Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
faterion a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
Materion Brys Rhybudd o
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: No items were raised which in the opinion of the Chair, should be considered at the meeting as a matter of urgency pursuant to Section 100B(4) of the Local Government Act, 1972. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am Gynllun Gwella Llywodraethu’r Cyngor sy’n deillio o ‘ddatganiad
llywodraethu blynyddol’ y Cyngor ar gyfer 2013/14 – ‘Cyflawni llywodraethu da a
gwelliant parhaus’. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, a oedd yn rhoi diweddariad
ynglŷn â Chynllun Gwella Trefn Lywodraethol y Cyngor, ac a oedd yn deillio
o 'ddatganiad llywodraethu blynyddol' y Cyngor yn 2013/14 - 'Darparu llywodraethu
da a gwelliant parhaus', wedi cael ei ddosbarthu’n flaenorol. Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad a oedd yn manylu ar y
cynnydd sy'n digwydd o ran rhoi’r gwahanol gamau gweithredu sydd wedi eu
cynnwys yng Nghynllun Gwella Trefn Lywodraethol y Cyngor ar waith, er mwyn
sicrhau bod gan y Cyngor drefn lywodraethol gadarn ac effeithiol ar waith. Roedd Datganiad Llywodraethu Blynyddol diweddaraf y Cyngor, 'Darparu
llywodraethu da a gwelliant parhaus', yn darparu hunanasesiad tryloyw a
chytbwys o drefn lywodraethol y Cyngor, ac yn amlygu unrhyw wendidau
llywodraethu arwyddocaol ac unrhyw feysydd eraill y mae angen eu gwella. Roedd meysydd gwella wedi eu cynnwys yng Nghynllun
Gwella’r Drefn Lywodraethol, sydd i’w weld yn Atodiad 1, a oedd yn cynnig camau
gweithredu i fynd i'r afael â gwendidau, y swyddogion sy'n gyfrifol am y camau
gweithredu hynny ac amserlenni. Nid oedd
y Cynllun yn gwbl gyflawn gan nad yw pob diweddariad cynnydd wedi cael eu darparu. Pan fo ymatebion wedi dod i law, mae’r camau
gweithredu naill ai'n gyflawn neu ar y gweill.
Roedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiadau diweddaru ar wahân a oedd yn
cynnwys rhai yr Adran Adnoddau Dynol Strategol, Sefydliadau Hyd-Braich a’r
Adran Caffael Strategol. Er nad yw hunanasesiad y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol' ei hun yn
cyfrannu'n uniongyrchol at Flaenoriaethau Corfforaethol, mae’n darparu asesiad
a sicrwydd ynglŷn â chyflawni'r Cynllun Corfforaethol, perfformiad
gweithredol ac ariannol y Cyngor, y drefn lywodraethol, ymgysylltu â'r gymuned
ac ati, y mae pob un ohonynt yn cyfrannu tuag at gyflawni'r Blaenoriaethau
Corfforaethol. Pe na bai Cynllun Gwella’r Drefn Lywodraethol yn
cael ei weithredu, byddai gwendidau yn aros yn nhrefn lywodraethol y Cyngor, a
allai arwain at:- ·
adroddiadau rheoleiddiol niweidiol; ·
defnydd gwael o arian cyhoeddus; ·
methiant i wella meysydd corfforaethol a meysydd
gwasanaeth allweddol; ·
colli hyder budd-ddeiliaid; a ·
effaith andwyol ar enw da'r Cyngor. Mewn ymateb i gais gan Mr P. Whitham, yn sôn y
dylid cyfarch y ffaith nad oes Strategaeth Gaffael erbyn diwedd mis Tachwedd
2014, cytunodd y Pwyllgor y gellid darparu adroddiad cynnydd ar lafar yng
nghyfarfod mis Tachwedd y Pwyllgor cyn derbyn adroddiad ysgrifenedig ym mis
Rhagfyr 2014. Gofynnodd yr Aelodau hefyd fod adroddiadau cynnydd ysgrifenedig
yn cael eu darparu gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, yng nghyfarfod mis
Tachwedd, mewn perthynas â'r meysydd hynny nad oedd wedi darparu ymatebion o
fewn y terfynau amser a roddwyd. Cytunodd y Cynghorydd B.A. Smith i
drafod y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor gyda'r Pennaeth Busnes, Gwella a
Moderneiddio. PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:- (a)
yn derbyn yr
adroddiad, ac yn (b)
gofyn am ddiweddariad
cynnydd ar lafar yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2014 mewn perthynas
â'r Strategaeth Caffael, ac yn (c)
yn gofyn i'r
Pennaeth Archwilio Mewnol yn cyflwyno adroddiadau ysgrifenedig i gyfarfod mis
Tachwedd, mewn perthynas â'r meysydd hynny nad oedd wedi darparu ymatebion o
fewn yr amserlenni a roddwyd. (IB i Weithredu) Daeth y Cyfarfod i ben am 11.00 a.m. |
|
CYMERADWYO DATGANIAD CYFRIFON 2013/14 PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn cyflwyno Datganiad
Cyfrifon 2013/14 i’w gymeradwyo’n ffurfiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Prif
