Manylion y mater

Manylion y mater

TREFNIADAU DERBYN I YSGOLION AR GYFER 2022-2023

Mae'n ofynnol i'r holl Awdurdodau Derbyn bennu eu trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion yn eu hardal.  Cyngor Sir Ddinbych yw Awdurdod Derbyn yr holl ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych.  Mae’r trefniadau derbyn yn cael ei pennu ar sail flynyddol, a rhaid eu cwblhau erbyn 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu.  Y flwyddyn benderfynu yw’r flwyddyn academaidd sy'n dechrau 2 flynedd cyn y flwyddyn academaidd y bydd y disgybl yn cael ei dderbyn i'r ysgol ynddi. 

 

Dechreuodd y flwyddyn benderfynu ar 1 Medi 2019 ar gyfer trefniadau derbyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2022-2023.

 

Ar gyfer derbyn ym mis Medi 2022, rhaid pennu’r trefniadau erbyn 15 Ebrill 2021.  Mae'r trefniadau hyn yn debyg iawn i rai'r flwyddyn flaenorol heb unrhyw newidiadau mawr ar wahân i'r dyddiadau angenrheidiol.

 

Math o benderfyniad : Non-key

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Notice of proposed decision first published: 01/04/2021

Angen Penderfyniad: 1 Ebr 2021 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau

Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau

Pobl yr ymgynghorir â hwy

Mae’r Awdurdod wedi dilyn y Cod Derbyn i Ysgolion o ran yr ymgynghoriad sydd wedi’i gwblhau.  Mae hwn yn nodi'r rhai mae'n rhaid ymgynghori â nhw'n statudol; gan gynnwys cyrff llywodraethu holl ysgolion Sir Ddinbych, yr awdurdodau esgobaethol, awdurdodau lleol cyfagos a’r Pennaeth Addysg.

Ni chafwyd unrhyw ymateb ffurfiol yn ystod yr ymgynghoriad. 

 

Penderfyniadau

Dogfennau