Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
09/12/2021 - DENBIGHSHIRE'S GYPSY AND TRAVELLER ACCOMMODATION ASSESSMENT (2021) ref: 1850 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin
Domestig ochr yn ochr â’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau
Cefn Gwlad, y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a'r Cynghorydd Barry Mellor,
Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Asesu Anghenion Llety Sipsiwn a Theithiwyr
adroddiad ar y broses a ddilynwyd i
ymgymryd ag Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych (2021).
Hefyd ynghlwm â'r adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) roedd yr Asesiad o
Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft ar gyfer Sir Ddinbych.
Rhoddodd yr
Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin
Domestig ychydig o gefndir i’r Pwyllgor ar gynhyrchiad yr adroddiad. Mae Deddf
Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar Awdurdodau Lleol i asesu
anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr (Adran 101) ac yna bodloni’r anghenion
hynny (Adran 103). Mae yna ofyniad
cyfreithiol (Deddf Tai (Cymru) 2014 i gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
o leiaf bob 5 mlynedd felly roedd yn ofynnol yn awr i’r Cyngor gynnal Asesiad
newydd. Mae Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddar hefyd yn ofynnol ar
gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru yw 24 Chwefror 2022.
Mae dull rheoli
prosiectau cadarn wedi’i fabwysiadu drwy sefydliad Bwrdd Prosiect o dan
arweiniad Aelod, gyda’r Arweinydd a’r Aelod Arweiniol yn gweithio gydag Uwch
Swyddogion i gyfeirio’r gwaith i sicrhau ymgysylltiad Aelodau, agoredrwydd a
thryloywder drwy gydol y broses.
Roedd Aelodau
Etholedig a’r Pwyllgor Craffu wedi codi pryderon eisoes ynghylch y lefel o
ymgynghoriad gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr a’r angen i ymgysylltu’n
gynnar gyda’r Aelodau. O ganlyniad i hyn, yn ei gyfarfod ar 13 Mai 2021,
cytunodd y Pwyllgor Craffu Cymunedau y dylid sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i
ddarparu cefnogaeth ar gyfer datblygiad y Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a
Theithwyr newydd.
Dywedodd y
Cynghorydd Barry Mellor, Caderydd y Grŵp Tasg a Gorffen wrth y Pwyllgor
bod y Grwŵp Tasg a Gorffen wedi cyfarfod chwe gwaith. Roedd ei
drafodaethau wedi cynnwys pob agwedd ar fethodoleg Llywodraeth Cymru. Edrychwyd
ar ar gynnydd yr asesiad, cyfathrebiadau â rhanddeiliaid a chasgliadau’r
adroddiad Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft. Roedd eu
hadroddiad terfynol ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 1.
Roedd y Briff
Gwaith a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn cynnwys
gweithgareddau i ddiwallu gofynion methodoleg Llywodraeth Cymru yn ogystal â gweithgareddau
ychwanegol a ddynodwyd fel rhai pwysig i'r Cyngor, Roedd y rhain yn darparu’r
fframwaith ar gyfer ymgymryd â’r Asesiad o Anghenion Llety. Roedd yr amrywiaeth
o weithgareddau ychwanegol yn cynnwys arolwg ar-lein ar gyfer aelodau ac
aelodau’n chware rhan mewn hyrwyddo’r arolwg – sicrhau bod aelodau’n fwy
ymgysylltiedig o’r camau cynharaf. Fe wnaeth penodiad Swyddog Cyswllt Sipsiwn,
Roma a Theithwyr yn ystod mis Awst hefyd sicrhau bod teuluoedd teithiol oedd yn
y sir yn ystod cyfnod yr Asesiad wedi cael gwybod amdano.
