Manylion y penderfyniad
PENODI AELODAU'R PANEL APELIADAU ADDYSG ANNIBYNNOL.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Mae’n ofynnol i’r Awdurdod Lleol hysbysebu a phenodi aelodau i’r Panel Apeliadau Addysg Annibynnol. Bydd aelodau'r panel yma yn gwrando ar apeliadau gan rieni mewn perthynas â Derbyniadau a Gwaharddiadau. Pob 3 blynedd mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol hysbysebu am aelodau newydd i’r panel a’u penodi. D Mae’r adroddiad yma yn amlinellu rôl aelodau’r panel ac yn ceisio cael cymeradwyaeth gan yr Aelod Arweiniol ar gyfer cymeradwyo aelodau lleyg newydd i’r panel.
Penderfyniad:
Penderfyniad: Bod yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Gwasanaethau
Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoe yn penodi yr aelodau canlynol ar y Panel
Annibynnol Apeliadau Addysg - Leonard Rhys Evans, Linda Williams, Julie Parry,
Jo Goodchild
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Gofynnir am
benderfyniad gan yr Aelod Arweiniol ei fod yn cymeradwyo penodiad yr unigolion
hynny a enwir yn Atodiad 1 fel aelodau lleyg newydd i’r Panel Apeliadau Addysg
Annibynnol, ar yr amod y bydd yr aelodau hyn yn derbyn hyfforddiant.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 28/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2021