Penderfyniadau

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.

Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

09/09/2021 - I GYMERADWYO CONTRACT NEWYDD CYNLLUN BYW Â CHYMORTH YN LLANGOLLEN ref: 1767    Argymhellion a gymeradwywyd

Y penderfyniad yw bod yr Aelod Arweiniol yn cymeradwyo dyfarnu contract i’r darparwr llwyddiannus yn dilyn ymarfer tendro i benodi sefydliad i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i ddau unigolyn sydd ag anableddau dysgu a fydd yn denantiaid yn byw mewn cynllun byw â chymorth yn Llangollen, Sir Ddinbych.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 09/09/2021

Yn effeithiol o: 09/09/2021

Penderfyniad:

I gymeradwyo contract newydd cynllun byw â chymorth yn Llangollen.


26/08/2021 - CAFFAEL PROSIECT YMYRRAETH GYNNAR NEWYDD (ATAL DIGARTREFEDD) ref: 1766    Argymhellion a gymeradwywyd

Rydym eisiau comisiynu prosiect ymyrraeth gynnar newydd. Bydd y prosiect hwn yn gweithio i atal digartrefedd yn llawer cynharach, trwy adnabod ac ymgysylltu â phob i atal y perygl o ddigartrefedd, a thrwy raglen o godi ymwybyddiaeth. Ariennir y prosiect hwn gan Grant Cymorth Tai Sir Ddinbych.

 

Mae’r penderfyniad yn ymwneud ag os gallwn gychwyn caffael y prosiect (trwy broses tendr agored). 

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/08/2021

Yn effeithiol o: 26/08/2021

Penderfyniad:

Cytuno i gomisiynu’r Prosiect Ymyrraeth Gynnar (atal digartrefedd).