Manylion y mater
DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL AGREGAU, AIL ADOLYGIAD - ARDYSTIO DOGFEN
Mae Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru wedi cynnal ail adolygiad o Ddatganiad Technegol Rhanbarthol Cymru. Mae’r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn rhagamcanu galw am agregau yn y dyfodol er mwyn i Awdurdodau Cynllunio Lleol gynllunio datblygiad mwynol mewn modd rheoledig a chymesur.
Math o benderfyniad : Non-key
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Notice of proposed decision first published: 26/01/2021
Angen Penderfyniad: 21 Rhag 2020 Yn ôl Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Prif Aelod: Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Pobl yr ymgynghorir â hwy
Trafodwyd ail adolygiad o’r Datganiad Technegol Rhanbarthol, gan
gynnwys yr argymhellion unigol, gydag aelodau o’r Grŵp Cynllunio Strategol
ac aelodau eraill a oedd yn bresennol fel arsyllwyr mewn dau gyfarfod (ar 28
Hydref a 25 Tachwedd 2020). Canolbwyntiodd y ddwy drafodaeth yn bennaf ar y
dull is-ranbarthol i gyflenwi mwynau a’r canlyniadau tebygol ar gyfer cais
cynllunio arfaethedig yn Chwarel Dinbych. Daethpwyd i’r casgliad y dylid
argymell i’r Aelod Arweiniol ei fod yn cefnogi’r ddogfen mewn egwyddor ond y
dylai unrhyw ffurf ar ‘gydweithio rhwng awdurdodau’ gydag awdurdod cyfagos fod
yn destun adroddiad a phenderfyniad ar wahân.
Penderfyniadau