Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ffordd Llys Nant, Prestatyn LL19 9LG

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD NEWYDD - UN O GYNRYCHIOLWYR YR AWDURDOD ADDYSG LLEOL

Enwebu ac ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2013-2015 un o gynrychiol wyr yr Ardurdod Addysg Lleol.

 

Cofnodion:

Yn unol â chyfansoddiad CYSAG Sir Ddinbych gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd ar gyfer oddi wrth Gynrychiolwyr yr AALl.

 

Cafodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei enwebu a'i eilio fel Is-Gadeirydd.

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Arwel Roberts yn Is-Gadeirydd y CYSAG.

 

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys i'w hystyried.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 145 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2013 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2013 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol).

 

Materion yn Codi - Tudalen 9, Eitem Rhif 9 Adroddiad Estyn ar Addysg Grefyddol Mewn Ysgolion Uwchradd   Roedd y cwrs TGAU byr werth hanner TGAU ac roedd ysgolion yn tueddu i ddewis y cwrs gan y gellid ei wneud yn yr amser a neilltuwyd i ddiwallu’r gofyniad cyfreithiol o ran AG.   Roedd y cwrs byr yn cwmpasu dwy grefydd yn ystod yr astudiaeth.  Y cwrs TGAU llawn oedd y mwyaf poblogaidd rhwng y ddau gwrs. 

 

Tudalen 10 - Eitem rhif 9 - Cadarnhaodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (SL) bod llythyr wedi'i anfon at Bennaeth Addysg Sir Ddinbych fel y gofynnwyd yn y cyfarfod blaenorol, ond hyd yn hyn, nid oedd ymateb wedi dod i law.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2013 fel cofnod cywir.

 

 

6.

DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU pdf eicon PDF 88 KB

I dderbyn adroddiad gan yr Arweinydd systemau ar gyfer Gwe (amgeuir copi) yn rhoi dadansoddiad o Adroddiadau Archwilio diweddar Estyn ar gyfer dwy ysgol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2013.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (SL) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dadansoddi canlyniadau'r Arolygiadau Estyn diweddar o ran darpariaeth AG ac addoli ar y cyd mewn dwy ysgol ym mis Hydref 2013. 

 

Roedd arolygiadau wedi'u gwneud yn Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir yn Wirfoddol.

 

Darparodd yr AS yr aelodau â chrynodeb byr o'r canfyddiadau'n ymwneud â phob ysgol ac roedd yr aelodau'n falch o nodi'r sylwadau cadarnhaol.

 

Roedd y mater o gysylltiadau ysgolion ag eglwysi wedi cael eu codi gan Aelodau CYSAG.  Cytunwyd y byddai Arolwg yn cael ei anfon i bob ysgol yn gofyn am wybodaeth fel:

 

·        Faint o ddisgyblion sy’n gweld Gweinidog a pha mor aml?

·        Faint o ddisgyblion sydd wedi bod tu mewn i eglwys neu gapel?

 

Byddai llythyr rhagarweiniol hefyd yn cyd-fynd yr arolwg yn esbonio’r wybodaeth sydd angen ei chasglu i wella cysylltiadau â'r gymuned ac i ddatblygu canllawiau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)  Y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

(b)  Bod llythyr yn cael ei anfon i’r ysgolion a arolygwyd yn eu hysbysu bod eu Hadroddiad Arolwg wedi cael ei ystyried a’u llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd.

(c)  Gofyn i’r AALl ddosbarthu’r llythyrau i’r ysgolion perthnasol.

 

 

7.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU 2013 pdf eicon PDF 77 KB

I dderbyn adroddiad gan yr Arweinydd systemau ar gyfer Gwe (copi'n amgaeedig) yn darparu canlyniadau manwl ar gyfer arholiadau TGAU ac Astudiaethau Crefyddol Lefel Uwch ar gyfer y flwyddyn 2011 a 2012 ynghyd â dadansoddiad o'r gwahaniaethau a'r tueddiadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer Gwe (SL) Adroddiad Canlyniadau Arholiad 2013 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys canlyniadau manwl arholiadau TGAU a Lefel Uwch Addysg Grefyddol ar gyfer 2012 a 2013, ynghyd â dadansoddiad y gwahaniaethau a’r tueddiadau.

 

Diben yr adroddiad oedd er mwyn i’r Aelodau ddefnyddio eu gweithredoedd mewn perthynas â dyletswydd statudol i fonitro darpariaeth Addysg Grefyddol mewn ysgolion, ac i gael y wybodaeth lawn am ganlyniadau’r flwyddyn honno.

