Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol yn Eitem 5 (Osgoi a Lleihau Plastigau yng Nghyngor Sir Ddinbych) am ei bod yn Aelod o Fwrdd Hamdden Sir Ddinbych.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

Cwestiwn a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts ar ran grŵp Plaid:

 

“Pa newidiadau sy’n cael eu hystyried yn y gwasanaethau y mae CSDd yn eu cynnig ar hyn o bryd i ddinasyddion â nam ar eu golwg?”

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi derbyn ymateb gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, a dywedodd y bydd yn rhannu hwn â'r Aelodau er gwybodaeth.

 

 

Cwestiwn a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Glenn Swingler ar ran grŵp Plaid:

 

“Mae CSDd yn cefnogi llawer o ganolfannau sy'n rhoi cyfleoedd gwaith i bobl ag anawsterau dysgu.  Ar hyn o bryd maen nhw ar gau oherwydd Covid, fy nghwestiwn i ydi:

 

Pan fydd llacio’r cyfyngiadau’n caniatáu hynny, a fydd cyfleusterau sy’n darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ar gyfer pobl ag anableddau yn ailagor fel o'r blaen?”

 

Ymateb y Cynghorydd Bobby Feeley -

 

“Cynhaliwyd adolygiad o wasanaethau mewnol sy’n cynnig cyfleoedd gwaith yn 2019/20 ac roedd y camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith yn 2020 wrth i ni fynd i mewn i’r cyfnod clo cyntaf.  Er bod y gwasanaethau wedi bod ar gau, rydym wedi parhau i weithio tuag at gyflawni’r argymhellion yn yr adolygiad; yn ogystal, mae angen i ni ystyried Covid a’r gofyniad parhaus i sicrhau y darperir unrhyw wasanaethau’n ddiogel yn y dyfodol.   Mae’n annhebygol felly y bydd y gwasanaethau yn union fel yr oeddent o'r blaen, fodd bynnag rydym yn ymrwymedig o hyd i gyflawni'r argymhellion yn yr adolygiad a sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaethau hyn yn cael mynediad at gefnogaeth o’r safonau uchaf yn y dyfodol.  Byddwn yn ymgynghori  â’r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u teuluoedd ynghylch unrhyw newidiadau angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir diwallu deilliannau cytunedig yr unigolion hyn hyd o leiaf yr un safonau ag o’r blaen. 

 

O ran gwasanaethau dydd ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu sydd wedi’u contractio allan, mae Co-options wedi aros ar agor ond dim ond ar gyfer nifer cyfyngedig o unigolion. Caiff presenoldeb ei benderfynu ar sail achos wrth achos yn amodol ar asesiadau risg ac ati, ac ar hyn o bryd dim ond unigolion yr aseswyd bod presenoldeb yn hanfodol ar gyfer eu lles meddyliol sy'n mynychu. Mae’r sefyllfa yr un fath ar gyfer Prifysgol Glyndŵr. Pan fydd llacio’r cyfyngiadau’n caniatáu hynny, mae’n debyg y bydd y ddwy ganolfan yn dechrau gweithredu fwy neu lai fel yr oeddent cyn y Nadolig a’r cyfnod clo diweddaraf. Mae niferoedd wedi'u lleihau i gydymffurfio ag asesiadau risg ac oherwydd y newidiadau a wnaed yn y gwahanol sefydliadau i gydymffurfio â'r canllawiau Covid ac i sicrhau bod digon o le i gadw pellter cymdeithasol ac ati.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glenn Swingler gwestiwn atodol -

 

“O’r rhai sydd ar gau ar hyn o bryd, pe bai’r cyfnod clo yn darfod, ydi’r cyfleusterau hyn yn barod i agor ar unwaith?”

 

Ateb y Cynghorydd Bobby Feeley -

 

“Mae  rhai yn barod, gyda gobaith bydd popeth mewn trefn ac yn barod.  Gallaf anfon rhestr atoch gyda rhagor o wybodaeth.”

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 496 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 26 Ionawr 2021 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021.

 

Materion yn Codi – Eitem 3, Materion Brys:  Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott am ddiweddariad ar lifogydd.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, y cafwyd cyfathrebiad yn ddiweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd mis Chwefror 2020 ac y bydd y wybodaeth ar gael o fewn y pythefnos nesaf.   Mae CNC wedi gwneud gwaith interim yn Rhuthun lle gorlifodd yr afon ac maent wedi cadarnhau y bydd gwaith trwsio parhaol wedi'i wneud erbyn yr Hydref. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Economi a’r Parth Cyhoeddus, Graham Boase,  bod CNC yn gweithio mewn partneriaeth â CSDd a bod aelodau a phreswylwyr lleol yn cael diweddariadau cyson.

