Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1B, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Jason McLellan, Stuart Davies a Mr Paul Whitham gysylltiad personol
yn Eitem 10 ar yr Agenda, Rheolaeth Ariannol o Ysgolion. |
|
Materion Brys Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni
chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod
fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr,
2014. Cofnodion: Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2014. Materion
yn codi:- 8. Cynllun Gwella
Llywodraethu - Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, eglurwyd bod
ystyriaeth wedi’i roi i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn Ebrill 2015 yng nghyfarfod o'r Cyngor i gyd-fynd â diwedd y
flwyddyn ddinesig a chyflwyno Adroddiadau Blynyddol gan y Pwyllgorau Archwilio
priodol. Nododd yr aelodau mai dyma Adroddiad
Blynyddol cyntaf y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i gael ei gyflwyno i'r
Cyngor. 8. Rhaglen Waith
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, 26 Mawrth, 2015 - Mewn ymateb i amheuon a
godwyd gan y Cynghorydd S.A. Davies, a chadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau’r
Gyfraith, AD a Democratiaeth eu bod wedi cytuno i baratoi nodyn gwybodaeth y
gellid ei gyflwyno i gyfarfod y gweithdy cyllideb i'w ystyried.
Eglurodd y Cadeirydd y byddai cyflwyno’r wybodaeth i'r
Grŵp Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion yn fecanwaith ar gyfer cychwyn y
broses.
Mewn
ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Davies ynghylch y lefel gynyddol o
gyfraniadau cyllid sydd ei angen gan y Cyngor i'r cynllun pensiwn, fe
gadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democratiaeth ei fod yn
gynllun statudol wedi’i nodi yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
2013 gyda gwraidd y pŵer yn y Ddeddf Blwydd-daliadau, a rhoddodd grynodeb
byr o gynnwys y Ddeddf. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau’r
Gyfraith, AD a Democratiaeth fod y Prif Weithredwr wedi gofyn iddo roi
cyflwyniad i’r gweithdy cyllideb, ac fe awgrymodd y gellid cynnwys adroddiad
ariannol ar y gronfa bensiwn o ran ei sefyllfa ariannol bresennol a'r
trefniadau llywodraethu ar gyfer y gronfa. C
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democratiaeth yn ôl y
gyfraith na fyddai'r Cyngor Sir na Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddylanwadu
ar y mater. Amlygodd
y Cynghorydd Davies yr angen i gyflwyno sylwadau i’r Llywodraeth Ganolog ac i
CLlLC, ac awgrymodd y Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democratiaeth y
gallai’r cam gweithredu hwn gael ei godi mewn gweithdy cyllideb.
Mynegodd y Cynghorydd Davies y farn y dylid cyflwyno
sylwadau, ynghylch â’r pryderon dynwyd sylw atynt ar lefel genedlaethol, ac i
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a oedd eisoes wedi cydnabod bod yna faterion
sy'n achosi pryder. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd P.C. Duffy, cytunodd y Pennaeth
Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democratiaeth i gael eglurhad ynghylch
aelodaeth Aelodau Etholedig i'r cynllun
pensiwn. 9. Diweddariad ar y
Taliad Ariannol i’r Rhai sy'n Gadael Gofal – fe esboniodd Mr P. Whitham nad
oedd wedi’i fodloni â’r esboniad a roddwyd yn y cyfarfod mewn perthynas â'r
diffyg cynnydd. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai
adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2015 pan
fyddai'r mater yn cael ei graffu yn drylwyr. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol (copi
