr i’r Rhyl. Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen bod gwaith wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden i ddelio â hyn trwy annog buddsoddiad sector preifat i’r dref a chafwyd peth llwyddiant arwyddocaol eisoes gyda lefel uchel o diddordeb o’r tu allan eisoes yn cael ei dangos yn y dref. Esboniodd bod Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda’i phartner strategol Alliance Leisure i geisio mapio digwyddiadau priodol a darparu cyfleusterau ar gyfer nawr ac i’r dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys y posibilrwydd o ailddatblygu a disodli’r Heulfan. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
FFRWD WAITH MANWERTHU A CHANOL Y DREF PDF 101 KB Ystyried adroddiad
gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu
cynnydd o ran gweithredu’r Ffrwd Waith, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd
neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision. 11.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn
Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar Ffrwd Waith Manwerthu a Chanol Tref
y Rhyl yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd
yr adroddiad yn amlinellu cynnydd o ran gweithredu Ffrwd Waith Manwerthu a
Chanol y Dref yn y Strategaeth, ei goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r
rhagolygon o ran gwireddu manteision. Roedd cynnydd y ffrwd waith wedi ei
fonitro gan Fwrdd Rhaglen Cymdogaethau a Lleoedd y Rhyl yn Symud Ymlaen.
Cyfeiriwyd yn benodol at y prosiectau allweddol canlynol au harwyddocad: Ø Ailwampio’r Orsaf Bysus. Ø Penodi Rheolwr Canol y
Dref. Ø Datblygiad Swyddfa Bee and
Station. Ø Costigans. Ø Marchnad y Rhyl. Ø Prosiectau a gweithgareddau
eraill. Esboniwyd
mau ffrwd waith canol y dref oedd un o’r rhai a oedd wedi ei diffinio leiaf o
ran cyfeiriad a strategaeth gyffredinol. Pwysleisiwyd yr angen i ddatblygu
gweledigaeth glir ar gyfer canol y dref ac amlinellwyd agwedd bosibl tuag at y
strategaeth ar gyfer Canol Tref y Rhyl yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y ffaith
y byddai’r ffrwd waith yn cefnogi cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol newydd
arfaethedig Datblygu’r Economi Lleol a’n Cymunedau, gan mai prif nod y ffrwd waith
oedd cynyddu nifer ymwelwyr â chanol y dref a chreu mwy o gyfleoedd busnes a
swyddi yn y sector twristiaerth. Hysbyswyd
yr Aelodau bod nifer o feysydd gwasanaeth yn chwarae rhan yn y cynlluniau, yn
amrywio gyda natur y prosiect. Roedd meysydd gwasanaeth allweddol a oedd yn
cael mewnbwn rheolaidd ac yn chwarae rhan yn y cynlluniau adfywio yn cynnwys y
Gwasanaethau Hamdden, Parth Cyhoeddus, Gwasanaethau Eiddo a Chynllunio.
Pwysleisiwyd, er mwyn cael canol y dref a oedd yn llwyddiannus, bod angen cydnabod
a delio â nifer o faterion a risgiau, ac roedd y rhain wedi eu hamlinellu yn yr
adroddiad. Pwysleisiodd
yr Aelodau yr angen i wella’r farchnad gyflogaeth bresennol yn yr ardal a
sicrhau bod datblygu’r prosiectau yn cynnwys rhagolygon gwaith ar gyfer trigolion
lleol yn y gymuned. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen at ddatblygiad arfaethedig
safle’r Honey Club, y rhagwelwyd y byddai’n darparu rhwng 30 a 40 swydd yn yr
ardal. Hysbysodd y Pwyllgor bod Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda’r
datblygwr, ac yn parhau i weithio gyda’r mudiad partner Strategaeth Dinas y
Rhyl, a oedd yn darparu hyfforddiant i ddatblygu’r sgiliau a oedd eu hangen i
ddiwallu gofynion cyflogaeth buddsoddwyr. Cyfeiriwyd at y datblygiad manwerthu
newydd ym Mhrestatyn a sefydliad academi sgiliau manwerthu newydd ar y cyd â’r
Ganolfan Byd Gwaith. Byddai darpar weithwyr lleol yno yn cael eu hyfforddi i
gael y sgiliau a’r cymwysterau hanfodol yn barod ar gyfer gwaith posibl yn y
dyfodol. Cytunodd yr Aelodau gyda’r farn a fynegwyd y dylai effaith ailddabtlygu
yn y Rhyl a Phrestatyn fynd gyda’r cynllun adfywio ar gyfer gweddill y Sir. Cyfeiriwyd
at yr effaith andywol bosibl ar y Rhyl yn deillio o adleoli siop Marks and
Spencer i Brestatyn. Cytunodd yr Aelodau ei bod yn hanfodol annog manwerthwyr
allweddol i fuddsoddi yn y Rhyl, er mwyn galluogi i’r dref ddod yn lleoliad
manwerthu pwysig ac yn atyniad i ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal. Pwysleisiwyd
