Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw Aelod gysylltiad personol na chysylltiad sy'n
rhagfarnu mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel mater
o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 73 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd a'r
Is-Gadeirydd, ar gyfer cyfnod rhwng 7 Medi 2014 a 28 Medi 2014 wedi'u
cylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. PENDERFYNWYD - derbyn y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan
y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. |
|
Cael cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 9 Medi 2014 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Medi 2014. Cywirdeb:- 6. Awdurdod Tân ac Achub
Gogledd Cymru – eglurodd y Cynghorydd S.A. Davies ei fod wedi mynegi pryderon
ynghylch y posibilrwydd o orfod cyfiawnhau toriadau arfaethedig Awdurdod Tân ac
Achub Gogledd Cymru. Materion yn codi:- 9. Diwygio Llywodraeth
Leol - Ymatebodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gais gan y
Cynghorydd M.Ll. Davies a chadarnhaodd y gellid cofnodi manylion pleidleisio yn
y cofnodion. 12. Cyllideb 2015/16 -
2016/17 - Dywedodd y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts bod yr arddull a
fabwysiadwyd ar gyfer y cofnodion ddim bob amser yn adlewyrchu cyfraniad
Aelodau unigol at y trafodaethau. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9
Medi 2014 fel cofnod cywir. |
|
AILDDATBLYGU CANOLFAN NOVA PDF 102 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden (copi ynghlwm) sy'n
ystyried y cynigion ar gyfer ailddatblygu Canolfan Nova Prestatyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden, a oedd
yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol i
fwrw ymlae,n ag ailddatblygu Canolfan Nova Prestatyn, wedi ei gylchredeg cyn y
cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr Gwasanaethau Hamdden Alliance
i'r cyfarfod. Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint cyflwynodd y
Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden yr adroddiad. Eglurodd fod y Cabinet
wedi ystyried canfyddiadau’r adolygiad diwydrwydd dyladwy i Hamdden Clwyd Cyf
ym mis Ionawr 2014 gan ddod i'r casgliad ei fod yn ormod o risg i'r Cyngor
gymryd y cwmni drosodd. Penderfynwyd rhoi'r gorau i gyllido Hamdden Clwyd o 1
Ebrill 2014 ymlaen oherwydd pryderon ynghylch ansawdd a lefel y gwasanaeth a
ddarperir. O ganlyniad i hyn, rhoddodd y cwmni’r gorau i fasnachu ar unwaith. Ym mis Mawrth
2014 cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet yn amlinellu’r argymhellion a oedd yn
codi o arfarniad manwl o gyflwr yr adeiladau a'r dadansoddiad manteision cost
mewn perthynas â'r gwahanol opsiynau rheoli dros dro ar gyfer y cyfleusterau;
tra bod yr achos busnes ar gyfer cynnig hamdden llawer gwell ar yr arfordir yn
cael ei ddatblygu ymhellach. Cytunodd y Cabinet i argymell bod Canolfan Nova yn
aros ar gau hyd nes y cytunir ar gynigion ailddatblygu Gwasanaethau Hamdden
Alliance ym mis Mai 2014. Comisiynwyd ymarfer dichonolrwydd ac achos busnes
amlinellol ar gyfer ailddatblygu’r ganolfan i gael ei ystyried gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol, ac mae manylion y broses wedi ei darparu. Cyflwynwyd yr astudiaeth dichonolrwydd a’r achos busnes
amlinellol i'r Grŵp Buddsoddi Strategol a'r Cabinet ym mis Mehefin 2014 er
mwyn sicrhau cyllid i symud y prosiect yn ei flaen at y cam dylunio manwl.
Cymeradwywyd y cynnig i symud ymlaen i’r cam nesaf, gan ddyfarnu £108 mil ar
gyfer y cam dylunio manwl i gael sicrwydd cost ar gyfer y prosiect. Mewn
partneriaeth â Sir Ddinbych, cwblhaodd Gwasanaethau Hamdden Alliance pob arolwg
manwl gan ddarparu costau manwl i'r Grŵp Buddsoddi Strategol yn seiliedig
ar gymysgedd o gyfleusterau, fel y cytunwyd yn y briff dichonoldeb gwreiddiol
(gweler Atodiad 1). Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r cyfleuster yn
hunangynhaliol trwy wasanaethu ei gostau ynni ei hun. Mae'r arolygon manwl wedi nodi nifer o faterion y
mae angen eu datrys er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr adeilad ar gyfer
cyfnod yr achos busnes, yn seiliedig ar yr incwm posibl, ac ymrwymiad ariannol
y Cyngor. Mae angen offer mecanyddol a thrydanol newydd ac mae arolwg to wedi
amlygu nifer o broblemau. Mae'r cynnydd yn y costau o’r cam amlinellol i’r cam
dylunio manwl yn cynrychioli cynnydd o 15% mewn costau datblygu cyffredinol.