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Cheryl Williams ac EILIWYD gan y Cynghorydd Alan James y dylid derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021.

 

Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn y cofnodion fel cofnodion cywir.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 26 Ionawr 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

5.

OSGOI DEFNYDDIO A LLEIHAU LEFELAU PLASTIG YNG NGHYNGOR SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i’r Cyngor wasgaru’r Grŵp Tasg a Gorffen ac argymell ffordd ymlaen er mwyn lleihau faint o blastig mae'n ei ddefnyddio.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Arwel Roberts adroddiad Osgoi a Lleihau Plastigau yng Nghyngor Sir Ddinbych (a gylchredwyd ymlaen llaw). 

 

Ar 22 Rhagfyr 2020 cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a chyflwynwyd argymhellion ynghylch sut y gallai’r Cyngor leihau’r defnydd o blastigau. 

 

Cyflwynodd y Grŵp Tasg a Gorffen, dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Emrys Wynne, gynllun gweithredu i leihau’r defnydd o blastigau.

 

Ddiwedd Ionawr 2020, cymeradwyodd y Cyngor Llawn yr argymhellion a gynhwyswyd yng nghynllun gweithredu cychwynnol y Grŵp Tasg a Gorffen i leihau’r defnydd o blastigau mewn swyddfeydd dinesig (Cam 1). Cytunodd y Cyngor Llawn hefyd i gais y Grŵp i barhau ei waith am 12 mis arall er mwyn dyfeisio dulliau o leihau’r defnydd o blastigau mewn dau faes penodol – sef arlwyo ysgolion a chaffael (Cam 2). Ychydig wythnosau wedi i’r penderfyniad uchod gael ei wneud, trawodd pandemig COVID-19, a chyflwynwyd cyfnod clo ar draws y wlad. 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r argymhellion a gynigiwyd yn dilyn cyfarfod diweddar o’r Grŵp Tasg a Gorffen ar y Defnydd o Blastigau, lle roedd y grŵp yn cydnabod llwyddiannau Cam 1 o ran lleihau’r defnydd o blastigau mewn swyddfeydd dinesig ac yn ystyried ffordd ymlaen o ran y gwaith y gofynnwyd iddo’i gyflawni, ond methwyd â symud ymlaen at Gam 2 (Arlwyo Ysgolion a Chaffael) oherwydd y pandemig.

 

Diolchodd yr aelodau i’r Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Heidi Barton-Price, am ei gwaith gyda’r Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts yr adroddiad, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Emrys Wynne.

 

Cafwyd pleidlais a chytunodd mwyafrif i dderbyn yr adroddiad. Ymataliodd y Cynghorydd Ann Davies o'r bleidlais gan nad oedd hi'n bresennol ar gyfer yr holl drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen hyd yma ac yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Craffu Perfformiad:

(i)            o ystyried yr amgylchiadau presennol oherwydd pandemig byd-eang COVID-19, na ddylai Cam 2 gwaith y Grŵp fynd yn ei flaen, ac y dylid dirwyn y Grŵp Tasg a Gorffen i ben;

(ii)          bod cyfleoedd i leihau’r defnydd o blastigau yn nhrefniadau arlwyo a chaffael ysgolion, ynghyd ag unrhyw waith i’r dyfodol o ran osgoi a lleihau’r defnydd o blastigau yng Nghyngor Sir Ddinbych (yn cynnwys ei Fodelau Cyflwyno Amgen megis Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn cael eu cydlynu o dan y Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol arfaethedig;

(iii)         bod cais i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu benderfynu ar y fforwm mwyaf effeithiol ar gyfer monitro gweithredu a chyflawni lleihau'r defnydd o blastigau o fewn Cyngor Sir Ddinbych a Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ehangach y Cyngor.

 

6.

STRATEGAETH NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL CYNGOR SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i fabwysiadu Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych 2021/22 - 2029/30.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones,  adroddiad ar Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych (2021 - 2029) (wedi'i ddosbarthu eisoes).