ynghlwm) sy'n nodi'r materion allweddol sy'n codi o werthusiad Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych yn 2013-14. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Copi o adroddiad wedi’i ddosbarthu’n flaenorol gan Gyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n nodi'r materion allweddol sy'n codi o werthusiad
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn 2013-14. Mae copi o'r
gwerthusiad llawn wedi ei gynnwys fel Atodiad I. Croesawodd y Cadeirydd Mr Hugh Morgan, Rheolwr Ardal ar gyfer AGGCC
(RHAAGGCC), a’r Prif Reolwr - Cymorth Busnes i'r cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwerthusiad perfformiad ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol gan gynnwys meysydd cynnydd, meysydd i'w gwella a risg. Bob blwyddyn
mae AGGCC wedi cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o berfformiad Gwasanaethau
Cymdeithasol pob Awdurdod Lleol. Mae'r gwerthusiad yn cwmpasu ystod eang o
dystiolaeth, gan gynnwys: adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol ar berfformiad a chynlluniau ar gyfer gwella yn ei ardal awdurdod
lleol; gwaith rheoleiddio’r AGGCC; a barn archwilwyr ac arolygwyr eraill. Mae'r
gwerthusiad yn cael ei gymedroli i sicrhau dull cyson, tryloyw a chymesur. Mae gwerthusiad o Wasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych wedi amlygu bod
eglurder a ffocws yn yr adroddiad sy'n amlinellu'r cyfeiriad ar gyfer gofal
cymdeithasol yn Sir Ddinbych ac yn arbennig y canlynol: ·
mae tystiolaeth
amlwg o gymryd ymagwedd strategol i ateb yr heriau demograffig ·
mae'r Cyngor wedi gweithredu modelau arloesol o ymarfer a
datblygu partneriaethau integredig ·
mae tystiolaeth o archwilio amlwg yn enwedig drwy heriau
gwasanaeth a thrwy wrando ar farn pobl gan danseilio’r rhaglen moderneiddio ·
ymrwymiad cryf a blaen gynllunio o ran yr iaith Gymraeg ·
mae perfformiad y gwasanaeth yn gryf Mae nifer o feysydd penodol i'w gwella wedi cael eu
nodi yn yr adroddiad. Bydd cynnydd y Cyngor mewn perthynas â'r rhain yn
cael eu trafod yn ystod cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Uwch Dîm Rheoli a'r
AGGCC. Y meysydd ar gyfer camau dilynol gan yr AGGCC y
flwyddyn nesaf yw: ·
Effaith newidiadau i isadeiledd POVA (Amddiffyn Oedolion
Diamddiffyn) ·
Sefydlu dull ymchwil trylwyr i gael gafael ar ac i ymateb
i farn plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ·
Gwella ansawdd y ddarpariaeth a'r canlyniadau ar gyfer
plant sy'n derbyn gofal Mae Atodiad
II yn rhoi trosolwg o'r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella yn y gwerthusiad
perfformiad, ac yn rhoi gwybodaeth ar sut oedd y Cyngor yn ymateb i'r meysydd a
nodwyd ar gyfer gwella.
Mae’r meysydd sydd angen gwelliant yn unol â
hunanasesiad y Cyfarwyddwr ac wedi cael eu hymgorffori yn y Cynlluniau Busnes
Gwasanaeth ar gyfer 2014-15. Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu monitro yn
ffurfiol bob chwarter gan y gwasanaethau, ac adroddir ar lawer o elfennau
ddwywaith y flwyddyn i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad a’r Cabinet gan eu bod
yn ffurfio rhan o'r Cynllun Corfforaethol. Hefyd, mae gan bob
gwasanaeth Her Perfformiad Gwasanaeth blynyddol sy'n archwilio cynnydd yn erbyn
Cynlluniau Busnes Gwasanaethau. Gwnaed cynnydd sylweddol yn erbyn y meysydd i'w gwella a amlygwyd yn adroddiad gwerthuso perfformiad 2011-12. Fodd bynnag,
cydnabyddir nad yw cynnydd wedi bod mor sylweddol ag y rhagwelwyd mewn perthynas
â pherfformiad sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal. Mae'n bwysig
tynnu sylw at y gwelliannau sylweddol sydd wedi cael eu gwneud ers yr arolygiad
gyda 100% o lwyddiant mewn meysydd allweddol. Cyflwynodd yr RHAAGGCC a chrynhoi Adroddiad Gwerthuso Perfformiad AGGCC ac