Byddai modd cynnal y cynnydd o fewn yr amlen fforddiadwyedd gyffredinol dros
gyfnod yr achos busnes. Eglurwyd bod
y datblygiad yn elfen bwysig o weledigaeth y Cyngor ar gyfer gwell hamdden a
chynnig twristiaeth ar hyd yr arfordir, fel y nodir yn y Strategaeth Uchelgais
Economaidd. Mae Cynllun MAWR 2011 - 2014 yn ceisio cyrraedd nifer o
ganlyniadau, yn arbennig o ran dymuniad y Cyngor i annog pobl Sir Ddinbych i
fyw bywydau iach. Y costau cyn y cam dylunio manwl oedd oddeutu £3.6 miliwn. Mae’r costau diwygiedig, oherwydd y to a’r gofynion mecanyddol a thrydanol, wedi cynyddu i £4,217,001. Mae swyddogion a thîm prosiect Hamdden Alliance wedi bod trwy 'broses gwerth peirianneg' fanwl i adolygu'r costau a’r fanyleb i leihau'r costau cymaint â phosibl heb beryglu’r datblygiad cyfan. Yn yr achos busnes gwreiddiol nodwyd bod angen cyfanswm o £256,311 i wasanaethu’r benthyca cyffredinol sy'n ofynnol ar gyfer y datblygiad. O ganlyniad i'r cynnydd yn y cyfalaf sydd ei angen ar gyfer y datblygiad, mae'r costau benthyca darbodus wedi cynyddu i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2013/14 PDF 82 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Rhaglenni Corfforaethol (copi ynghlwm) ynglŷn ag
Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad y Rheolwr Rhaglen Gorfforaethol, ar Adolygiad Perfformiad Blynyddol y
Cyngor ar gyfer 2013/14, wedi ei gylchredeg cyn y cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd B.A. Smith a’r Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol o'i
berfformiad erbyn 31 Hydref ac felly bod angen penderfyniad i gymeradwyo'r Adolygiad
Perfformiad Blynyddol 2013-14 drafft, Atodiad I. Roedd Cynllun Corfforaethol 2012/17 y Cyngor yn
nodi cyfeiriad strategol y Cyngor a’i flaenoriaethau dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae manylion bwriad y Cyngor i gyflawni’r blaenoriaethau wedi eu nodi yn y
Cynlluniau Gwasanaeth Blynyddol ac yn Nogfen Darparu Blynyddol y Cynllun
Corfforaethol, ac mae cyfres o Gytundebau Canlyniad wedi eu cytuno arnynt gyda
Llywodraeth Cymru. Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn darparu gwerthusiad ôl-syllol o
lwyddiant y Cyngor wrth gyflawni yn erbyn y cynlluniau yma yn ystod 2013-14, ac
yn dangos p’un ai yw’r Cyngor wedi llwyddo i gyflawni ei rwymedigaeth gogyfer â
gwneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn llwyddiannus ai peidio. Mae’r Tîm Gwella Corfforaethol wedi datblygu’r
adroddiad mewn ymgynghoriad â gwasanaethau eraill y Cyngor. Mae’r wybodaeth
perfformiad yn y ddogfen wedi ei darparu gan wasanaethau a’i thynnu o system
rheoli perfformiad Verto. Ymgynghorwyd â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Cabinet
a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad cyn cyflwyno’r adroddiad ger bron y Cyngor
Sir i’w gymeradwyo. Mae’r risg o gael adroddiadau negyddol sylweddol
gan reolyddion allanol wedi ei nodi yn y Gofrestr Risg Corfforaethol. Byddai
methu cyhoeddi’r Adolygiad Blynyddol erbyn y dyddiad terfyn o 31 Hydref yn
debygol o arwain at argymhellion statudol gan Swyddfa Archwilio Cymru, gyda
goblygiadau sylweddol ar gyfer enw da’r Cyngor. Roedd y Cynllun Corfforaethol a’r Adolygiad
Perfformiad Blynyddol yn elfennau allweddol o Raglen Cymru ar gyfer Gwella
(2010), a oedd yn cael ei gefnogi gan ofynion statudol Deddf Llywodraeth Leol
1999 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Cyfeiriodd y Cynghorydd E.A. Jones at Safle
Strategol Allweddol Bodelwyddan a gofynnodd am sicrwydd y byddai dyraniad o 26
hectar o dir cyflogaeth yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cyflogaeth, ac nid
yn cael ei gadw i’w werthu neu i adeiladu tai arno yn y dyfodol. Eglurodd y
Cynghorydd B.A. Smith fod y tir dan sylw wedi ei ddynodi fel tir cyflogaeth yn
y Cynllun Datblygu Lleol, a oedd wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor, ac y byddai'n
rhaid i'r Cyngor gymeradwyo unrhyw newid.
