Agenda and draft minutes
Lleoliad: Town Hall, Parade Street, Llangollen LL20 8PW
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na
chysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 186 KB Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 17 Medi 2015 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 17 Medi 2015. Materion yn codi:- Mewn ymateb i bryderon ei bod yn ymddangos bod swyddogion Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o dan bwysau difrifol o ran amser yn y
cyfarfod diwethaf wrth drafod y 'Newidiadau Dros Dro i Wasanaethau Menywod a
Mamolaeth yng Ngogledd Cymru', esboniodd y Cydlynydd Archwilio bod y Bwrdd
Iechyd yn awyddus i gwrdd â'r holl Gynghorau yng Ngogledd Cymru fel rhan o'r
ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig, ac oherwydd bod cyfarfod Arbennig o'r
Cyngor Sir eisoes wedi’i drefnu gyda swyddogion BIPBC ar ystod o faterion yn
cael ei gynnal deuddydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad penodol
hwn, roedd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau wedi cytuno i drafod yr eitem
fusnes yn ei gyfarfod. Roedd yn
anffodus, fel rhan o'r un ymgynghoriad, bod angen i swyddogion BIPBC fod yn
Nolgellau ar gyfer digwyddiad ymgynghori yn gynnar yn y prynhawn. Hysbysodd y Prif Weithredwr yr Aelodau ei fod wedi ysgrifennu at
Gyfarwyddwr Ardal BIPBC, yn dilyn cyfarfod y Cyngor Arbennig ar 7 Hydref, yn
crynhoi pryderon a godwyd gan yr Aelodau yn y cyfarfod hwnnw ar ystod o
faterion iechyd a gofal cymdeithasol. Cadarnhaodd hefyd
y byddai'n gofyn i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio
ystyried a oedd y materion canlynol yn haeddu sylw'r pwyllgor archwilio:- ·
datblygiad
arfaethedig Ysbyty Brenhinol Alexandra ac unrhyw risg posibl i'r datblygiad (hy
y sefyllfa bresennol, yr opsiynau arfaethedig a'r amserlen bosibl); ·
pryderon
ynghylch argaeledd gofal sylfaenol yn ardal Prestatyn o Ebrill 2016 ymlaen (gan
gynnwys darpariaeth amgen posibl); ·
Adroddiad
y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) i'r methiannau
gofal a thriniaeth cleifion ar Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd - ystyried
canfyddiadau'r adroddiad o safbwynt trigolion Sir Ddinbych ac unrhyw wersi
posibl i'r Cyngor; Dywedodd y Cydlynydd Archwilio bod y GCIGA i fod i gyfarfod yr wythnos
ganlynol a byddai’r cynigion i edrych ar y materion yn cael eu hystyried yn y
cyfarfod hwnnw. O ran y wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani gan gynrychiolwyr BIPBC yng
nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi, dywedodd y Cydlynydd Archwilio bod cais
ffurfiol wedi ei wneud am y wybodaeth ond hyd yma nad oedd wedi dod i law. PENDERFYNWYD
– yn amodol ar yr uchod,
derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUN COMISIYNU LLEOL CEFNOGI POBL PDF 179 KB Cael
adroddiad gan Reolwr Tîm Cefnogi Pobl (copi ynghlwm), sy’n rhoi manylion am y
Cynllun Comisiynu Lleol tair blynedd ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn Sir
Ddinbych.
9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Comisiynu a Thendro, oedd yn rhoi
manylion y Cynllun Comisiynu tair blynedd ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn
Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yr adroddiad a dywedodd wrth y Pwyllgor
fod y Cyngor yn cynllunio tuag at 10% o doriad yn y grant Cefnogi Pobl gan
Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer 2016-17. Gan na fyddai swm gwirioneddol o arian
grant yn cael ei gyhoeddi tan ddiwedd mis Tachwedd eleni roedd gan y Cyngor
gynlluniau wrth gefn hefyd rhag ofn y byddai’r toriad cyllid gwirioneddol yn
uwch na'r 10%. Cadarnhaodd y Swyddog
Comisiynu a Thendro y bydd y Cynllun Comisiynu Lleol yn cael ei gyflwyno i
Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd Cymru ym mis Ionawr
2016, i ategu datblygiad Cynllun Comisiynu Rhanbarthol Gogledd Cymru. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa
bresennol, cost ac effaith ar wasanaethau eraill, canfyddiadau'r Asesiad o'r
Effaith ar Gydraddoldeb a gwblhawyd ar gyfer y Cynllun Comisiynu Lleol yn 2013,
manylion yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd a risgiau a'r camau a
gyflwynwyd i'w lleihau. Ystyriodd y Pwyllgor Atodiad 1 i'r adroddiad, a
chytunwyd bod y cyfarfod yn symud at RAN II. RHAN II GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD - dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Gan ymateb i
gwestiynau'r aelodau ar y cynigion sy'n cael eu hystyried ar gyfer torri
grantiau Cefnogi Pobl i sefydliadau unigol, a restrir yn Atodiad 1 i'r
adroddiad, cadarnhaodd swyddogion:- ·
bod y
meini prawf ar gyfer cyllid grant Cefnogi Pobl yn rhagnodol iawn ac felly roedd
gwaith manwl wedi ei wneud i sicrhau bod y cyllid a ddarperir yn cael ei
ddefnyddio gan bob sefydliad at ei ddiben, a'i fod yn cydymffurfio â'r meini
prawf Cefnogi Pobl; ·
Fel
rhan o'r ad-drefnu prosesau ariannu grant, dyblygu darpariaeth, cydymffurfio ag
amodau grant ac a yw'r prosiectau’n gefnogol i'r agenda ymyrraeth gynnar bydd y
cyfan yn cael eu harchwilio'n fanwl. Mae'r prosesau monitro contractau a
weinyddir gan CP yn sicrhau nad yw sefydliadau’n derbyn arian ar gyfer yr un
prosiect o ffrydiau ariannu gwahanol; ·
roedd
cyrff cyhoeddus eraill, megis y Bwrdd Iechyd hefyd yn edrych ar resymoli eu
prosesau a chronni eu ffrydiau ariannu; ·
rhan
o'r broses dendro ar gyfer gwneud cais i gyflwyno gwasanaethau ar ran y Cyngor
yn cynnwys archwiliadau ariannol llym ar y sefydliadau a oedd yn gwneud cais; ·
unwaith y
byddai cytundeb yn cael ei ddyfarnu byddai’n cael ei fonitro'n rheolaidd i
sicrhau ei fod yn cyflawni'r amcanion yn unol â manyleb y contract, rhan ohono
oedd yn cynnwys dadansoddiad gwerth am arian er mwyn sicrhau ei fod yn darparu
gwasanaethau sy'n ychwanegu gwerth i fywydau trigolion Sir Ddinbych; ·
nid
oedd y Grant Cefnogi Pobl fel arfer yr unig ffynhonnell ariannu sefydliad, gan
fod arian grant Cefnogi Pobl yn cael ei ddyrannu at ddibenion penodol; ·
roedd
swyddogion yn gwasanaethu ar nifer o wahanol grwpiau o fewn y Cyngor a chyda
sefydliadau partner h.y. Bwrdd Iechyd ac felly'n gallu ffurfio barn ar y cyd a
phenderfyniadau ar geisiadau am gyllid; · system gyfeirio llwybr sengl yn cael ei weithredu a oedd yn helpu’r Cyngor i benderfynu a yw unigolion a wnaeth gais i gael mynediad i’w wasanaethau yn cael cymorth tebyg gan sefydliadau eraill. Roedd cynlluniau yn eu lle i sicrhau bod hyn yn cael ei integreiddio'n llawn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Cael adroddiad
gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad ar
ganfyddiadau gwerthusiad o chwe mis cyntaf prosiect 20 Uchaf Sir Ddinbych.
10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio
Strategol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau gwerthusiad o
chwe mis cyntaf 20 prosiect uchaf Sir Ddinbych a gwybodaeth am y prosiect a gychwynnwyd gan Gynllun
Lles Sir Ddinbych a oedd wedi ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, 2014, wedi ei ddosbarthu gyda'r
papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y RhTCS yr adroddiad a chyfeiriodd at y
broses a ddilynir gan Fwrdd Partneriaeth Strategol y Sir wrth ddatblygu Cynllun
Lles Sir Ddinbych, sy’n canolbwyntio ar Annibyniaeth a Gwydnwch: Dywedodd wrth
yr Aelodau ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i roi adroddiad cynnydd ar y
cynllun cyfan, serch hynny roedd swyddogion yn awyddus i geisio cefnogaeth y
pwyllgor archwilio ar gyfer prosiect yr oeddent yn ei dreialu fel rhan o'r
Cynllun. O dan Gynllun
Lles Prosiect 20 Uchaf Sir Ddinbych roedd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd
i gefnogi unigolion hynod ddiamddiffyn gyda golwg ar eu hatal rhag gorfod gofyn
am gymorth diangen gan y gwasanaethau argyfwng/ dwys yn ddiweddarach, yn y
mwyafrif o achosion mae'r galw ar y gwasanaethau drud hyn yn amhriodol.
