Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghr.
Alan James, Elfed Williams, Chris Evans a Peter Scott. |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
|
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd
2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022. Materion cywirdeb – Dim. Materion yn codi – Dywedodd y Cyng. Merfyn Parry fod
nifer o negeseuon personol am gynghorwyr wedi’u gwneud ar y cyfryngau
cymdeithasol. Awgrymodd y dylai’r awdurdod fod yn wyliadwrus o sylwadau o’r
fath, gan eu bod yn ei farn ef yn fygythiol ac yn achosion o fwlio. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol fod gan lwyfannau
cymdeithasol weithdrefnau cwyno y gellir eu dilyn os ystyrir bod sylwadau’n
amhriodol. Anogodd yr Aelodau i ddilyn y gweithdrefnau hynny. Awgrymodd y Cyng. Merfyn Parry y dylai Cyngor Sir
Ddinbych gyhoeddi datganiad gyda chanllawiau i Aelodau ar sut i ddelio gyda
bwlio ar y cyfryngau cymdeithasol. Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y
byddai’n rhannu pryderon yr Aelodau gyda Liz Grieve ac yn edrych ar gyhoeddi
datganiad posibl ar y Cod Ymddygiad mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr
uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd
2022 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 7) - Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am
benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at
y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers
cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud
â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i
gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 21/2021/1049/ PF- HEATHER BANK, LLANFERRES PDF 79 KB Ystyried cais i
godi annedd newydd yn lle’r un presennol a gwaith cysylltiedig yn Heather Bank,
Llanferres (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi annedd newydd yn lle’r un
presennol a gwaith cysylltiedig yn Heather Bank, Llanferres. Siaradwr Cyhoeddus – Mr Joe Salt (asiant) (O BLAID) – eglurodd ei fod yn
bresennol ar ran ei gleientiaid Mr a Mrs Dermody. Rhoddodd adroddiad y swyddog
adroddiad manwl i'r aelodau ar y gwaith oedd wedi ei gynnal rhwng yr ymgeisydd
a'r swyddogion cynllunio. Gwerthfawrogwyd pryderon y trigolion lleol yn ystod y
broses ymgeisio. Nid yw’r ymgeisydd yn credu bod y cais yn gorddatblygu’r
safle, ni fyddai unrhyw broblem o ran edrych drosodd a byddai’r cynnig hefyd yn
gwella’r eiddo presennol. Byddai’r cais yn gwella mynediad i’r safle ac yn
darparu llwybr mwy diogel i’r eiddo. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y perchnogion
yn bwriadu byw yn yr ardal am sawl blwyddyn. Gwerthfawrogwyd y gwaith sylweddol
sydd wedi’i wneud gan y Swyddogion Cynllunio. Trafodaeth gyffredinol – Roedd y Cynghorydd
Merfyn Parry wedi cael cais gan y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) i
gynnig ei gefnogaeth i'r cais.Yn ôl y Cyng. Williams mae’r cynnig yn darparu
eiddo modern sy’n rhad-ar-ynni. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i heiliwyd gan
y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion
y swyddog yn yr adroddiad. PLEIDLAIS: O BLAID – (7 pleidlais yn y Siambr a 8 pleidlais
dros Zoom) – 15 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodir yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 02/2022/0736/ PF - TIR YN (RHAN O ARDD) 149 STRYD MWROG, RHUTHUN LL15 1LE PDF 79 KB Ystyried cais i
godi 1 annedd ar wahân, darparu lle parcio ar gyfer rhif 149 a gwaith cysylltiedig
yn (rhan o ardd) 149 Stryd Mwrog, Rhuthun,
