Manylion y mater
POLISI FFIOEDD NEWYDD AR GYFER ENWI A RHIFO STRYDOEDD
Bod yr Aelod Arweiniol yn cymeradwyo cyflwyno’r ffioedd ar gyfer gwasanaethau sy’n ymwneud ag Enwi a Rhifo Strydoedd fel y nodir yn Atodiad 1. Bod yr Aelod Arweiniol yn cymeradwyo’r diweddariadau i’r Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd i adlewyrchu cyflwyniad y ffioedd a’r newidiadau i strwythur y gwasanaeth (Atodiad 2). Bod yr Aelod Arweiniol yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 3).
Math o benderfyniad : Non-key
Statws Penderfyniad : For Determination
Notice of proposed decision first published: 24/04/2025
Angen Penderfyniad: 24 Ebr 2025 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio
Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio
Pobl yr ymgynghorir â hwy
Trafodwyd y cynnig i gyflwyno ffioedd adennill costau ar gyfer
gwasanaethau sy’n ymwneud ag Enwi a Rhifo Strydoedd ac fe’i cefnogwyd gan y Tîm
Gweithredol Corfforaethol ym mis Gorffennaf 2024.
Mae gwaith ymchwil ac ymgynghoriad anffurfiol wedi cael ei gynnal i
asesu sut mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr yn codi tâl, a faint maent
yn godi.
Mae’r Tîm Systemau Busnes wedi bod yn rhan o’r broses o bennu’r ffioedd
arfaethedig.
Mae cydweithwyr yr Adran Gyllid wedi cymryd rhan mewn goruchwylio’r
broses o osod y ffioedd arfaethedig er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu gwir
adennill costau ac i gefnogi gyda gweithrediad y broses dalu ar gyfer
cwsmeriaid.
Gofynnwyd i Dîm y Gyfraith am ganllawiau ar a oedd y Cyngor yn gallu
cyflwyno ffioedd ar gyfer gwasanaethau’n ymwneud ag Enwi a Rhifo Strydoedd yn
gyfreithlon. Cawsant gyngor, dan y ddeddfwriaeth a fabwysiadwyd i gynnal y
swyddogaeth hon y gallwn godi tâl ar sail adennill ffioedd ar gyfer
gwasanaethau yn ôl disgresiwn.
Mae canllawiau arferion da GeoPlace wedi cael eu dilyn yn agos yn ystod
datblygiad y cynnig hwn. GeoPlace yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer cyfeiriadau
awdurdodol ymhob ardal sir a chyngor unedol yng Nghymru a Lloegr.
Penderfyniadau