Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd Eryl
Williams (Aelod Arweiniol dros Addysg). Aelodau Cyfetholedig Nicola Lewis a
Gareth Williams |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datgan unrhyw
gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw faterion eu codi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 127 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2014 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2014.
Nid oedd unrhyw faterion yn codi. PENDERFYNWYD cymeradwyo a derbyn cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2014 fel cofnod cywir. |
|
ARHOLIADAU ALLANOL DRO AC ASESIADAU ATHRAWON PDF 98 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) ar berfformiad disgyblion y Sir ym mhob cyfnod
allweddol a chanlyniadau dros dro disgyblion Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16. 9:35 – 10:10 Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Addysg, Karen Evans yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Cadarnhaodd fod yr holl ganlyniadau wedi cael eu gwirio ar wahân i
Gyfnod Allweddol 4. Byddai'r canlyniadau hynny a wiriwyd yn cael eu hadrodd i'r
Pwyllgor ym mis Ionawr 2015. Er bod y mwyafrif o ysgolion a disgyblion yn
perfformio'n dda, roedd meysydd penodol a fyddai'n elwa o gymorth i wella
cyrhaeddiad, a'r canlyniadau yn sgil hynny i'r disgyblion. Un maes a fyddai'n elwa o ymyrraeth yn ystod y flwyddyn sydd i ddod yw’r
iaith Gymraeg (iaith gyntaf) yng Nghyfnod Allweddol 2, a oedd wedi gweld
gostyngiad o 2.9% mewn perfformiad o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Un
rheswm posibl dros hyn yn ôl pob sôn oedd y cynnydd mewn teuluoedd cyfrwng
Saesneg sy’n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Nodwyd bod y swyddogaethau a
gyflawnwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod ee bod Athrawon Bro bellach wedi’u
trosglwyddo i Wasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) a
fyddai'n cefnogi ysgolion yn yr ardal benodol hwn. Trafododd y Pwyllgor y Cyfnod Sylfaen lle mae Awdurdodau Lleol eraill yn
prysur ddal i fyny â’r Sir. Dywedwyd bod mwy o blant gyda phroblemau ymddygiad
a oedd yn effeithio ar addysgu yn yr ardaloedd amddifadedd. Hefyd bu’r Pwyllgor
yn ystyried yr ystod o lefelau sgiliau yn y Cyfnod Sylfaen a chytunwyd ei bod
yn bwysicach canolbwyntio ar gyrhaeddiad plant ar ddiwedd addysg gynradd - y
cynnydd a wnaed. Dywedodd Aelod o'r Pwyllgor bod cyrff llywodraethu mewn rhai ysgolion yn
teimlo nad ydynt yn derbyn digon o gefnogaeth gan GwE. Pwysleisiodd y Pennaeth
Addysg yr angen i gyrff llywodraethu ysgolion i roi gwybod i'r Adran Addysg os
oeddent yn credu nad oedd GwE yn rhoi digon o gefnogaeth iddynt, neu bod y
gefnogaeth a gafwyd ddim o’r safon a ddymunir. Byddai hyn yn galluogi swyddogion i archwilio a yw
telerau'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) yn cael eu bodloni. Dylai adroddiad wedi’i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn
Ionawr 2015 ar 'Arholiadau Allanol Wedi'u Gwirio ac Asesiadau Athrawon' gynnwys
enghraifft o sefyllfa Sir Ddinbych yn genedlaethol ac yn rhanbarthol dros y pum
mlynedd diwethaf, a rhaid cynnwys Adroddiad Blynyddol GwE (a bod cynrychiolydd
o GwE yn bresennol i drafod yr adroddiad. Gofynnodd
Aelodau'r Pwyllgor i GwE sicrhau nad eu bwriad yw canolbwyntio eu gwaith a’u
hymdrechion ar ysgolion/awdurdodau sy'n methu yn unig, a bod ganddynt
wasanaethau yn eu lle i helpu i gefnogi ysgolion/awdurdodau sy’n gwneud yn dda
i gyflawni lefel o ragoriaeth. Pwysleisiodd swyddogion nad yw gwasanaeth addysg
y Cyngor a GwE yn endidau ar wahân a bod nodau ac amcanion y ddau wasanaeth yr
un fath - i gefnogi a chynorthwyo disgyblion y Sir i wireddu eu potensial
addysgol a galwedigaethol a ddylai arwain at ganlyniadau gwell ar eu cyfer.
