Rhaglen
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 - GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I'R RHAN HON O'R CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
Datgan cysylltiad Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater
a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 56 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerodd Gadeirydd y Cyngor â hwy (copi ynghlwm). |
|
I dderbyn
cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2013 |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd EITHRIO’R WASG A’R CYHOEDD RHAN II Argymhellir, yn
unol ag Adran 100A (4) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o’r cyfarfod yn
ystod trafod y materion canlynol oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth
eithriedig, (fel y diffinnir ym Mharagraff 12 ac 13 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf),
ei datgelu. |
|
PENODI CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL |
|
RHAN 1 – GWAHODDIAD I’R WASG A’R CYHOEDD FYNYCHU’R RHAN HWN O’R CYFARFOD |
|
PRESENOLDEB DR HIGSON, CADEIRYDD BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR Yn dilyn Rhybudd
o Gynnig yng nghyfarfod y Cyngor ar 5 Tachwedd 2013, Dr Higson, Cadeirydd Bwrdd
BIPBC i fynychu’r cyfarfod er mwyn egluro i’r Cyngor Llawn gynlluniau’r Bwrdd a
Gwasanaethau Iechyd ar gyfer y dyfodol ar draws Gogledd Cymru. |
|
I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) i roi diweddariad i’r
Cyngor Llawn ynglŷn â Chynllun Cyfalaf yn cynnwys prosiectau mawr a’r
Cynllun Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYNIGION CYLLIDEBOL AR GYFER 2014/15 PDF 78 KB Ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) fel bod y Cyngor Llawn yn
nodi a chymeradwyo’r cynigion Cyllidebol ar gyfer 2014/2015. Dogfennau ychwanegol: |
|
ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR GOGLEDD CYMRU PDF 97 KB I ystyried
adroddiad Rheolwr Gofal a Chefnogaeth Tai (copi ynghlwm) fel bod y Cyngor Llawn
yn nodi ac yn cefnogi argymhellion “Adroddiad Prifysgol Bangor”. Dogfennau ychwanegol:
|
|
RHYBUDD O GYNNIG Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans y Rhybudd o Gynnig canlynol i’w ystyried gan y Cyngor Llawn: “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn pryderu am Adolygiad Llywodraeth Leol gan y gall danseilio darpariaeth gwasanaeth i’w drigolion, effeithio ar forâl staff a gallai gostio mwy i’w weithredu nag y byddai’n ei arbed. Fodd bynnag, mae’r cyngor yn cydnabod, yn dilyn y sylwadau diweddar gan y Prif Weinidog ac aelodau Comisiwn y Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd aildrefnu Llywodraeth Leol yn anochel. Os bydd y Llywodraeth Leol yn cael ei aildrefnu yng Ngogledd Cymru yna byddai’r Cyngor yn cefnogi datrysiad tri Cyngor fel y dewis gorau ar gyfer trigolion yr ardal. Mae’r Cyngor hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau na fydd cynrychiolaeth wleidyddol Gogledd Cymru yn lleihau”. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 97 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). |