Manylion y mater
GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (GGMC) AR GYFER CANOL TREF Y RHYL
Mae’r penderfyniad yn ymwneud â llunio Gorchymyn Gwarchod
Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar gyfer Canol Tref y Rhyl am gyfnod o dair
blynedd. Effaith y Gorchymyn fydd atal
ac ymdrin ag unigolion a grwpiau o bobl sy’n yfed alcohol a/neu’n achosi
ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghanol y Dref.
Math o benderfyniad : Non-key
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Notice of proposed decision first published: 28/02/2024
Angen Penderfyniad: 28 Maw 2024 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Pobl yr ymgynghorir â hwy
Cynhaliwyd ymgynghoriad
cyhoeddus llawn rhwng 24 Tachwedd 2023 a dydd Sul 21 Ionawr 2024. Hefyd, mynychodd y Pennaeth Gwasanaeth a’r
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau gyfarfod Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl (18
Rhagfyr 2023) a Chyngor Tref y Rhyl (17 Ionawr 2024) fel rhan o’r ymgysylltu
uniongyrchol a rhoi gwybod am yr ymgynghoriad.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad
cyhoeddus, cafwyd cyfanswm o 100 o ymatebion i’r arolwg. Y canlyniad oedd cefnogaeth aruthrol i
gyflwyno'r Gorchymyn hwn, gyda 92% o’r rhai a ymatebodd o blaid. Cytunodd 93% y dylai’r Gorchymyn gynnwys
ymddygiad gwrthgymdeithasol a chytunodd 90% y dylai hefyd gynnwys yfed ar y
stryd. Hefyd, roedd 76% yn cytuno â’r
ffiniau ar gyfer ardal gyfyngedig y PSPO (Atodiad 4).
Nodir bod nifer fechan o’r rhai a ymatebodd wedi rhoi sylwadau am gardota ar y stryd, defnyddio cyffuriau ac ehangu ffin ardal y Gorchymyn. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud, yn seiliedig ar y dystiolaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, na allant gyfiawnhau’n gyfreithiol gynnwys cardota ar y stryd yn y Gorchymyn hwn. Os bydd cardota ar y stryd yn digwydd, rhoddir atgyfeiriadau ac anogaeth i ymgysylltu â chefnogaeth. Mae gan yr Heddlu rym eisoes i fynd i’r afael â’r rhai sy’n cymryd, cario neu werthu cyffuriau. Ni chafwyd tystiolaeth gan yr Heddlu ychwaith i gyfiawnhau’n gyfreithlon ymestyn ffin yr ardal i Gei Marina’r Rhyl.
Penderfyniadau