Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim eitemau brys. Ar y pwynt hwn,
siaradodd y Cynghorydd Hugh Irving yn ei rôl fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog, i
benderfynu a oedd y Cyngor Llawn yn fodlon derbyn y penderfyniad i gyflwyno
cais i'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ail-ystyried y penderfyniad i uno Catrawd
101- sydd â'u Pencadlys yn Wrecsam ac eiddo'r Uned Adfer ym Mhrestatyn - gyda
Chatrawd 103 sydd wedi'u lleoli yn ne-orllewin Lloegr. Roedd ôl-troed milwrol Gogledd Cymru yn lleihau
ac yn cael effaith ar recriwtio. Eiliodd y
Cynghorydd Dewi Owens y penderfyniad gan egluro ei fod wedi ysgrifennu at y
Brigadydd yn ddiweddar i ystyried dulliau eraill o gadw'r milwyr yn Wrecsam a
Phrestatyn. Cododd pawb eu
dwylo i ddangos eu bod yn cytuno â'r cynnig. |
|
ASESIAD POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU PDF 106 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor Sir ar gyfer Asesiad
Poblogaeth drafft Gogledd Cymru cyn i’r fersiwn derfynol gael ei chynhyrchu
erbyn 1 Ebrill 2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth gyffredinol ynglŷn ag
Asesiad Poblogaeth drafft Gogledd Cymru, a oedd wedi'i gynhyrchu mewn
partneriaeth â phum Awdurdod Lleol arall Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd yn rhaid
i’r Asesiad Poblogaeth gael ei gynhyrchu ar sail gyfreithiol dan Adran 14 o
Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gofal a
Chefnogaeth (Asesiad Poblogaeth) Cymru 2015. Rhaid ei gynhyrchu ar y cyd gan y
chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Pan fydd wedi’i gwblhau, rhaid iddo gael ei
gyhoeddi ar wefan Sir Ddinbych a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Darparodd y
Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol eglurhad manwl i'r Aelodau o'r Asesiad
Poblogaeth. Byddai'r asesiad
poblogaeth yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u datblygu mewn
ffordd effeithlon ac effeithiol gan bartneriaid sector cyhoeddus i hyrwyddo
lles pobl a chanddynt anghenion gofal a chymorth. Cadarnhaodd
Swyddog Strategaeth a Datblygu ei fod wedi cyfrannu at ysgrifennu'r bennod sy'n
ymwneud â phlant a phobl ifanc. Roedd poblogaeth
plant a phobl ifanc wedi aros yn eithaf sefydlog yn ystod y pum mlynedd
diwethaf. Bu cynnydd yn nifer y plant ar
y gofrestr amddiffyn plant a nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Ngogledd
Cymru. Bu cynnydd mewn troseddau seibr
ac erledigaeth hefyd. Yn ystod
trafodaeth fanwl, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Y defnydd o garafanau fel man preswylio gan bobl oedd
wedi'u cofrestru y tu allan i'r sir. Roedd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol
ar wasanaethau presennol e.e. ysbytai, meddygon, ysgolion ac ati. Roedd y braesept wedi'i seilio ar nifer y
bobl sydd wedi'u cofrestru yn y sir.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth:
Datblygu Strategol y byddai'n gwirio'r ystadegau gyda chydweithwyr o ran cadarnhau'r
sefyllfa bresennol. Ar y pwynt hwn,
cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol bod darn o waith
ar y gweill ynglŷn â phobl sy'n byw mewn carafanau a byddai'n sicrhau bod
cydweithwyr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn hysbysu'r Aelodau. Nodwyd hefyd
bod carafanau sengl ar ddarnau o dir gyda phobl yn byw ynddynt a byddai'n rhaid
cynnwys y rhain yn yr archwiliad. ·
Roedd y gwaith sydd ar y gweill rhwng y chwe Awdurdod
Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn am strategaeth y byddai camau'n cael eu
cymryd yn dilyn yr adroddiad hwn. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth:
Datblygu Strategol y byddai'n sicrhau y nodir y newidiadau a bod yr adroddiad
yn gywir o ran hynny. ·
Byddai
gweithio gyda chyn-filwyr yn ofynnol gan fod ganddynt anghenion penodol ac
roedd niferoedd mawr ohonynt yn ddigartref. ·
