Manylion y mater

Manylion y mater

CAFFAEL CONTRACT AROLYGU A DADANSODDI ASBESTOS

Roedd y penderfyniad yn ymwneud â chael cymeradwyaeth i Gyngor Sir Ddinbych ddechrau proses gaffael ac ymrwymo i gontract gwaith gyda Chontractwr Arolygu a Dadansoddi Asbestos. Y rheswm dros ofyn am y gymeradwyaeth oedd oherwydd bod y contract yn un pwrpasol ac wedi’i drefnu am gyfnod o 12 mis gyda chyfle i’w ymestyn wedyn bob 12 mis hyd uchafswm o 10 mlynedd yn ddibynnol ar berfformiad.

 

Math o benderfyniad : Non-key

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Notice of proposed decision first published: 22/09/2022

Angen Penderfyniad: 22 Hyd 2022 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

Pobl yr ymgynghorir â hwy

Cyflwynwyd yr adroddiad ynghyd â’r ffurflen gomisiynu, yr asesiad o effaith ar les a’r cynnig buddion cymunedol i’r grŵp penderfyniadau dirprwyedig mandadol, y Swyddog Arweiniol ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau, Gwyneth Ellis a chymerwyd camau yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd. Mae’r adroddiad sy’n cyd-fynd â’r penderfyniad hwn wedi’i anfon at bob aelod o’r Cyngor.

Penderfyniadau