Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
26/10/2021 - CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2021-2022 ref: 1817 Argymhellion a gymeradwywyd
Ceisio cymeradwyaeth i’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Interim hwn
gyda'r nod o ymchwilio'n drylwyr i heriau cydraddoldeb wrth i ni ddatblygu ein
Cynllun Corfforaethol newydd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/10/2021
Yn effeithiol o: 26/10/2021
Penderfyniad:
Cytuno ar gynnwys a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol Dros Dro 2021 i 2022 Cyngor Sir Ddinbych mewn cysylltiad â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
19/10/2021 - CONTRACT AWARD AND POLICY CHANGES FOR A NEW CONTRACT TO MANAGE OUR HOUSEHOLD WASTE RECYCLING CENTRES ref: 1813 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod -
(a) Y Cabinet yn
awdurdodi dyfarnu’r contract i’r Cynigydd A Ffafrir sydd wedi’i gynnwys yn yr
Adroddiad Gwerthuso Tendr Caffael ar y cyd (Atodiad 1 o’r adroddiad) sydd wedi
arddangos eu bod wedi cyflwyno’r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd ac yn
nodi bod y contract yn cael ei ddyfarnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel
yr awdurdod arweiniol;
(b) aelodau yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau ac yn nodi y bydd yn
cael ei ddiweddaru ar ôl dyfarnu’r contract;
(c) Polisi Canolfan
Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y Cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
(Atodiad 2 o’r adroddiad) yn cael ei fabwysiadu o ddyddiad dechrau’r contract;
(d) Arwystlon Gwastraff
Adeiladu DIY (Atodiad 3 o’r adroddiad) yn cael eu mabwysiadu yn ffurfiol o
ddyddiad dechrau’r contract;
(e) system archebu
ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar y cyd yn cael ei ddatblygu’n fewnol gan Gyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cael ei fabwysiadu'n barhaol;
(f) yr adroddiad yn
mynd yn ôl i Bwyllgor Craffu Partneriaethau er mwyn adolygu blwyddyn gyntaf o
weithrediad y contract newydd, a
(g) y Cabinet yn nodi
bod angen cytuno ar Gontract Awdurdodau ar y Cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, gan ofyn i’r Gwasanaethau Cyfreithiol i gefnogi’r
gwasanaeth gyda pharatoi’r contract hwn.
19/10/2021 - PROPOSED APPROACH TO TENDERING FOR PHASE 2 NEW DCC WASTE TRANSFER STATION (WTS) AT COLOMENDY INDUSTRIAL ESTATE, DENBIGH ref: 1812 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) Cymeradwyo’r
ymarfer tendro arfaethedig fel y manylir yn yr adroddiad, ac yn
(b) cadarnhau eu bod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.
19/10/2021 - GRAPHIC DESIGN AND PRINT FRAMEWORK DYNAMIC PURCHASING SYSTEM ref: 1811 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r rhestr o gyflenwyr sydd wedi cael eu monitro ar gyfer
y Fframwaith System Brynu Ddynamig newydd fel y’i manylir yn yr adroddiad.
19/10/2021 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1815 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.
19/10/2021 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1814 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn
(b) cymeradwyo
defnyddio’r Grant Cynnal a Chadw Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan
Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (a
fanylir arno yn Adran 6.7 o’r adroddiad ac Atodiadau 5, 6 a 7 o’r adroddiad).
19/10/2021 - Cofnodion ref: 1810 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.
19/10/2021 - Materion Brys ref: 1809 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
Ni chodwyd unrhyw
fater brys.
19/10/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1808 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad.
19/10/2021 - Ymddiheuriadau ref: 1807 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 21/10/2021
Yn effeithiol o: 19/10/2021
Penderfyniad:
Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol
20/10/2021 - CYFLWYNO FFIOEDD AR GYFER DARPARU CYNWYSYDDION GWASTRAFF AC AILGYLCHU: PENDERFYNIAD DIRPRWYEDIG AELOD ARWEINIOL ref: 1816 Argymhellion a gymeradwywyd
Cyflwynwyd y
cynnig o arbed £40,000 drwy adfer costau llawn y ddarpariaeth biniau olwynion
yn ystod y broses o osod cyllideb 2021/22, a byddai hynny’n cael ei gyflawni
drwy godi tâl am gynwysyddion gwastraff domestig newydd ac ychwanegol. Cynigir gweithredu’r newid hwn cyn gynted ag
y bydd hynny’n ymarferol er mwyn i’r Gwasanaeth gyflawni’r arbedion y cytunwyd
arnynt.
Mae Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990) yn
galluogi awdurdod lleol i ddiffinio’r math o fin y dylid ei ddefnyddio i gyflwyno
gwastraff domestig, ac i ofyn i’r preswylydd dalu am y bin. Nid oes raid i breswylwyr nad oes ganddynt
fin ar eu cyfer eu hunain yn unig (h.y. os ydynt yn rhannu cyfleusterau
cymunol) dalu am y biniau, ond mae’n rhaid i’r biniau gael eu darparu gan gwmni
rheoli’r eiddo, y datblygwr, y landlord neu’r darparwr tai, a gellir adfer y
gost hon gan y preswylwyr drwy dâl gwasanaeth.
Bydd pob cynhwysydd gwastraff newydd a ddarperir
gan y cyngor fel rhan o gyflwyniad y dull casglu gwastraff newydd yn cael eu
darparu’n rhad ac am ddim.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 20/10/2021
Yn effeithiol o: 20/10/2021
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn cyflwyno’r atodlen codi tâl am gynwysyddion gwastraff (fel y nodir yn Atodiad 1 o’r adroddiad sydd ynghlwm) a’i bod yn cael ei gweithredu ar unwaith.
Bod y Cyngor yn
mabwysiadu Polisi Codi Tâl am Finiau newydd (gweler Atodiad 2 i’r adroddiad
sydd ynghlwm) a’i fod yn cael ei weithredu ar unwaith.