Y Cynghorydd Win Mullen-James

Y Cynghorydd Win Mullen-James

Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth y Cynghorydd Win Mullen-James a fu farw'n sydyn wythnos yma. Cynrychiolodd y Cynghorydd Mullen-James Ward Trellewelyn yn Y Rhyl a hi oedd Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio. Roedd hi'n aelod gwerthfawr o'r Cabinet ac eisteddodd hefyd ar Gyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Cynllunio.

Profile image for Y Cynghorydd Win Mullen-James