Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
24/11/2020 - DENBIGHSHIRE AND FLINTSHIRE JOINT ARCHIVE PROJECT ref: 1540 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 7
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) cytuno y caiff y
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd gyflwyno cais i gam nesaf (Rownd 1) Cronfa
Treftadaeth Gorwelion Cronfa Dreftadaeth y Loteri;
(b) nodi’r galw
posib ar £2,034,521 o gyllid y Cyngor er mwyn cyflawni’r ganolfan archifau
newydd.
Mae hyn yn dibynnu os bydd y cais yn
llwyddiannus ar gam Rownd 1 o’r broses ymgeisio am grant Cronfa Dreftadaeth y
Loteri a derbyn ffurflen cynnig cyllid, a
(c) cymeradwyo’r
dull gweithredu o safbwynt Carchar Rhuthun ac estyniad arfaethedig yr atyniad
treftadaeth, fel yr amlinellir yn adran 4.8 yr adroddiad.
24/11/2020 - DRAFT HOUSING AND HOMELESSNESS STRATEGY ref: 1539 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn argymell mynd a’r Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddrafft i’r
Cabinet i’w chymeradwyo.
24/11/2020 - LLYS AWELON PHASE 2 ref: 1538 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a
(b) cymeradwyo
rhyddhau cyfalaf a gytunwyd arno eisoes o £5 miliwn er mwyn cyfrannu at
adeiladu cam 2 Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon.
24/11/2020 - FINAL GROWTH DEAL ref: 1537 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) cymeradwyo yn
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol
fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y
sail ar gyfer bod yn rhan o’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid
Grant gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU;
(b) cymeradwyo’n
ffurfiol y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â
swyddogaethau gweithrediaeth, argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r
darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn
mabwysiadu dirprwyaethau'r cylch gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2:
Atodiad 1” ohono fel y sail ar gyfer cwblhau’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y
Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;
(c) cymeradwyo’n
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor
Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;
(d) cymeradwyo’n
ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn argymell cymeradwyo’r dull a ddefnyddir
i gyfrifo’r gost benthyg tybiannol angenrheidiol er mwyn hwyluso’r llif arian
negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y
Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r craidd sefydledig a’r cyfraniadau atodol fel
y nodir yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (ac ym mharagraffau 5.5 a 5.7 yr
adroddiad templed a atodir fel rhan o Atodiad 1);
(e) bod y Prif
Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran
151 yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau
gyda’r Partneriaid fel bo’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb, a
(f) bod y Cabinet yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith
ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 fel rhan o’i
ystyriaethau.
24/11/2020 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1542 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 7
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
24/11/2020 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1541 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 7
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
24/11/2020 - Cofnodion ref: 1536 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 8
o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.
24/11/2020 - Materion Brys ref: 1535 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Ni chodwyd unrhyw
fater brys.
24/11/2020 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1534 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/11/2020
Yn effeithiol o: 24/11/2020
Penderfyniad:
Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad.