Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
23/11/2021 - TENDER OF NEW FLEET VEHICLES FOR THE NEW WASTE MODEL ref: 1830 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn cymeradwyo’r ymarferiad
tendro arfaethedig fel ag y nodwyd yn yr adroddiad;
(b) yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad), Ffurflen Comisiynu’r Fflyd (Atodiad 2 yr adroddiad), a’r Llinell
Amser (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;
(c) yn cadarnhau y caiff y
penderfyniad ei weithredu yn syth oherwydd bod angen cychwyn y Gwahoddiad i
Dendro yn nechrau Rhagfyr 2021 i sicrhau y derbynnir y nwyddau mewn da bryd ar
gyfer lansio’r model gwasanaeth newydd. Mae hyn oherwydd bod amser arwain y
cerbydau hyn yn hir, a
(d) yn nodi y bydd adroddiad pellach
yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn Ionawr 2022 i gymeradwyo’r Dyfarnu Contract
yn dilyn wedi’r ymarferiad tendro, bydd hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli
contractau, costau wedi eu tendro, a manylion contractau.
23/11/2021 - CORPORATE PLAN UPDATE, QUARTER 2, 2021 TO 2022 ref: 1831 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn nodi’r datblygiad yng nghyflawni’r Cynllun Corfforaethol fel
ag y mae ddiwedd chwarter 2, 2021/2021, ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad
drafft.
23/11/2021 - REGIONAL MEMORY ASSESSMENT SUPPORT SERVICE INVITATION TO TENDER (ITT) ref: 1829 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod –
(a) Cyngor Sir Ddinbych i
weithredu fel Comisiynydd Arweiniol y Gwahoddiad i Dendro’r Gwasanaeth Asesu
Cof Rhanbarthol;
(b) yr ymarferiad Gwahoddiad i
Dendro i gael ei arwain gan dîm caffael Cyngor Sir Ddinbych er mwyn sicrhau bod
y drefn briodol yn cael ei dilyn, sydd yn gymwys i lefel gwerth y contract
posibl, ac
(c) y Cabinet i gadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.
23/11/2021 - UK GOVERNMENT LEVELLING UP FUND BID APPROVAL - CLWYD WEST CONSTITUENCY ref: 1828 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn cefnogi thema’r cais, y
prosiectau arfaethedig sydd i’w cynnwys yn y cais, a gwerth dangosol bras pob
prosiect, ac
(b) yn dirprwyo awdurdod i’r
Prif Weithredwr a Phennaeth Cynllunio, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Chefn
Gwlad, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd a’r Arweinydd, i gaboli’r prosiectau
a chostau’r prosiectau fel bo’r angen, ac i benderfynu ar gais i’w gyflwyno i
Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd.
23/11/2021 - LLANNERCH BRIDGE ref: 1827 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth i’r egwyddor o newid y bont, yn amodol ar
sicrhau’r cyllid angenrheidiol. Golyga hyn gysylltu â Llywodraeth Cymru i wneud
cais am nawdd allanol.
23/11/2021 - MEIFOD UPDATE ref: 1826 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) Bod Meifod yn cael ei agor
fel gwasanaeth wedi ei reoli gan y Cyngor ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu
cyn gynted ag y bo’n ddiogel i wneud hynny, yn dilyn buddsoddiad angenrheidiol
i’r adeilad/cyfleusterau presennol. Yr oedd disgwyl y gallai’r gwasanaeth
ailagor erbyn Chwefror 2022, fodd bynnag gall hyn fod yn gynt os gorffennir y
gwaith yn gyflym;
(b) bod swyddogion yn darparu
opsiynau i aelodau eu hystyried drwy’r broses wleidyddol sefydledig ar:
·
ffyrdd newydd o weithio ym
Meifod i wella dysgu a sgiliau ar amrediad o weithgareddau, gan gynnwys
gweithio â phren
·
modelau cyflawni gwasanaeth
amgen ar gyfer y gweithredu ym Meifod, gyda’r bwriad o wella cynaliadwyedd
hir-dymor y gwasanaeth, gan fod y brydles ar yr adeilad yn dod i ben mewn 4
blynedd
(c) bod swyddogion yn sefydlu
grŵp budd-ddeiliaid yn cynnwys unigolion sy’n mynychu Meifod a pherthnasau
cynrychioladol, neu eiriolwyr, i sicrhau eu bod yn cael ymwneud ag ailagoriad y
gwasanaeth ynghyd â datblygu opsiynau ar gyfer ei weithredu yn y dyfodol.
23/11/2021 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1833 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
y dylid cofnodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.
23/11/2021 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1832 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn nodi’r cyllidebau ar
gyfer 2021/22 ac yn symud ymlaen yn erbyn y strategaeth gyllid a gytunwyd arni,
ac
(b) yn cymeradwyo addasu of Llys
Anwyl, y Rhyl, i fflatiau ar gyfer rhentu cymdeithasol (fel y nodir yn Adran
6.7 yr adroddiad, ac Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad).
23/11/2021 - Cofnodion ref: 1825 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 yn cael eu derbyn a’u
cadarnhau yn gofnod cywir.
23/11/2021 - Materion Brys ref: 1824 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
Nid oedd unrhyw
faterion brys.
23/11/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1823 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad.
23/11/2021 - YMDDIHEURIADAU ref: 1822 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/11/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2021
Yn effeithiol o: 23/11/2021
Penderfyniad:
Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
11/11/2021 - LICENSING ACT 2003: APPLICATION FOR VARIATION OF A PREMISES LICENCE - THE COVE, 17 - 19 WATER STREET, RHYL ref: 1821 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Is-Bwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/11/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/11/2021
Yn effeithiol o: 11/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, yn destun amodau, cymeradwyo’r
cais mewn perthynas ag amrywio'r oriau a ganiateir ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy yn unol â'r cais i 3.00am
o ddydd Sul i ddydd Iau, a gwrthod yr elfen o’r cais sy’n ymwneud â diwygio’r
amodau mewn perthynas â goruchwylwyr drws.
11/11/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1820 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Is-Bwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/11/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/11/2021
Yn effeithiol o: 11/11/2021
Penderfyniad:
Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.
11/11/2021 - PENODI CADEIRYDD ref: 1819 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Is-Bwyllgor Trwyddedu
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/11/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/11/2021
Yn effeithiol o: 11/11/2021
Penderfyniad:
Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.