Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Rhuthun LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr J. Butterfield, J.M. Davies, M.Ll. Davies, H.H. Evans, C.L. Guy, M.L. Holland, E.A. Jones, G. Lloyd-Williams, B. Mellor, P.W. Owen, P. Penlington, D.I. Smith, W.N. Tasker a C.L. Williams.

 

Mynegodd y Cadeirydd ac Aelodau'r Cyngor eu cydymdeimlad i'r Arweinydd a'i deulu yn dilyn marwolaeth ei fam.  Cafwyd munud o dawelwch fel arwydd o barch tuag at y Cynghorydd Margaret McCarroll a mam yr Arweinydd.

 

 

2.

TEYRNGED I'R CYNGHORYDD MARGARET McCARROLL

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd McCarroll yn ei rôl fel Cynghorydd, ac am y gwaith elusennol a wnaeth yn y Gymuned.  Cadarnhaodd y Cyngor y farn a fynegwyd gan y Cadeirydd a'r Cynghorydd Pat Jones y byddai colled fawr ar ôl y Cynghorydd McCarroll.

 

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 116 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni wnaeth unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

5.

CYNLLUN LLEIHAU TRETH Y CYNGOR 2015/15 pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) i fabwysiadu'r Cynlluniau Lleihau Treth y Cyngor a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Diwygiadau i Ofynion Rhagnodedig (Cymru) 2015, o ran blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar fabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Cymru Gyfan a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Cymru Gyfan a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Diwygio) 2015.

 

Eglurodd fod Deddf Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor yn ei ffurf bresennol ar draws y DU.  O 31 Mawrth 2013 daeth budd-dal treth y cyngor i ben ac mae'r cyfrifoldeb am ddarparu cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor a'r arian sy'n gysylltiedig ag ef, wedi ei basio i Lywodraeth Cymru (LlC).  Mae LlC, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yng Nghymru, wedi cyflwyno cynllun newydd i ddarparu cymorth treth y cyngor a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2013.

 

Roedd LlC wedi cymeradwyo’r ddwy set o reoliadau ar 14 Ionawr 2014 ac roedd gofyn mabwysiadu Rheoliadau newydd Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau diwygio 2015, erbyn 31 Ionawr 2015.

 

Y Cynllun Arfaethedig 2015/16.

 

Wrth ystyried datblygu cynllun newydd ar gyfer 2015/16 roedd LlC wedi cytuno y dylai'r cynllun diwygiedig ddilyn y paramedrau canlynol:-

 

·                 Parhau gydag un cynllun a ddiffinnir yn genedlaethol i ddarparu lefel gyson o gymorth i hawlwyr yng Nghymru.  Roedd uchafswm lefel y cymorth wedi’i osod ar 100%.

·                 Parhau i ddarparu nifer fach o elfennau dewisol, yn debyg i'r rhai sydd ar gael o dan y cynllun presennol, gan alluogi awdurdodau lleol i ymateb i'w hamgylchiadau lleol gwahanol, ar yr amod bod y costau o unrhyw amrywiad lleol yn cael eu hariannu yn lleol.

·                 Parhau i fod yn seiliedig ar ddiwygiad o’r system Budd-dal Treth y Cyngor flaenorol, tan 2016-17 fel bod risgiau gweithredol yn cael eu rheoli ac y gallai cymorth barhau i gael ei ddarparu.

·                    Mân ddiwygiadau i adlewyrchu cyflwyno Absenoldeb Rhiant a Rennir a thâl rhieni statudol a rennir a wnaeth ddisodli cyfnod tadolaeth ychwanegol a thâl tadolaeth statudol ychwanegol o 5 Ebrill 2015. Roedd darpariaethau trosiannol hefyd wedi’u darparu ar gyfer y rhai sy'n cael tâl tadolaeth ar 1 Ebrill 2015.

·                 Cafodd diwygiad ei gynnwys a oedd yn adlewyrchu newidiadau a wnaed i Reoliadau Budd-dal Tai i ddileu hawl awtomatig i Leihau Treth y Cyngor ar gyfer ceiswyr gwaith mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), sy'n gymwys ar hyn o bryd yn rhinwedd derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm.  Roedd diwygiadau i’r Rheoliadau Codiadau yn cael gwared ar fynediad i CTRS ar gyfer ceiswyr gwaith AEE. Fodd bynnag, roedd hyn ond yn berthnasol i'r rhai a oedd yn gwneud cais newydd am CTRS ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 neu sy'n stopio â bod yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm am gyfnod ar ôl y dyddiad hwn, er enghraifft, os byddant yn mynd i mewn i gyflogaeth dros dro.

·                 Cafodd mân ddiwygiadau canlyniadol hefyd eu gwneud mewn perthynas â diffiniadau ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a chyfeiriadau at Gredyd Cynhwysol.  Nid oedd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm bellach yn cynnwys lwfansau cyfrannol sy’n seiliedig ar incwm ar wahân, yn hytrach dim ond lwfans cyfrannol a elwir yn 'lwfans cyflogaeth a chymorth'.  Gwnaed diwygiadau hefyd i fewnosod cyfeiriadau at Gredyd Cynhwysol yn Rheoliadau 2013 lle roedd cyfeiriadau eisoes at fudd-daliadau eraill sy'n gysylltiedig ag incwm.

·                 Byddai’r ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeiswyr i leihau Treth y Cyngor yn cael eu huwchraddio yn unol â'r Budd-dal Tai, fel y nodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

 

Roedd Elfennau dewisol ar gyfer penderfyniad y Cyngor yn cynnwys:-

 

a)              Y gallu i ymestyn y cyfnod talu estynedig safonol o 4 wythnos a roddir  ...  view the full Cofnodion text for item 5.