amlygwyd y pwyntiau amlycaf canlynol: - -
Cydnabuwyd bod y Cyngor wedi cymryd rhan mewn cynllun
moderneiddio strategol pum mlynedd, a bod y newidiadau sylweddol sy'n deillio
wedi’u nodi a bod y darpariaeth gwasanaeth yn cael ei ail-lunio. -
Roedd lefel dda o graffu drwy'r broses Herio Gwasanaeth. -
Nodwyd meysydd o gryfder, a thri maes allweddol oedd
angen eu gwella wedi'u nodi: - (i)
Y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gwrando ac yn ymateb,
cyfeirio at y data a gasglwyd. (ii) Pryderon sy'n ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROSES Y GYLLIDEB 2015/16 – 2016/17 PDF 93 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi wedi’i amgáu) sy'n rhoi
diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad ac atodiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cyllid ac Asedau yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb
refeniw ar gyfer 2015/16, wedi ei ddosbarthu eisoes. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau yr adroddiad ac eglurodd fod y
broses gyllideb wedi symud i Gam 3 gan ganolbwyntio ar gwblhau cyllideb 2015/16. Mae Atodiad 1
yn rhoi darlun o'r broses gyllideb. Byddai'r broses yn
dychwelyd i ystyried cyllideb 2016/17 gyda gweithdai cyllideb ar gyfer Aelodau
wedi’u trefnu i ganolbwyntio ar gynigion arbedion ym mis Chwefror a mis Mawrth
2015, a Cham 4 fyddai hyn. Y bwlch yn y gyllideb a ragwelir ar gyfer 2016/17
oedd tua £8.8m, ac arbedion o £2.7m wedi eu cymeradwyo fel rhan o'r broses
bresennol gan adael bwlch o tua £6.1m. Mae tabl wedi'i ddiweddaru o'r digwyddiadau allweddol yn y broses hyd at y
diwedd (Mawrth 2015) wedi’i gynnwys fel Atodiad 2. Bydd dyddiadau a manylion
pellach yn cael eu hychwanegu yn dilyn sesiwn gyllideb wedi’i drefnu gyda
Therapi Iaith a Lleferydd ym mis Chwefror. Mae adroddiad a
gymeradwywyd gan y Cabinet ar 13 Ionawr, 2015, a oedd yn nodi argymhellion i
gael eu gwneud i'r Cyngor ar 3 Chwefror, wedi eu cynnwys fel Atodiad 3.
Eglurodd y Prif Gyfrifydd y bu mân newidiadau i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r
Cabinet a oedd yn cynnwys dadansoddiad pellach o lefelau treth y cyngor ar draws
Gogledd Cymru, a sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn y cyfarfod Cydbwyllgor
Ymgynghorol Lleol a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, 2015. Roedd yr adroddiad yn nodi cynigion i gydbwyso'r
gyllideb 2015/16, gan gynnwys codi Treth y Cyngor ar gyfartaledd o 2.75%, sef y
lefel tybiedig yng nghynlluniau cyllideb y Cyngor, a'r defnydd o falansau
cyffredinol. Yn dilyn y gweithdy gyllideb ym mis Rhagfyr, mae
hefyd yn cynnwys argymhelliad ffurfiol i flaenoriaethu’r broses gyflawni'r
Cynllun Corfforaethol yn y rowndiau cyllideb yn y dyfodol. Mae'r adroddiad
i'r Cyngor ym mis Rhagfyr wedi tynnu sylw at y broses ymgynghori sylweddol ac
mae’r manylion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â manylion o risgiau a
chamau gweithredu posibl i ddirymu ac ymdrin â hwy. Tynodd y Prif Gyfrifydd sylw'r Aelodau at Adran 10 o'r adroddiad, a oedd yn
cynnwys risgiau penodol y cyfeiriwyd atynt gan Mr P. Whitham yn y cyfarfod
blaenorol. Eglurodd y byddai’r UDA yn ystyried y materion
penodol, ac yn gweithredu’r cynilion yn gyffredinol mewn cyfarfod a drefnwyd ar
gyfer 5 Chwefror 2015. Mae'r Prif Gyfrifydd wedi cadarnhau y byddai adroddiad o
ganlyniad y cyfarfod yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Yn ystod y drafodaeth fe fynegodd Mr Whitham ei
werthfawrogiad i gynnwys risgiau yn yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Prif Gyfrifydd y
byddai proses y gyllideb ar gyfer 2016/17 yn dechrau ym mis Chwefror, 2015.