Cadarnhaodd y Cynghorydd H.H. Evans fod
trafodaethau ar y gweill rhwng swyddogion a datblygwyr hyd nes caiff Cais
Cynllunio mewn perthynas â'r safle Bodelwyddan ei gyflwyno. Eglurodd fod cyllid
gan y Bwrdd Uchelgais, sy’n canolbwyntio ar safleoedd cyflogaeth, wedi ei
ddyrannu i ymchwilio i feysydd allweddol ar draws y Sir. Awgrymodd y Cynghorydd
E.W. Williams y gallai’r tir cyflogaeth fod yn fater i'w ystyried gan Grŵp
Gweithredu’r Cynllun Datblygu Lleol. Esboniodd y Prif Weithredwr fod y tir cyflogaeth ym
Modelwyddan wedi ei nodi'n glir yn y Cynllun Datblygu Lleol, ac y byddai'n cael
ei nodi yn y Cais Cynllunio perthnasol. Fodd bynnag, awgrymodd fod y tir
cyflogaeth, a'r gwaith priodol sydd i’w wneud, yn fater i'w ystyried o bosibl
gan y Pwyllgor Archwilio. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Sesiwn Friffio Cyngor, lle awgrymwyd y byddai Sir Ddinbych yn parhau i ymrwymo i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol ac y byddai hyn yn cael ei ddatblygu os caiff ei gadarnhau. Esboniodd fod yn rhaid i’r Cyngor dderbyn a chymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013-14, a ystyriwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Archwilio. Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai penderfyniadau ynglŷn â’r gyllideb yn effeithio ar berfformiad ac y byddai'r rhain yn gofyn am ymarfer mapio yn erbyn materion perfformiad. ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 149 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cynfor Sir yn amodol ar
gynnwys yr adroddiadau canlynol:- Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod copi
diwygiedig o'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.
Cadarnhaodd y bydd Gweithdai Cyllideb yn cael eu cynnal ar 8, 13 a 20 Hydref
2014 (27 Hydref yn ddyddiad posibl hefyd). Ar 9 Ragfyr 2014 bydd y Cyngor yn
ystyried adroddiadau ar y gyllideb, Cytundeb PFI Neuadd y Sir ac adolygiad o
Ddosbarthiadau Etholiadol a’r Mannau Pleidleisio. Eglurodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill fod Adroddiad Pennu Treth y Cyngor,
a drefnwyd ar gyfer 3 Chwefror 2015, yn cael ei gyflwyno ar 24 Chwefror 2015. Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts
ynglŷn â'r angen am bolisi cydlynol ynglŷn â chyfathrebu gwybodaeth
sy'n ymwneud â'r broses gyllidebol, esboniodd y Prif Weithredwr y gallai'r
mater hwn gael ei drafod yn y Gweithdai Cyllideb. Ymatebodd y Cynghorydd R.L. Feeley i gwestiwn gan y Cynghorydd J.A. Davies
ac eglurodd fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng Sir Ddinbych a’r
Bwrdd Iechyd. Cadarnhaodd y byddai dyddiad yn cael ei drefnu er mwyn i Brif
Weithredwr y Bwrdd Iechyd annerch y Cyngor. Cadarnhaodd y Cynghorydd J.
Chamberlain-Jones y byddai’r Bwrdd Iechyd yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau i ymateb i faterion a godwyd gan yr Aelodau. Gofynnodd y Cynghorydd J. Butterfield i gynnwys eitem ar y Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar uno gwirfoddol arfaethedig
Sir Ddinbych a Chyngor Conwy. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd fod trefniadau'n cael eu gwneud i alw cyfarfod arbennig o'r Cyngor
ym mis Tachwedd 2014 i drafod yr uno arfaethedig, cyn y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd E.W. Williams ynghylch
nad yw nifer y pleidleisiau a gofnodwyd ar y system bleidleisio electronig bob
tro yn adlewyrchu nifer y Cynghorwyr sy'n bresennol, cadarnhaodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod y system bleidleisio yn cael ei
gwirio cyn dechrau pob cyfarfod. PENDERFYNWYD
– yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cyngor. Daeth y Cyfarfod i ben am 12.40pm. |