LL15 1LE (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 1 annedd ar wahân, darparu lle parcio ar gyfer
rhif 149 a gwaith cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn 149 Stryd Mwrog,
Rhuthun. Trafodaeth
gyffredinol – Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Lleol) ei
bod o blaid argymhelliad y swyddogion cynllunio i ganiatáu'r cais. Dywedodd
wrth yr aelodau ei bod wedi mynychu'r safle, a'i bod yn fodlon y byddai'r
cynnig yn safle addas i annedd gyda'r amodau arfaethedig. Dywedodd y Cynghorydd
Emrys Wynne (Aelod Lleol) ei fod hefyd yn cefnogi'r cais. Gofynnodd am sicrwydd
y byddai'r amodau'n cael eu cadw at a'u monitro. Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd - Rheoli Datblygu Priffyrdd bod adolygiad
manwl o'r safle wedi digwydd. Yn hanesyddol roedd y safle wedi lletya garej
gerbydol. Nododd Nodyn Cyngor Technegol Dogfennau Llywodraeth Cymru 18, pan
ddaw ceisiadau cynllunio i law ar safleoedd datblygu presennol, y dylid cael eu
gwasanaethu gan fynediad is-safonol presennol y dylai fod lle i ailddatblygu
cyfyngedig a oedd yn ymgorffori gwelliant sylweddol o ran mynediad. Hyd yn oed
os yw’r mynediad gwell yn dal yn is na’r safon. Cadarnhaodd, gyda’r amodau
ychwanegol, ei fod yn teimlo nad oes unrhyw reswm i wrthwynebu’r cais. Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio bod swyddogion wedi nodi ymateb y
Gwasanaeth Tân ac wedi rhoi gwybod i'r aelodau mai nodyn cynghori oedd yr
ymateb. Teimlai swyddogion y gallai'r datblygiad gydymffurfio â gofynion
cyffredinol y Gwasanaeth Tân. Cadarnhaodd y Cyng. Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) ei fod wedi ymweld
â’r safle. Nododd waith sydd wedi’i wneud rhwng yr ymgeisydd a’r swyddogion.
Darparodd wybodaeth gefndir i’r Aelodau ar yr adeilad rhestredig ar y safle. Gofynnodd yr Aelodau a oes modd rhannu lluniau yn y Siambr. Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at bryderon yr Aelodau a chadarnhaodd y
gallai’r archeolegydd stopio’r gwaith dros dro os oes angen, hyd nes bod y
gwaith o gofnodi’r arteffactau wedi’i gwblhau. Cynnig – Cynigodd y
Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, y dylid
cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog yn yr adroddiad. PLEIDLAIS: O BLAID – (7
pleidlais yn y Siambr a 8 pleidlais dros Zoom) – 15 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodir yn yr adroddiad. |
|
GORCHYMYN DIOGELU COED RHIF 02/2022 - TIR YN 46 BRO DEG, RHUTHUN PDF 191 KB Ystyried
Gorchymyn Diogelu Coed rhif 02/2022 ar Dir yn 46 Bro Deg, Rhuthun (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad i gadarnhau cais am Orchymyn Diogelu Coed Rhif 2 (2022) gan Gyngor Sir Ddinbych ar dir yn 46 Bro Deg, Rhuthun. Rhoddodd y Swyddog Cynllunio
ychydig o wybodaeth gefndirol i'r aelodau am yr adroddiad. Yn yr haf roedd cais
wedi ei wneud gan berchennog y tir am roi amddiffyniad i goeden ar ei safle. Fe
wnaeth swyddogion ac arolygwyr coed ymweld â'r safle a chynnal asesiad i
benderfynu a ddylid gwarchod y goeden. Roedd ymgynghoriad gyda'r trigolion
cyfagos wedi digwydd. Gan fod gwrthwynebiad i'r gorchymyn arfaethedig i
ddiogelu coed wedi ei dderbyn, fe'i dygwyd i'r pwyllgor i'w ddatrys. Os oedd
aelodau â'u bryd ar amddiffyn y goeden, ni wnaeth atal gwaith rhesymol rhag
cael ei wneud i'r goeden. Byddai'n rhaid i'r perchennog wneud cais am unrhyw
waith arfaethedig i'r goeden. Trafodaeth gyffredinol – Mynegodd y Cyng. Terry Mendies bryder ynghylch y ffens
derfyn a phwy sy’n gyfrifol am unrhyw ddifrod wedi’i achosi gan y goeden.
Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio bod y ffens yn rhan o wrthwynebiad yr eiddo
drws nesaf. Mae’r cymydog yn credu bod y goeden yn atal gwneud gwaith ar y
ffens derfyn. Amlygwyd pe bai'r goeden yn
deilwng o gael ei gwarchod yna gellid gosod y gorchymyn ar y goeden. Yna
byddai'n rhaid i unrhyw waith angenrheidiol i ffens ffin roi sylw i effeithiau
posib ar y goeden warchodedig pe bai'r gorchymyn diogelu yn cael ei gadarnhau
byddai angen caniatâd unrhyw waith ar y goeden cyn i'r gwaith ddigwydd. Mae
cais am waith gorchymyn cadw coed yn rhad ac am ddim. Roedd yr atebolrwydd ar
yr Awdurdod yn ddim. Mae’r delweddau yn y papurau wedi’u darparu gan y
gwrthwynebydd. Darparwyd rhagor o arweiniad
ar asesiadau TEMPO, a chlywodd yr Aelodau bod dau arolygydd coed wedi asesu’r
goeden a’r ddau wedi dod i’r casgliad bod y goeden yn sgorio digon o bwyntiau
(mwy na 12) i fod yn deilwng o orchymyn diogelu coed. Mae’r gwrthwynebwyr wedi
gweld yr asesiadau TEMPO. Darparwyd eglurhad ynghylch y byddai’r gorchymyn yn
diogelu’r goeden gyfan, yn cynnwys y gwreiddiau. Cynnig – Cynigodd y
Cyng. Merfyn Parry y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog,
ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. James Elson. PLEIDLAIS: O BLAID – (7
pleidlais yn y Siambr a 8 pleidlais dros Zoom) – 15 YN ERBYN – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO Gorchymyn Cadw Coed
02/2022 heb addasiad, yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodir yn yr
adroddiad. |
|
Cynhaliodd y Cadeirydd, yr Aelodau a’r Swyddogion funud o
dawelwch er cof am y Cyng. Brian Blakeley, aelod gwerthfawr o’r Pwyllgor
Cynllunio, a fu farw’n ddiweddar. |
|
EITEM YCHWANEGOL Dogfennau ychwanegol: |
|
Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL 2006 I 2021: ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2022 PDF 224 KB Derbyn adroddiad
gyda’r teitl Y Cynllun Datblygu Lleol 2006 i 2021: Adroddiad Monitro Blynyddol
2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad er gwybodaeth
(dosbarthwyd ymlaen llaw) gan gadarnhau y dylai’r Aelodau nodi’r adroddiad. Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod manylion
cyswllt y Swyddog Arweiniol, Angela Loftus, wedi’u cynnwys yn y papurau.
Anogwyd yr Aelodau i gysylltu â hi gydag unrhyw gwestiwn manwl neu i ofyn am
ragor o wybodaeth. Diolchodd y Cyng. Win Mullen-James, fel Aelod Arweiniol
Datblygu Lleol a Chynllunio, i’r swyddogion am y gwaith a’r ystyriaethau. PENDERFYNWYD
bod yr Aelodau yn nodi Cynllun Datblygu Lleol
2006-2021: Adroddiad Monitro Blynyddol 2022 |
|
Diolchodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r holl swyddogion
am eu gwaith caled wrth gynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio. Diolchodd
hefyd i’r Aelodau am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus a dymunodd Nadolig
Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Ategodd y Cadeirydd y sylwadau hyn, ac ychwanegodd fod yr
Aelodau yn cwestiynu ac yn herio’r swyddogion yn dda ac yn cydweithio’n dda â
hwy. Dymunodd Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10.23 a.m. Dogfennau ychwanegol: |