Fodd bynnag, eglurodd fod rhai o'r cynigion eisoes wedi’u cytuno a rhoddodd
grynodeb byr o'r broses a fabwysiadwyd. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad ar y diweddariad diwethaf, a (b)
yn cytuno y dylai adroddiad o ganlyniad y cyfarfod UDA ar 5
Chwefror 2015 gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. (RW i weithredu) |
|
Y DIWEDDARAF AR GAFFAEL GWASANAETHAU ADEILADU PDF 79 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro (copi ynghlwm)
sy'n nodi manylion cynnydd gwaith dilynol diweddaraf Archwilio Mewnol mewn
perthynas â Chaffael Gwasanaethau Adeiladu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Rheolwr Caffael Strategol
Dros Dro eisoes wedi'i ddosbarthu. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion o gynnydd yr adran Archwilio Mewnol o
waith dilynol diweddaraf o ran Caffael y Gwasanaethau Adeiladu yn dilyn ei
adroddiad cychwynnol ym mis Hydref 2013 ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
(SAC) ar gyfer Mawrth 2014. Dyma’r ail adroddiad dilynol, gyda’r un blaenorol
ym mis Medi 2014. Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad dilynol pellach ar gyfer Caffael
Gwasanaethau Adeiladu i’w gyflwyno i roi sicrwydd bod gwelliannau wedi'u gwneud
ers adroddiad mis Rhagfyr 2014. Wedi’u cynnwys yn yr adroddiad y mae manylion canfyddiadau adroddiad
Archwilio Mewnol ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu a wnaed ym mis Hydref 2013,
ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn cwmpasu gwaith cynnal a chadw
adeiladau ysgolion. Mae'r cynllun gweithredu dilynol (Atodiad 1) yn
cynnwys 21 cam gweithredu y gwasanaeth Archwilio Mewnol a chynlluniau
gweithredu Swyddfa Archwilio Cymru. Er bod rhywfaint o
gynnydd wedi’i wneud ers yr adroddiadau dilynol ym mis Medi a mis Rhagfyr 2014,
dim ond wyth cam gweithredu sydd wedi eu gweithredu'n llawn. Mae dau arall
bellach wedi'u cwblhau a’r camau sy'n weddill ar y gweill i’w cwblhau. Yn arbennig, bu
cynnydd o ran datblygu strategaeth gaffael ddrafft a bu cynnydd sylweddol yn y
swyddogaeth rheoli contractau yn y system e-ffynonellu yn dilyn ymdrech bellach
i gasglu data. Efallai bod trosglwyddo i'r Gwasanaeth Caffael
Cydweithredol gan Gyllid ac Asedau i Gyfathrebu, Marchnata a Hamdden yn debygol
o effeithio ryw fymryn ar rai amserlenni. Darparodd y Rheolwr Caffael Strategol dros dro grynodeb manwl o'r Cynllun
Gweithredu (Atodiad 1) ac eglurodd fod y rhan fwyaf o'r oedi a gafwyd wedi
ymwneud â staffio a materion Cronfa Cydweithredol Rhanbarthol. Mae
Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod y cynnydd a wnaed ac yn
cyfeirio at y materion a oedd sy’n dal i fodoli ac awgrymodd bod adroddiad
cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mai, 2015 pan fydd y
pwyntiau gweithredu hyn wedi cael sylw. Amlygodd Mr P. Whitham bwysigrwydd sicrhau bod pob aelod staff sy'n ymwneud
yn uniongyrchol â chaffael yn ymwybodol o'r Rheolau Gweithdrefn Contractau ac
wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol cyn gynted â phosibl, a bod
tystiolaeth ar gael bod yr hyfforddiant wedi’i ddarparu. Eglurodd yr
ASPM bod pecynnau cynefino corfforaethol ar gyfer staff newydd bellach yn
cynnwys manylion yn ymwneud â'r Rheolau Gweithdrefn Contractau, a bod adolygiad
o ddeunyddiau hyfforddi yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn seiliedig ar yr
hyfforddiant a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint, ac mae rhestr o gyrsiau
hyfforddiant yn cael eu trefnu ar gyfer y 180 o aelodau staff gyda swyddi yn
cynnwys gwaith gyda Rheolau Gweithdrefn Contractau. Mae’n rhaid i bob aelod
staff ddarparu cadarnhad ysgrifenedig eu bod wedi derbyn yr hyfforddiant. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr Whitham, esboniodd yr Rheolwr Caffael
Strategol dros dro y byddai darparu hyfforddiant ar Rheolau Gweithdrefn
Contractau ar gyfer aelodau staff sy'n gweithio mewn ysgolion yn cael eu trefnu
gan y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg, a gellid darparu manylion yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem fusnes rhif 8 ar yr agenda. Hefyd,
cadarnhaodd yr Rheolwr Caffael Strategol dros dro y byddai'r Rheolau
Gweithdrefn Contractau yn cael eu defnyddio i gyflawni Cynllun Corfforaethol y
Cyngor, a’r rôl y cyfeiriwyd yn arbennig ati yn y rhaglen ysgolion yr unfed
