Agenda and draft minutes
Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Peter Scott gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD PDF 139 KB Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fferm Ynni Solar Elwy - Datblygiad o Arwyddocâd
Cenedlaethol Cymeradwyaeth i gyflwyno. Gofynnwyd i’r Cyngor gyflwyno Adroddiad o’r
Effaith yn Lleol i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Rhaid cyflwyno’r Adroddiad o’r Effaith yn Lleol ac unrhyw gynrychiolaeth
i'r Arolygiaeth Gynllunio erbyn 27 Gorffennaf 2021. CYNIGWYD gan y Cynghorydd Mark Young a’i HEILIWYD
gan y Cynghorydd Peter Scott i gytuno i gyflwyno Adroddiad o’r Effaith yn Lleol
a Chynrychiolaethau Ffurfiol i’r Arolygiaeth Gynllunio. Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol gan yr
holl aelodau’n bresennol. PENDERFYNWYD: ·
Gofyn am gymeradwyaeth i'r Adroddiad ar
Effaith yn Lleol gan Swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Cynghorwyr sydd â
wardiau wedi'u heffeithio ·
Cyflwyno cynrychiolaethau i’r Arolygiaeth
Gynllunio i godi dim gwrthwynebiad i Fferm Solar Elwy, yn ddarostyngedig i
orfodi amodau wedi’u nodi yn yr Adroddiad ar Effaith yn Lleol. |
|
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 (copi i ddilyn) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 eu cyflwyno. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 fel cofnod cywir. |
|
CAIS RHIF 02/2021/0179/PF - THE NOOK, BRYN GOODMAN, RHUTHUN PDF 79 KB Ystyried cais i godi dymchwel yr annedd bresennol a chodi bloc o fflatiau preswyl 4 uned gyda mannau parcio cysylltiedig a mynedfa yn y cefn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel yr annedd bresennol a chodi bloc o fflatiau preswyl 4 uned gyda
mannau parcio cysylltiedig, a mynedfa yn y cefn - Nook, Bryn Goodman, Rhuthun. Ar y pwynt yma fe
eglurodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch bod y siaradwr cyhoeddus wedi
darparu datganiad ysgrifenedig yn erbyn y cais.
Cafodd y datganiad ysgrifenedig ei ddarllen allan gan Aelod y Ward, y
Cynghorydd Bobby Feeley. Darparwyd y
datganiad ysgrifenedig gan Jo Powell (yn
erbyn) - Dwi’n byw yn y
byngalo sydd reit drws nesaf ac i lawr o’r Nook ar allt Bryn Goodman. Dwi fel
nifer o breswylwyr ar y ffordd wedi gwrthwynebu’r datblygiad hwn am sawl
rheswm. I ni ym Mryn Eryl,
oherwydd y gwahaniaeth mewn uchder ar gyfer y ddau safle, mae'r byngalo
presennol yn cyfateb i uchder tŷ dau lawr wrth edrych arno o gefn ein
heiddo. Byddai talcen bloc o fflatiau
deulawr felly yn cyfateb i adeilad tri llawr i ni. Hefyd byddai'n taflu cysgod arnom fwyfwy gan
ei fod yn nes atom. Byddem hefyd yn
cael ein heffeithio gan y sŵn a’r llygredd a achosir gan hyd at un ar ddeg
o geir yn cael mynediad i’r pedwar lle parcio o flaen y fflatiau, pedwar i'r
cefn a thri wedi'u dyrannu i'r tŷ pedair llofft yng nghefn y plot, heb sôn
amdanyn nhw i gyd yn ceisio symud yn ôl
a mlaen mewn gofod cyfyng. Byddai
mynediad i’r holl lefydd yn y cefn ar hyd y ffin sy’n cael ei rannu, ac ar
uchder pen i ni a fyddai’n niwsans pellach. Mae'r ffordd y
mae’r cais yn ail-leoli pedwar o'r llefydd parcio ar gyfer y fflatiau, sef o
flaen yr adeilad i gefn yr adeilad yn golygu y byddan nhw’n agos iawn i’r
tŷ yng nghefn y plot. Yn wir, mae’r