Mân
droseddau yn cael eu cyflawni gan blant oedran ysgol diamddiffyn rhwng 3pm a
4pm. Cafwyd cais bod ymchwil yn cael ei
gynnal o ran diwedd diwrnod yr ysgol a'r amser yr oedd rhieni yn dychwelyd o'u
gwaith. Cadarnhaodd y Swyddog
Strategaeth a Datblygu y byddai'r cwestiwn yn cael ei adrodd yn ôl i'r
Grŵp Llywio a byddai'r ymateb yn cael ei gynnwys mewn dogfen arall. ·
Yn
ystod y 2 flynedd ddiwethaf, bu gwelliant sylweddol o ran lles gofalwyr
ifanc. Roedd Sir Ddinbych wedi bod yn
gweithio mewn partneriaeth gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, Wrecsam a Chyngor
Conwy, ynghyd â'r Bwrdd Iechyd ac roedd y gwaith yn mynd rhagddo'n dda. · Cytunwyd bod yn rhaid i'r Asesiad fod yn fwy na dogfen llawn geiriau. Byddai'r Asesiad yn hysbysu cynllun ardal Gogledd Cymru yr oedd yn rhaid ei gynhyrchu erbyn 1 Ebrill 2018. Byddai'n rhaid i Sir Ddinbych barhau i weithio gydag Awdurdodau partner, y Bwrdd Iechyd Lleol a'r trydydd sector i gynhyrchu'r cynllun hwn. Anogwyd yr Aelodau hefyd i gyfrannu ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
TRETH Y CYNGOR 2017/18 A MATERION CYSYLLTIEDIG PDF 156 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i bennu lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2017/18 (Atodiad i ddilyn) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian
Thompson Hill adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Tynnodd y
Cynghorydd Thompson-Hill sylw arbennig at: ·
brif
nodweddion y gyllideb fel y cafodd ei chymeradwyo ar 31 Ionawr 2017 ·
sylwadau’r
Prif Swyddog Cyllid ar gryfder yr amcangyfrifon cyllidebol ·
dadansoddiad
o'r praeseptau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chomisiynydd Heddlu a
Throsedd Gogledd Cymru, ac ·
Argymhellion
er mwyn gosod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2017/18. Mynegodd
lleiafrif o'r Aelodau nad oeddent yn cytuno â'r gyfradd a osodwyd ar gyfer
treth y cyngor gan eu bod o'r farn y dylid cyflawni mwy o doriadau i sicrhau
bod Sir Ddinbych yn Awdurdod Lleol darbodus ac effeithlon. Yn dilyn
trafodaeth: PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn unfrydol: (i)
Yn nodi ei bod yn ofynnol i'r Cyngor Sir,
fel yr Awdurdod Bilio, ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd
Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned a chyhoeddi lefelau
Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18. (ii)
yn cymeradwyo'r argymhelliad bod y symiau
a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18, yn unol ag
Adrannau 32 i 34 (1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a'r
Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel adran 3 Atodiad A. (iii)
yn cymeradwyo’r argymhelliad bod y symiau
a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18, yn unol ag
Adrannau 34 (2) i 36 (1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel
Atodiad A adran 4. (iv)
Bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel a’u
cyflwynir yn Atodiad C. (v)
Bod lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth A, B a C
fel y nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau)
(Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 gyda'r
cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau
lleol. |
|
Ar y pwynt hwn (12.10 pm) cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.30 p.m. |
|
CYNLLUN CYFALAF 2016/17 - 2019/20 PDF 266 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i ddarparu Cynllun Cyfalaf wedi’i ddiweddaru i’r
Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, yr adroddiad ar Gynllun Cyfalaf (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y Cynllun Cyfalaf a
ddiweddarwyd, gan gynnwys prosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol. Fis Chwefror 2016
oedd y tro diwethaf i’r Cynllun Cyfalaf gael ei adrodd i’r Cyngor. Roedd
diweddariadau misol wedi eu rhoi i’r Cabinet.
