Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer gweddill 2013/2014. Cofnodion: Gan na chafodd unrhyw CV ei gyflwyno ar gyfer swydd yr Is-Gadeirydd,
cytunwyd i ohirio penodiad hyd nes cyfarfod yn y dyfodol. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater
a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganwyd
cysylltiad personol gan: (i)
Y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones ynghylch Eitem 8 - Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol, a’r (ii)
Cynghorydd
Bill Tasker ynghylch Eitem 7 –Fframwaith ar gyfer Darparu Gwasanaethau Iechyd a
Gofal Cymdeithasol Integredig ar gyfer Pobl Hŷn ag anghenion cymhleth. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 188 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2013
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7
Tachwedd 2013. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Archwilio fod ymateb diweddariad gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant
a’r Glasgoed wedi’i gynnwys yn y ddogfen Briff Gwybodaeth (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). PENDERFYNWYD –yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26
Medi 2013 fel cofnod cywir. |
|
Yn y fan hon,
cytunodd y Cadeirydd i newid trefn y busnes a nodir yn y Rhaglen. Byddai'r
eitemau’n cael eu clywed yn y drefn ganlynol: 8. Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol 7. Fframwaith ar gyfer Darparu Gwasanaethau
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion
Cymhleth 6 Un Llwybr Mynediad at Dai – Polisi Dyrannu
Cyffredin (CAP) |
|
GWASANAETH MABWYSIADU CENEDLAETHOL PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) i
geisio barn y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau am y cynllun i sefydlu
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru, gyda chefnogaeth gan Raglenni
Cydweithredol Mabwysiadu Rhanbarthol a hefyd i geisio cefnogaeth bod Cyngor Sir
Wrecsam yn parhau i fod yn Awdurdod Arweiniol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu
Gogledd Cymru. 10.50 a.m. – 11.20 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau
Plant yr adroddiad a'r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am farn
y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar y cynllun i sefydlu Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru, gyda chefnogaeth Cydweithrediaethau Mabwysiadu
Rhanbarthol. Hefyd, ceisiodd y Cynghorydd Feeley gefnogaeth i
Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam barhau i weithredu fel yr awdurdod arweiniol
ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (PGPaTh) bwyntiau o fewn yr adroddiad. Rhoddodd
y PGPaTh sicrwydd i’r Pwyllgor Archwilio y byddai swyddogaethau statudol y
Cyngor mewn perthynas â darparu Gwasanaeth Mabwysiadu’n cael eu diwallu’n
llawn, yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau. Roedd creu
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn un o feysydd polisi allweddol Llywodraeth
Cymru, ac mae'r cynigion wedi’u cymeradwyo gan y Dirprwy Weinidog Plant a
Gwasanaethau Cymdeithasol ar 25 Ebrill 2013. Roedd Cymdeithas
Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (CCGC) Cymru, wedi gweithio gyda Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gynhyrchu model gweithredol ar gyfer cyflwyno
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ledled Cymru drwy gydweithrediaethau
gweithredol rhanbarthol. Roedd y model
gweithredol yn cynnig y pump Cydweithrediaeth Fabwysiadu Ranbarthol canlynol: ·
Gogledd
Cymru - Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych ac Ynys Môn; ·
De
Ddwyrain Cymru - Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen, Casnewydd a Chaerffili; ·
Gorllewin
a Chanolbarth Cymru - Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys; ·
Bae’r
Gorllewin – Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe; a ·
Chanolbarth
a De Cymru - Caerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Y bwriad yw y bydd pob un o'r pump Cydweithrediaeth Ranbarthol yn cael ei
sefydlu erbyn mis Ebrill 2014. Bydd Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu hefyd gyda chynrychiolwyr
o Lywodraeth Cymru, CCGC Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru (AGGCC), Cymdeithas Prydain dros Fabwysiadu a Maethu (BAAF), Asiantaethau
Mabwysiadu Gwirfoddol a phob un o'r pump Cydweithrediaeth Ranbarthol i
gynhyrchu rhaglen newid gadarn ar gyfer gweithredu’r model gweithredol. Dylai'r model
gwasanaeth cenedlaethol gael ei fonitro i sicrhau nad yw costau’n cynyddu o'r
lefel bresennol o wariant net. Dylai unrhyw gostau ychwanegol sy'n
deillio o weinyddu a chynnal y trefniadau newydd gael eu dosbarthu’n briodol
rhwng yr awdurdodau sy'n cymryd rhan. Cynhaliwyd
