Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Waith Archwilio
Cyfarfod: 10/01/2013 - Pwyllgor Craffu Perfformiad (Eitem 8)
8 RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 85 KB
I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n
amgaeedig) yn ceisio adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor a diweddaru
aelodau ar faterion perthnasol.
11.35 a.m.
Dogfennau ychwanegol:
- FWP App 1, Eitem 8 PDF 88 KB
- FWP App 2, Eitem 8 PDF 68 KB
- FWP App 3, Eitem 8 PDF 37 KB
- FWP App 4, Eitem 8 PDF 82 KB
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Cydgysylltydd
Craffu, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ei Flaenraglen Waith, ac
yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau
ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o flaenraglen waith y Cabinet wedi ei gynnwys
fel Atodiad 3, ac roedd tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac
yn hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd ar eu gweithredu, wedi ei gynnwys fel Atodiad
4 i’r adroddiad.
Roedd ffurflen gynnig, a gynhwyswyd fel
Atodiad 2, yn gofyn am gael ystyried eitem yn ymwneud ag Adroddiad Gwella Blynyddol
Swyddfa Archwilio Cymru. Cytunodd yr Aelodau bod yr eitem hon yn cael ei
chynnwys ar y flaenraglen waith ar gyfer Ebrill, 2013.
Cyfarfu
Grŵp y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 20fed Rhagfyr, pan
benderfynwyd y dylid trosglwyddo adroddiad ar deledu cylch cyfyng o raglen
waith y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer Mawrth 2013, i flaenraglen
waith y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer Ebrill, 2013.
Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ddrafft ar
gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, fel y manylwyd yn Atodiad 1, a chytunwyd y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:-
Cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 21ain
Chwefror, 2013:-
Arfarniad
Perfformiad Blynyddol Cyngor AGGCC 2011/12 – cytunodd yr Aelodau, gan fod yr
eitem hon wedi ei hystyried a’i derbyn gan y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol fel adroddiad cadarnhaol, ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad fel Adroddiad er Gwybodaeth.
Cyflwyno
Cyfyngwyr Cyflymder a Rhifyddion Cylchdro yng Ngherbydau’r Cyngor – Ar gais
Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, cytunwyd bod adroddiad ar
fanteision posibl a chostau cyflwyno dyfeisiau cyfyngu cyflymder/rhifydd
cylchdro yng ngherbydau’r Cyngor ar flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer
Chwefror,
2013.
Cynllun
Corfforaethol 2012/13 (Chwarter 3) - Esboniodd y Rheolwr Gwella Corfforaethol y
byddai’r adroddiad yn manylu’r dangosyddion a’r mesurau mewn perthynas â’r
sefyllfa Waelodlin mewn cysylltiad â’r Cynllun Corfforaethol.
Cytunodd yr
Aelodau y dylid cynnwys eitem ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar
Flaenraglen Waith y Pwyllgor i’w hystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf y
Pwyllgor. Cytunwyd hefyd gofyn i Grŵp y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y
Pwyllgor ystyried cydgysylltu eitem yn ymwneud â pherfformiad Menter Cefndy.
PENDERFYNWYD - yn amodol ar y newidiadau a’r cytundebau
uchod, cymeradwyo’r Flaenraglen Waith fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.