Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: VIA VIDEO CONFERENCE

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.

 

 

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 35 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 291 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021. (copi ynghlwm)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol).

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CADARNHAU’R CADEIRYDD A'R IS-GADEIRYDD

Cadarnhau Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y tymor presennol. 

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG wybod i Aelodau y byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn newid yn nhymor yr hydref.  Ni fyddai’r Is-gadeirydd presennol, Dominic Oakes yn gallu cymryd rôl y Cadeirydd oherwydd ymrwymiadau gwaith. Felly, gofynnodd yr Ymgynghorydd AG am i enwebiadau gael eu hanfon ato cyn cyfarfod mis Hydref.

 

PENDERFYNWYD anfon enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd at yr Ymgynghorydd AG cyn cyfarfod CYSAG mis Hydref.

 

 

6.

CWRICWLWM CYMRU: CANLLAWIAU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG pdf eicon PDF 14 KB

Cytuno ar ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyhoeddi canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.  Mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 16 Gorffennaf 2021. (copi ynghlwm)

a)    Dogfennau Ymgynghori:

https://gov.wales/guidance-design-and-delivery-mandatory-religion-values-and-ethics-rve

b)    Dogfen Ganllawiau:

https://gov.wales/sites/default/files/consultations/2021-05/consultation-document-curriculum-for-wales-religion-values-and-ethics-guidance.pdf

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG adroddiad ar Ganllawiau Cwricwlwm Cymru: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG wybod i Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyhoeddi canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.  Mae’n bosib y bydd y canllawiau’n rhan sylweddol o Faes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych. 

 

Cyn y cyfarfod, roedd dolenni wedi eu hanfon at bob aelod o’r CYSAG, sef y ddogfennaeth ymgynghori a’r arweiniad i’r ymgynghoriad.

 

Roedd Eglwys San Silyn, Wrecsam wedi creu fideo oedd yn rhoi trosolwg clir o’r ymgynghoriad.

 

Roedd y fideo ymgynghoriad yn cynnwys saith lens:

 

·         Chwilio am ystyr a phwrpas

·         Y byd naturiol a phethau byw

·         Adnabod a pherthyn

·         Awdurdod a dylanwad

·         Perthnasoedd a chyfrifoldebau

·         Gwerthoedd a moeseg

·         Taith bywyd

 

Aeth yr Ymgynghorydd AG drwy’r holiadur oedd yn cynnwys 10 cwestiwn, a dywedodd, pe gallai Aelodau gymryd amser i ail-wylio'r fideo eto a mynd drwy'r ddogfen ymgynghori, gallent anfon cwestiynau neu ddatganiadau ato cyn yr wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf.

 

Ymatebodd Aelodau i’r gwahanol gwestiynau a chadarnhau y byddent yn craffu ar y ddogfen ymgynghori ac ymateb i’r Ymgynghorydd AG cyn yr wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD y byddai Aelodau'r CYSAG yn trafod ac yn cytuno ar ymatebion i’r ddogfen ymgynghori.

 

 

7.

ANNOG AMRYWIAETH O GYNRYCHIOLAETH AR Y CYSAG pdf eicon PDF 146 KB

Trafod sut y gallai’r gynrychiolaeth o’r credoau amrywiol yn Sir Ddinbych gefnogi gwaith CYSAG wrth iddo barhau i gynghori’r Awdurdod Lleol a chefnogi ysgolion. (copi ynghlwm)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG yr adroddiad Annog Amrywiaeth o Gynrychiolaeth ar y CYSAG.

 

Yn y cyfarfod blaenorol, nododd yr aelodau’r diffyg amrywiaeth o gynrychiolaeth ar y CYSAG.

 

Trafododd yr Aelodau sut y gallai’r gynrychiolaeth o gredoau amrywiol gan drigolion Sir Ddinbych gefnogi gwaith CYSAG wrth iddo barhau i gynghori’r Awdurdod Lleol a chefnogi ysgolion.

 

Cadarnhawyd bod newid wedi’i wneud mewn llawer o ysgolion i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gredoau.  Roedd wedi bod yn anodd cael cynrychiolaeth o rai credoau ar y CYSAG, e.e.: Mwslim a dyneiddwyr. Byddai bod yn gynrychiolydd ar CYSAG yn gyfle i aelodau o gredoau gwahanol gael dweud eu barn.

 

Gan fod Cynghorwyr yn ymwybodol o’r credoau gwahanol yn eu cymunedau, gellid creu rhestr o gysylltiadau ar gyfer cynrychiolwyr y credoau gwahanol. Gellid cysylltu â Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i ddarganfod pa grwpiau oedd yn defnyddio eu canolfannau cymunedol. 

 

Cadarnhawyd y byddai cynllun gweithredu yn cael ei greu yn ystod yr haf ac y byddai’n cael ei ddefnyddio fel dogfen fyw yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn trafod sut y gallai CYSAG dynnu ar y safbwyntiau amrywiol e.e. cynrychiolaeth neu gyflwyniadau gan Aelodau. Cynllun Gweithredu i gael ei roi at ei gilydd a’i gyflwyno i aelodau yn yr hydref.

 

 

8.

CCYSAGC pdf eicon PDF 15 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Gwanwyn ar 23 Mawrth a diweddariad ar lafar o gyfarfod yr Haf ar 16 Mehefin 2021. (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd AG, Phil Lord ei fod wedi mynychu cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru yr wythnos flaenorol.

 

Roedd cofnodion cyfarfod y gwanwyn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth wedi cael eu cylchredeg yn flaenorol i Aelodau er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD, y bydd aelodau’r CYSAG yn:

·         Derbyn cofnodion cyfarfod y Gwanwyn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth.

·         Derbyn diweddariad ar lafar o gyfarfod yr Haf a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021.

 

 

9.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

20 Hydref 2021

 

Cofnodion:

Dyddiad cyfarfod nesaf y CYSAG fyddai 20 Hydref 2021.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:03 p.m.