trafodaeth gyffredinol ar bolisïau a gweithdrefnau mabwysiadu a: PHENDERFYNWYD – bod
y Pwyllgor yn:- (i) cefnogi'r
cynigion ar gyfer cyflawni Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru fel y
nodwyd yn adroddiad Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (CCGC)
Cymru. (ii) cefnogi’r
cynnig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam barhau i weithredu fel yr awdurdod
arweiniol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. |
|
Ystyried
adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol) /
Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (copi ynghlwm) sydd yn ceisio
sylwadau’r Aelodau ar y Datganiad o Fwriad drafft rhwng y Cyngor a BIPBC ar
gyfer integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cyn ei gyflwyno i
Gabinet. 10.10 a.m. – 10.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Gofal Cymdeithasol
Oedolion a Phlant yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu'r
Aelodau am fwriadau Llywodraeth Cymru (LlC) i sefydlu gwasanaethau iechyd a
gofal cymdeithasol integredig i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Cafwyd trafodaeth
fanwl a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Croesawodd
y Pwyllgor y cynigion a amlinellir yn y Datganiad o Fwriad drafft. Yn
benodol, y cynigion i archwilio dewisiadau rhanbarthol ar gyfer: Ø
Gwell
llywodraethu Ø
Strategaethau
comisiynu ar y cyd Ø
Cyllidebau
cyfun Ø
Timau
wedi’u cyd-leoli Ø
System
rhannu gwybodaeth Ø
Gwasanaethau
cyfeirio at y dinesydd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau; Ø
Un
Pwynt Mynediad yn y sir. ·
Cydnabu'r
Pwyllgor fod nifer o opsiynau yn y broses o gael eu datblygu yn Sir Ddinbych. ·
Teimlai'r
Aelodau y gall datblygu gwasanaethau integredig rhwng Iechyd a Gofal
Cymdeithasol arwain at gydlynu gofal yn well a gwell dilyniant o ran gofal ar
gyfer defnyddwyr gwasanaeth. ·
Byddai
system atgyfeirio a chyfathrebu mwy syml a chyson, yn ei dro, yn darparu
mynediad gwell a haws i wasanaethau. ·
Er
bod y Pwyllgor yn cydnabod bod yr hinsawdd ariannol bresennol y mae Llywodraeth
Leol a'r Gwasanaethau Iechyd yn gweithredu ynddi, ynghyd ag ansicrwydd
strwythur staffio o fewn y Bwrdd Iechyd a'r ansicrwydd o amgylch strwythurau
Llywodraeth Leol yn y dyfodol yng Nghymru, yn peri risg i'r weledigaeth a
amlinellir yn y Datganiad o Fwriad, mae'r egwyddorion yn cael eu canmol. O
ganlyniad, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod digon o adnoddau dynol ac
ariannol ar gael i ddarparu'r gwasanaethau di-dor/integredig a amlinellir yn y
Datganiad o Fwriad er budd trigolion lleol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor yn argymell i'r Cabinet ei fod yn cefnogi cynnwys y Datganiad o
Fwriad ar Ofal Integredig ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth a
luniwyd rhwng Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a BIPBC, i'w cyflwyno i Lywodraeth
Cymru. Dylai'r arferion gwaith
integredig a amlinellir yn y Datganiad o Fwriad ynghyd â'r defnydd o sgiliau
cyfunol, gwybodaeth, profiad ac adnoddau gyflawni gwell canlyniadau i bobl
hŷn a chyfrannu tuag at gyflawni blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o
sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu hamddiffyn ac yn gallu byw mor
annibynnol ag y bo modd. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45 a.m.) cafwyd egwyl o
chwarter awr. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11:00am. |
|
UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI - POLISI DYRANNU CYFFREDIN PDF 109 KB Ystyried
adroddiad gan yr Uwch Swyddog - Strategaeth a Phartneriaethau (copi ynghlwm)
sydd yn ceisio sylwadau Craffu ar fanylion y Polisi Dyraniadau Cyffredin cyn
iddynt fynd am benderfyniad 9.40 a.m. – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a
Chymunedau'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth i'r
Aelodau ynghylch manylion y Polisi Dyrannu Cyffredin diwygiedig (CAP) ar ôl
ystyried yr adborth o'r ymgynghoriad CAP, ymchwil a barn gyfreithiol. Cytunwyd ar
y CAP gan y Grŵp Llywio ULlMAD (Un Llwybr Mynediad at Dai) a byddai'n cael
ei gyflwyno i Bwyllgorau/Byrddau’r sefydliadau partner. Hefyd gofynnodd y
Cynghorydd Irving am gefnogaeth gan yr Aelodau i barhau â'r prosiect a
gweithredu'r CAP yn lleol o ddiwedd 2014. Yn dilyn
trafodaeth ddwys codwyd y materion canlynol: ·
Croesawodd
y Pwyllgor y ffaith y byddai'r Polisi’n cael ei adolygu’n flynyddol. ·
Croesawodd
yr Aelodau'r eglurder ar y diffiniad o'r cysylltiad lleol. Fodd
bynnag, mynegwyd pryderon mewn perthynas â phwysau posibl yn y dyfodol ar
gyllidebau gofal cymdeithasol os yw cyfradd anghymesur o uchel o denantiaid
oedrannus/anabl o'r tu allan i'r sir yn cael mynediad i lety pensiynwyr/tai
gwarchod yn y sir ar sail cysylltiad teulu/cyswllt cefnogi. Teimlai'r