 

Datganodd y Cyngor Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol ar 9 Gorffennaf 2019 a oedd yn nodi cyfres o gamau gweithredu ar gyfer CSDd yn cynnwys y nod i'r Cyngor fod yn garbon sero net erbyn 2030 fan bellaf, er mwyn gwella bioamrywiaeth Sir Ddinbych a llunio cynllun clir ar gyfer gwireddu hyn.

 

Bydd rhai o’r newidiadau a’r camau gweithredu a nodir yn y Strategaeth yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf, bydd eraill yn gofyn am gyllid refeniw a rhai y gellir eu darparu am ddim cost ychwanegol. Byddai llawer o’r newidiadau a’r camau gweithredu yn arbed arian i'r Cyngor yn yr hirdymor. I gyflawni’r strategaeth dros y 3 blynedd nesaf byddai’n costio oddeutu £9 miliwn o bunnoedd i ddarparu'r prosiectau sy'n angenrheidiol i gyflawni'r holl amcanion.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Tony Thomas, ddiweddariad i’r aelodau fel a ganlyn:

·         Mae plannu coed yn mynd yn ei flaen yn dda  Erbyn hyn mae swyddog coed llawn amser wedi’i benodi a dau swyddog arall wedi’u cyflogi am 12 mis.

·         Mae Swyddog Gweundiroedd hefyd wedi’i benodi sy’n cael ei noddi 50% gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

·         Mae clefyd coed ynn yn parhau i fod yn broblem

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd at darged Llywodraeth Cymru o Gymru ddi-garbon erbyn 2050 ac at gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar leihau carbon ac amsugno er mwyn capio’r tymheredd Cynhesu Byd-eang a chyfyngu ar effaith newid hinsawdd a bioamrywiaeth.  Mae’r Strategaeth yn cynrychioli cyfraniad y Cyngor at daclo'r argyfwng hinsawdd a natur a helpu Cymru i ddiwallu ei huchelgeisiau di-garbon a chyflawni ei dyletswyddau bioamrywiaeth.  Cafodd ei gynhyrchu mewn cydweithrediad ar draws y Cyngor a gydag aelodau’r cyhoedd ac mae’n rhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer 2030 ynghyd â map ffordd tuag at gyflawni hyn a gwireddu'r manteisio o ostyngiad mewn carbon, cynyddu amsugniad carbon a gwella rhywogaethau ynghyd â'r sgil-fanteision i'r economi, iechyd a lles.

 

Cynigiodd Brian Jones yr adroddiad ar Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol CSDd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Christine Marston.

 

Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

·         Bod y Cyngor yn cymeradwyo mabwysiadu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych (2021/22 - 2029/30).

·         Bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad A) fel rhan o’u hystyriaethau.

 

7.

TRETH Y CYNGOR 2021/22 A MATERION CYSYLLTIEDIG pdf eicon PDF 207 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) i bennu lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Adroddiad Treth y Cyngor 2021/22 a Materion Cysylltiol (a gylchredwyd ymlaen llaw) i osod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2021/2022.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at y canlynol yn benodol:

·         Prif nodweddion y gyllideb a gymeradwywyd yn y Cyngor llawn ar 26 Ionawr 2021

·         Sylwadau’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar gryfder yr amcangyfrifon cyllidebol a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn

·         Dadansoddiad o'r praeseptau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

·         Argymhellion ar gyfer lefelau Treth y Cyngor 2021/2022

  • Setliad cadarnhaol o +3.6% yn refeniw Llywodraeth Leol y Cyngor gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn ystod y trafodaethau, dywedodd Aelodau o Grŵp Plaid eu bod wedi pleidleisio yn erbyn adroddiad Cynigion Terfynol Cyllideb 2021/2022 yng nghyfarfod y Cyngor ar 26 Ionawr 2021. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod y mwyafrif o aelodau wedi pleidleisio o blaid yr adroddiad, ac felly, roedd y canlyniad yn eu rhwymo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i dderbyn Adroddiad Treth y Cyngor a Materion Cysylltiol 2021/2022, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hugh Evans.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Mae'n ofynnol i'r Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, ystyried y praeseptau sydd wedi’u derbyn gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned a chyhoeddi lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

(ii)          Argymhellir bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a'r Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel ag y maent yn adran 3 Atodiad A.

(iii)         Argymhellir bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel ag y maent yn adran 4 Atodiad A.

(iv)         Bod y symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel y’u cyflwynir yn Atodiad C.

(v)          Bod lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth A, B a C fel y nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol.

 

8.

