Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Meirick
Davies ac Allan Pennington |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd
Ian Armstrong fuddiant personol
yn Natblygiad Harbwr Foryd (a gynhwyswyd yn y Cynllun Cyfalaf, eitem 9 ar y rhaglen)
gan ei fod
yn Gadeirydd Fforwm yr Harbwr. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 180 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a
gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2012 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a
gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2012. Cywirdeb –
cytunwyd y newidiadau canlynol –
Materion yn Codi –
tynnodd y Cadeirydd sylw’r aelodau at restr wedi ei diweddaru o gynrychiolwyr
pwyllgor craffu ar y Grwpiau Herio Gwasanaeth a fanylwyd yn y papurau briffio
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Nodwyd y byddai’r Gwasanaeth Adfywio (a
gynrychiolwyd gan y Cynghorydd Gareth Sandilands) yn ffurfio rhan o’r
Gwasanaeth Tai a Datblygu Cymunedol yn y dyfodol. Gofynnodd y Cynghorydd
Sandilands ei fod yn cael ei wahodd i gyfarfodydd Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth
Tai a Datblygu Cymunedol oherwydd ei ddiddordeb brwd yn yr agwedd adfywio.
Esboniodd y Cydgysylltydd Craffu y newid yn y gynrychiolaeth craffu ar gyfer y
Gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith ac ailadroddodd y Cynghorydd Peter Owen ei
ddiddordeb mewn materion priffyrdd. Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Owen yn
parhau i fynychu’r her gwasanaeth honno yn ychwanegol at fod yn gynrychiolydd
craffu ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Dywedodd Rheolwr y Tîm
Gwelliannau Corfforaethol y byddai’r cylch nesaf o heriau gwasanaeth mae’n
debyg yn digwydd ym mis Hydref/Tachwedd a chytunodd ddosbarthu dyddiadau’r
cyfarfod cyn gynted ag y byddent ar gael. Tynnodd y Cydgysylltydd Craffu sylw’r aelodau at y
diweddariad ar benderfyniadau yn codi o’r cofnodion a oedd wedi eu cynnwys fel
atodiad i adroddiad y Rhaglen Waith Craffu i’w hystyried yn nes ymlaen ar y
rhaglen. PENDERFYNWYD yn amodol ar y newidiadau uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2012 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD CYLLID 2012/13 PDF 67 KB Ystyried adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau a’r Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn galluogi i’r
Pwyllgor adolygu perfformiad y Cyngor mewn perthynas â’i strategaeth gyllidebol
ar gyfer 2012/13 fel y diffinnir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn
manylu perfformiad y Cyngor mewn perthynas â’i strategaeth gyllidebol ar gyfer
2012/13. Roedd y manylion yn yr
adroddiad cyllid a gyflwynwyd i’r Cabinet at 17 Gorffennaf a oedd wedi ei
gynnwys fel atodiad ac yn dangos y sefyllfa gyllidebol ar ddiwedd Mehefin 2012
a’r arbedion a gyflawnwyd. Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau
grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn: ·
Roedd
amcanestyniad cyllidebol refeniw diweddaraf yn dangos sefyllfa gytbwys ar draws
yr holl wasanaethau, gan gynnwys ysgolion a chyllidebau corfforaethol ·
Cyflawnwyd
£1.312m (38%) o’r arbedion a gytunwyd gyda £2.131m (62%) ar y gweill ar hyn o
bryd ·
Tanlinellu
amrywiadau allweddol o’r cyllidebau a’r targedau arbed mewn perthynas â
gwasanaethau unigol ·
Diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai, a ·
Cadarnhau cymeradwyaeth
y Cabinet o argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol, sef y cynllun i
adleoli Llyfrgell Prestatyn. Yn ystod adolygiad o wybodaeth ariannol,
trafododd y pwyllgor nifer o faterion gyda’r Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau,
a oedd yn canolbwyntio ar y materion canlynol - ·