Pwyllgor fod tueddiadau angen eu monitro’n agos er mwyn nodi pwysau posibl. ·
Cymeradwyodd
yr Aelodau'r "Egwyddorion Arweiniol" fel yr amlinellir yn y CAP
drafft. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn awyddus i bryderon
a godwyd mewn perthynas â diffyg ymrwymiad rhai landlordiaid cymdeithasol
cofrestredig (LCC) i gynnal a chadw eiddo, a oedd wedi arwain at rai ardaloedd
o'r sir yn dioddef gan dai o ansawdd gwael, gael ei nodi. Er
bod yr Aelodau'n cydnabod y gallai'r rhan fwyaf o bryderon gael sylw drwy
ddarpariaethau'r Mesur Tai newydd, gofynnodd y Pwyllgor i bob ymdrech gael ei
wneud trwy Grŵp Llywio’r Polisi i sicrhau bod yr holl LCC sy'n gweithredu
yn Sir Ddinbych yn mynd ati i gynnal eu heiddo i'r safonau gofynnol ac yn
cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) er mwyn diogelu tenantiaid. ·
Gofynnodd
y Pwyllgor i fanylion pob ymgynghoriad a oedd wedi digwydd o fewn Sir Ddinbych
(yn enwedig yn ystod 2013) gyda'r cyhoedd a budd-ddeiliaid gael eu cynnwys yn
yr adroddiad i'r Cabinet. ·
Gofynnodd
y Pwyllgor hefyd i’r adroddiad i'r Cabinet gynnwys manylion cyfraniad ariannol
pob partner tuag at y prosiect datrysiad TG i gefnogi'r Polisi a bod y prosiect
TG yn cael ei deilwra i gadw o fewn y dyraniad cyllideb ac yn cael ei
werthuso’n llawn a'i gyflwyno i aelodau cyn ei brynu. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar y sylwadau a godwyd, bod y Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion y Polisi
Dyraniadau Cyffredin drafft. Argymhellodd
y Pwyllgor hefyd bod y Cabinet yn cymeradwyo a mabwysiadu’r Polisi i’w roi ar
waith yn Sir Ddinbych. Dylai’r
Polisi sicrhau bod tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu trwy ddull teg a chyson
i bobl o fewn ein cymunedau yn ôl eu hanghenion tai. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ynglŷn â
materion perthnasol. 11.20 a.m. – 11.50 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a gafodd ei ddosbarthu’n flaenorol) yn gofyn i’r
aelodau adolygu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a darparu diweddariad ar
faterion perthnasol. Roedd fersiwn drafft o’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol (Atodiad 1); Ffurflen Gynigion ar gyfer Eitemau ar Raglen y Pwyllgorau
Archwilio (Atodiad 2); Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet (Atodiad 3);
Cynnydd ar Benderfyniadau’r Pwyllgor (Atodiad 4) a Rhestr o Gynrychiolwyr y
Pwyllgor Archwilio ar Grwpiau Herio’r Gwasanaeth (Atodiad 5) ynghlwm â’r
adroddiad hwn. Dywedodd y
Cydlynydd Archwilio am newidiadau i'r rhaglen waith ac amryw o faterion sydd
angen sylw - ·
Gofyn
am ddiweddariad ar Ddatganiad o Fwriad gan BIPBC a gofyn iddynt fynychu’r
Pwyllgor Archwilio yn y dyfodol. ·
Prosiect
Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i gael ei ychwanegu at Raglen 6
Chwefror 2014 ·
Tynnu
Partneriaeth Cynllun Datblygu Gwledig oddi ar Raglen 6 Chwefror 2014 a’i
ychwanegu at Raglen 13 Mawrth 2014 ·
Gwahodd
pob Aelod Arweiniol i fynychu'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 6 Chwefror
2014. ·
Gofynnwyd
am gynrychiolaeth o’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar y Grwpiau Herio
Gwasanaeth. Gwirfoddolodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain
Jones ar gyfer Cynllunio Busnes a Pherfformiad a'r Cynghorydd Merfyn Parry ar
gyfer Priffyrdd. ·
Roedd
y Cynghorydd Dewi Owens wedi cynnig a chafodd ei enwebu i gynrychioli’r
Pwyllgor ar y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol ·
Gwahodd
y Cynghorydd Huw Jones i fynychu'r cyfarfod ar 13 Mawrth fel Aelod Arweiniol ar
gyfer eitem Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). ·
Gofynnodd
y Cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones i gyfarfodydd yn y dyfodol
gael eu cynnal yn y Rhyl a Dinbych, yn ogystal â Rhuthun. PENDERFYNWYD (i)
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r
rhaglen waith fel y manylir yn Atodiad 1 gyda’r adroddiad; (ii)
Y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones i
gael ei phenodi fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Herio Gwasanaeth ar
gyfer y Gwasanaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad, a’r Cynghorydd Merfyn Parry
i wasanaethu fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Herio Gwasanaeth ar
gyfer y Gwasanaeth Priffyrdd ac Isadeiledd, a’r (iii)
Cynghorydd Dewi Owens i gael ei benodi fel
cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr Pwyllgor sy’n aelodau o
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 11.50 a.m. – 12.00 p.m. Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Ann Davies ddiweddariad byr i’r Pwyllgor yn dilyn cyfarfod diweddar
y Grŵp Llywio Gofalwyr a fynychodd. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.40p.m. |