Manylion y mater
ADEILADAU'R FRENHINES, Y RHYL.
Bod yr Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol yn cymeradwyo dyfarnu’r contract i Wye Valley
Demolition yn unol â’r Adroddiad Argymhelliad Dyfarniad Contract.
Math o benderfyniad : Non-key
Statws Penderfyniad : Argymhellion a gymeradwywyd
Notice of proposed decision first published: 18/12/2020
Angen Penderfyniad: 21 Rhag 2020 Yn ôl Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
Prif Aelod: Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
Pobl yr ymgynghorir â hwy
Briffio’r Cabinet – sawl diweddariad wedi’i roi i Friffio’r
Cabinet, yn cynnwys 7 Medi 2020.
Grŵp Rheoli Asedau – Cymeradwyo adroddiad i fwrw ati
gyda’r cytundeb amodol i brynu’r safle fesul cam.
Grŵp Ardal Aelodau y Rhyl – Cefnogwyr y dull a
fabwysiadwyd gan y Cyngor o ran caffael yr eiddo 19 Mawrth 2018. Cafwyd rhagor
o gefnogaeth yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 22/10/2018 ac 08/04/2019.
Cynhaliwyd cyfarfod WebEx arbennig 23 Mehefin a 6 Gorffennaf, i ddiweddaru’r
Grŵp Ardal Aelodau ar y cynigion diweddaraf, gwaith dymchwel ac
amserlenni, ynghyd â chyfarfod Grŵp Ardal Aelodau arall ym mis Medi.
Grŵp Buddsoddi Strategol – Ymgynghorwyd â’r GBS ar y
cynnig 30 Hydref 2018, ac fe wnaethant argymell ei gymeradwyaeth i fwrw ati, yn
amodol ar sylwadau ac amodau a geir yn natganiad y Prif Swyddog Cyllid (o
adroddiad Cabinet ar 22 Medi). Cynhaliwyd GBS arbennig ddydd Mercher 9 Medi ac
maent yn cefnogi’r cynllun ar yr amod bod Grŵp Ardal Aelodau y Rhyl hefyd
yn ei gefnogi.
Datblygiad Busnes ac Economaidd – Ymgynghorwyd â nhw drwy
gydol y trafodaethau ac maent yn gwbl gefnogol o’r pryniant. Dyma’r safle
allweddol sy’n ofynnol i gyflawni Uwchgynllun Canol Tref y Rhyl.
Bwrdd Prosiect Marchnad y Frenhines – Mae cyfarfodydd bob
mis gyda’r Bwrdd i oruchwylio a bwrw ati gyda datblygiad o’r safle. Mae
aelodaeth yn cynnwys cynrychiolaeth lefel uchel gan CSDd, ION (Partner Datblygu
CSDd) a Llywodraeth Cymru.
Penderfyniadau
- 21/12/2020 - ADEILADAU'R FRENHINES, Y RHYL.