Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Glenn Swingler fudd personol yn Eitem 5. Datganodd y
Cynghorwyr Cheryl Williams, Ellie Chard, Martyn Holland, Julian Thompson-Hill
fuddiannau personol yn Eitem 8 gan eu bod yn aelodau ar y Cydbwyllgor
Ymgynghorol Lleol a’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Yn y man hwn,
cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
nad oedd angen iddynt ddatgan fudd personol gan fod y Cydbwyllgor Ymgynghorol
Lleol yn Bwyllgor o’r Cyngor ac, felly, nid oedd ganddynt fudd i’w ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. Yn y man hwn,
rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y byddai dau gwestiwn yn cael eu rhoi gerbron fel a
ganlyn: (i)
Anfonodd
Miss Talulah Thomas o Langollen y cwestiwn canlynol i mewn ond nid oedd hi’n
gallu mynychu mewn person. Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd ymlaen i ddarllen y cwestiwn ar ran Miss Thomas yn ei
habsenoldeb: “A wnaiff
deilydd perthnasol y portffolio esbonio pa gamau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i
sicrhau bod y disgyblion yn ysgolion y sir yn derbyn y gofal iechyd meddwl
angenrheidiol, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i ddynodi unrhyw anhwylderau
iechyd meddwl yn ddigon cynnar?” Ymateb
yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts: “Saif
cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol ar iechyd meddwl gyda CAMHS (Gwasanaeth Iechyd
Meddwl Plant a’r Glasoed). Fodd bynnag, fel Awdurdod, rydym yn cefnogi’r gwaith
hwn, gan weithio ochr yn ochr â nhw gyda’n pobl ifanc mewn ysgolion. Sut
ydym yn gwneud hyn? Rydym yn defnyddio PASS (agwedd disgyblion tuag at eu
hunain a’r ysgol) i werthuso hunan-barch ac iechyd emosiynol y disgyblion yn yr
ysgol a pha gyfleoedd sydd i’r ysgol ymyrryd os oes unrhyw faterion ar y cam
hwnnw. Yn ogystal, fel awdurdod, rydym yn darparu hyfforddiant ELSA
(Cynorthwyydd Cymorth Emosiynol a Llythrennedd) i gynorthwywyr addysgu mewn
ysgolion i gyflawni ymyriadau iechyd emosiynol ar ddisgyblion unigol a grwpiau
o ddisgyblion y dynodwyd bod angen y cymorth hwn arnynt. Gweithia’r
Awdurdod gyda CAMHS i hwyluso hyfforddiant i ysgolion, cynnal ymyriadau ar
gyfer pethau fel profedigaeth a cholled a “meddwl yn dda, teimlo’n dda” sy’n
ymyriad ymddygiadol ar lefel ysgol. Mae’r
Awdurdod yn darparu mynediad i’r gwasanaeth seicoleg addysg. Yn ogystal,
cynigia’r Awdurdod gwnsela yn yr ysgol yn ein hysgolion uwchradd ac i oedran
blwyddyn 6. Mae’r Awdurdod yn darparu gwasanaeth therapiwtig i
ddisgyblion. Gweithia’r
Awdurdod yn helaeth gyda CAMHS ar y llwybr atal hunan-anafu a hunanladdiad i hyfforddi grwpiau a staff ym
mhob lleoliad uwchradd. Mae’r hyfforddiant yn darparu protocol clir ar gyfer y
staff ysgol hyfforddedig i gysylltu â CAMHS i bob disgybl unigol y dynodir eu
bod yn hunan-anafu neu’n hunanleiddiol i risg penodol ac i greu cynlluniau
diogelwch a phenderfynu ar y dull o ymyrryd gyda CAMHS. Mae
swm aruthrol o waith yn cael ei wneud yn hyn o beth ac rydym yn cydnabod pa mor
bwysig yw hi ac rydym yn sicrhau ein bod ni’n rhoi’r plentyn flaenaf bob amser.