ddau gais yn ymddangos i fod yn croesi eu gilydd a’r llefydd parcio arfaethedig
i’r cefn ar gyfer y fflatiau yn y cais presennol yn ymddangos i fod yn yr un
lleoliad â’r tri lle parcio ar gyfer y tŷ. Rhan o
wrthwynebiad y Cyngor Tref i’r cais hwn yw byddai'r datblygiad yn achosi
cynnydd mewn traffig ar y ffordd, sef ffordd sydd ddim yn cael ei chynnal ac
sy’n cael ei defnyddio gan lawer o gerddwyr, yn cynnwys plant ysgol o
Frynhyfryd a Ruthin School. Pryder arall a
godwyd gan breswylwyr oedd y ffaith ei fod yn anghydnaws a gweddill yr eiddo ar
y ffordd. Yn wir cafodd y gwrthwynebiad
yma ei godi gan Gyngor Tref Rhuthun a hefyd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn eu
datganiad i’r Apêl ar gyfer y cais blaenorol (02/2020/0282) sydd yn gofyn i’r
llefydd parcio gael eu hail-leoli, yn union fel yr un presennol. Yn wir, os ydi amser y cais blaenorol wedi
mynd heibio byddai ACLl Sir Ddinbych wedi argymell gwrthod y cais, ac un o’r
rhesymau dros hynny fyddai gor-ddatblygiad. O ganlyniad, bydd
datblygwr yn naturiol yn ceisio gwasgu cymaint o anheddau ag sy'n bosib ar
blot, ond dwi'n meddwl bod y cyhoedd mewn sefyllfaoedd o'r fath eisiau gweld y
broses gynllunio yn gyffredinol i gymedroli datblygwyr rhag datblygu yn
ormodol. Felly byddwn yn annog y
Pwyllgor i gefnogi’r gwrthwynebiadau gan y Cyngor Tref, ACLl a’r nifer o
breswylwyr lleol a gwrthod caniatâd. Siaradwr Cyhoeddus – Robert Jones (o blaid) – Asiant ar gyfer yr ymgeisydd ac yn lleol i’r ardal yn gweithredu ar ran Roberts Homes Ltd. Mae Mr Jones yn Bensaer cymwys gyda dros 15 mlynedd o brofiad. Yn Chwefror 2021, cafodd cais ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi 4 o ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 44/2021/0163/PO - TIR (SY'N RHAN O'R ARDD) YN THE RISE, FFORDD Y RHYL, RHUDDLAN PDF 169 KB Ystyried cais i godi datblygu 0.21 hectar o dir drwy godi pedair annedd ac adeiladu ffordd fynediad (cais amlinellol yn cynnwys mynediad, golwg, gosodiad a graddfa) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer datblygu 0.21 hectar o dir drwy godi pedair annedd ac adeiladu ffordd
fynediad (cais amlinellol yn cynnwys mynediad, golwg, gosodiad a graddfa) ar
dir yn (rhan o ardd) The Rise, Ffordd y Rhyl, Rhuddlan. Siaradwr Cyhoeddus – Robert Jones (o
blaid) – Asiant i Mr C Roberts a Mrs J Goodrick. Yn 2021 cyflwynwyd cais amlinellol i’r ACLl i
ddatblygu 0.21 hectar o dir drwy godi pedair annedd o ddull dormer ynghyd ag
adeiladu mynediad. Mae’r cais yn cael ei gyflwyno ar ôl i’r apêl gael ei wrthod
ym mis Tachwedd 2020. Manylwyd safbwyntiau'r Arolygiaeth yn adroddiad y Swyddogion
Cynllunio. Yn gryno, mynegwyd bod y
dyluniad blaenorol o natur 2 lawr yn cael ei ystyried yn annodweddiadol o'r
ardal o ran maint a graddfa. Rhwng
penderfyniad y proses Apelio a’r cais sy'n cael ei ail-gyflwyno a'i ystyried
heddiw rydym wedi gweithio'n galed i baratoi cynnig sydd yn mynd i'r afael â'r
pryderon hyn ac sydd wedi cael eu hadlewyrchu yn argymhellion y swyddogion er
mwyn cael cymeradwyaeth. Yn ogystal â'r diwygiadau a wnaed cyn
cyflwyno, mae meysydd eraill o ail-ddylunio a amlygwyd yn yr ymgynghoriad wedi
eu hymgorffori yn ystod y broses gwneud cais.
Mae ystyriaeth ofalus wedi’i roi i ddyluniad yr anheddau o ran y
lleoliad, gosodiad, graddfa a gwedd.
