Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNTIAU I SYLWI

  • Cytunwyd i anfon llythyr cydymdeimlad ar ran y Cyngor Sir at y teuluoedd mewn profedigaeth yn dilyn y tân diweddar mewn tŷ ym Mhrestatyn.

 

  • Atgoffodd y Cadeirydd yr unigolion hynny oedd wedi cael cais i osod torchau yn ystod Sul y Cofio, i gasglu eu torchau o’i swyddfa yn dilyn y cyfarfod.  Cytunwyd i ofyn am eglurhad gan y Rheolwr Cefnogi a Datblygu Aelodau am y meini prawf yn ymwneud â dyrannu torchau o fewn y sir.

 

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Cynghorwyr Colin Hughes, Hugh Irving, Alice Jones, Geraint Lloyd-Williams a Peter Owen

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes sydd wedi ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Barbara Smith fudd personol yn eitem 8 yr agenda sef ‘Diweddariad Diwygio Lles’ gan ei bod yn gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni nodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 50 KB

I nodi’r ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi’n atodol).

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiadau dinesig yr oedd hi  a’r Is-gadeirydd wedi’u mynychu ar ran y Cyngor yn y cyfnod 27 Medi - 22 Hydref 2012 (manylion wedi’u dosbarthu’n flaenorol).  Manteisiodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Is-gadeirydd am fynychu nifer o ddigwyddiadau tra’r oedd hi ar wyliau.  Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at ei bresenoldeb yn yr Ŵyl Fwyd 2012 yn Llangollen ar 19 Hydref a thalodd deyrnged am waith caled y Cynghorwyr lleol Rhys Hughes a Stuart Davies a’r tîm fu’n gyfrifol am sicrhau llwyddiant y sioe a’r hwb o’r herwydd i’r economi leol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r digwyddiadau a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 266 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar Hydref 9, 2012 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2012.

 

Cywirdeb - Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler at y cyfeiriadau yn y cofnodion at y ‘Cynghorydd C.L. Hughes’ - dylid eu cywiro a rhoi’r ‘Cynghorydd Colin Hughes’.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2012 fel cofnod cywir a’u harwyddo gan y Cadeirydd o newid yr uchod..  

 

6.

PENODI AELODAU LLEYG I’R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 66 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/Swyddog Monitro (copi’n amgaeedig) yn cymeradwyo penodi dau aelod lleyg annibynnol i’r Pwyllgor Safonau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/ Swyddog Monitro adroddiad (dosbarthwyd ynghynt) yn argymell penodi dau aelod lleyg annibynnol i Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

Atgoffwyd yr Aelodau am gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau a’r angen am sicrhau aelodau newydd yn lle’r ddau aelod lleyg oedd yn ymddeol.  Dirprwy-wyd y broses ddewis i’r Panel Penodiadau Arbennig oedd wedi cyfweld nifer o ymgeiswyr ac wedi argymell penodi’r ddau unigolyn roedden nhw’n eu hystyried yn fwyaf priodol i eistedd fel aelodau lleyg annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, sef y Barnwr Ian Trigger (Barnwr Cylchdaith) a’r Parchedig Steven Wayne Roberts (Gweinidog yr Efengyl).

 

Ystyriodd y Cyngor argymhelliad y Panel sef –

 

PENDERFYNWYD yn unol ag argymhelliad y Panel Penodiadau Arbennig, penodi’r Barnwr Ian Trigger a’r Parchedig Steven Wayne Roberts i eistedd fel Aelodau lleyg ar y Pwyllgor Safonau.

 

7.

SWYDDOGAETH PENCAMPWYR pdf eicon PDF 74 KB

I ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â phenodi aelodau i weithredu fel Pencampwyr ar gyfer meysydd arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad yn gofyn i’r Aelodau ystyried y disgrifiadau rôl drafft ar gyfer Hyrwyddwyr a phenodi’r rhai a enwyd yng Nghyfansoddiad y Cyngor ac i drafod y broses lle gellid enwi rolau Hyrwyddwyr eraill fel rhai addas i’w mabwysiadu gan y Cyngor.  Roedd yn helaethu ar swyddi’r pedwar Hyrwyddwr oedd wedi’u nodi yn y Cyfansoddiad ar gyfer y meysydd canlynol -

 

·        Hyrwyddwr Pobl Hŷn

·        Hyrwyddwr Digartrefedd

·        Hyrwyddwr Gofalwyr

·        Hyrwyddwr Anableddau Dysgu

 

Roedd Arweinwyr Grwpiau wedi trafod y broses penodi Hyrwyddwyr ac wedi cytuno y byddai’r enwebedig yn paratoi CV ac y byddai’r Cyngor llawn yn penodi.  Awgrymwyd y dylai’r CVs gael eu cyflwyno i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd erbyn 16 Tachwedd a ystyried y penodiadau gan y Cyngor ar 4 Rhagfyr.  Byddai’r weithdrefn hon yn sicrhau nad oedd un aelod yn cael ei ddifreinio.  Nododd y Cynghorydd Gwyneth Kensler eu bod wedi bod angen eglurhad pellach ar y broses benodi yn dilyn cyfarfod yr Arweinwyr Grŵp ac roedd yn amau ansawdd yr adborth i’r aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth oedd yn dilyn, cytunodd y Cyngor y dylai’r Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol ystyried rhinwedd penodi Hyrwyddwyr ar gyfer buddiannau eraill a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau i’w hystyried fel a ganlyn -

 

·        Cynigiodd y Cynghorydd Jason McLellan Hyrwyddwr Pobl Ifanc gan amlygu’r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a’r angen am roi pŵer iddyn nhw a’u cynnwys yn y broses wleidyddol.  Siaradodd aelodau eraill o blaid y cynnig hwnnw ac ychwanegodd y Cynghorydd Carys Guy-Davies y dylai’r grŵp oed targed fod yn 14 - 19 gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth wleidyddol.

 

Yn codi o’r cynnig, dywedodd y Cadeirydd fod trefniadau’n cael eu gwneud i ddirprwyaeth o bobl ifanc fynychu Briffio’r Cyngor ym mis Ionawr er mwyn creu diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Awgrymodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid gwahodd y cynghorwyr iau i ryngweithio gyda’r ddirprwyaeth honno ac i ymgysylltu gyda’r bobl ifanc.  Ychwanegodd y Cynghorydd Eryl Williams fod gwaith ar y gweill mewn ysgolion i gysylltu â phobl ifanc ac roedd pob ysgol wedi ethol Cyngor yr Ysgol.  Teimlai bod gwleidyddiaeth yn y cyfryngau yn digalonni pobl ifanc.

 

·        Amlygodd y Cynghorydd Ann Davies yr angen am Hyrwyddwyr Gofalwyr Ifanc (swydd yr oedd y cyn Gynghorydd Morfudd Jones wedi’i chyflawni yn y gorffennol) i ddarparu rôl fonitro a sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.

 

·        Gofynnodd y Cynghorydd David Smith am ystyried Hyrwyddwyr Craffu, swydd yr oedd ef ei hun wedi’i chyflawni yn y gorffennol gan amlygu pwysigrwydd swyddogaeth graffu ac i fod yn rhan o’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Craffu.

 

Manteisiodd yr Hyrwyddwyr Pobl Hŷn ac Anableddau Dysgu presennol, y Cynghorwyr Bobby Feeley a Ray Bartley ar y cyfle i amlygu pwysigrwydd y rolau hyn a’r gwaith da a’r llwyddiannau yn y meysydd hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Nododd y Cynghorydd Feeley y gwahaniaeth barn a ddylai Hyrwyddwyr gael eu lleoli ar lefel cabinet ai peidio.  Teimlai y dylai awdurdodau unigol benderfynu ar yr ymagwedd a gymerir a chroesawodd enwebiadau gan eraill am y swydd o Hyrwyddwr Pobl Hŷn.  Teimlai’r Cynghorydd Meiryck Davies fod aelodau’r Cabinet yn cario llwyth gwaith llawn ac awgrymodd y byddai’n arfer da i ganiatáu i’r aelodau hynny oedd y tu allan i’r Cabinet yn unig ymgymryd â rolau Hyrwyddwyr.  Teimlai’r Cynghorydd fod angen eglurhad pellach ar rôl Hyrwyddwyr ac awgrymodd mai’r Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol fyddai’r pwyllgor gorau i ddatblygu rolau unigol ac i ddisgrifio eu rhyngweithiad gydag eraill er mwyn i Hyrwyddwyr ychwanegu gwerth i feysydd arbennig.

 

Roedd y Cynghorydd Barbara Smith yn falch o glywed y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

DIWEDDARIAD AR DDIWYGIO LLES pdf eicon PDF 134 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (copi’n amgaeedig) yn nodi effaith cyfredol Diwygio Lles ar Sir Ddinbych a’i effaith yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Datgelodd y Cynghorydd Barbara Smith fudd personol yn yr eitem hon gan ei bod yn gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau).

