Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 12/12/2017 - Cabinet (Eitem 9)

9 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 372 KB

I ystyried adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)       cefnogi cyflwyno Achos Busnes Llawn ar gyfer codi ysgol Gatholig newydd ar gyfer disgyblion 3-16 oed i Lywodraeth Cymru (gweler Atodiad 4).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni.  Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor –

 

·        rhagwelwyd y byddai cyllidebau gwasanaethau a rhai corfforaethol yn bodloni’r costau drwy ddefnyddio arian corfforaethol at raid

·        roedd gwerth £0.902 miliwn o arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau eisoes wedi'u cytuno yn rhan o'r gyllideb, gan ddisgwyl y byddent i gyd yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriad yn cael ei adrodd wrth y Cabinet

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol)

 

Gofynnwyd i aelodau’r Cabinet gymeradwyo cyflwyno achos busnes llawn am adeilad ysgol a chyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Gatholig 3-16 oed i Lywodraeth Cymru.

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y byddai’r tywydd garw’n effeithio ar gyllid, cyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at y gronfa wrth gefn er mwyn cynnal a chadw yn y gaeaf a sefydlwyd i gynorthwyo â galw mawr pe bai tywydd garw.  Nodwyd nad oedd cludiant i’r ysgol wedi bod ar waith mewn sawl ardal, a fyddai’n arbed arian.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni;

 

 (b)      cefnogi cyflwyno achos busnes llawn ar gyfer ysgol Gatholig newydd a chyfleusterau ar gyfer disgyblion 3-16 oed i Lywodraeth Cymru (gweler Atodiad 4).