I gloi dywedodd
y Cynghorydd Barry Mellor bod casgliadau ac argymhellion drafft yr Asesiad o
Anghenion wedi’u cyflwyno i’r Grŵp Tasg a Gorffen yn ei gyfarfod ar 15
Tachwedd. Yn y cyfarfod hwnnw cytunodd y
Grŵp eu bod yn fodlon y defnyddiwyd methodoleg Llywodraeth Cymru yn
briodol wrth ddadansoddi’r angen a bod y gweithgareddau ychwanegol a nododd
Craffu eisoes wedi'u hymgymryd â nhw. Er
bod y gwaith wedi gofyn am gryn ymrwymiad gan y Grŵp Tasg a Gorffen yn
ystod y misoedd diwethaf, roedd pawb yn teimlo bod y dull o weithredu wedi
gweithio'n dda. O ganlyniad, roedd y
Grŵp wedi gwneud cais bod dull tebyg cael ei fabwysiadu yn y dyfodol wrth
ystyried safleoedd posibl ar gyfer lleiniau.
Diolchodd yr
Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin
Domestig i'r Cynghorydd Mellor a'r Grŵp Tasg a Gorffen am eu holl waith
caled. Aeth ati wedyn i gyflwyno
casgliadau’r Asesiad sef:
·
bod angen 8 llain breswyl i ddiwallu anghenion dynodedig
3 aelwyd/grwpiau teulu estynedig yn y sir, a
·
nad oes tystiolaeth o’r angen am safle tramwy parhaol
oherwydd niferoedd isel gwersylloedd diawdurdod, natur tymor byr y math yma o
wersylloedd a'r ffaith nad oedd cyfweliadau gyda’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr
wedi dynodi’r angen am ddarpariaeth dramwy barhaol yn lleol. Argymhellwyd y
gellid datblygu ymhellach y dull seiliedig ar reolaeth a ddefnyddir gyda
gwersylloedd diawdurdod yn seiliedig ar arfer gorau o bob rhan o’r DU, a allai
gynnwys ‘aros drwy drafodaeth’.
·
Rhagwelir mai’r twf mewn teuluoedd yn y dyfodol fydd 4
teulu ychwanegol o 2026 i 2033.
Dywedodd yr
Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin
Domestig y byddai'r trafodaethau yn y cyfarfod presennol yn cael eu hadrodd i’r Cabinet ar 14 Rhagfyr
a’r bwriad oedd ceisio cymeradwyaeth yn y cyfarfod hwnnw i gyflwyno’r Asesiad o
Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Drafft i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth.
Trafododd
Aelodau’r canlynol mewn mwy o fanylder:
·
Holodd y pwyllgor ynghylch is-bennawd 7.5 'Mynd i'r Afael
ag Anghenion a Ddynodwyd' yn yr Asesiad o Anghenion Drafft. Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch yr
hyn yr oedd 'dymuniad i ddiwallu eu hanghenion eu hunain’ yn ei olygu. Dywedodd
yr Aelod Arweiniol bod y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi dweud y
byddai'n well ganddynt ddewis eu safleoedd eu hunain yn hytrach na byw ar
safleoedd cyhoeddus.
·
Holodd y Pwyllgor a allai’r grŵp Tasg a Gorffen
barhau â’i waith yn y dyfodol i helpu’r Cyngor i ddewis safleoedd posibl, oherwydd
bod gan aelodau'r Grŵp fewnwelediad i anghenion a dymuniadau'r cymunedau
hyn. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd bod cynhyrchu'r Asesiad o Anghenion a dewis safleoedd posibl yn
ddwy broses ar wahân. Dywedodd pe bai Grŵp Tasg a Gorffen yn rhan o’r gwaith yna
byddai’n rhaid penderfynu yn ystod tymor y Cyngor newydd pa bryd y
byddai’r broses honno'n digwydd.
·
Eglurodd yr Aelod Arweiniol bod Travelling Ahead
(Sefydliad Eiriolaeth Sipsiwn a Theithwyr) yn sefydliad cenedlaethol ond bod
ganddo gynrychiolaeth ranbarthol. Roedd
y sefydliad wedi ymgysylltu â'r broses asesu ac roedd yn parhau i gysylltu â’r
Cyngor.
·
Cadarnhawyd unwaith eto mai casgliad yr asesiad oedd nad
oes angen safle tramwy parhaol yn yr ardal.
Ar ddiwedd
trafodaeth y Pwyllgor:
Penderfynwyd yn
unfrydol: -
(i) y dylid
cymeradwyo casgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen -
(a) bod gwaith ar
yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr wedi cwrdd â gofynion y Briff Gwaith
a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid fel y’i cymeradwywyd gan y
Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 26 Gorffennaf; a
(b) bod methodoleg
Llywodraeth Cymru wedi’i roi ar waith yn briodol ar yr asesiad o anghenion
(ii) cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o
fabwysiadwyd i gyflawni Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir
Ddinbych fel un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;
(iii)
cadarnhau ei
fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3
yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, ac
(iv)
argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r Asesiad o
Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft
i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Mynegodd y
Cadeirydd a’r holl aelodau etholedig a oedd yn bresennol eu diolch i’r Cadeirydd
ac aelodau’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith diwyd yn cefnogi cyflawniad
y gwaith uchod. Cydnabu’r aelodau bod y
broses asesu gyfan wedi cymryd cryn amser ac ymdrech ar ran swyddogion ac
aelodau i’w gynllunio, ei fonitro a'i ddarparu i'r safon angenrheidiol.
Daeth y cyfarfod i ben
am 1.30pm
09/12/2021 - NEW WASTE AND RECYCLING OPERATING MODEL GENERAL UPDATE AND COMMUNICATIONS PROGRESS ref: 1847 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Aeth yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd ar y cyd â'r
Pennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd a Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu a'r aelodau drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd
eisoes). Pwysleisiwyd y cyflwynwyd yr eitem ar y model gwastraff i’r pwyllgor
hwn eisoes a bod swyddogion yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd
i’r aelodau. Dywedodd yr Aelod Arweiniol y trafodwyd y model gwastraff yn
gyntaf ym mis Rhagfyr 2018 oherwydd y pwysau ariannol yr oedd yr awdurdod yn ei
wynebu.
Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol mai’r rheswm
dros yr adroddiad oedd rhoi gwybod i’r aelodau ar ba gam yr oedd y model newydd
o ran ei ddatblygiad a'i sefydliad, a pha waith sydd wedi digwydd ers y
cyflwyniad diwethaf i'r pwyllgor. Mae llawer o waith a chynnydd wedi'i wneud.
Mae’r depo newydd yn Ninbych, sydd ar ystâd ddiwydiannol Colomendy, yn
ddatblygiad allweddol yn y cynllun. Roedd manteision y prosiect wedi dod yn
amlwg mewn ymweliad safle diweddar. Roedd y rhain yn cynnwys y manteision i
fusnesau sydd eisoes ar yr ystad - wrth ddatblygu'r tir a ddefnyddiwyd ar gyfer
y depo bu modd i’r Cyngor ddatgloi darn o dir y tu ôl i nifer o fusnesau
preifat gan roi cyfle i'r busnesau hyn ehangu.
Roedd pawb wedi croesawu'r cyfle
hwn.
Cafodd yr aelodau adolygiad o bob un o’r atodiadau a ddarparwyd er
ystyriaeth a gwybodaeth yr aelodau.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor
rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y manylion canlynol:
·
Wedi’i gynnwys yn yr adroddiad
yn atodiad 2.b roedd tabl yn amlygu'r newidiadau arfaethedig i'r
polisïau Casglu Gwastraff Domestig
presennol. Pe bai’r Pwyllgor yn cytuno
â’r newidiadau arfaethedig byddai’r polisïau newydd yn cael eu cymeradwyo
drwy’r broses penderfyniadau dirprwyedig erbyn Mawrth 2022;
·
Roedd rhedeg y gwasanaeth bin
glas (ailgylchu cymysg) a du (gwastraff gweddilliol) wedi mynd yn ariannol
anymarferol. Byddai cyfathrebu gyda phreswylwyr i egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r
model newydd a'u helpu i ddeall pam ei fod yn cael ei gyflwyno yn hanfodol i
weithrediad y trefniadau newydd.
·
Roedd y rhesymau dros newid y model a’r system wedi’u
trafod mewn manylder cyn i’r penderfyniad i newid gael ei wneud. Roedd y manteision wedi’u nodi yn atodiad 5.