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad gyda manylion effaith presennol a thebygol y dyfodol y Diwygio Lles ar Sir Ddinbych.  Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar wybodaeth a gyflwynwyd ynghynt i’r Grwpiau Ardal Aelodau am effaith parhaus newidiadau I Budd-daliadau Tai a Chyngor fel rhan o weithredu cyffredinol y Credyd Cynhwysol.  Er bod yn rhaid cwblhau nifer o fanylion, roedd y Cyngor wedi cymryd ymagwedd proactif gan sefydlu Grŵp Diwygio Lles traws-wasanaeth i rannu gwybodaeth, cefnogi cwsmeriaid a nodi’r effaith posibl ar Sir Ddinbych.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau (H:F&A) yr adroddiad oedd yn cynnwys y prif feysydd canlynol –

 

·        Credyd Cynhwysol

·        Budd-daliadau Tai

·        Lleoli Budd-dal Treth Cyngor, a

·        Newidiadau arwyddocaol eraill i fudd-daliadau.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, cafwyd manylion effaith newidiadau diwygio lles unigol ar Sir Ddinbych gan yr H:F&A ac amlygodd gymhlethdodau o fewn y system fudd-daliadau a’r goblygiadau o’r herwydd i’r hawlwyr a’r awdurdod.  Amlygodd hefyd y risgiau ariannol sylweddol ynghlwm â’r newidiadau oedd yn cael eu cymhlethu gan yr ansicrwydd presennol a’r amserlen fer ar gyfer gweithredu.  Roedd rhagdybiaethau wedi’u cynnwys yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor oedd yn codi o golli incwm i’r awdurdod.    Roedd y pwyntiau pwysedd yn cynnwys mwy o alwadau ac effaith ar adnoddau staffio Refeniw a Budd-daliadau; casglu rhent a’r effaith ar y Gwasanaethau Cymdeithasol.    Roedd newid pwysig a gyhoeddwyd yn ddiweddar nad oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad yn ymwneud â thoriad o £10bn ychwanegol mewn taliadau lles.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryderon am effaith y newidiadau ar drigolion y sir, gan amlygu’r angen am ddiogelu’r rhai mwyaf bregus pan oedd yn bosibl.  Mynegwyd pryderon hefyd am yr effaith negyddol ar incwm ac adnoddau’r awdurdod o ganlyniad i’r diwygio lles; yr ansicrwydd oedd yn ymwneud â’r newidiadau i’r system fudd-daliadau a’r amserlenni tyn ar gyfer gweithredu’r newidiadau hyn. Er eu bod yn cymeradwyo’r ymagwedd proactif a gymerwyd gan yr awdurdod o safbwynt sefydlu’r Grŵp Diwygio lles a rhannu gwybodaeth, teimlai’r Aelodau y dylid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau a’r effaith ar unigolion gan awgrymu’r defnydd o’r bws gwybodaeth symudol, canolfannau adnoddau a Llais y Sir.  Roedden nhw hefyd yn awyddus i ariannu’r asiantaethau cyngor lles yn ddigonol a rhoi adnoddau iddyn nhw oherwydd y gwasanaeth hanfodol roedden nhw’n ei gyflenwi.  Codwyd cwestiynau penodol am newidiadau lles a thrafododd yr Aelodau eu pryderon gyda’r swyddogion oedd yn ymateb fel a ganlyn -

 

·        mae asiantaethau cyngor lles yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ond roedd diogelu data’n gwahardd rhannu gwybodaeth gyda chyrff eraill

·        roedden nhw’n cymryd ymagwedd wedi’i dargedu at rannu gwybodaeth ar ôl derbyn cyngor pendant ac roedd llythyrau wedi’u hanfon at unigolion oedd yn cael eu heffeithio gan newidiadau penodol; cadwyd tudalen gyfan yn rhifyn mis Ionawr o Lais y Sir i roi gwybodaeth am newidiadau i’r Dreth Cyngor

·        roedden nhw’n cytuno i’r awgrym bod cynghorwyr yn cymryd mwy o ran yn y broses er mwyn rhannu gwybodaeth o fewn eu trefi a’u cymunedau

·        er bod asiantaethau lles wedi bod yn rhan hanfodol o helpu pobl i sicrhau eu hawliadau budd-daliadau, awgrymwyd bod angen mwy o bwyslais ar roi cyngor ar gyllidebu a rheoli arian

·        adroddwyd ar ganlyniadau rhai o’r cynlluniau peilot oedd yn cael eu cynnal cyn gweithredu’r newidiadau’n llawn a chydnabuwyd yr amserlen fer wrth ddelio â’r problemau a nodwyd

·        nid oedd y swyddogion yn ymwybodol o unrhyw ostyngiadau a gynlluniwyd mewn ariannu asiantaethau cynghori

·        amlygwyd y cyhoeddusrwydd negyddol posibl a allai  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