Mewn egwyddor mae maint yr anheddau wedi cael eu newid o anheddau 2 lawr
gyda 3 a 4 llofft i anheddau dull dormer 3 llofft. O ganlyniad mae ôl troed yr anheddau wedi’u
lleihau’n sylweddol a rŵan fymryn yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer yr
anheddau cyfagos sy’n ardal gyffiniol y safle.
Hefyd, mae graddfa'r anheddau arfaethedig yn dod o dan linellau crib yr
anheddau cyfagos i’r dde o’r safle ac yn eistedd yn gyfforddus o fewn
teipograffeg leol a chyd-destun cyfagos.
Mae pellteroedd rhyngwyneb wedi cael eu parchu ar gyfer yr holl anheddau
cyfagos er mwyn sicrhau fod y cynnig ddim yn effeithio amwynder y preswylwyr
lleol. Rydym yn hyderus fod arsylwadau’r Arolygiaeth wedi cael eu hystyried yn
ofalus ac mae'r dyluniad diwygiedig wedi’i gyflwyno o’ch blaenau heddiw gyda
chefnogaeth y Swyddog Cynllunio yn cadw at gymeriad yr ardal gyfagos. Gobeithio y gallwch gefnogi’r cais hwn. Dadl gyffredinol - Cododd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Ann Davies bryderon ynglŷn â'r effaith ar eiddo
cyfagos gan fyddai'r anheddau hyn yn colli golau a phreifatrwydd. Pryder mai
ychydig iawn o le sydd ar y safle i gerbydau i droi rownd a chael mynediad o’r
ffordd sy’n gwasanaethu’r safle. Hefyd
er mwyn i’r datblygiad barhau ar y safle byddai’n rhaid torri nifer o goed
aeddfed. Mae sawl aelod
sydd wedi mynychu’r ymweliad safle ar 9 Gorffennaf 2021 wedi mynegi pryderon
tebyg i’r aelod lleol. Cafodd ei
ail-adrodd gan Swyddogion fod cais blaenorol wedi cael ei wrthod ac wedi’i
apelio a bod penderfyniad wedi’i wneud ar fynediad yr oedd yr Arolygiaeth yn
fodlon oedd yn addas ar gyfer y datblygiad. Cadarnhawyd
gan y Swyddog Cyfreithiol y byddai risg o gostau gan fod penderfyniad wedi’i
wneud ynglŷn â’r broblem gyda mynediad ar y cais blaenorol yn ystod yr
apêl. Hefyd ar y cais
blaenorol, un o’r rhesymau dros wrthod oedd uchder yr eiddo a oedd yn 7.5 metr
ac ar gyfer y cais blaenorol roedd wedi’i leihau ond roedd nifer o aelodau ddim
yn cytuno â’r uchder diwygiedig ar gyfer yr adeiladau arfaethedig. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ann Davies fod y cais yn cael ei wrthod er gwaethaf argymhelliad y swyddog oherwydd cyfanswm yr anheddau ar y safle oedd yn annodweddiadol ar gyfer yr ardal a phryder ynglŷn â diogelwch gyda’r briffordd a'r mynediad, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (10.55 am) cafwyd egwyl o 5 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.00 a.m. |
|
CAIS RHIF 45/2018/1215/PF - TIR YN NE-DDWYRAIN Y RHYL RHWNG BRO DEG A FFORDD DYSERTH PDF 79 KB Ystyried cais i godi codi 109 o anheddau a gwaith cysylltiedig (Cam 5) (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 109 anheddau a gwaith cysylltiol (Cam 5) ar dir yn Ne Ddwyrain y Rhyl
rhwng Bro Deg a Ffordd Dyserth, y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus – Hayley Knight (Asiant) (o blaid) – Mae’r cynllun o’ch blaenau yn gofyn am ganiatâd i godi
109 o gartrefi newydd ar gyfer cam olaf Parc Aberkinsey i dde ddwyrain y
Rhyl. Mae’r safle wedi’i ddynodi ar
gyfer defnydd preswyl yn y dyfodol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol a
fabwysiadwyd gan y Cyngor, ac felly, wedi'i gynnwys yn eich adroddiad cynigion
bod yr egwyddor o ddatblygu'r safle yn cael ei sefydlu ac mai’r brif broblem
cynllunio yw dyluniad y cynllun. Mae’r
tîm gwneud cais wedi gweithio’n galed gyda’ch swyddogion cynllunio a thechnegol
i sicrhau fod y cynigion yn briodol ar gyfer y safle hwn. O ganlyniad, mae’r cynllun
yn cynnwys cymysgedd o gartrefi 1, 2, 3 a 4 llofft wedi’u dylunio i gwrdd â'r
