Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghr. Alan James, Elfed Williams, Chris Evans a Peter Scott.

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 302 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022.

 

Materion cywirdeb – Dim.

 

Materion yn codi – Dywedodd y Cyng. Merfyn Parry fod nifer o negeseuon personol am gynghorwyr wedi’u gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol. Awgrymodd y dylai’r awdurdod fod yn wyliadwrus o sylwadau o’r fath, gan eu bod yn ei farn ef yn fygythiol ac yn achosion o fwlio.

 

Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol fod gan lwyfannau cymdeithasol weithdrefnau cwyno y gellir eu dilyn os ystyrir bod sylwadau’n amhriodol. Anogodd yr Aelodau i ddilyn y gweithdrefnau hynny.

 

Awgrymodd y Cyng. Merfyn Parry y dylai Cyngor Sir Ddinbych gyhoeddi datganiad gyda chanllawiau i Aelodau ar sut i ddelio gyda bwlio ar y cyfryngau cymdeithasol. Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai’n rhannu pryderon yr Aelodau gyda Liz Grieve ac yn edrych ar gyhoeddi datganiad posibl ar y Cod Ymddygiad mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 7) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 21/2021/1049/ PF- HEATHER BANK, LLANFERRES pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried cais i godi annedd newydd yn lle’r un presennol a gwaith cysylltiedig yn Heather Bank, Llanferres (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi annedd newydd yn lle’r un presennol a gwaith cysylltiedig yn Heather Bank, Llanferres.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Joe Salt (asiant) (O BLAID) – eglurodd ei fod yn bresennol ar ran ei gleientiaid Mr a Mrs Dermody. Rhoddodd adroddiad y swyddog adroddiad manwl i'r aelodau ar y gwaith oedd wedi ei gynnal rhwng yr ymgeisydd a'r swyddogion cynllunio. Gwerthfawrogwyd pryderon y trigolion lleol yn ystod y broses ymgeisio. Nid yw’r ymgeisydd yn credu bod y cais yn gorddatblygu’r safle, ni fyddai unrhyw broblem o ran edrych drosodd a byddai’r cynnig hefyd yn gwella’r eiddo presennol. Byddai’r cais yn gwella mynediad i’r safle ac yn darparu llwybr mwy diogel i’r eiddo. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y perchnogion yn bwriadu byw yn yr ardal am sawl blwyddyn. Gwerthfawrogwyd y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud gan y Swyddogion Cynllunio.

 

Trafodaeth gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Merfyn Parry wedi cael cais gan y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) i gynnig ei gefnogaeth i'r cais.Yn ôl y Cyng. Williams mae’r cynnig yn darparu eiddo modern sy’n rhad-ar-ynni.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog yn yr adroddiad.

 

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – (7 pleidlais yn y Siambr a 8 pleidlais dros Zoom) – 15

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodir yn yr adroddiad.

 

6.

CAIS RHIF 02/2022/0736/ PF - TIR YN (RHAN O ARDD) 149 STRYD MWROG, RHUTHUN LL15 1LE pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried cais i godi 1 annedd ar wahân, darparu lle parcio ar gyfer rhif 149 a gwaith cysylltiedig yn (rhan o ardd) 149 Stryd Mwrog, Rhuthun,  LL15 1LE (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 1 annedd ar wahân, darparu lle parcio ar gyfer rhif 149 a gwaith cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn 149 Stryd Mwrog, Rhuthun.

 

Trafodaeth gyffredinol – Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Lleol) ei bod o blaid argymhelliad y swyddogion cynllunio i ganiatáu'r cais. Dywedodd wrth yr aelodau ei bod wedi mynychu'r safle, a'i bod yn fodlon y byddai'r cynnig yn safle addas i annedd gyda'r amodau arfaethedig. Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) ei fod hefyd yn cefnogi'r cais. Gofynnodd am sicrwydd y byddai'r amodau'n cael eu cadw at a'u monitro.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd - Rheoli Datblygu Priffyrdd bod adolygiad manwl o'r safle wedi digwydd. Yn hanesyddol roedd y safle wedi lletya garej gerbydol. Nododd Nodyn Cyngor Technegol Dogfennau Llywodraeth Cymru 18, pan ddaw ceisiadau cynllunio i law ar safleoedd datblygu presennol, y dylid cael eu gwasanaethu gan fynediad is-safonol presennol y dylai fod lle i ailddatblygu cyfyngedig a oedd yn ymgorffori gwelliant sylweddol o ran mynediad. Hyd yn oed os yw’r mynediad gwell yn dal yn is na’r safon. Cadarnhaodd, gyda’r amodau ychwanegol, ei fod yn teimlo nad oes unrhyw reswm i wrthwynebu’r cais.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio bod swyddogion wedi nodi ymateb y Gwasanaeth Tân ac wedi rhoi gwybod i'r aelodau mai nodyn cynghori oedd yr ymateb. Teimlai swyddogion y gallai'r datblygiad gydymffurfio â gofynion cyffredinol y Gwasanaeth Tân.

 

Cadarnhaodd y Cyng. Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) ei fod wedi ymweld â’r safle. Nododd waith sydd wedi’i wneud rhwng yr ymgeisydd a’r swyddogion. Darparodd wybodaeth gefndir i’r Aelodau ar yr adeilad rhestredig ar y safle.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oes modd rhannu lluniau yn y Siambr.

Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at bryderon yr Aelodau a chadarnhaodd y gallai’r archeolegydd stopio’r gwaith dros dro os oes angen, hyd nes bod y gwaith o gofnodi’r arteffactau wedi’i gwblhau.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog yn yr adroddiad.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – (7 pleidlais yn y Siambr a 8 pleidlais dros Zoom) – 15

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodir yn yr adroddiad.

 

7.

GORCHYMYN DIOGELU COED RHIF 02/2022 - TIR YN 46 BRO DEG, RHUTHUN pdf eicon PDF 191 KB

Ystyried Gorchymyn Diogelu Coed rhif 02/2022 ar Dir yn 46 Bro Deg, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i gadarnhau cais am Orchymyn Diogelu Coed Rhif 2 (2022) gan Gyngor Sir Ddinbych ar dir yn 46 Bro Deg, Rhuthun.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio ychydig o wybodaeth gefndirol i'r aelodau am yr adroddiad. Yn yr haf roedd cais wedi ei wneud gan berchennog y tir am roi amddiffyniad i goeden ar ei safle. Fe wnaeth swyddogion ac arolygwyr coed ymweld â'r safle a chynnal asesiad i benderfynu a ddylid gwarchod y goeden. Roedd ymgynghoriad gyda'r trigolion cyfagos wedi digwydd. Gan fod gwrthwynebiad i'r gorchymyn arfaethedig i ddiogelu coed wedi ei dderbyn, fe'i dygwyd i'r pwyllgor i'w ddatrys. Os oedd aelodau â'u bryd ar amddiffyn y goeden, ni wnaeth atal gwaith rhesymol rhag cael ei wneud i'r goeden. Byddai'n rhaid i'r perchennog wneud cais am unrhyw waith arfaethedig i'r goeden.

 

Trafodaeth gyffredinol – Mynegodd y Cyng. Terry Mendies bryder ynghylch y ffens derfyn a phwy sy’n gyfrifol am unrhyw ddifrod wedi’i achosi gan y goeden. Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio bod y ffens yn rhan o wrthwynebiad yr eiddo drws nesaf. Mae’r cymydog yn credu bod y goeden yn atal gwneud gwaith ar y ffens derfyn.

Amlygwyd pe bai'r goeden yn deilwng o gael ei gwarchod yna gellid gosod y gorchymyn ar y goeden. Yna byddai'n rhaid i unrhyw waith angenrheidiol i ffens ffin roi sylw i effeithiau posib ar y goeden warchodedig pe bai'r gorchymyn diogelu yn cael ei gadarnhau byddai angen caniatâd unrhyw waith ar y goeden cyn i'r gwaith ddigwydd. Mae cais am waith gorchymyn cadw coed yn rhad ac am ddim. Roedd yr atebolrwydd ar yr Awdurdod yn ddim. Mae’r delweddau yn y papurau wedi’u darparu gan y gwrthwynebydd.

Darparwyd rhagor o arweiniad ar asesiadau TEMPO, a chlywodd yr Aelodau bod dau arolygydd coed wedi asesu’r goeden a’r ddau wedi dod i’r casgliad bod y goeden yn sgorio digon o bwyntiau (mwy na 12) i fod yn deilwng o orchymyn diogelu coed. Mae’r gwrthwynebwyr wedi gweld yr asesiadau TEMPO. Darparwyd eglurhad ynghylch y byddai’r gorchymyn yn diogelu’r goeden gyfan, yn cynnwys y gwreiddiau.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. James Elson.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – (7 pleidlais yn y Siambr a 8 pleidlais dros Zoom) – 15

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO Gorchymyn Cadw Coed 02/2022 heb addasiad, yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 

 

 

Cynhaliodd y Cadeirydd, yr Aelodau a’r Swyddogion funud o dawelwch er cof am y Cyng. Brian Blakeley, aelod gwerthfawr o’r Pwyllgor Cynllunio, a fu farw’n ddiweddar.

 

EITEM YCHWANEGOL

Dogfennau ychwanegol:

8.

Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL 2006 I 2021: ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2022 pdf eicon PDF 224 KB

Derbyn adroddiad gyda’r teitl Y Cynllun Datblygu Lleol 2006 i 2021: Adroddiad Monitro Blynyddol 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad er gwybodaeth (dosbarthwyd ymlaen llaw) gan gadarnhau y dylai’r Aelodau nodi’r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod manylion cyswllt y Swyddog Arweiniol, Angela Loftus, wedi’u cynnwys yn y papurau. Anogwyd yr Aelodau i gysylltu â hi gydag unrhyw gwestiwn manwl neu i ofyn am ragor o wybodaeth.

 

Diolchodd y Cyng. Win Mullen-James, fel Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio, i’r swyddogion am y gwaith a’r ystyriaethau.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi Cynllun Datblygu Lleol 2006-2021: Adroddiad Monitro Blynyddol 2022

 

 

 

Diolchodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r holl swyddogion am eu gwaith caled wrth gynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio. Diolchodd hefyd i’r Aelodau am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

 

Ategodd y Cadeirydd y sylwadau hyn, ac ychwanegodd fod yr Aelodau yn cwestiynu ac yn herio’r swyddogion yn dda ac yn cydweithio’n dda â hwy. Dymunodd Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.23 a.m.

Dogfennau ychwanegol: