Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
01/04/2021 - TREFNIADAU DERBYN I YSGOLION AR GYFER 2022-2023 ref: 1642 Argymhellion a gymeradwywyd
Mae'n ofynnol i'r holl Awdurdodau Derbyn bennu
eu trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion yn eu hardal. Cyngor Sir Ddinbych yw
Awdurdod Derbyn yr holl ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn
Sir Ddinbych. Mae’r trefniadau derbyn yn cael ei pennu ar sail flynyddol, a rhaid eu
cwblhau erbyn 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu. Y flwyddyn benderfynu yw’r flwyddyn academaidd sy'n dechrau 2 flynedd
cyn y flwyddyn academaidd y bydd y disgybl yn cael ei dderbyn i'r ysgol ynddi.
Dechreuodd y flwyddyn benderfynu ar 1 Medi 2019
ar gyfer trefniadau derbyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2022-2023.
Ar gyfer derbyn ym mis Medi 2022, rhaid pennu’r
trefniadau erbyn 15 Ebrill 2021. Mae'r
trefniadau hyn yn debyg iawn i rai'r flwyddyn flaenorol heb unrhyw newidiadau
mawr ar wahân i'r dyddiadau angenrheidiol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/04/2021
Yn effeithiol o: 01/04/2021
Penderfyniad:
Cofnodi’r penderfyniad penodol a wnaed gan yr Aelod Arweiniol yn unol â’r argymhelliad yn yr adroddiad; penderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych, ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023
23/03/2021 - PROCUREMENT OF CARE AND SUPPORT IN DENBIGH EXTRA CARE HOUSING SCHEME FOR OLDER PEOPLE AND COMPLEX DISABILITY ref: 1641 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) cymeradwyo penodi’r darparwr gwasanaeth a enwir ac a argymhellir yn yr
adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i unigolion gydag anableddau cymhleth
sy’n byw ym mloc C, ac yn
(b) cymeradwyo penodi'r darparwr gwasanaeth a enwir ac a argymhellir yn yr
adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i bobl hŷn sy’n byw ym mlociau A a B
Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych.
23/03/2021 - GRAPHIC DESIGN AND PRINT FRAMEWORK ref: 1640 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r Fframwaith Dylunio Graffeg ac Argraffu, fel y manylir
arno yn yr adroddiad.
23/03/2021 - CORPORATE PLAN UPDATE, QUARTER 3, 2020 TO 2021 ref: 1637 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd
chwarter 3 2020/21 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.
23/03/2021 - SUB REGIONAL CHILDREN'S RESIDENTIAL ASSESSMENT CENTRE - PROJECT UPDATE ref: 1636 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo llofnodi Gweithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn gallu
dyfarnu’r contract i godi Canolfan Asesu Gofal Preswyl Plant, ac yn
(b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
23/03/2021 - VOLUNTEERING POLICY ref: 1635 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) cefnogi’r polisi, y prosesau a’r dogfennau cysylltiedig newydd ar gyfer
rheoli gweithgareddau gwirfoddoli yn y Cyngor, fel y manylir arnynt yn yr
adroddiad;
(b) cymeradwyo’r diwygiad arfaethedig i’r Polisi Amser i Ffwrdd o’r Gwaith ar
gyfer gweithwyr sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol (Atodiad
7 i’r adroddiad), ac yn
(c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
23/03/2021 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1639 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
23/03/2021 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1638 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllido y cytunwyd arni.
23/03/2021 - Cofnodion ref: 1634 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.
23/03/2021 - Materion Brys ref: 1633 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
Dim.
23/03/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1632 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen
Y Cynghorydd
Gwyneth Kensler – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y rhaglen
23/03/2021 - Ymddiheuriadau ref: 1631 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/03/2021
Yn effeithiol o: 23/03/2021
Penderfyniad:
Dim.