angen o ran tai yn lleol a hynny ar y farchnad agored ac fel deiliadaethau
fforddiadwy. Bydd 11 o’r cartrefi
arfaethedig ar gael ar ddeiliadaethau fforddiadwy ac mae’r rhain yn cynnwys
cartrefi 1, 2 a 3 llofft. 3600 metr o fan
agored yn cael ei gynnwys gydag ardal hamdden i blant ac yn gyffredinol mae ein dull o dirlunio'r
safle wedi cael ei gefnogi gan Gyd-Bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol. Er mwyn
cynefino’r datblygiad rhaid gwyro hawliau tramwy’r cyhoedd. Rydym wedi gweithio gyda’ch swyddogion a
Chymdeithas y Cerddwyr i sicrhau fod y gwyriad ar gyfer llwybrau wedi’u dynodi
er mwyn lleihau aflonyddwch a bod y llwybrau hefyd wedi’u hamgylchynu gan
dirwedd feddal pan yn bosib. Mae’r dull
hwn yn cael ei ystyried yn dderbyniol gan y ddau barti a bydd y gorchymyn
gwyriad yn cael ei wneud yn fuan. Mae’r cynllun yn
cael ei gefnogi gan gyfres o adroddiadau technegol sydd wedi mynd i’r afael â
holl ymholiadau a phryderon gan eich ymgyngoreion. Mae’n cynnwys adroddiadau priffyrdd ac ecoleg
a hoffem ailadrodd nad oes gan swyddogion y Cyngor unrhyw bryderon yn ymwneud â
phriffyrdd. Gan fod ardal
drosglwyddadwy o gynlluniau yn parhau i fod yr un fath trwy’r cynllun a gyflwynwyd
mae’r arolygon ac adroddiadau ecoleg yn gwbl berthnasol i’r cynllun o'ch
blaenau. Ar ben hynny mae gan y safle drwydded madfall ddŵr gribog ar hyn
o bryd sydd hefyd yn berthnasol i’r Datblygiad Parc Aberkinsey ehangach. Wrth ystyried hyn i gyd gyda’r mesurau gwella
bioamrywiaeth a gynigwyd sydd yn cynnwys blychau ystlumod ac adar, ffiniau sy’n
gyfeillgar i famaliaid a phlannu planhigion brodorol, mae’r cynllun yn cael ei
ystyried i fod yn addas o ran effeithiau ecolegol. I gloi bydd y cynllun felly yn gwireddu'r gwaith o
gwblhau dyraniad y cyngor yn ne ddwyrain y Rhyl yn unol â’r CDLl a fabwysiadwyd
er mwyn sicrhau fod twf yn y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn y
Fwrdeistref ac yn darparu cartrefi sydd mawr eu hangen i bobl leol. Os fyddwch o blaid cymeradwyo’r cynllun
heddiw bydd yr ymgeisydd hefyd yn mynd i gytundeb cyfreithiol gyda'r Cyngor i
ddarparu 10% o dai fforddiadwy, £465,000 tuag at lefydd ysgol newydd a dros
£36,000 ar gyfer gwella mannau agored oddi ar y safle. O ystyried fod y cynllun yn cydymffurfio â’r
Polisi, ac yn darparu nifer o fuddion i’r gymuned leol, gofynnaf yn barchus i
chi ei gymeradwyo heddiw. Dadl Gyffredinol – Tynnodd yr Aelod Lleol, Y Cynghorydd Brian Jones sylw at broblem gyda mynediad i mewn ac allan o'r safle i gael ei leoli ar y ffordd sy'n adnabyddus fel Troadau Dyserth sy'n ffordd hynod o beryglus. Mynegwyd pryderon hefyd am Droadau ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS RHIF 45/2020/0844/PF - SANDY LODGE, 83 FFORDD DYSERTH, Y RHYL PDF 249 KB Ystyried cais
i newid ac addasu cartref nyrsio presennol i gynnwys estyniad gyda dwy
ystafell wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau
set o risiau wedi’u hamgáu fydd yn allanfeydd tân,
a chanopi mynediad (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
addasu ac ymaddasu Cartref Nyrsio presennol i gynnwys estyniad i ddwy ystafell
wely ychwanegol ar y llawr cyntaf, dau set o risgiau wedi’u hamgáu fydd yn
allanfeydd tân, a chanopi mynediad yn Sandy Lodge, 83 Ffordd Dyserth, Y Rhyl. Cynigodd y Cynghorydd
Brian Jones y cais i gael ei ohirio nes bod ymweliad safle wedi’i gynnal i
eiddo’r preswylydd lleol a gysylltodd â’r Cynghorydd Jones yn ei hysbysu nad
oedd yn ymwybodol o’r gwaith oedd yn cael ei wneud yn Sandy Lodge. Cadarnhaodd y swyddogion fod hysbysiad wedi’i
anfon allan i’r preswylydd dan sylw.