hefyd y byddai angen i unrhyw ddatblygiad neu fuddsoddiad o’r fath fod yn
gynaliadwy er mwyn sicrhau cyflawniad hirdymor yr amcanion ar gyfer yr ardal. Mewn
ymateb i gwestiwn, cytunodd y swyddogion y byddai pryderon a fynegwyd
ynglŷn â’r argraff negyddol a grëwyd gan ddiffyg staff ar Orsaf y Rhyl ar
adegau gwahanol, yn enwedig gyda’r nos, yn cael eu cyfleu i Network Rail. Tra bod haeddiant i gynnig trethi busnes ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
FFRWD WAITH TWRISTIAETH A’R LLAIN ARFORDIROL PDF 110 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen
Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n
amgaeëdig), sy’n amlinellu cynnydd o ran gweithredu’r Ffrwd Waith, gan gynnwys
unrhyw lithriant yn erbyn yr amserlen
a’r gyllideb, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd
neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision. 11.55 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn
Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar weithredu’r Ffrwd Waith Twristiaeth
a'r Llain Arfordirol yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, y
goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision,
wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd
y Llain Arfordirol o Harbwr Foryd i Splash Point wedi bod yn ganolbwynt ar
gyfer gweithgareddau twristiaeth yn y Rhyl ers amser. Yr agwedd oedd adeiladu
ar enw’r Rhyl fel cyrchfan i’r teulu ac amlinellwyd manylion cynigion i’r
dyfodol a ffocws byrdymor ar gyfer y Pwyllgor. Roedd cynnydd ar y ffrwd waith
yn cael ei fonitro gan Fwrdd Rhaglen Cymdogaethau a Lleoedd y Rhyl yn Symud
Ymlaen. Cyfeiriwyd
yn yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig at y prosiectau allweddol a oedd yn
rhan o’r ffrwd waith hon, sef: ·
Ailwampio Sinema Apollo. ·
Gwaith Gwarchod y Glannau yn y Rhyl. ·
Harbwr Foryd a’r Bont – a oedd yn cynnwys pont i gerddwyr a beicwyr, sgwâr
cyhoeddus, adeilad ar y cei a muriau cei newydd. ·
Ailwampio’r Honey Club. ·
Ocean Plaza. ·
Tŵr Awyr y Rhyl. ·
Prosiectau a gweithgareddau eraill. ·
Cynlluniau i’r Dyfodol. Byddai’r
ffrwd waith hon yn cyfrannu tuag at y Flaenoriaeth Gorfforaethol newydd arfaethedig,
Datblygu’r Economi Lleol a’n Cymunedau, a phrif amcan y rhaglen yw cynyddu
nifer ymwelwyr a chreu mwy o gyfleoedd busnes a swyddi yn y sector twristiaeth.
Nid oedd gan y ffrwd waith twristiaeth gyllideb benodol, gyda chyllid wedi ei
ddyrannu i brosiectau penodol, gan ddefnyddio yn bennaf ffynonellau ariannu
allanol, ac roedd y gwaith yn cael ei fonitro yn ôl prosiect. Roedd mewnbwn
rheolaidd a chyfraniad tuag at at y cynlluniau adfywio yn cael eu derbyn gan y
Gwasanaethau Hamdden, Parth Cyhoeddus, Gwasanaethau Eiddo a Chynllunio. Hysbyswyd
y Pwyllgor, er mwyn creu economi twrisitaeth cryfach a delio â delwedd negyddol
y Rhyl, y byddai angen cydnabod a delio gyda nifer o faterion a risgiau, a
amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at yr adroddiad a
gynhwyswyd fel Atodiad 4, a oedd yn rhoi gwybodaeth ar sefyllfa bresennol a
dyfodol Tŵr Awyr y Rhyl. Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen
grynodeb o’r adroddiad a thrafododd yr Aelodau y 3 prif opsiwn, a oedd yn
cynnwys:- Opsiwn
1 – Ailwampio ac adsefydlu fel reid. Opsiwn
2 – Tynnu i lawr a symud ymaith. Opsiwn
3 – Cadw’r strwythur ar gyfer defnydd newydd. Roedd
strwythur y tŵr yn gadarn a oedd yn rhoi opsiwn i’w gadw. Opsiwn 3, i
gadw’r strwythur ar gyfer defnydd newydd, oedd yr Opsiwn a argymhellwyd gan y
swyddogion yn y adroddiad, a rhagwelwyd y byddai hyn yn ffurfio sylfaen
adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref 2012. Gofynnwyd i Grŵp Aelodau Ardal y
Rhyl nodi pa un o’r opsiynau manwl, neu opsiynau amgen, yr oeddynt hwy yn eu
hystyried fel y rhai mwyaf priodol ar gyfer y tŵr. Cyfleodd y Cynghorydd
W. Mullen–James y farn a fynegwyd gan Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl, yn ei
gyfarfod y noson flaenorol, ac esboniodd bod y Grŵp o blaid Opsiwn 1. Trafodwyd
y materion canlynol mewn perthynas ag opsiynau ar gyfer y tŵr i’r dyfodol:- ·
Ni ellid cyfiawnhau’r goblygiadau ariannol arfaethedig ar gyfer adfer y
tŵr fel reid weithredol gan y byddai'n anodd llunio achos busnes o blaid
yr opsiwn hwn ·
Dylid ystyried defnyddiau eraill ar gyfer y tŵr a chael opsiynau i
