Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Waith Archwilio

Cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (Eitem 8)

8 RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12pm – 12.20pm

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.

Penderfynwyd:  ar ôl rhoi ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar yr arsylwadau a’r awgrymiadau uchod -

(i)           cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a

(ii)          bod cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Chwefror 2021 i ystyried materion sy’n ymwneud â Phrosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol –

·         Roedd Cyfrifoldebau Rheoli Llifogydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru Sir Ddinbych wedi cadarnhau eu hargaeledd i fynychu'r cyfarfod ym mis Rhagfyr, nid oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan Dŵr Cymru o ran a oeddent yn gallu mynychu neu beidio.

·         Roedd Rhaglen Adfywio’r Rhyl a Pholisi Codi Tâl Meysydd Parcio a Chynlluniau Parcio i Breswylwyr wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod Ionawr 2021, gydag adroddiad ar y Siarter Cydymffurfedd Cynllunio wedi'i drefnu ar gyfer mis Mai yn dilyn cyfarfod diweddar y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu.

·         Roedd cais wedi’i wneud gan y Bwrdd Ailfodelu Gwastraff i gyflwyno adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Penderfynwyd trefnu cyfarfod ychwanegol yn gynnar ym mis Chwefror 2021 i drafod yr eitem.

Atgoffodd y Cydlynydd Craffu aelodau am y ffurflen cynnig craffu

 (Atodiad 2) a dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion yn uniongyrchol ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i’w cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.