Byddai Estyn yn
barnu’r Cyngor a GwE ar y canlyniadau hyn, ac ar eu rôl ar y cyd wrth gefnogi
disgyblion i gyflawni eu potensial. Adroddodd y
Pennaeth Addysg hyd yn hyn nad oedd unrhyw ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru
ynghylch plant sydd ag anghenion arbennig mewn ysgolion arbennig yn gorfod
sefyll yr un profion â'r rhai sydd heb anghenion ac bod hynny wedi cael effaith
negyddol ar berfformiad yr Awdurdod. Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn awyddus i egluro pwynt oedd wedi codi mewn cyfarfod diweddar o'r Cabinet pan ddywedodd y dylai Ysgol Brynhyfryd addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg 100% o'r amser, ond roedd o’n golygu y Ffrwd Gymraeg yn hytrach na'r ysgol gyfan. Cynigiodd y Pennaeth Addysg y byddai’n trefnu ymweliad i’r aelodau i Ysgol Brynhyfryd i weld a chwrdd â disgyblion yn y ffrwd Gymraeg ar draws yr ysgol. Mae nifer ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PLANT SY'N DERBYN GOFAL - DANGOSYDDION PERFFORMIAD PDF 86 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) yn amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i wella
perfformiad mewn perthynas â chwblhau ymweliadau statudol o fewn y terfynau amser
disgwyliedig, gwella canlyniadau addysgol ac iechyd, a lleihau nifer y
lleoliadau ar gyfer plant y sir sy'n derbyn gofal. 10:10 – 10:40 Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelodau Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a
ofynwyd amdano yng ngoleuni argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad Gwella
Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac roedd y meysydd i'w gwella yn cynnwys
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd ymhellach ar fanylion yn yr adroddiad. Eglurodd fod yna broblemau
gyda dangosyddion addysg ac iechyd y llynedd gyda amserlenni yn cael eu
heffeithio trwy beidio â chael staff arbenigol yn eu lle, a phroblemau gyda
gweithio mewn partneriaeth – gan ddibynnu'n sylweddol ar argaeledd gweithwyr
iechyd proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Roedd yr Awdurdod bellach wedi cyflogi nyrs ar
gyfer plant sy'n derbyn gofal (PDG) yn benodol sydd wedi cynyddu argaeledd ac
ymatebolrwydd i adolygiadau. Mae'r swydd nyrs PDG wedi helpu’n arw gyda'r
agwedd archwiliadau iechyd, gan fod y swydd hon gyda llai o ffocws ar broses ac
yn canolbwyntio mwy ar wella canlyniadau ar gyfer plant unigol. Cydnabu'r Aelodau bod y data y tu ôl i'r ystadegau
a'r rhesymau dros y nifer o leoliadau a brofir rhai plant sy'n derbyn gofal yn
gymhleth ac yn ddilys. Eglurwyd nad oedd yr holl newidiadau wedi cael effaith
negyddol ee symud o'r ysbyty i'r Gwasanaeth neu o'r Gwasanaeth yn ôl at aelod
o'r teulu. Roedd nifer o ffactorau cyfrannol a oedd yn
dylanwadu ar nifer y plant a oedd wedi bod mewn 3 neu fwy o leoliadau y
flwyddyn. Mae rhai plant yn symud am resymau
positif ee adsefydlu neu gyda theulu estynedig, lleoliadau mabwysiadu, symud i
annibyniaeth ac ati. Mewn lleiafrif o achosion, mae'n anodd dod o hyd i adnodd
sy'n gallu rheoli'r problemau a’r pryderon gan berson ifanc yn effeithiol a
gallant yna symud ychydig o weithiau cyn i hynny gael ei drefnu’n foddhaol. Roedd yr aelodau'n fodlon mai lles a sefydlogrwydd
tymor hir y plentyn oedd y rhesymau y tu ôl i'r tanberfformiad canfyddedig
(nifer y symudiadau), a bod yr Awdurdod mewn gwirionedd yn gweithredu er lles y
plentyn. Codwyd pryderon mewn perthynas â phlant anabl, rhai
ohonynt yn mynychu ysgolion preswyl arbennig a oedd yn diwallu eu hanghenion ac
eraill a oedd yn derbyn gofal maeth seibiant, yn cael eu dosbarthu fel 'Plant
sy'n Derbyn Gofal' er gwaethaf y ffaith fod ganddynt fywyd teuluol sefydlog a
chartref. Eglurwyd mai'r rheswm am hyn oedd y
ddeddfwriaeth a geir yn Neddf Plant 1989, a oedd wedi peri gofid i nifer o
deuluoedd. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru (LlC) ar fin treialu
cyfres o ddangosyddion sy'n seiliedig ar ganlyniadau ym maes plant sy'n derbyn
gofal a bod CSDd yn mynd i fod yn rhan o'r rhaglen beilot. Y gobaith oedd y byddai'r dangosyddion newydd yn mynd i'r afael â rhai o'r
anghysondebau a oedd wedi dod i'r amlwg gyda’r dangosyddion cyfredol. Cydnabu'r Pwyllgor na fyddai unrhyw set o ddangosyddion byth yn berffaith,
ond eu bod yn offeryn rheoli da i ofyn cwestiynau neu i ymchwilio ymhellach. Bod y
Pwyllgor: Yn Penderfynu: - yn amodol ar y sylwadau uchod a'r sicrwydd a roddwyd, i
dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r camau a gymerwyd i wella perfformiad a
chefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal y Sir. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2013/14 PDF 84 KB Derbyn barn y
Pwyllgor Archwilio ar adroddiad Adolygiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor (copi
