Manylion y mater

Manylion y mater

DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL AGREGAU, AIL ADOLYGIAD - ARDYSTIO DOGFEN

Mae Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru wedi cynnal ail adolygiad o Ddatganiad Technegol Rhanbarthol Cymru. Mae’r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn rhagamcanu galw am agregau yn y dyfodol er mwyn i Awdurdodau Cynllunio Lleol gynllunio datblygiad mwynol mewn modd rheoledig a chymesur.

Math o benderfyniad : Non-key

Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd

Notice of proposed decision first published: 26/01/2021

Angen Penderfyniad: 21 Rhag 2020 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Pobl yr ymgynghorir â hwy

Trafodwyd ail adolygiad o’r Datganiad Technegol Rhanbarthol, gan gynnwys yr argymhellion unigol, gydag aelodau o’r Grŵp Cynllunio Strategol ac aelodau eraill a oedd yn bresennol fel arsyllwyr mewn dau gyfarfod (ar 28 Hydref a 25 Tachwedd 2020). Canolbwyntiodd y ddwy drafodaeth yn bennaf ar y dull is-ranbarthol i gyflenwi mwynau a’r canlyniadau tebygol ar gyfer cais cynllunio arfaethedig yn Chwarel Dinbych. Daethpwyd i’r casgliad y dylid argymell i’r Aelod Arweiniol ei fod yn cefnogi’r ddogfen mewn egwyddor ond y dylai unrhyw ffurf ar ‘gydweithio rhwng awdurdodau’ gydag awdurdod cyfagos fod yn destun adroddiad a phenderfyniad ar wahân.

 

Penderfyniadau