Manylion y penderfyniad
PENODI CYFARWYDDWR CADWYN CLWYD
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Diben:
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i benodi cynghorydd yn Gyfarwyddwr Cadwyn Clwyd fel cynrychiolydd enwebedig Sir Ddinbych
Penderfyniad:
I.
Penodi Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd
Tony Thomas yn gynrychiolydd Sir Ddinbych ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Cadwyn Clwyd; a
II.
Bod cyfnod y penodiad hwn yn
cyd-fynd â thymor y Cyngor presennol oni bai y penodir rhywun newydd.
Rhesymau dros y Penderfyniad:
Mae Cadwyn Clwyd
Cyfyngedig yn Asiantaeth Datblygiad Gwledig sy'n darparu canllawiau a
chefnogaeth i ddatblygu ac arallgyfeirio’r economi gwledig yn Sir Ddinbych, Sir
y Fflint a Wrecsam trwy gyllid gan y llywodraeth a’r sector preifat. Mae Cadwyn
Clwyd wedi gofyn am gynrychiolydd o Gyngor Sir Ddinbych i eistedd ar ei Fwrdd o
Gyfarwyddwyr.
Cysylltiadau a natur y cysylltiadau a ddatganwyd:
Dim
cysylltiad i’w ddatgan.
Dyddiad cyhoeddi: 25/05/2021
Dyddiad y penderfyniad: 25/05/2021
Dogfennau Cefnogol:
- Cadwyn Clwyd Director Delegated Decision