Mae'r Cynllun Cyfalaf amcangyfrifedig bellach yn £38.9 miliwn. Mae'r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ers
adrodd arno i'r Cabinet ar 24 Ionawr 2017. Arweiniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill yr Aelodau drwy'r adroddiad. Eglurodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, bod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol iawn
wedi'i osod yn ystod tymor y cyngor presennol.
Bwriad Sir Ddinbych oedd darparu ysgolion modern, priffyrdd da,
cyfleusterau hamdden a thai gofal ychwanegol.
Roedd wedi bod yn her gadarn yn fewnol.
Mynegodd yr Arweinydd ei ddiolch i'r swyddogion cyllid am eu holl waith
ac fe gadarnhaodd ei fod yn cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad. Ymatebodd y
Cynghorydd Thompson-Hill i gwestiynau a godwyd ynghylch gwahanol agweddau ar y
Cynllun Cyfalaf. Roedd prif feysydd
trafod yn canolbwyntio ar y canlynol - ·
Holodd
y Cynghorydd Stuart Davies am yr arian sy'n cael ei wario yn y Rhyl, yn enwedig
ar gyfer Canolfan Ddyfrol y Rhyl.
Cadarnhawyd bod Cyngor Tref y Rhyl yn cefnogi'r prosiect gyda chyfraniad
o £2 filiwn tuag at y cynllun yn yr un modd ag yr oedd Cyngor Tref Prestatyn
wedi cefnogi'r Scala drwy gyfrannu £1.1 miliwn. Ymatebodd y Cynghorydd Davies y
dylid codi praeseptau'r Cyngor Tref ymhellach i ariannu'r prosiect. ·
Ystadau
Amaethyddol - roedd y cyngor yn berchen ar nifer o unedau ac mae ganddynt
strategaeth lle bo gan denantiaid hawl i gynnig prynu rhan neu'r holl
adeiladau, ac roedd rhai o'r derbyniadau cyfalaf o ganlyniad i werthiannau a
gwblhawyd. Mynegodd yr
Aelodau eu diolch i'r Pennaeth Cyllid, Richard Weigh a'i dîm, ynghyd â'r Aelod
Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am eu holl waith caled. PENDERFYNWYD: ·
Bod Aelodau yn nodi’r diweddaraf ar elfen
Cynllun Cyfalaf 2016/17 a’r diweddariad ar brosiectau mawr. ·
Bod yr Aelodau'n cefnogi argymhelliad y Grŵp
Buddsoddi Strategol fel y nodir yn Atodiad 5 a chrynhoir yn Atodiad 6. ·
Cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2017/18. |
|
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth Cyngor Sir o’r DSRhT a’r Dangosyddion
Darbodus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad, yr Adroddiad Strategaeth Rheoli Trysorlys (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Datganiad
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (DSRhT) ar gyfer 2017/18 a gosod Dangosyddion
Darbodus 2017/18 hyd at 2019/20. Mae Cod Ymarfer y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli Trysorlys yn
gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r DSRhT a'r Dangosyddion Darbodus yn
flynyddol.
PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cymeradwyo: ·
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar
gyfer 2017/18 a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad. ·
Gosod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2017/18,
2018/19 a 2019/20 a fanylir yn Atodiad 1 Ychwanegiad A yr adroddiad ·
Y Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw
fel y manylir yn Atodiad 1 Adran 6 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 369 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd eisoes). Hysbysodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yr Aelodau y
cynhelir cyfarfod Briffio'r Cyngor ar 6 Mawrth 2017. Roedd y dyddiad 4
Ebrill 2017 ar gyfer y Cyngor Llawn yn cael ei gadw'n rhydd oni bai bo materion
brys yn codi. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.40 pm. |