Pryderon ynglŷn
â’r goblygiadau ariannol i’r awdurdod ar ôl cwblhau’r arolwg cyflwr stoc dai a
fyddai, mae’n debygg, yn adnabod rhaglen waith arwyddocaol. Dywedodd yr Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau bod y cyngor ar y llwybr iawn i gyflawni Safonau
Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Unwaith y byddai canlyniad
yr arolwg cyflwr yn hysbys, gellid ystyried goblygiadau ariannol buddsoddiad
cyfalaf yn y dyfodol ·
Amlygwyd y
gwasanaeth gwerthfawr a oedd yn cael ei ddarparu gan y Canolfannau Integredig Plant,
ynghyd â cholli cyllid Cymorth a mynegwyd pryderon ynglŷn â’r pwysau o
£40k ar y gyllideb a nodwyd ar gyfer Canolfan y Dderwen y Rhyl, a ddisgrifiwyd
fel un hanfodol ar gyfer ymyrraeth gynnar i deuluoedd yn yr ardal. Pwysleisiodd
yr Aelodau bwysigrwydd sicrhau cyllid hirdymor y ddwy ganolfan yn y Rhyl a
Dinbych. Soniwyd am bosibilrwydd bid consortia newydd gyda Home Start ar gyfer
cyllid grant a gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ar gynnydd yng nghyfarfod
nesaf y pwyllgor. Hysbyswyd yr aelodau bod trafodaeth faith wedi bod ar y
Canolfannau Integredig mewn cyfarfod herio gwasanaeth gyda nifer o fodelau
ariannu yn cael eu hystyried ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Joan Butterfield at Brosiect Adfywio Canol y Dref y Rhyl a
gofynnodd am esboniad ar fanyleb y prosiect, amserlen a chostau. Cytunwyd bod y
Cydgysylltydd Craffu yn ystyried y mater ac yn adrodd yn ôl. Nododd yr aelodau
bwysigrwydd monitro cynlluniau o’r fath i sicrhau eu bod yn cael eu hymgymryd
yn unol â’r fanyleb ofynnol, mewn amserlen briodol ac o fewn y gyllideb ·
Ystyriwyd
y cynnydd ar gyn-Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, a hysbyswyd yr aelodau o’r
sefyllfa ddiweddaraf. Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ddiffyg
cyfathrebu ar y mater hwn a ysgogodd drafodaeth yn ystod yr hon y disgrifiodd
yr aelodau gyfathrebu fel problem ledled yr awdurdod, gyda chynghorwyr ddim bob
amser yn ymwybodol o’r materion a oedd yn effeithio eu wardiau hwy a’r gymuned
ehangach. Cytunwyd cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i
ystyried sut gellid gwella dulliau cyfathrebu gyda chynghorwyr · Gofynnwyd am esboniad ar y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniad i adleoli Llyfrgell Prestatyn ac effaith y penderfyniad hwnnw ar ddefnyddwyr gwasanaeth a gwasanaethau llyfrgell eraill yn y sir. Dywedodd y Cynghorydd Gareth Sandilands bod Cyngor Tref Prestatyn wedi mynegi pryderon ynglŷn â pharcio ceir ac iechyd a diogelwch ac wedi awgrymu y dylid lleoli croesfan i gerddwyr ar y safle newydd, Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau fwy o wybodaeth gefndir ar y cynllun, a oedd wedi ei ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 91 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen y Pwyllgor a diweddaru’r Aelodau
ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r
aelodau adolygu rhaglen waith y pwyllgor i’r dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar
faterion perthnasol. Roedd amrywiol atodiadau ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd
angen sylw’r aelodau. Adroddodd y
Cydgysylltydd Craffu ar ddatblygu’r rhaglen waith ddrafft a thrafododd yr
aelodau y newidiadau posibl iddi yn wyneb y materion i’w hystyried, er mwyn
sicrhau baich gwaith y gellir ei reoli mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Ystyriwyd
hefyd enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr craffu i wasanaethu ar y Grŵp
Monitro Safonau Ysgolion a’r Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol. Ar ôl ystyried,
cytunodd yr aelodau –
Cyfeiriodd y