BLAENRAGLEN WAITH Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 89 KB

I ystyried blaenraglen waith y Cyngor (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Flaenraglen Waith y Cyngor yn cadarnhau y byddai penodi Hyrwyddwyr yn cael ei ychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer mis Rhagfyr fel y cytunwyd ynghynt gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am i’r eitemau ar y Cytundeb Cyllid Refeniw a Gosod Treth Cyngor a Materion Cysylltiol gael eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer 5 Chwefror a 26 Chwefror yn eu tro.  Hefyd, manteisiodd ar y cyfle i bwysleisio pwysigrwydd presenoldeb Aelodau yn y Gweithdy Cyllideb a drefnwyd ar gyfer 11 Rhagfyr.  I’r Aelodau hynny oedd wedi methu mynychu’r sesiwn cyllideb cyntaf a gynhaliwyd ym mis Hydref, trefnwyd ail sesiwn ar 15 Tachwedd rhwng 5.00 p.m. a 7.00 p.m.  Yn olaf, dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley fod Sarah Rochira, y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi’i gwahodd i fynychu cyfarfod yn y dyfodol ac roedden nhw’n disgwyl cadarnhad o’i hargaeledd ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cyngor o wneud y newidiadau ac ystyried y sylwadau uchod. 

 

Ar yr adeg hon (11.30 a.m.) gohiriwyd y cyfarfod i gael seibiant am luniaeth.

 

GWAHARADD Y WASG A’R CYHOEDD

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD, yn unol ag Adran 100A(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol oherwydd gellid datgelu gwybodaeth arbennig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 Trefnlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

.

 

 

10.

CYNLLUN CYFALAF 2012/13 - 2015/16

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn diweddaru aelodau ar elfen 2012/13 y cynllun cyfalaf yn cynnwys diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Effeithlonrwydd, yr adroddiad cyfrinachol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor am elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf gan gynnwys diweddariad ar y prosiectau mawr.  Roedd Crynodeb o’r cynllun cyfan a sut cafodd ei ariannu (Atodiad 1) wedi’i atodi i’r adroddiad ynghyd â manylion gwariant go iawn a’r hyn a drefnwyd gan bob Pennaeth Gwasanaeth.  Aeth yr Aelod Arweiniol ymlaen i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr ystod presennol o brosiectau mawr a’r derbyniadau cyfalaf.

 

Croesawodd y Cynghorydd Stuart Davies Ddatblygiad Harbwr Foryd ac amlygodd yr angen am farchnata’r cyfleusterau a sicrhau bod cyfarpar priodol yn cael ei ddarparu i sicrhau gallu storio llongau hwylio dros y gaeaf-  gallai hyn brofi’n fenter broffidiol.  Yn dilyn trafodaeth fer, cytunodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau (H:F&A) i egluro argaeledd cyfarpar yn yr adroddiad nesaf yn ôl i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiynau/ sylwadau gan yr Aelodau, roedd yr Aelod Arweiniol a’r H:F&A  -

 

·        yn manylu ar Gam 3 gwaith Amddiffyn Arfordir y Rhyl a sicrhawyd yr Aelodau y byddai’r Cyngor yn parhau i ddatblygu ei opsiwn dewisol yn ystod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru

·        yn dweud bod y cynllun busnes wedi’i baratoi ar gyfer datblygu Harbwr y Rhyl ac roedd arian ar gyfer Meistr yr Harbwr wedi’i sicrhau

·        yn dweud bod adnewyddu Gwesty Bee & Station bron wedi’i orffen.  O fewn amodau’r cymhorthdal, roedd yn annhebygol y byddai’r Cyngor yn cael caniatâd i ddefnyddio’r adeilad i gadw ei gyfleusterau ei hunain

·        roedd Rheolwr Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl yn gwneud llawer gyda’r Grŵp Diwygio Lles ac yn gwbl ymwybodol o’r goblygiadau o safbwynt yr elfen dai; pwrpas y prosiect oedd sicrhau marchnad dai cytbwys i’r ardal

·        o safbwynt arian posibl ar gael o gronfeydd pensiwn, roedd trafodaethau ar y gweill gyda chynrychiolwyr Cronfeydd Pensiwn i annog buddsoddi yn y sir

·        yn darparu dadansoddiad o’r derbyniadau cyfalaf a disgwyliedig ac a grëwyd yn ystod 2012/13 a nodwyd y cais am ddarparu manylion o’r math mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Er nad yw’n rhan o’r eitem cynllun cyfalaf, gofynnwyd cwestiynau am ddyraniad refeniw sydd wedi’i glustnodi ar gyfer ariannu yn y gymuned.  Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol Cwsmeriaid ac Economi ac Uchelgais i’r Gymuned a sefyllfa ddiweddaraf gwaith sydd ar y gweill i sicrhau ymagwedd strategol a dyraniad cyfartal o arian i gyflawni blaenoriaethau tref a chymuned.  Yng ngoleuni sylwadau Aelodau, awgrymodd y Prif Weithredwr fod y mater yn cael ei drafod ymhellach yn y Gweithdy Cyllideb a drefnwyd ar gyfer mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen 2012/13 y cynllun cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 p.m.