Mater - cyfarfodydd
DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL'S CLIMATE AND NATURE STRATEGY (2021/22 - 2029/30) - YEAR 3 REVIEW AND REFRESH
Cyfarfod: 25/06/2024 - Cabinet (Eitem 5)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm) yn cyflwyno Strategaeth Hinsawdd a Natur y Cyngor
(2021/22 – 2029/30) ar gyfer ei ystyried ac argymell i’r Cyngor y dylid ei
fabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
- DCC CLIMATE STRATEGY Appendix 1 - YEAR 3- DCC Climate Ecological Change Strategy - FINAL, Eitem 5 PDF 2 MB
- DCC CLIMATE STRATEGY Appendix 2 - Revised Climate and Ecological Change WIA, Eitem 5 PDF 122 KB
- DCC CLIMATE STRATEGY Appendix 3- Activity Undertaken as part of the review, Eitem 5 PDF 96 KB
- DCC CLIMATE STRATEGY Appendix 4-Strategy Review Consultation 2024 - You Said We Did, Eitem 5 PDF 174 KB
- DCC CLIMATE STRATEGY Appendix 5- Notable Risks, Eitem 5 PDF 68 KB
- DCC CLIMATE STRATEGY Appendix 6- power to make the decision further detail, Eitem 5 PDF 77 KB
- Webcast for STRATEGAETH HINSAWDD A NATUR CYNGOR SIR DDINBYCH (2021/22 - 2029/30) - ADOLYGU AC ADNEWYDDU BLWYDDYN 3
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn –
(a) argymell
bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22 –
2029/30) fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn
(b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i
ystyriaethau fel yr amlinellir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
Cofnodion:
Datganodd y Cyngor
Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadodd Strategaeth ddrafft
yn 2021, oedd angen cael ei hadolygu bob tair blynedd. Roedd y Strategaeth ddiwygiedig wedi cael ei
chyflwyno ynghyd â manylion y broses adolygu ac ymgysylltu, canlyniadau'r
ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft a’r diwygiadau arfaethedig a wnaed
i’r Strategaeth o ganlyniad.
Soniodd y Cynghorydd
Mellor am y cynnydd da a wnaed ers mabwysiadu’r Strategaeth, ond oherwydd yr
heriau ariannol oedd yn wynebu cynghorau, nid oedd y newid yn digwydd yn ddigon
cyflym i fodloni targedau 2030. Ni fyddai’n hawdd bodloni’r nodau hynny yn y
Strategaeth ddiwygiedig, ond roedd y Cyngor yn cadw at yr uchelgais a’r
ymrwymiad honno i wneud cymaint ag y gallai mor gyflym ag y gallai gyda’r
adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur i
genedlaethau'r dyfodol.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes drosolwg o’r broses adolygu ac ymgysylltu
a diolchodd i’r rhai a fu’n rhan ohoni am eu cyfraniadau. Tynnodd sylw at feysydd i’w nodi yn y
Strategaeth ddiwygiedig oedd yn cynnwys tair adran newydd yn ymwneud â lleihau
allyriadau a chynyddu amsugno, cynyddu gwytnwch ac adfer natur ynghyd â
chyflwyno adran ar gyllid, atodiad technegol a newidiadau i broses/polisi a
chamau gweithredu/diweddariadau prosiect.
Croesawodd y Cabinet
y Strategaeth gan gefnogi ei gynnwys a’i uchelgais i gyflawni er mwyn
cenedlaethau'r dyfodol er gwaetha’r anawsterau. Cyfeiriwyd at rôl bwysig y
Cyngor fel arweinydd cymunedol a gofynnwyd a ellid gwneud mwy ar lefel
gymunedol i godi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu’n well am natur frys yr agenda
hwnnw. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad,
Digidol ac Asedau fod y Strategaeth yn gonglfaen, ochr yn ochr â’r Cynllun
Corfforaethol, o ran dylanwadu a gweithio gyda phartneriaid a chytunodd bod
angen creu ymwybyddiaeth ymhlith pobl gyda chamau gweithredu penodol yn y
Strategaeth ar gyfathrebu a newid ymddygiad, a bod adnodd pwrpasol ar gyfer
hynny wrth symud ymlaen.
Cododd y Cynghorydd
Rhys Thomas nifer o gwestiynau technegol gyda’r Pennaeth Gwasanaeth i gael eu
trafod ymhellach y tu allan i’r cyfarfod. Gofynnodd am sicrwydd bod y Cyngor,
ar y cyd â mynd i’r afael a lleihau carbon, hefyd yn gweithio tuag at weithredu
mewn ffordd sy’n gadarnhaol yn ecolegol, i gynyddu nifer y rhywogaethau prin a
dod â bywyd gwyllt yn ôl i Sir
Ddinbych. Cadarnhaodd y Pennaeth
Gwasanaeth fod mwy o gydbwysedd yn y Strategaeth newydd rhwng gweithredu ar
garbon/yr hinsawdd ac adfer natur, a soniodd am waith oedd yn cael ei wneud ar
y rhaglen adfer natur. Roedd hyfforddiant wedi cael ei ddarparu’n flaenorol ar
lythrennedd carbon ac roedd hyfforddiant ar y gweill yn y dyfodol ar
lythrennedd ecolegol, fyddai’n rhoi gwybodaeth i’r aelodau am y ddau faes.
PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn -
(a) argymell
bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22 –
2029/30) fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn
(b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i
ystyriaethau fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.