ynghlwm) cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth. 10:55 – 11:25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe gyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio
a Pherfformiad y fersiwn drafft o’r Adroddiad Adolygiad Perfformiad Blynyddol
ar gyfer 2013/14 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) am sylwadau'r Pwyllgor cyn ei
gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo ac yna i’w gyhoeddi. Ailadroddodd yr Aelod Arweiniol nad oedd unrhyw ran o’r wybodaeth a
gyflwynwyd yn yr adroddiad yn newydd i'r Pwyllgor – a’i fod wedi’i gyflwyno
ddwywaith o'r blaen - ond roedd yn adroddiad gorfodol i Lywodraeth Cymru. Wrth ei ystyried fy dynodd y Pwyllgor sylw at y
meysydd canlynol i’w harchwilio yn fanylach wrth ystyried yr adroddiad
perfformiad ar y Cynllun Corfforaethol - adroddiad diwedd Chwarter 2 yn Ionawr
2015: ·
y cynnydd gyda
chyflawni Cytundebau Canlyniadau a’r goblygiadau posib ar y gyllideb trwy
beidio â chyflawni neu gyflawni cytundebau yn rhannol wrth symud ymlaen; ·
i ganolbwyntio ar feysydd cyflawni â statws 'coch', yn enwedig y rhai sy'n
dangos dirywiad (saeth tuag i lawr) mewn perfformiad ac ymarferoldeb; ·
yn gynnar yn 2015 dylai'r Pwyllgor ystyried effaith bosibl y toriadau yn y
gyllideb wrth geisio cyflawni blaenoriaethau corfforaethol ac ar berfformiad y
Cyngor yn y dyfodol wrth ddarparu gwasanaethau i alluogi disgwyliadau a risgiau
yn y dyfodol i gael eu rheoli yn effeithiol Yn
ogystal â'r uchod, nodwyd y camau canlynol: ·
troednodiadau i'w cynnwys ar adroddiadau yn y dyfodol i ddiffinio
gweithgarwch neu ddangosyddion cymhleth; ·
aelodau cyswllt pwyllgor i ganolbwyntio ar eu maes penodol o'r Cynllun
Corfforaethol a threfnu i gyfarfod â'r Pennaeth Gwasanaeth os oes ganddynt
bryderon ac i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ·
gwnaed sylw bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn canolbwyntio
gormod ar broses a heb ddigon o bwyslais ar gamau gweithredu i ddatblygu'r
economi leol ·
bod casgliadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Tai Fforddiadwy yn cael ei
adrodd i'r Pwyllgor Craffu maes o law - gyda'r GCIGA yn
penderfynu ar y Pwyllgor mwyaf priodol Felly: Penderfynwyd: (i) yn amodol ar y sylwadau uchod,
bod y fersiwn drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013/2014 yn cael ei
gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo; a (ii) dylai'r Pwyllgor yn y dyfodol
ddefnyddio'r Adroddiad Perfformiad Cynllun Corfforaethol Chwarter 2 i nodi
meysydd a chytundeb canlyniadau ar gyfer archwiliad manwl gyda’r golwg i wella
perfformiad a gwireddu’r manteision gorau posibl o'r cytundebau canlyniadau. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 98 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ar faterion
perthnasol. 11:25 – 11:40 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
yn gofyn i'r aelodau adolygu rhaglen waith y pwyllgor ac i roi diweddariad ar
faterion perthnasol. Yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad mae’r adroddiad
cwynion "Eich Llais" wedi’i drefnu. Mae Pennaeth
Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg wedi gofyn i’r Pwyllgor ddewis 2 maes
Gwasanaeth i ganolbwyntio arno i Swyddogion i fod yn bresennol ac i ymateb i
gwestiynau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd gyfarfod â'r Cydlynydd Archwilio
i fynd drwy'r adroddiad a dewis 2 faes gwasanaeth sy'n sefyll allan. Roedd teledu cylch cyfyng hefyd ar yr agenda ar gyfer y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad nesaf. Mae'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau wedi
gofyn i’r cwestiwn gael ei ofyn ynglŷn â chyfraniad Heddlu Gogledd Cymru
at gyllid TCC. Diweddarwyd y Pwyllgor ar y newyddion diweddaraf am y cyfarfod
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio sy'n argymell y dylai rhaglenni
gwaith i'r dyfodol ganolbwyntio ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol a
chyllidebau cyfarfod. Cytunodd y Grŵp Cadeiryddion ac Is
Gadeiryddion Archwilio (GCIGA) hefyd bod yr eitemau wedi’u cynnwys ar agendâu
angen pasio'r prawf “P.A.P.U.R” a bod ffurflenni sy'n cyflwyno eitemau i'w
harchwilio yn cael eu cyflwyno gan yr aelodau. Mae'r GCIGA wedi trafod y posibilrwydd o eitemau yn ymwneud ag aelodau
cyfetholedig yn cael eu cyflwyno yn unig i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ond
yn y diwedd wedi cytuno eu bod yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor mwyaf
perthnasol. PENDERFYNWYD bod - y rhaglen
gwaith i'r dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad yn cael eu cymeradwyo |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. Cofnodion: Cyhoeddodd y Cynghorydd Colin Hughes fod cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer y
Grŵp Gorchwyl a Gorffen Tai Fforddiadwy ym mis Hydref ac na allai fod yn bresennol
- ond byddai ei ddirprwy y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams yn bresennol.