Gofynnodd y Cynghorydd Jones am ymweliad safle i eiddo’r preswylydd a'r
eiddo cymdogol i weld effaith y gwaith addasu yn Sandy Lodge. Hysbysodd y
Swyddog Cyfreithiol yr aelodau pe bai’r cais yn cael ei ohirio am y pedwerydd
gwaith byddai her o bosib ar gyfer methu penderfynu ar y costau ynghlwm â
hynny. Pleidlais - Gohirio - 12 Ymatal - 0 Yn erbyn – 6 PENDERFYNWYD bod y cais i addasu ac ymaddasu Cartref Nyrsio presennol yn Sandy Lodge,
Y Rhyl yn cael ei ohirio tan gyfarfod yn y dyfodol am y rhesymau a nodwyd uchod
gan y Cynghorydd Brian Jones. |
|
CAIS RHIF 47/2021/0257/PF - 2 BRYN IBOD, WAEN, LLANELWY PDF 5 KB Ystyried cais i godi estyniad deulawr yn y cefn gydag estyniad unllawr cyfag os (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniad dau lawr yng nghefn yr eiddo gyda estyniad un llawr drws nesaf
iddo yn 2 Bryn Ibod, Waen, Llanelwy. Siaradwr Cyhoeddus – Paul Pattison (o
blaid) – Rydym yn deulu o bedwar sy’n tyfu ac wedi cael babi yn
ddiweddar. Rydym eisiau gofod ychwanegol
yn ein tŷ sydd yn dŷ pâr 3 llofft gymharol fychan gyda llofftydd
bach. Hoffem wneud y brif ystafell wely yn ddigon mawr i gael lle i gwpwrdd
dillad, i ddod â'r gegin allan fymryn gyda drysau patio allan i'r ardd ac
ystafell chwarae fychan i'r plant. Y rheswm mae’r
cais wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yw oherwydd gwrthwynebiadau gan
gymydog. Mae dau ymweliad safle wedi bod
gydag un gan swyddogion cynllunio a’r llall gyda swyddogion cynllunio ac
aelodau’r Pwyllgor. Codwyd un pwynt
ynglŷn â gor-ddatblygu’r safle a nodwyd
gan Swyddog Cynllunio bod y datblygiad yn gorchuddio 25% o’r tir felly
ddim yn gor-ddatblygu. Mynegwyd y
broblem ynglŷn â’r system draenio.
Mae system draenio gyhoeddus ar gyfer pedwar tŷ sydd yn rhedeg i
danc septig ond ni fyddai ein gwaith arfaethedig yn agos i hynny nac yn ei
effeithio. Bydd draen preifat ein
hunain yn cael ei adeiladu ond mae hynny ar wahân i’r broses gynllunio. Bydd yr estyniad
dau lawr yng nghanol yr eiddo a'r tir ac felly mor bell i ffwrdd ag sy'n bosib
o'r cymdogion. Bydd yn cael ei adeiladu
gydag ystyriaeth i'n cymdogion fel nad yw'n fwrn arnyn nhw. Ni fydd y
ffenestri i fyny’r grisiau yn edrych drosodd fwy nag y maen nhw rŵan. Cynigodd y Cynghorydd Christine Marston, ac fe’i heiliwyd
gan y Cynghorydd Peter Scott, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion
y swyddog. Pleidlais - O blaid – 18 Ymatal - 0 Yn erbyn – 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.55am |