Os hoffai Ms Thomas ragor o wybodaeth, byddai’r swyddogion a minnau’n hapus i
gyfarfod â hi.” (ii)
Cododd y Cynghorydd Graham Timms y cwestiwn canlynol: “Allwch chi ddiweddaru’r aelodau
ynghylch bwriadau’r Cyngor ar gyfer Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y mae
disgwyl iddo ddechrau ym mis Ebrill 2019 o ran ei amserlen a’i gwmpas?” Ymateb yr Aelod
Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts: “Bydd Band B - rhaglen Ysgolion yr
21ain Ganrif yn rhedeg am 7 mlynedd o 2019. Yn 2017, cymeradwyodd y Cabinet
gyflwyniad Band B i Lywodraeth Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddynt ym mis
Tachwedd 2017. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth
Cymru ym mis Tachwedd, ddiwygiadau i’r gyfundrefn gyllido sy’n cynyddu canran y
cyfraniad gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, bydd y cyfraniad yn parhau’r un
fath. Golyga hyn fod rhaglen Sir Ddinbych yn debygol o gael gwerth cyffredinol
is na’r rhaglen yn ôl yn 2017. Gofynnwyd i swyddogion ailastudio lle gallai’r
gwaith cwmpas gwreiddiol a wnaed gennym gael ei adolygu. Gwaith dichonoldeb sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ar astudio adeiladau ysgolion yn ardal Dinbych a’r sector cynradd yn ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 241 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd
rhestr o’r ymrwymiadau dinesig a gyflawnwyd gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd am
y cyfnod 25 Ionawr 2019 i 15 Mawrth 2019 cyn y cyfarfod. Tynnodd y
Cadeirydd sylw at dri digwyddiad: (i)
Cinio
Elusennol y Cadeirydd (ii)
Noson
Ragarddangos yn Amgueddfa Corwen, ac (iii)
Agoriad
Gwesty Travelodge Glan Môr y Rhyl. Ymddiheurodd yr
Is-gadeirydd oherwydd na fynychodd Gyngerdd Elusennol Maer Rhuddlan ar 9
Chwefror 2019 oherwydd salwch. PENDERFYNWYD
derbyn rhestr yr ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan y Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar: (i)
29
Ionawr 2019 (copi ynghlwm); (ii)
19
Chwefror 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 ac 19 Chwefror 2019. Cywirdeb: Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylai ddarllen “Awdurdod Tân” ac nid “Bwrdd
yr Awdurdod Tân” ar dudalen 12 (Eitem 8). Datganodd y
Cynghorydd Davies hefyd fod anghysondeb rhwng fersiwn Cymraeg a Saesneg y
cofnodion. Ar dudalen 11, roedd pwynt bwled y fersiwn Saesneg yn dweud “Schools
to find 2% cuts was raised....”. Nid oedd y paragraff wedi’i gyfieithu’n llawn
yn y fersiwn Gymraeg. Roedd anghysondeb
hefyd ar dudalen 10 gan fod pwynt bwled y fersiwn Saesneg “Schools savings of
2% (£1.3 million) yn gywir ond roedd yn datgan (£13miliwn) yn y Gymraeg a oedd yn anghywir. Materion yn Codi: Tudalen 9 (Eitem
6) – Holodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ynghylch a fyddai unrhyw gyllid
ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru? Holodd hefyd petai gan rai adrannau
tanwariant, a fyddai’r arian hynny’n cael ei gario ymlaen? Cadarnhaodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill y byddai’r papur Alldro Refeniw blynyddol yn cael ei
gyflwyno yn y Cabinet ym mis Mehefin 2019 ac y byddai’n delio ag unrhyw
danwariant mewn gwasanaethau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Cadarnhaodd
hefyd nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol sylweddol wedi dod i law. Ar hyn o bryd,
datganodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Priffyrdd, Cynllunio a Theithio
Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian Jones, eu bod wedi gwneud cais am gyllid
ychwanegol o fewn ei bortffolio ond iddynt fod yn aflwyddiannus yn y cais. Tudalen 10 – y
Cynghorydd Rhys Thomas – ychwanegu £100miliwn i’r gwasanaethau atal
digartrefedd – faint ohono fydd yn cael ei glustnodi i Sir Ddinbych? Datganodd
y byddai ymateb ysgrifenedig yn iawn. Cadarnhaodd yr
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth fod y £100miliwn i Gymru gyfan ac y byddai
Sir Ddinbych yn cael dyraniad pro rata trwy’r Grŵp Cefnogi Pobl. Datganodd y
Cynghorydd Glenn Swingler fudd personol gan ei fod yn llywodraethwr ysgol. Tudalen 11 (Eitem
6) – Mynegodd y Cynghorydd Glenn Swingler bryder mewn perthynas â’r toriad o 2%
yr oedd disgwyl i ysgolion ei ganfod. Esboniodd y trafferthion y byddai’r
ysgolion yn eu cael yn gwneud yr arbediad hwn. Mynegodd ofid hefyd am safon yr
addysg i blant petai toriadau pellach yn parhau i gael eu gwneud. Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc yn ystod y blynyddoedd
diwethaf fod addysg wedi’i gwarchod, er gwaetha’r toriadau gan Lywodraeth
Cymru. Cynhaliwyd cyfathrebiadau gyda Chadeiryddion y Llywodraethwyr a’r
Penaethiaid oedd wedi ymroi i ganfod yr arbedion o 2%. Rhoddwyd sicrwydd na
fyddai’r toriadau’n andwyol i addysg plant. Tudalen 12 (Eitem
7) – Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas i ddata gael ei ddarparu iddo mewn
perthynas ag ymadawyr gofal oedd yn atebol i dalu’r dreth gyngor. Roedd pump
ymadawr gofal, dau ohonynt yn byw yn Sir Ddinbych. Gofynnodd y Cynghorydd
Thomas a gafwyd unrhyw symudiadau ar raddfa genedlaethol i sicrhau bod ymadawyr
gofal yn cael eu heithrio rhag talu’r dreth gyngor. Cadarnhaodd y byddai ymateb
ysgrifenedig yn ddigonol. Tudalen 13 (Eitem
9) – Cododd y Cyngorydd Gwyneth Kensler mater effaith botensial Brexit ar
economi leol Sir Ddinbych oherwydd y materion yn San Steffan ar hyn o bryd. Rhoddodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts wybod i’r Cyngor y byddai cyllid mewn perthynas
ag urddas adeg mislif yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ond ni wyddai
ar hyn o bryd faint o ddyraniad fyddai ar gael i Sir Ddinbych. Tudalen 17 (Etiem 3) – Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei ddiolchgarwch i Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian Jones, am anfon ymateb ysgrifenedig at ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
TREFNIADAU AR GYFER ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD PDF 271 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi
ynghlwm) sy’n argymell bod y Cyngor yn cytuno i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd
arfaethedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/2020 gael eu hethol yn ffurfiol yng
nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 14 Mai 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ceisio cytundeb i
Gadeirydd ac Is-gadeirydd arfaethedig y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn 2019/2020
y Cyngor gael eu hethol yn ffurfiol yng
nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 14 Mai 2019. Cadarnhawyd y byddai’r Is-gadeirydd cyfredol, y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies, yn dod yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor a bydd
etholiad ffurfiol y Cadeirydd yn digwydd yn y Cyngor Blynyddol i’w gynnal ar 14
Mai 2019. Ethol Is-gadeirydd: Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Thomas y Cynghorydd Arwel Roberts, a eiliwyd
gan y Cynghorydd David Williams, i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn
2019/2020 y Cyngor. Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Alan James, a eiliwyd
gan y Cynghorydd Huw Williams, i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn
2019/2020 y Cyngor. Cynhaliwyd ail bleidlais ar gyfer yr Is-gadeirydd arfaethedig. 11 pleidlais i’r Cynghorydd Arwel Roberts 28 pleidlais i’r Cynghorydd Alan James Enwebwyd y Cynghorydd Alan James fel yr Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn
2019/2020 y Cyngor. Diolchodd y Cynghorydd James i’r Aelodau am eu cefnogaeth a chafodd ei
longyfarch ar ei enwebiad. PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd Meirick
Lloyd Davies yn cael ei gynnig yn Gadeirydd a’r Cynghorydd Alan James yn cael
ei gynnig yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor a
fyddai’n cael eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 14 Mai
2019. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION Y PWYLLGORAU CRAFFU PDF 281 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n ceisio
penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol, y Cynghorydd Mark Young, yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Cyngor ystyried newidiadau mewn
cydbwysedd gwleidyddol yn unol â’r gofynion statudol a bod yn ymwybodol o’r
ffordd mae trefniadau cadeirio a thâl Craffu’n gweithio. Roedd disgwyl i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gyfarfod y diwrnod canlynol (29 Mawrth) a
chafodd aelodaeth o’r pwyllgor hwnnw ei chynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad. Roedd disgwyl i
Adroddiad Blynyddol y Panel Taliadau Annibynnol ar gyflogau’r aelodau ar gyfer
2019/2020 gael ei drafod yng nghyfarfod y Gwasanaethau Democrataidd. Cytunwyd y byddai
Arweinwyr y Grwpiau’n cysylltu â’u haelodau ac yna’n cyfarfod gyda Rheolwr y
Gwasanaethau Democrataidd gyda’u dewisiadau. PENDERFYNWYD
bod: (i)
Y Cyngor yn ailbenodi’r Cadeirydd ac
aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y
Cyngor fel y gosodwyd yn Atodiad 2 yn amodol ar unrhyw newidiadau a wnaed gan y
grwpiau gwleidyddol trwy ymgynghori â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, a
bod (ii)
Y Cyngor yn nodi’r trefniadau cydbwysedd
gwleidyddol er mwyn dyrannu seddau’r pwyllgor. |
|
CYDBWYLLGOR YMGYNGHORI AR IECHYD A DIOGELWCH A CHYSYLLTIADAU GWEITHWYR PDF 198 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n ceisio
cymeradwyaeth i sefydlu Pwyllgor newydd a chymeradwyo ei gylch gorchwyl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Safonau Corfforaethol, y Cynghorydd Mark Young, yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i greu
un pwyllgor ar gyfer Adnoddau Dynol a materion iechyd, diogelwch a lles
corfforaethol. Enw arfaethedig y pwyllgor newydd oedd y Cydbwyllgor Ymgynghorol
ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr. Ar hyn o bryd,
roedd dau bwyllgor – y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol a’r Pwyllgor Iechyd,
Diogelwch a Lles Corfforaethol. Cafwyd anawsterau parhaus wrth gyflawni cworwm
mewn cyfarfodydd gyda llawer yn cael eu cynnal yn anffurfiol yn sgil diffyg
cworwm neu oherwydd eu bod wedi’u canslo. Trafodwyd y
cynnig i uno’r pwyllgorau ymgynghorol staff presennol ac fe’u cymeradwywyd yn
unfrydol mewn cyfarfodydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol a’r Pwyllgor Iechyd,
Diogelwch a Lles Corfforaethol ac mewn cyfarfod Adnoddau Dynol ar y Cyd
Corfforaethol/Undeb Llafur. Yn y man hwn,
diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r staff a’r undebau llafur gan fod cryn dipyn o
waith wedi mynd i uno’r ddau bwyllgor. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cymeradwyo: (i)
Sefydlu’r Cydbwyllgor Ymgynghorol ar gyfer
Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr; (ii)
Terfynu’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol
a’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol presennol; a’r (iii)
Cylch gorchwyl ar gyfer y Cydbwyllgor
Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr. |
|
CYFLEUSTER GWAREDU DAEAREGOL - PAPUR YMGYNGHORI AR Y GWERTHUSIAD SAFLE PDF 286 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi
ynghlwm) sy’n ceisio barn yr Aelodau am y materion a godwyd yn y papur
ymgynghori cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Rheoleiddio Tai a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony
Thomas, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i geisio safbwyntiau’r
Aelodau ar y materion a godwyd gan bapur ymgynghori’r cyhoedd er mwyn gellir
drafftio ymateb iddo ar ran y Cyngor. Ym mis Mai 2015,
yn dilyn adolygiad polisi ac ymgynghoriad cyhoeddus, mabwysiadodd Llywodraeth
Cymru bolisi’n cefnogi gwaredu daearegol ar gyfer rheolaeth tymor hir gwastraff
ymbelydrol gweithgarwch uwch. Mae gwaredu daearegol yn golygu gosod gwastraff
ymbelydrol yn ddwfn o dan y ddaear i sicrhau bod deunyddiau peryglus yn cael eu
cadw i ffwrdd wrth bobl a’r amgylchedd trwy ynysu a chynnwys y gwastraff mewn
amgylchedd daearegol addas am yr amser angenrheidiol i’r ymbelydredd sy’n
gysylltiedig â nhw ostwng yn naturiol. Ar ôl mabwysiadu
gwaredu daearegol, ymunodd Llywodraeth Cymru â rhaglen, a ariennir gan
Lywodraeth y DU, i geisio cael un cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer
gwastraff ymbelydrol gweithgarwch uwch gan Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Byddai’r rhaglen yn cael ei chyflawni gan Radioactive Waste Management Ltd
(RWM), sef is-gwmni’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Polisi
Llywodraeth Cymru oedd y gellid ond mynd ar drywydd cyfleuster gwaredu
daearegol petai cymuned yn fodlon ei gynnal. Yn dilyn ymgymgynhoriad pellach ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru ddatganiad polisi’n gosod yr amlinelliad bras o’r trefniadau ar gyfer
gweithio gyda darpar gymunedau cynnal yng Nghymru. Darparodd y polisi ar gyfer
Cyllid Buddsoddi Cymunedol. Ar ôl i Bartneriaeth Gymunedol gael ei ffurfio,
byddai’n gallu gwneud cais am Gyllid Buddsoddi Cymunedol a fyddai i fyny at
£1miliwn y flwyddyn yn ystod rhan gyntaf y broses leoli, gan godi i £2.5 miliwn
y flwyddyn mewn ardaloedd sy’n symud i ymchwiliadau manylach fel tyllau turio
dwfn i asesu addasrwydd daearegol safle. Gallai’r broses werthuso gymryd hyd at
20 mlynedd, gyda’r cam cyntaf yn cymryd 5 mlynedd a’r ymchwiliadau manylach hyd
at 15 mlynedd. Yn ystod y
trafodaethau, siaradodd nifer o aelodau yn erbyn ystyried unrhyw gyfleuster o’r
fath a’r consensws barn oedd nad oedd cefnogaeth i gael y fath gyfleuster yn
Sir Ddinbych. Awgrymwyd, yn
ogystal ag anfon ymateb gan Sir Ddinbych yn unig, efallai y gallai ymateb
rhanbarthol gael ei goladu a’i anfon. Cadarnhawyd y byddai Awdurdodau Lleol
eraill yn cael eu cysylltu â nhw mewn perthynas ag ymateb rhanbarthol ond roedd
angen rhoi’r ymateb erbyn 12 Ebrill 2019.
Cadarnhawyd nad
oedd unrhyw sylwadau ar y broses ac na fyddai’r Cyngor yn fodlon ymgysylltu yn
yr ymgynghoriad o ran sut i werthuso safleoedd. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn ystyried ac yn rhoi sylwadau ar gynnwys y papur ymgynghori oedd
yn dwyn y teitl “Gwerthusiad Safle – Sut byddwn yn gwerthuso safleoedd yng
Nghymru” ac awdurdodi’r Aelod Arweiniol i gymeradwyo, trwy ymgynghori ag
Arweinwyr Grŵp,
ymateb ar ran y Cyngor. |
|
CYFLOG UWCH SWYDDOGION PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Cyngor
gymeradwyo’r newid yng nghyflog y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol
o SLT1 i SLT2. Cafodd cyflog
swydd y Pennaeth Priffyrdd ac Amgylchedd ei ailwerthuso gan KornFerry Hay
Group. Hay oedd y cynllun gwerthuso swyddi yr oedd y Cyngor wedi’i fabwysiadu i
werthuso swydd pob uwch swyddog. Adolygwyd y
wybodaeth gan KornFerry Hay Group ac fe werthuswyd cyfanswm maint y swydd fel
904. Yr ystod
pwyntiau ar gyfer SLT2 oedd 801-1100.