pwyllgor at yr Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Seiliedig ar Ffydd a oedd yn
destun adroddiad i’r Cabinet yn y dyfodol a lleisio pryderon ynglŷn â’r
straeon a oedd yn mynd o gwmpas ynglŷn â’r adolygiad. Teimlai’r aelodau
bod angen hysbysu’r holl gynghorwyr o’r sefyllfa bresennol a gofynnwyd am gael
dosbarthu datganiad sefyllfa. Yn olaf, cyfeiriwyd
at yr adroddiad gwybodaeth a gynhwyswyd ym mhapurau briffio’r pwyllgor ar
Archwiliad Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion gan AGGCC a gofynnodd y Cadeirydd
i’r aelodau gyfeirio unrhyw gwestiynau neu sylwadau ato ef y tu allan i’r
cyfarfod. Byddai unrhyw faterion a oedd angen sylw yn cael eu hychwanegu at
raglen waith y pwyllgor. PENDERFYNWYD – (a) yn
amodol ar y newidiadau a’r cytundebau a grybwyllwyd uchod, cymeradwyo
blaenraglen waith y pwyllgor fel y manylwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad; (b) rhoi
esboniad ar y trefniadau cydweithredol ar gyfer Trwyddedu a gwasanaethau o fewn
y Gwasanaethau Cynllunio a Rheoleiddio erbyn cyfarfod nesaf y pwyllgor; (c) bod
y Cydgysylltydd Craffu yn adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar lefel cydweithrediad, os
oedd, gyda Landordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wrth lunio’r Cytundeb a’r
Llawlyfr Tenantiaeth drafft; (d) gofyn
am ddatganiad sefyllfa ynglŷn â’r Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg
Seiliedig ar Ffydd (pwnc adroddiad Cabinet yn y dyfodol) i’w ddosbarthu i holl
gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig addysg ar bwyllgorau craffu; (e) penodi’r
Cynghorydd Arwel Roberts yn gynrychiolydd y pwyllgor ar Grŵp Monitro
Safonau Ysgolion a’r Cynghorydd Richard Davies fel dirprwy, a (f) phenodi’r
Cadeirydd, y Cynghorydd Colin Hughes yn gynrychiolydd y pwyllgor ar y Grŵp
Cydraddoldeb Corfforaethol a’r Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams fel dirprwy. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgr ar
amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei bresenoldeb mewn cyfarfodydd Herio Gwasanaeth yn ddiweddar a mynegodd ei siom
nad oedd arbedion wedi eu
canfod yn ystod y cylch cyfarfodydd
cyntaf. Pwysleisiodd bwysigrwydd cynrychiolwyr craffu yn mynychu
yn ystod y cylch herio gwasanaeth
nesaf ym mis Hydref/Tachwedd pan fyddai arbedion yn cael eu
trafod ynghyd â sut y byddai
gwasanaethau yn cael eu cyflwyno.
Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwelliannau Corfforaethol y byddai gwahoddiadau i gyfarfodydd Herio Gwasanaeth ond yn cael eu
hanfon at y cynghorwyr hynny yr oedd angen
iddynt fod yn bresennol. PENDERFYNWYD cydnabod yr adroddiad llafar gan y Cadeirydd ar ei bresenoldeb
mewn cyfarfodydd Herio Gwasanaeth yn ddiweddar. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd ei bod
yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraff
14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn cael
ei datgelu. |
|
MONITRO’R CYNLLUN CYFALAF Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan yr Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau a’r Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig), yn
rhoi diweddariad ar sefyllfa alldro’r cynllun cyfalaf ar gyfer 2011/12 a’r
sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer 2012/14 a 2014/15 a gofyn am farn y Pwyllgor ar
hyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Ian Armstrong fuddiant
personol yn Natblygiad Harbwr Foryd gan ei fod yn Gadeirydd Fforwm yr Harbwr.] Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid
ac Asedau adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi
diweddariad ar sefyllfa alldro’r Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2011/12 a’r sefyllfa
ddiweddaraf ar gyfer 2013/14 a 2014/15.
