Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
23/02/2021 - Penodi Cynrychiolydd i Bartneriaeth yr AHNE ref: 1618 Argymhellion a gymeradwywyd
Penodi cynghorydd newydd ar Bartneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 23/02/2021
Yn effeithiol o: 23/02/2021
Penderfyniad:
Penodi’r Cynghorydd Graham Timms fel cynrychiolydd ar Bartneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)
16/02/2021 - RECOMMENDATIONS OF THE STRATEGIC INVESTMENT GROUP ref: 1614 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y prosiectau
a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad er mwyn eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf
2021/22 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.
16/02/2021 - WELSH GOVERNMENT TRANSFORMING TOWNS PROGRAMME ref: 1613 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD (yn dilyn
cymeradwyaeth wreiddiol y Cyngor ar 22 Mai 2018) y dylai’r Cabinet gymeradwyo
awdurdod dirprwyedig parhaus i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r
Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu
Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd
a’r Pennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151) ar gyfer blynyddoedd ariannu 2021-22
(Blwyddyn 4) a 2022-23 (Blwyddyn 5) er mwyn –
(i) gwneud unrhyw
geisiadau cyllido prosiect sy’n angenrheidiol i sicrhau adnoddau o’r rhaglen
Trawsnewid Trefi ar gyfer cyfnod ei weithrediad;
(ii) derbyn a
gweithredu gwariant ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen
Trawsnewid Trefi, yn cynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti;
(iii) ailnegodi ac
ymgymryd ag unrhyw gytundebau newydd gyda chynghorau eraill gogledd Cymru fel
bo’r angen i ymgeisio neu i dderbyn arian rhaglen Trawsnewid Trefi, a
(iv) chytuno ar
unrhyw newidiadau/diweddariadau a wneir i Gynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd
Cymru (RRP).
16/02/2021 - STREET NAMING AND NUMBERING POLICY REVIEW ref: 1612 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r
newidiadau canlynol i’r Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd –
(i) bod strydoedd
newydd yn cael eu henwi yn Gymraeg yn unig, a
(ii) bod y dewis i
enwi strydoedd ar ôl unigolion yn cael ei dynnu o’r polisi.
16/02/2021 - DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL'S CLIMATE AND ECOLOGICAL CHANGE STRATEGY (2021 - 2029) ref: 1611 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –
(a) argymell bod y
Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Cyngor Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid
Ecolegol (2021/22-2029/30), ac yn
(b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad A o’r
adroddiad) i ystyriaeth fel rhan o'i benderfyniad.
16/02/2021 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 1616 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
16/02/2021 - ADRODDIAD CYLLID ref: 1615 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn –
(a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn
(b) cymeradwyo
sefydlu cronfa wrth gefn i ganiatáu i Sir Ddinbych Yn Gweithio reoli’u harian
yn fwy effeithiol.
16/02/2021 - Cofnodion ref: 1610 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir.
16/02/2021 - Materion Brys ref: 1608 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
Ni chodwyd unrhyw faterion brys.
16/02/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1609 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
16/02/2021 - Ymddiheuriadau ref: 1607 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/02/2021
Yn effeithiol o: 16/02/2021
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.