CYNLLUN CYFALAF 2020/21 - 2023/24 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) i ddarparu Cynllun Cyfalaf wedi’i ddiweddaru i’r Aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Adroddiad Cynllun Cyfalaf 2020/2021 – 2023/2024 (a gylchredwyd ymlaen llaw) i ddarparu’r Cynllun Cyfalaf diweddaraf i’r Aelodau, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau mawr a’r Cynllun Corfforaethol.

 

Cafodd y Cyngor yr adroddiad diwethaf ar y Cynllun Cyfalaf llawn ym mis Chwefror 2020. Mae’r Cabinet wedi bod yn cael diweddariadau misol. Roedd y Cynllun Cyfalaf Amcangyfrifedig bellach yn £42.36miliwn. Mae’r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ers i’r Cabinet gael adroddiad arno ar 16 Chwefror 2021.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr Aelodau drwy'r adroddiad.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo i gwestiynau ynglŷn ag amrywiol agweddau ar y Cynllun Cyfalaf.  Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol:

·         Mater llifogydd, a gofynnodd aelodau a fyddai arian ar gael i brosiectau i gynorthwyo ardaloedd a fyddai wedi dioddef llifogydd.  Cadarnhawyd bod ffrydiau cyllid gan Lywodraeth Cymru y gellid cael mynediad atynt ar gyfer ardaloedd fyddai wedi dioddef llifogydd difrifol.   Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw peth o’r gwaith amddiffyn o amgylch afonydd.  Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, ac nid Cyngor Sir Ddinbych, oedd y llifogydd yn Rhuthun.  Cydweithiodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i liniaru’r problemau.  Roedd Craffu wedi sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i ddelio â phob agwedd ar lifogydd.

·         Codwyd gwaith trwsio pontydd, a chadarnhawyd bod dyraniad o £403,000 ar gael ar gyfer gwaith arferol i bontydd.  Byddai’r tîm perthnasol yn blaenoriaethu’r gwaith i bontydd y gellid ei gyflawni.  Mae gwaith i bontydd yn cael ei gynllunio a’i gymeradwyo’n flynyddol.

·         Rhoddodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, wybod i’r aelodau fod Llywodraeth Cymru yn sefydlu cynlluniau ar gyfer ariannu.  Roedd Pennaeth y Gwasanaeth yn llunio achos busnes er mwyn cael ymrwymiad o hyd at £4miliwn y flwyddyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid derbyn Cynllun Cyfalaf 2020/21 – 2023/24 ac argymhellion adroddiad y Grŵp Buddsoddi Strategol, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hugh Evans.

 

Cynhaliwyd pleidlais, a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

(i)      Nodi sefyllfa ddiweddaraf elfen 2020/21 y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ynghylch y prosiectau mawr.

(ii)     Cefnogi cymeradwyaeth y Cabinet ac argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y nodir yn Atodiad 5 ac a grynhoir yn Atodiad 6.

(iii)    Cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2021/22.

(iv)    Cymeradwyo Adroddiad Strategaeth Cyfalaf 2021/22 fel y manylir yn Atodiad 7

9.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS 2021/22 A DANGOSYDDION DARBODUS 2020/21 i 2022/23 pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021/22 a Dangosyddion Darbodus 2021/22 – 2022/23.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Ddatganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22 ac Adroddiad ar Dangosyddion Darbodus 2020/21 – 2022/23 (wedi’u dosbarthu eisoes) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (TMSS) 2020/2021 a Dangosyddion Ariannol 2020/2021 i 2022/2023.  

 

Mae Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg ar Reolaeth Trysorlys yn gofyn bod y cyngor yn cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol.

 

Wrth fuddsoddi, blaenoriaethau'r Cyngor yw:

·         cadw arian yn ddiogel (diogelwch)

·         sicrhau bod yr arian yn dod yn ôl pan fydd ei angen (hylifedd)

·         sicrhau ein bod yn cael cyfradd elw dda (arenillion)

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid derbyn Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22 a’r Adroddiad ar  Ddangosyddion Darbodus 2020/21 – 2022/23, ac chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r DSRhT ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1).

(ii)          Bod y Cyngor yn cymeradwyo gosod y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22. 2022/23 a 2023/24 (Atodiad 1 Ychwanegiad A). 

(iii)         Bod y Cyngor yn derbyn y Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw (atodiad 1, Adran 6).

(iv)         Bod y Cyngor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 403 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor  a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor. 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.15 pm.