Cyflwynwyd y canlyniad i Banel Cyflog SLT oedd yn cytuno â’r canlyniad
fel y manwylwyd yn y cofnodion dyddiedig 26 Medi 2018. Wedyn, cyflwynwyd
y cynnig i Banel Adolygu Annibynnol Cymru i’w ystyried. Atebodd y Panel gan
ddatgan eu bod yn hapus â’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd. Yn dilyn
trafodaeth gryno: PENDERFYNWYD
bod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo’r newid i lefel cyflog y Pennaeth Gwasanaethau
Priffyrdd ac Amgylcheddol o SLT1 i SLT2 yn unol ag ailwerthusiad KornFerry Hay
Group. |
|
ADOLYGIAD O'R POLISI TÂL BLYNYDDOL PDF 489 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arbenigwr AD – Tâl a Gwobrwyo (copi ynghlwm) sy’n ceisio
cytundeb y Cyngor i'r newidiadau i'r Polisi Tâl ar gyfer 2019/20. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i geisio
cymeradwyaeth y Cyngor o’r newidiadau i Bolisi Tâl 2019/2020 a ddrafftiwyd yn
unol â gofynion 38 (1) Deddf Lleoliaeth 2011 ac a ymgorfforodd yr holl
drefniadau tâl presennol ar gyfer grwpiau’r gweithlu yn y Cyngor, gan gynnwys
Prif Swyddogion a’r gweithwyr isaf o ran cyflog. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor Llawn yn cytuno’r newidiadau i’r Polisi Tâl ar gyfer 2019/2020. |
|
RHYBUDD O GYNNIG Rhybudd o Gynnig a
gyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: “Mae’r Cyngor hwn yn galw am gefnogaeth ariannol ychwanegol i dargedu
ymyrraeth gynnar all rwystro teuluoedd rhag digartrefedd fel opsiwn amgen i’r gwariant
uchel sydd ei angen i ddarparu llety dros dro i deuluoedd sydd eisoes yn
ddigartref. Dyfeisio strategaeth a’i chyflwyno i’r Cyngor o fewn 3 mis er mwyn
cyflawni’r nod hwn”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn y man hwn,
datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas, y byddai’n tynnu’r Rhybudd o Gynnig a
roddwyd gerbron y Cyngor Llawn yn ôl. Cymerodd y cyfle
i ddiolch i’r Adran Tai a’r Tîm Digartrefedd am yr holl waith caled a wnaed
ganddynt. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 329 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol) Canslwyd y
cyfarfod oedd i ddigwydd ar 9 Ebrill i ystyried yr CDLl. 14 Mai 2019 – Cyngor Blynyddol: ·
Cytundeb
Llywodraethu 2 Cais Twf y Gogledd – nid yw’n barod felly bydd yn cael ei roi
gerbron mewn cyfarfod i’r dyfodol. ·
Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Safonau – i’w gohirio tan cyfarfod mis Gorffennaf. ·
Bydd
yr CDLl yn cael ei gyflwyno yn dilyn y seremoni Ddinesig. ·
ADM
Hamdden – posibl symud hwn i gyfarfod ar wahân oherwydd na fyddai’r Aelod
Arweiniol, y Cynghorydd Bobby Feeley yn gallu mynychu’r Cyngor Blynyddol ar y
dyddiad hwnnw oherwydd ei fod i ffwrdd ar wyliau. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor. |
|
Clôdd y cyfarfod am 11.55 a.m. |