gael cytundebau noddi ·
Dylid gofyn am farn trigolion y Rhyl o ran defnyddio’r tŵr yn y
dyfodol. · Dylid ystyried hysbysebu ar gyfer cyflenwi reid olwyn fawr, o bosibl ger y Marine Lake, fel y lleolir mewn atyniadau ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 88 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu, yn
adolygu’r Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer y Pwyllgor Craffu Partneriaethau
ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod. Hysbysodd y Cydgysylltydd Craffu yr Aelodau bod
ymatebion i faterion a godwyd mewn cyfarfodydd blaenorol wedi eu cynnwys yn y
Brîff Gwybodaeth a ddosbarthwyd ymlaen llaw. Hysbyswyd yr Aelodau, oherwydd prinder amser, na fu
modd cynnwys Canolfan Ddydd Hafan Deg ar rhestr y daith o gwmpas safleoedd
allweddol. Fodd bynnag, gallai’r Aelodau ymweld â Hafan Deg trwy drefnu gyda’r
swyddog mewn gofal. Ystyriodd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ddrafft ar
gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol fel y manylwyd yn Atodiad 1. Ar ôl rhoi sylw i’r
nifer gorau o eitemau i’w trafod ar y rhaglen mewn cyfarfod, cytunodd yr
Aelodau gynnwys y newidiadau canlyniadol ym Mlaenraglen y Pwyllgor:- - Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno
adroddiad cynnydd ar Ffrydiau Gwaith Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen i’r Pwyllgor
yn chwarterol. - Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi gofyn i’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau gymryd cyfrifoldeb am graffu ar gytundeb tenantiaid a
llawlyfr drafft newydd Sir Ddinbych, gan fod yr Aelodau’n teimlo bod yr eitem
yn fwy addas i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Cymunedau. Cytunodd y Pwyllgor
y dylid dosbarthu adroddiad ymgynghorol yn gofyn am sylwadau a barn yr Aelodau. Gweithgor Gostyngiadau yn y
Gwasanaeth Bws – roedd y Gweithgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau
wedi cyfarfod ar 2il Awst 2012 ac roedd copi o nodiadau’r cyfarfod wedi ei
gynnwys fel Atodiad 4 i’r adroddiad. Roedd canfyddiadau ac argymhellion y
Gweithgor i’w hadrodd i’r Cabinet ar 25ain Medi, 2012. Penodi Cynrychiolwyr y Pwyllgor ar Grwpiau a Byrddau’r
Cyngor – cytunodd yr Aelodau bod y Cynghorydd W. Mullen-James yn cael ei phenodi fel
cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol, gyda’r
Cynghorydd H.O. Williams yn cael ei benodi fel dirprwy gynrychiolydd ar y
Grŵp. Yn absenoldeb y Cynghorydd Mullen-James byddai’r Cynghorydd Williams
yn mynychu’r cyfarfod a oedd wedi ei drefnu ar 8fed Hydref 2012. Cyfeiriodd y Cydgysylltydd Craffu at Atodiad 1 y Brîff
gwybodaeth a oedd yn cynnwys datganiad ar Gyd-ddarpariaeth Addysg Seiliedig ar
Ffydd. Esboniodd hefyd bod sesiynau wedi eu trefnu ar 17eg a 27ain Medi, 2012 i
roddi gwybodaeth i’r Aelodau ar Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor. Cyfeiriwyd
at Atodiad 2 yr Adroddiad Gwybodaeth, Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod Cyhoedd, Prosiectau Seilwaith Mawrion:
Strategaeth Gyfathrebu (Dogfen Ddrafft). Gofynnwyd i’r Aelodau anfon unrhyw
farn neu sylwadau ar y strategaeth ddrafft at y Swyddog Cynllunio: Cynlluniau
Ynni Adnewyddadwy. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid, ar
ôl cais mewn cyfarfod blaenorol, bod strategaeth ddrafft wedi ei datblygu i
ddelio â phroblem baw cŵn yn y Sir. Esboniwyd bod Gweithdy wedi ei drefnu
ar gyfer yr holl Gynghorwyr, ac y byddai’n cael ei gynnal ar 7fed Tachwedd,
2012. Ar ôl trafodaeth
bellach, fe:- BENDERFYNWYD:- (a) yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r
Flaenraglen Waith fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad, a (b) penodi’r Cynghorydd W. Mullen-James yn
gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol gyda’r
Cynghorydd H.O. Williams yn cael ei benodi fel dirprwy gynrychiolydd. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad
gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 13.00 p.m. Cofnodion: Esboniodd y Cynghorydd W. Mullen-James nad oedd wedi medru
mynychu cyfarfod Bwrdd Rhaglen Cydweithredu Conwy a Sir Ddinbych ar 12fed Medi
2012 oherwydd ei bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu. Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m. |