Roedd cyfarfod arall wedi'i drefnu
ar gyfer 24 Hydref ac ni allai’r naill na'r llall fod yn bresennol.
Cytunodd y Cadeirydd i ddirprwyo ar
yr achlysur hwn. |
|
DYFODOL GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL MEWNOL Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) sy’n amlinellu canfyddiadau a chasgliadau’r Grŵp
Tasg a Gorffen o ran cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau gofal cymdeithasol
mewnol y Cyngor yn y dyfodol. 12:00 – 12:35 Cofnodion: GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,
bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes
canlynol ar y sail fod tebygrwydd y byddai gwybodaeth eithriedig fel y'i
diffinnir ym Mharagraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972. Cyflwynwyd
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y
Pwyllgor Archwilio a oedd wedi bod yn edrych ar ddyfodol y gwasanaethau gofal
cymdeithasol i oedolion yn fewnol. Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor gan
Gadeirydd y Grŵp, y Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies a amlinellodd y broses
a ddilynwyd a'r dull a dyfnder yr adolygiad.
Pwysleisiwyd, er
bod y Cyngor yn wynebu cyfyngiadau cyllidebol difrifol yn y dyfodol, y prif
yrrwr ar gyfer yr adolygiad hwn oedd yr angen i fodloni gofynion poblogaeth
hŷn gynyddol o fewn gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
(Cymru) 2014, a oedd yn gosod llawer mwy o bwyslais ar hyrwyddo annibyniaeth ac
ail-alluogi. Mae
nifer o aelodau yn cwestiynu'r rhesymeg y tu ôl i'r opsiynau a nodir yn yr
adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, yn cynnwys argymhellion y Grŵp. Roedd y cwestiynau a gafodd eu hateb gan Gadeirydd a swyddogion y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen yn gysylltiedig â'r gallu o fewn y sector annibynnol yn
lleol i gwrdd â'r galw am wasanaethau, ansawdd y gwasanaethau yn y sector
annibynnol, trefniadau monitro, arbedion a ragwelir a'r amserlen ar gyfer
gweithredu'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau os y cytunir arnynt. Pwysleisiodd Cadeirydd ac aelodau y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, yn
ogystal â swyddogion, fod y cynigion sy'n deillio o adolygiad y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen yn canolbwyntio ar y dinesydd, ac y byddai'r pwyslais ar
ateb anghenion y defnyddiwr gwasanaeth a darparu mynediad teg i wasanaethau ar
gyfer holl drigolion y Sir. Ni fyddai unrhyw sefydliad yn
cael ei gau cyn bodloni anghenion y defnyddiwr gwasanaeth. Byddai’r cyfalaf o werthu unrhyw adeiladau yn sgil yr adolygiad yn cael ei
ail-fuddsoddi mewn gofal ychwanegol yn y dyfodol ac yng ngwasanaethau’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Ar ddiwedd y drafodaeth fanwl
cafodd yr argymhellion eu rhoi i bleidlais a: Penderfynwyd: (i) derbyn yr arfarniad o opsiynau a
chefnogi’r opsiynau a ffefrir, gan arwain at ail-ddarparu gwasanaethau ar gyfer
y bobl hynny sy'n eu defnyddio wrth barhau i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd;
a (ii) bod y Pwyllgor gan nodi bod yr adroddiad a'r
gwerthusiad o'r opsiynau yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w drafod, yn
argymell i'r Cabinet bod ymgynghoriad ffurfiol, gan gynnwys Asesiad o'r Effaith
ar Gydraddoldeb, yn cael ei gynnal ar ailddarparu gwasanaethau fel y gellir
gweithredu’r opsiynau a ffefrir a gwneud arbedion. |