Penderfyniadau

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.

Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

01/04/2021 - TREFNIADAU DERBYN I YSGOLION AR GYFER 2022-2023 ref: 1642    Argymhellion a gymeradwywyd

Mae'n ofynnol i'r holl Awdurdodau Derbyn bennu eu trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion yn eu hardal.  Cyngor Sir Ddinbych yw Awdurdod Derbyn yr holl ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych.  Mae’r trefniadau derbyn yn cael ei pennu ar sail flynyddol, a rhaid eu cwblhau erbyn 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu.  Y flwyddyn benderfynu yw’r flwyddyn academaidd sy'n dechrau 2 flynedd cyn y flwyddyn academaidd y bydd y disgybl yn cael ei dderbyn i'r ysgol ynddi. 

 

Dechreuodd y flwyddyn benderfynu ar 1 Medi 2019 ar gyfer trefniadau derbyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2022-2023.

 

Ar gyfer derbyn ym mis Medi 2022, rhaid pennu’r trefniadau erbyn 15 Ebrill 2021.  Mae'r trefniadau hyn yn debyg iawn i rai'r flwyddyn flaenorol heb unrhyw newidiadau mawr ar wahân i'r dyddiadau angenrheidiol.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldebau

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/04/2021

Yn effeithiol o: 01/04/2021

Penderfyniad:

Cofnodi’r penderfyniad penodol a wnaed gan yr Aelod Arweiniol yn unol â’r argymhelliad yn yr adroddiad; penderfynu ar drefniadau derbyn i ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Ddinbych, ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023