Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

Cofnodion:

Dim buddiannau i’w datgan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012-17 pdf eicon PDF 77 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad (copi’n amgaeëdig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor graffu a chynnig sylwadau ar fersiwn ddrafft o Gynllun Corfforaethol y Cyngor, cyn i’r Cynllun gael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir at ddiben ei gymeradwyo a’i fabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad (PCBPh) adroddiad a oedd wedi ei gylchredeg yn flaenorol.  Dywedodd fod datblygiad Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2012 - 2017 wedi dechrau cyn yr etholiad eleni felly roedd yn arbennig o bwysig ymgysylltu â’r Cyngor newydd a’r cynghorwyr newydd.  Fe atgoffaodd y PCBPh y pwyllgor bod set drafft o flaenoriaethau corfforaethol wedi eu cytuno gan aelodau ar Orffennaf 31, 2012.

 

Dywedodd y PCBPh fod swyddogion wedi ystyried y camau a’r strategaeth ariannol 5 mlynedd a oedd eu hangen i gynnal cyflenwad y blaenoriaethau.  Ychwanegodd fod yr aliniad amlwg o’r blaenoriaethau corfforaethol a strategaeth ariannol ategol o fewn y Cynllun Corfforaethol yn ddull gweithredu arwyddocaol ac arloesol a dim ond ychydig yn unig o awdurdodau lleol oedd wedi gallu ei wneud.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwella Corfforaethol at y strategaeth ariannol a’r buddsoddiad cyfalaf a ragwelir o £134 miliwn yr oeddid yn credu y dylid ei fuddsoddi dros 5 mlynedd y Cynllun.  Dywedodd ei fod yn disgwyl y byddai £5 o gyllid refeniw ychwanegol yn cael ei symud i gynnal y blaenoriaethau, a hynny’n gadael llai o arian ar gael ar gyfer meysydd nad oedden nhw wedi’u nodi’n flaenoriaeth.

 

Atebodd y Rheolwr Gwella Corfforaethol ymholiadau drwy amlinellu y byddai blynyddoedd cynnar y Cynllun yn gweld gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu gweithgareddau a fyddai’n cyflenwi’r blaenoriaethau a byddai gwario gwirioneddol yn dod i uchafbwynt ym mlynyddoedd 3 a 4 gyda chyflenwi'r gweithgareddau a gynlluniwyd.  Cadarnhaodd y PCBPh y byddid yn cynhyrchu dogfen gyflenwi flynyddol bob blwyddyn ariannol yn darparu manylion penodedig yr hyn y disgwylid ei gyflenwi’r flwyddyn honno.

 

Ymholodd y Cynghorydd Colin Hughes ba mor hylaw fyddai craffu 7 o flaenoriaethau corfforaethol, gan nodi mai dim ond 4 oedd i’r cynllun blaenorol.  Fe’i hysbyswyd y byddai angen i gynghorwyr a’r swyddogion perthnasol ddod â’r mesurau perfformiad i ben a’r trefniadau monitro ac adrodd a fyddid yn eu defnyddio, ond y byddai’r profiad a gafwyd o ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol blaenorol yn golygu system well a symlach yn gyffredinol.  Fe gydnabu’r PCBPh fod yna angen o hyd i ddiffinio rhai o’r blaenoriaethau a’r canlyniadau’n well.

 

Fe drafododd y Pwyllgor y materion canlynol hefyd:

 

Ø      Cytundeb i gyfeirio yn y Cynllun Corfforaethol at wireddu rhai manteision y Cynllun yn dilyn tymor y Cyngor yma a’r Cynllun Corfforaethol yma

Ø      Cydnabyddiaeth y dylid datblygu’r cynlluniau trefol newydd ymhellach mewn ymgynghoriad â chynghorwyr a chymunedau lleol

Ø      Byddai ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr ynglŷn â nodau ac effaith y Cynllun Corfforaethol yn hanfodol

Ø      Cytunodd y Rheolwr Gwella Corfforaethol i archwilio’r wybodaeth ariannol yn y Cynllun drafft i sicrhau ei bod yn gyson.

Ø      Cytundeb i ddiwygio geiriad y Tai Gofal Ychwanegol i adlewyrchu nod i ddatblygu hyd at 3 o unedau Tai Gofal Ychwanegol yn Sir Ddinbych.

Ø      Gofynnodd y Cynghorydd Dewi Owens am gopi o gynllun busnes Mentrau Cefndy

Ø      Fe ddylai fod yna raddfa amser i’r canlyniad sy’n ymwneud ag addasu cartrefi i gyfarfod ag anghenion preswylwyr anabl ac fe ddylai fod wedi ei ddiffinio’n gliriach

Ø      Roedd angen eglurder pellach ar y blaenoriaethau ynghylch moderneiddio’r Cyngor a datblygu’r economi’n arbennig o ran gweithgareddau a mesurau perfformiad

Ø      Dylid craffu’r geiriad a ddefnyddir yn y Cynllun i ddisgrifio nodau a chanlyniadau i gynorthwyo cyfathrebu a rheoli disgwyliadau.  Roedd enghreifftiau’n cynnwys “rydyn ni’n credu y gallwn ni” i’w newid i “rydyn ni’n rhagweld” etc.

Ø      Cytundeb y dylid anfon unrhyw sylwadau gan aelodau ar Asesiad Effaith Cydraddoldeb y Cynllun Corfforaethol a roddir ger bron yn y cyfarfod yn syth at y Rheolwr Gwella Corfforaethol

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y materion a gytunwyd uchod, argymell drafft y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.