ganrif ar hugain. Mynegodd y Cynghorydd D.C. Duffy ei bryder ynghylch yr oedi a brofwyd wrth
fodloni amserlenni fel yr amlinellir yn y Cynllun Gweithredu. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a) yn derbyn yr adroddiad a mynegi ei bryder ynghylch yr oedi a brofwyd wrth fodloni amserlenni ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIADAU RHEOLI TRYSORLYS PDF 92 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n cynnwys Datganiad
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2014/15, Dangosyddion Darbodus 2015/16 a
Diweddariad 2014/15. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n
ymgorffori Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2015/16, Dangosyddion Darbodus
2015/16 ac Adroddiad Diweddaru 2014/15. Mae'r DSRhT (Atodiad 1) yn dangos
sut y bydd y Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y
flwyddyn i ddod ac yn sefydlu’r polisïau y mae'r swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys
yn gweithredu o fewn iddynt. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu effaith debygol y
Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth hon ac ar Ddangosyddion Darbodus. Mae Adroddiad Diweddariad Rheoli’r Trysorlys (Atodiad
2) yn darparu manylion am weithgareddau Rheoli’r
Trysorlys y Cyngor yn ystod 2014/15. Amlinellodd y Prif
Gyfrifydd y newidiadau mewn polisi a oedd yn cynnwys y goblygiadau yn ymwneud â'r
Ddeddf Diwygio Bancio a’r diwedd yn genedlaethol i system gymhorthdal
y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru. Dywedwyd wrth aelodau mai drafft yw’r ffigurau a
gynhwysir yn y DSRhT a byddant yn cael eu diweddaru cyn eu cymeradwyo gan y
Cyngor yn seiliedig ar y Cynllun Cyfalaf diweddaraf ym mis Chwefror 2015. Mae Rheoli’r Trysorlys yn golygu edrych ar ôl arian
y Cyngor sy'n rhan hanfodol o waith y Cyngor gan fod oddeutu £0.5 biliwn yn
mynd drwy gyfrif banc y Cyngor bob blwyddyn. Ar unrhyw adeg, mae gan
y Cyngor o leiaf £20miliwn mewn arian parod, felly mae angen i ni wneud yn
siŵr ein bod yn cyflawni'r gyfradd ddychwelyd gorau posibl heb roi’r arian
mewn perygl a dyna pam ein bod yn buddsoddi arian gyda nifer o sefydliadau
ariannol. Wrth fuddsoddi,
blaenoriaethau'r Cyngor yw: - ·
cadw arian yn ddiogel (diogelwch); ·
gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr arian yn ôl pan
fyddwn ei angen (hylifedd); ·
gwneud yn siŵr ein bod yn cael cyfradd dychwelyd da
(arenillion). Mae’r DSRhT ar gyfer 2015/16 wedi'i nodi yn Atodiad
1. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys Dangosyddion Darbodus sy'n gosod cyfyngiadau
ar weithgaredd Rheoli’r Trysorlys y Cyngor ac yn dangos bod y broses fenthyca'r
Cyngor yn fforddiadwy. Mae crynodeb o'r manylion yn Atodiad 1 wedi’i
ddarparu gan y Prif Gyfrifydd. Mae dangosyddion Cronfa'r Cyngor
yn seiliedig ar y bidiau cyfalaf arfaethedig diweddaraf a’r dyraniadau mewn
bloc, a bydd y rhain yn cael eu diweddaru cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno
i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 24 Chwefror 2015.
Mae'r dangosyddion Cyfrif Refeniw
Tai wedi’u cyfrifo’n seiliedig ar y Cynllun Busnes Stoc Tai diweddaraf. Mae'r
Dangosyddion Darbodus unigol a argymhellwyd i'w cymeradwyo wedi'u nodi yn
Atodiad 1 - Ychwanegiad A. MMae LlC wedi dod â’r
trafodaethau i ben â Thrysorlys EM ynglŷn â diwygio system gymhorthdal
y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru. Byddai angen benthyca rhwng £39 miliwn a £55 miliwn ar 2 Ebrill 2015 i
brynu allan o'r cynllun cymhorthdal i allu hunan-ariannu. Mae effaith hyn wedi cael
ei gynnwys yn nangosyddion darbodus y Cyfrif Refeniw Tai ac mae manylion
pellach am brynu allan wedi ei gynnwys yn Adran 8 Atodiad 1. Mae Atodiad 3 yn
cynnwys dadansoddiad risg a sensitifrwydd yn ymwneud â phrynu allan yn y Cyfrif
Refeniw Tai. Mae'r adroddiad diweddaru ar Reoli’r Trysorlys (Atodiad 2) yn tynnu sylw at
y newidiadau a weithredwyd i'r strategaeth fuddsoddi (Atodiad 1 Adran 3) o
ganlyniad i risg mechnïaeth-i-mewn a fyddai'n golygu na fyddai banciau yn gallu
dibynnu ar gefnogaeth y llywodraeth os ydynt yn mynd i drafferth a byddai'n
ofynnol i fechnïo eu hunain drwy gymryd cyfran o adneuon buddsoddwyr i adeiladu
eu cyfalaf. Mae'r newidiadau dan sylw yn symud i ffwrdd o adneuon
banc confensiynol i fuddsoddiadau diogel megis cytundebau ailbrynu wrth gefn
(REPOs) a bondiau wedi'u gwarchod.