Gyfrifydd wedi ei ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod, ynghyd â Datganiad
Cyfrifon 2013/14 ac Adroddiad Archwilio’r Datganiadau Ariannol, a gynhyrchwyd
gan Swyddfa Archwilio Cymru. Cyflwynodd Pennaeth yr Adran Gyllid ac
Asedau'r adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon i’w gymeradwyo’n
ffurfiol. Tynnodd sylw at bwysigrwydd a
natur gymhleth y ddogfen ac eglurodd y byddai'r terfynau amser ar gyfer
cynhyrchu Datganiadau Cyfrifon yn dynnach yn y dyfodol. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynhyrchu
Datganiad Cyfrifon sy’n cydymffurfio â safonau cyfrifeg cymeradwy, ac mae’n
ofynnol bod Aelodau Etholedig yn cymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig yn ffurfiol
ar ran y Cyngor. Roedd Datganiadau Ariannol 2013/14 wedi cael eu cymeradwyo gan y Prif
Swyddog Cyllid, yn amodol ar archwiliad, ar 30 Mehefin 2014. Cafodd fersiwn ddrafft y Datganiad Cyfrifon
ei chyflwyno i'r Pwyllgor ar 2 Gorffennaf 2014, pan ddarparwyd trosolwg o
fersiwn ddrafft y Datganiad Cyfrifon gan y Prif Gyfrifydd ac eglurhad o'r
broses sy'n sail iddo. Mae’r Rheoliadau
Cyfrifon ac Archwilio yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo’r Cyfrifon
archwiliedig, sydd i gynnwys barn yr Archwilydd allanol, yn ffurfiol erbyn
diwedd mis Medi. Cafodd y Datganiad Cyfrifon ei gynhyrchu’n unol â'r Safonau Adrodd Ariannol
Rhyngwladol, ac roedd manylion ynglŷn â hynny wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad. Mae Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg
Cyhoeddus yn cynhyrchu Cod Ymarfer ar Gyfrifeg Awdurdodau Lleol, yn seiliedig
ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol ac mae'r Cyngor wedi paratoi cyfrifon
2013/14 yn unol â'r Cod hwnnw. Mae'r
Datganiad Cyfrifon yn cynnwys barn archwilio ddiamod a thystysgrif archwilio,
ac mae wedi cael ei ryddhau i'w archwilio ac mae ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg
drosto ac nid oes unrhyw sylwadau wedi dod i law. Bu Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio’r
cyfrifon a byddant yn cyflwyno trosolwg o’u canfyddiadau ac asesiad o’r broses
mewn adroddiad. Arweiniodd y broses
archwilio at rai newidiadau technegol ac at gywiriadau a newidiadau eraill y
cyfeiriwyd atynt yn adroddiad yr Archwilydd. Roedd cyhoeddi'r Datganiad Cyfrifon yn ategu stiwardiaeth ariannol a threfn
lywodraethol y Cyngor ac felly yn cefnogi holl wasanaethau a blaenoriaethau'r
Cyngor. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi
gweithio'n agos â’r Tîm Cyllid er mwyn sicrhau fod yr archwiliad yn cael ei
gwblhau yn llwyddiannus ac mewn modd amserol. Roedd y Datganiad Cyfrifon unwaith eto wedi cael barn archwilio ddiamod, a
oedd yn gyflawniad sylweddol o ystyried graddfa a chymhlethdod y Cyfrifon. Bydd y gweithdrefnau mewnol yn cael eu
hadolygu’n flynyddol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i ddarparu adroddiadau
ariannol o ansawdd da. Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Gyfrifydd
ynglŷn â’r Datganiad Cyfrifon a oedd yn:– ·
darparu trosolwg
o'r cyfrifon a'r prif ddatganiadau ariannol. ·
darparu
amlinelliad o'r prosesau dan sylw gan gynnwys gofynion ac amserlenni
deddfwriaethol ynghyd â rôl yr Aelodau yn y broses ·
dangos sut yr oedd
ffigurau a adroddwyd yn y Cyfrif Refeniw wedi cael eu hadlewyrchu yn y
datganiadau ariannol. ·
amlygu’r meysydd
allweddol y dylid rhoi sylw iddynt yn cynnwys Symudiad mewn Cronfeydd Wrth
Gefn; Datganiad Incwm a Gwariant; y Fantolen a'r Datganiad Llif Arian. ·
nodi fod gofyniad statudol i gymeradwyo'r Datganiad
Cyfrifon erbyn 30 Medi, 2014. Nododd y Prif Gyfrifydd nad oedd unrhyw
faterion sylweddol wedi dod i’r amlwg yn sgil archwiliad Swyddfa Archwilio
Cymru a oedd yn rhoi sicrwydd inni o ran prosesau a chydymffurfiaeth. Cafwyd crynodeb manwl gan gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (AV) o Adroddiad Archwilio’r Datganiadau Ariannol a chyfeiriodd at rôl Swyddfa Archwilio Cymru o fewn y broses yn ei chyfanrwydd ac at y cyfrifoldeb sydd ganddynt i adrodd ynglŷn â’r datganiadau ariannol. Cyflwynodd drosolwg o ganfyddiadau'r adroddiad a chyfeiriodd yn benodol at y canlynol:– ... view the full Cofnodion text for item 5. |