Fel rhan o'r prosiect byddai’r ugain o unigolion mwyaf diamddiffyn sy’n
hysbys i bob sefydliad partner, nad oedd yn ymddangos bod gwasanaethau o ddydd
i ddydd partneriaid yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir neu nad oedd yn
bodloni'r meini prawf ar gyfer y gwasanaethau sydd ar gael er eu bod angen
cefnogaeth yn y Sir, yn cael ei nodi ar y cyd. Roedd y prosiect hefyd yn anelu at osgoi dyblygu
gwasanaethau drwy weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd. Cytunodd y Pwyllgor wrth ystyried Atodiad 2
"Gwerthuso Adroddiad Crynodeb 20 Uchaf Sir Ddinbych" bod y cyfarfod
yn symud i RAN II. RHAN II GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD - dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Roedd cymhlethdod
y gwaith ymyrryd gyda’r unigolion hyn wedi’i ddangos drwy nifer o astudiaethau
achos, yn ogystal â’r ymdrech a'r amser sydd ei angen i adeiladu perthynas gyda
rhai o'r unigolion. Roedd
nifer o rwystrau hefyd angen cael eu trafod rhwng partneriaid wrth geisio
cefnogi'r unigolion hyn, roedd y rhain yn cynnwys:- ·
amharodrwydd
i rannu data personol, er ei fod er lles yr unigolyn; ·
y
math o wybodaeth a gedwir gan wahanol bartneriaid yn amrywio'n sylweddol, gyda
rhai yn cadw gwybodaeth ar yr unigolion tra bod eraill yn cadw gwybodaeth am
gyfeiriadau ac nid yr unigolion yn y cyfeiriadau hynny; Ar ôl ystyried Atodiad 2 aeth y cyfarfod yn ei flaen
yn RHAN I. Pwysleisiodd
swyddogion mai nod tymor hir y prosiect oedd arbed adnoddau ariannol gwerthfawr
ac adnoddau eraill i bob partner. I wneud hyn roedd yn rhaid iddynt fod yn arloesol ac yn ymyrryd ar y cyfle
cyntaf sydd ar gael. Wrth
wneud hyn roedd yn rhaid i bartneriaid edrych y tu hwnt i'w protocolau a bod yn
greadigol, fel arall byddai adnoddau gwerthfawr yn cael eu draenio. Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:- ·
Mae
angen cael gwared ar y rhwystrau er mwyn adeiladu’r lefel uchel o gyd-ymddiriedaeth
sydd ei angen rhwng yr holl bartneriaid i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei
rhannu’n hyderus ac yn briodol i hwyluso ymyrraeth gynnar; · amcan y prosiect hwn oedd i beidio â chreu strwythur arall, ond i hwyluso gweithio ar y cyd ac yn effeithiol ar gyfer y diben o gefnogi unigolion dan ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau
ar faterion perthnasol.
10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd
yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn
rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei
chynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i
chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar
y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad
4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 26 Tachwedd 2015:- ·
Cytunodd yr Aelodau fod eitem fusnes sy'n ymwneud â'r
cynigion ar gyfer datblygu Ysbyty Cymunedol, Royal Alexandra, y Rhyl yn y
dyfodol yn cael ei chynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer y
cyfarfod ym mis Tachwedd, a bod cynrychiolwyr BIPBC yn cael eu gwahodd i fod yn
bresennol. ·
Eglurodd y Cydlynydd Archwilio fod cadarnhad wedi ei dderbyn
y bydd cynrychiolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn mynychu'r
cyfarfod. ·
Cytunodd y Pwyllgor y dylid gwahodd yr Aelodau Arweiniol
priodol i fynychu’r cyfarfod ar 26 Tachwedd 2015 i gyflwyno eu hadroddiadau. 14 Ionawr 2016:- ·
Roedd y Cadeirydd wedi cytuno i gais gan swyddogion fod
yr adroddiad ar yr eitem fusnes sy’n ymwneud ag "Un Pwynt Mynediad"
yn cael ei ohirio o'r cyfarfod presennol tan cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Ionawr
2016. Byddai hyn yn galluogi cynnwys gwybodaeth am gais diweddar oedd yn
ymwneud â’r Gweithlu Gofal Sylfaenol. Cytunodd yr Aelodau
hefyd, ar ôl derbyn cais gan yr Aelod Arweiniol y Cynghorydd R L Feeley, y byddai'n fuddiol i gynnal y
cyfarfod yn y Rhyl ac ymweld â staff Un Pwynt Mynediad. Eglurodd y Cydlynydd
Archwilio fod y Cynghorydd W N Tasker wedi ymddiswyddo o'i swydd yn ddiweddar
fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol, ac
roedd Cylch Gorchwyl y Grŵp wedi’i gynnwys fel Atodiad 5. Cytunodd yr
Aelodau y dylid penodi'r Cynghorydd D. Owens i wasanaethu ar y Grŵp
Cydraddoldeb Corfforaethol fel cynrychiolydd y Pwyllgor , a bod y Cynghorydd M
L Holland yn cael ei benodi fel dirprwy. Cytunodd y Pwyllgor, yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd T M Parry fel
aelod o'r Pwyllgor, y dylid oedi cyn ystyried penodi cynrychiolwyr ar y Grwpiau
Herio Gwasanaethau Priffyrdd ac Addysg hyd nes penodi Aelodau ar gyfer y ddwy
swydd wag ar y Pwyllgor. Hysbyswyd yr Aelodau fod
cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion wedi'i drefnu ar
gyfer 15 Hydref 2015. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- yn amodol ar yr
uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith fel y caiff ei hamlinellu yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Cael unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau’r Cyngor
11.00 a.m. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am. |