 

Nid oedd y canlyniadau cenedlaethol ar gyfer y cwrs byr AG wedi cael eu cyhoeddi pan oedd yr adroddiad yn cael ei gwblhau.  Felly, ni ellid cynnwys ffigurau i’w cymharu.  Cytunwyd gan Aelodau CYSAG bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryder ynghylch cyhoeddi'r ystadegau’n hwyr.

 

Eglurwyd bod A*-G yn cael eu cyfri fel graddau cymhwyster.

 

Mae Ysgolion a’r Awdurdod Lleol yn defnyddio “Fischer Family Trust” er mwyn gallu dadansoddi’r data ymhellach ar draws yr ysgolion.

 

PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor yn derbyn a nodi’r adroddiad yn amodol ar yr uchod.

 

 

8.

MARC ANSAWDD ADDYSG GREFYDDOL (MAAG) pdf eicon PDF 87 KB

I dderbyn cyflwyniad gan yr Arweinydd systemau ar gyfer Gwe (copi'n amgaeedig) ynglŷn â'r briodol Marc Ansawdd Addysg Grefyddol ar gyfer Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer Gwe (SL) gyflwyniad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd wedi cael ei ddangos i CYSAG Cymru o'r blaen.  Byddai’r MAAG, y Marc Ansawdd Addysg Grefyddol ar gael i bob ysgol fel modd o ddilysu arfer da.  Yn ddiweddar, cafodd y deunyddiau eu haddasu a'u cyfieithu fel y gall ysgolion yng Nghymru eu defnyddio.

 

Trafodwyd a chytunwyd dylai’r meini prawf gael eu hyrwyddo ymysg ysgolion.  Byddai'r meini prawf ar gael am ddim i'w lawrlwytho o wefan MAAG yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Roedd holiaduron hefyd ar gael o'r wefan.  Byddai'n hyrwyddo arfer da i weithio trwy'r meini prawf hyd yn oed os nad ydynt yn cymryd y Marc Ansawdd ei hun.

 

Cadarnhaodd SL y byddai'n cysylltu â phob ysgol i hyrwyddo'r MAAG.

 

Cynigiodd y Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor eu diolch i SL am ei holl waith caled ynghylch y MAAG.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

 

 

 

9.

MEINI PRAWF ASESU MARC ANSAWDD ADDYSG GREFYDDOL (MAAG) pdf eicon PDF 479 KB

I dderbyn dogfennau gan yr Arweinydd systemau ar gyfer Gwe (copi'n amgaeedig) i godi ymwybyddiaeth o'r meini prawf asesu GMSA i gefnogi'r gwaith o fonitro safonau mewn AG mewn Ysgolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer Gwe (SL) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar gyfer Aelodau fod yn ymwybodol o'r arferion sy'n gwneud Adran AG dda.

 

Byddai’r Marc Ansawdd Addysg Grefyddol ar gael i bob ysgol fel modd o ddilysu arfer da.  Yn ddiweddar, cafodd y deunyddiau eu haddasu a'u cyfieithu fel y gall ysgolion yng Nghymru eu defnyddio.   Argymhellodd CCYSAGC y dylai pwyllgorau CYSAG ddefnyddio’r deunyddiau i gefnogi, monitro a nodi arfer da mewn Addysg Grefyddol.

 

PENDERFYNWYD bod CYSAG yn argymell y dylai ysgolion lleol ddefnyddio meini prawf dyfarnu MAAG fel sail.

 

 

10.

CYMDEITHAS CYSAG CYMRU (CCYSAGC) pdf eicon PDF 69 KB

(a)          I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod o'r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2013 yng Nghaerdydd (amgaeir copi) (Cofnodion gael eu cyfieithu cytuno ar unwaith fel rhai cywir yn y cyfarfod nesaf WASACRE).

(b)          Cytuno bresennol yn y cyfarfod CCYSAGC nesaf ym Merthyr Tudful ac i drafod enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol (amgeuir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a)  Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2013 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2013.

 

(b)  Cyfarfod CYSAG Cymru 27 Mawrth 2014 yng Nghaerffili.

 

Trafododd yr Aelodau bresenoldeb yn y cyfarfod nesaf ac ystyried yr ymgeiswyr ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a -

 

PHENDERFYNWYD:

 

·        Dylai Gavin Craigen fod yn bresennol yn y cyfarfod CCYSAGC nesaf ar 27 Mawrth, 2014

·        Roedd Phil Lord a Gavin Craigan eisoes yn aelodau o'r Pwyllgor Gwaith.

 

Gofynnodd Mr Dominic Oakes iddo gael ei nodi yn y cofnodion nad oedd yn gallu cael ei enwebu ar y Pwyllgor Gwaith gan nad oedd unrhyw arian ar gael ar gyfer talu am golli incwm, gan ei fod yn hunan-gyflogedig.

 

 

11.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I’w gadarnhau.

 

Cofnodion:

I'w gadarnhau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 p.m.