Mae manylion y broses ymgynghori wedi’i gynnwys yn yr adroddiad, a chadarnhawyd bod ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
ADOLYGIAD HAMDDEN CLWYD Derbyn adroddiad
llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol mewn
perthynas â Hamdden Clwyd. Cofnodion: Rhoddodd
y Cadeirydd wybodaeth gefndir ynghylch y mater dan sylw a mynegodd bryderon
ynghylch yr amserlenni ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor. Pwysleisiodd ei fod yn teimlo bod y penderfyniad i
beidio â neilltuo’r gwaith i lunio'r adroddiad i'r Uwch Swyddog, sydd â’r
profiad priodol, o bosib wedi gallu cyfrannu at yr oedi a brofwyd. Hysbysodd y Pennaeth Archwiliad Mewnol yr Aelodau ei fod wedi dod yn
gysylltiedig â chynhyrchu'r adroddiad ar gais y Tîm Gweithredol Corfforaethol a
oedd wedi mynegi eu hanfodlonrwydd â'r modd y mae'r adroddiad gwreiddiol wedi'i
gyflwyno. Esboniodd fod y gwaith o ddrafftio'r adroddiad wedi
bod yn fwy o faich nag a ragwelwyd yn wreiddiol, fodd bynnag, yr oedd yn awr
bron yn gyflawn a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth, 2015. Eglurodd y Pennaeth Archwiliad Mewnol fod yr adroddiad yn manylu ar y
gwersi a ddysgwyd ac yn debyg i'r adolygiad damcaniaethol blaenorol a wnaeth,
ac wedi uno’r gwaith a wnaed mewn perthynas â chwmnïau hyd braich yn Adroddiad Hamdden Clwyd. Ar gais y Cadeirydd, cytunwyd bod yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu i
Aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar ôl ei gwblhau, ynghyd â
manylion am unrhyw eithriadau. Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd y
Pennaeth Archwiliad Mewnol y byddai'r adroddiad yn mynd i'r afael â'r holl
faterion o bryder a godwyd a byddai'n cynnwys fframwaith ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a)
yn derbyn
ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. (b)
yn cytuno
bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth,
2015. (IB a GW i Weithredu) |
|
RHEOLAETH ARIANNOL YSGOLION Derbyn adroddiad
llafar gan Reolwr Cynllunio Addysg ac Adnoddau ar reolaeth ariannol ysgolion. Cofnodion: Darparodd y Pennaeth Archwiliad Mewnol grynodeb o'r cefndir i faterion sy'n
ymwneud â rheolaeth ariannol ysgolion ac eglurodd fod y pryderon a godwyd yn
ymwneud â balansau credyd ysgol yn hytrach na balansau diffyg. Dywedodd wrth y
Pwyllgor o safbwynt archwiliad cawsant eu rheoli'n dda er bod pwysau ar falansau
penodol. Roedd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg wedi
cwrdd ag Aelodau ac roedd hyn wedi rhoi sicrwydd iddynt mewn perthynas â'r
sefyllfa bresennol. Dosbarthwyd copi o'r rhagolwg tair blynedd yn ôl ysgol ar gyfer 2014-15 i
2015-16 yn y cyfarfod. Mynegodd y Cynghorydd P.C. Duffy bryder nad oedd y
ddogfen wedi cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Crynhodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg y papur rhagolwg tair
blynedd a oedd yn rhoi manylion ar Gyfanswm y ffigurau Gwarged(diffyg) ar gyfer
Cyllideb 2014/15, Gwarged (diffyg) 2014/15, % Gwirioneddol i Amrywiant o fewn y
gyllideb, adfachu dros y trothwy o 5% a thros trothwy LlC. Amlygwyd y materion canlynol gan y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg: - -
Argymhellodd LlC fod lefel y balansau yn £3.3 miliwn. -
Cyfanswm gwarged ar gyfer pob ysgol a gofnodwyd ar hyn o
bryd yn £2.9 miliwn, a oedd yn is na Pholisi Sir Ddinbych sy’n argymell 5%. -
Mae gan rai ysgolion
falansau sy’n fwy na 5%. -
Newid Rheoliadau Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2010, ar