Roedd y prosiectau hynny a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2012
hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Hysbysodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau y
cyfarfod o’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â phrosiectau mawrion,
prynu/dymchwel eiddo a’r rhaglen gwaith priffyrdd a gynhwyswyd yn y cynllun
cyfalaf, gan esbonio materion mewn ymateb i gwestiynau ar brosiectau ac amserlenni
penodol, gan gynnwys y ddarpariaeth yn y dyfodol ar gyfer datblygiad Canolfan
Hamdden Rhuthun. Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau hefyd
– ·
Pryderon o
ddifrif ynglŷn â’r oedi wrth ddymchwel yr Honey Club yn y Rhyl yn wyneb
cyflwr yr adeilad ac ofnau ynglŷn â diogelwch, a’r angen i symud ymlaen
gydag ailddabtlygiad y safle cyn gynted ag y bo modd ·
Esbonio
agweddau penodol Prosiect Tai Gorllewin y Rhyl ynghyd â sicrhad o ran
cyflawni’r prosiect o fewn amserlen resymol ·
Yr angen i
gynnwys amserlen ar gyfer prosiectau mawrion i gynorthwyo gyda monitro cynnydd
a chyflawniad prosiectau unigol. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau i
faterion a godwyd gan yr aelodau fel a ganlyn - ·
Cadarnhaodd,
unwaith y byddai caniatâd wedi ei roddi, y byddai gwaith dymchwel yr Honey Club
yn cychwyn. Os oedd angen hynny am resymau iechyd a diogelwch byddai’r adeilad
yn cael ei ddymchwel cyn hynny. Roedd y cyngor a’r datblygwr yn awdyddus i
symud ymlaen gyda’r ailddatblygiad cyn gynted ag y bo modd ·
Ymhelaethodd
ar y cynigion ar gyfer Prosiect Tai Gorllewin y Rhyl gan ddweud y byddai
adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn yr hydref. Ychwanegodd y
Cydgysylltydd Craffu y byddai gwahoddiad agored i’r holl aelodau craffu i
fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau, wedi ei drefnu ar gyfer 13
Medi yn y Rhyl i drafod Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, a fyddai’n cynnwys
taith o amgylch safleoedd strategol allweddol ·
Cyfeiriodd
at anhawster cael amserlenni ystyrlon ar gyfer rhai prosiectau lle’r oedd
elfennau amrywiol yn dibynnu ar ddylanwadau allanol ac nid o fewn rheolaeth y
Cyngor. Trafododd yr aelodau hefyd brosiect gwaith
hyblyg WORKsmart a goblygiadau blaengareddau penodol gan gynnwys diffyg lle
parcio, a oedd wedi achosi llawer o ddadl a phryder. Tanlinellwyd hefyd yr
angen i sicrhau bod yr awdurdod yn dangos gwerth am arian trwy flaengareddau
WORKsmart. Adroddodd y Cynghorydd Joan Butterfield ar fanteision gwaith SMART a
gyflwynwyd yng Nghyngor Tref y Rhyl ac a oedd yn gweithio’n dda. PENDERFYNWYD – (a) cydnabod
y sefyllfa alldro ar y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2011/12 a’r sefyllfa
ddiweddaraf ar gyfer cyfnod 2012/13 i 2014/15, a (b) gofyn
i’r Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau gyflwyno pryderon yr aelodau mewn
perthynas â diogelwch adeilad yr Honey Club a'r angen i ddatrys y mater cyn
gynted ag y bo modd. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 1.30 p.m. |