yr amod bod gan Awdurdodau Lleol y pŵer i adfachu balansau sy’n fwy na
£50k ar gyfer ysgolion cynradd a £100k ar gyfer ysgolion uwchradd. -
Mae Sir Ddinbych ar hyn o bryd £400k yn is nag
argymhelliad Llywodraeth Cymru ar gyfer balansau ar gyfer yr holl ysgolion. -
Oherwydd sbectrwm eang o ysgolion mae Sir Ddinbych wedi
penderfynu peidio â gorfodi'r rheol yn eu hysgolion. Mae’r effaith
dros gyfnod o dair blynedd yn fwy perthnasol na thros flwyddyn. -
Mae cyfeiriad wedi’i wneud at y perthnasedd ac effaith
cyllideb sy’n sefyll yn stond ar gyfer ysgolion tan 2014/15 a 2015/16. -
Holodd Cynrychiolydd i
Swyddfa Archwilio Cymru y rheswm dros ddwy ysgol uwchradd i fod â
balansau mwy nag ysgolion eraill. Eglurodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg bod
yr ysgolion yn ysgolion arbennig a bod y balansau a gedwir ar gyfer ymgymryd â gwaith a raglennwyd yn yr
ysgolion. -
Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd, fe eglurodd y Rheolwr
Adnoddau a Chynllunio Addysg bod Ysgol Pendref yn ysgol mewn trafferthion
ariannol, a bod cynllun adfer yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Cyfeiriodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg at y cynllun tair blynedd
a dywedodd wrth y Pwyllgor bod cylchredu cyllidebau ysgolion uwchradd ar fin
digwydd. Fodd bynnag, byddai'r rhai sy'n ymwneud ag ysgolion
cynradd yn cael eu gohirio dros dr oherwydd newidiadau LlC yn ymwneud â'r
cyfnod cyllido sylfaen. Byddai rheolwyr cyllid yn gweithio gyda
llywodraethwyr yr ysgol a'r pennaeth i gynhyrchu cynllun tair blynedd
diwygiedig, a byddai’r manylion wedi’u cynnwys yn y ffigurau yn cael eu dosbarthu. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnwys yr ystyriaeth bellach i adroddiad ym
mlaenraglen waith y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar gyfer
trafodaeth. Teimlai'r Prif Gyfrifydd y gallai fod yn fuddiol os
byddai’r adroddiad yn cyd-daro â'r adroddiad ar y sefyllfa derfynol ar gyfer
2014/15. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cyfeiriodd y Rheolwr Adnoddau a
Chynllunio Addysg i'r rheolau prynu ar gyfer ysgolion a rhoi manylion y
ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer staff ysgol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r
Rheolau Gweithdrefn Contractau newydd. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a) yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, ac yn ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
ADBORTH O'R CYFARFOD CYDRADDOLDEB CORFFORAETHOL Derbyn adroddiad
ar lafar gan y Cynghorydd M.L. Holland. Cofnodion: Nid oedd y Cynghorydd Holland wedi gallu mynychu'r cyfarfod ac roedd wedi
cyflwyno ymddiheuriad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 163 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol (a gylchredwyd eisoes) i’w ystyried. Cadarnhaodd y Pwyllgor y Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn amodol ar gynnwys y
canlynol:- Mawrth 26, 2014 - Adroddiad ar Hamdden Clwyd gan y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol. 20 Mai 2015 - Adroddiad ar Gaffael Gwasanaethau
Adeiladu gan y Swyddog Caffael Strategol dros dro. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai adroddiad
pellach ar y Rheolaeth Ariannol i Ysgolion, Balansau Ysgolion, yn cael ei
gyflwyno i gyd-fynd â'r Adroddiadau Alldro Terfynol. PENDERFYNWYD - yn amodol
ar yr uchod bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 13.05pm. |