Nid oedd y model cyfredol yn gynaliadwy yn ariannol nac amgylcheddol.
·
Roedd swyddogion wedi edrych
ar, ac wedi dysgu gan awdurdodau eraill a oedd eisoes yn defnyddio modelau
ailgylchu a thrin gwastraff tebyg.
·
Byddai’r model newydd yn
galluogi staff i ennill gwybodaeth newydd a datblygu ac ehangu profiadau. Bydd
hefyd yn galluogi cyflogi mwy o staff ar
wahanol lefelau;
·
Roedd bwriad i gasgliadau tecstilau fod ar gael ar draws
y sir naill ai drwy drefniadau ar y cyd neu gasglwyr CSDd. Dywedwyd wrth yr aelodau y llwyddwyd i gael
arian gan Lywodraeth Cymru cyn Covid i ymestyn casgliadau tecstilau i fwy o
gartrefi yn y sir ond bod y pandemig wedi oedi hyn. Gobeithir y bydd y gwasanaeth yn ailgychwyn
pan fydd yr economi'n dechrau dod ato’i hun.
·
Fel rhan o’r gwasanaeth casglu
sbwriel bydd dros 44,000 o aelwydydd yn cael troli bocs. Roedd swyddogion yn
teimlo mai sach cardbord fyddai fwyaf addas ar gyfer ailgylchu a bydd y rhain
yn cael eu dosbarthu i aelwydydd. Gellid prynu cynwysyddion ailgylchu
ychwanegol neu ddarparu sachau ychwanegol.
·
Cadarnhawyd y bu rhywfaint o
oedi mewn caffael y cerbydau trydanol. Pwysleisiwyd na fyddai hyn yn achosi
oedi yn ngweithrediad y system newydd.
·
Mae cost gwaredu gwastraff mewn
biniau du yn uwch na chost anfon eitemau i ffwrdd i'w hailgylchu. Bydd
ailgylchu mwy o eitemau yn hytrach na’u rhoi mewn bin du yn arbed mwy o arian. Mae’n bwysig felly addysgu preswylwyr am ailgylchu. Mae biniau du a
throliau newydd yn cael eu cynhyrchu o
ddeunyddiau wedi'u hailgylchu. Mae modd
hefyd ailgylchu’r biniau a'r bocsys troli eu hunain (ar wahân i’r fflapiau
agor/cau).
·
Bydd casgliadau â chymorth yn
parhau o dan y model newydd;
·
Roedd swyddogion yn teimlo bod
angen codi am finiau newydd. Dywedwyd wrth yr aelodau y codir tâl ar hyn o bryd
o dan y model presennol am finiau newydd. Fel rhan o roi’r model newydd ar
waith bydd yr holl finiau newydd a roddir i ddechrau yn rhad ac am ddim a bydd
cyfnod o 12 mis i bobl wneud cais am finiau gwahanol. Ni chodir tâl am fynd â
biniau diangen i ffwrdd o aelwydydd.
·
Mae’r contract presennol ar
gyfer ailgylchu gwastraff yr awdurdod yn ei le hyn y dyddiad arfaethedig ar
gyfer cyflwyno’r model newydd.
·
Mae’r term tecstilau yn cyfeirio at unrhyw eitem o
ddillad neu bethau wedi’u gwneud o ddefnydd. Byddai'r Co-options, y cwmni sy’n casglu'r tecstiliau yn Sir Ddinbych,
yn ailddefnyddio ac yn gwerthu unrhyw eitemau addas ac yn anfon unrhyw beth nad
oes modd ei ailddefnyddio i'w ailgylchu. Mae Co-options yn cynnig casgliadau
tecstiliau ymyl y palmant yn bennaf yng ngogledd y sir ar hyn o bryd.
·
Bydd microsglodion ar finiau yn
galluogi adnabod pa fin sy’n perthyn i pa eiddo. Byddai hyn yn galluogi
swyddogion i ddynodi materion fel biniau ar goll, eiddo gwag neu aelwydydd sydd
ddim yn defnyddio eu biniau. Nid bwriad hyn yw cadw golwg ar yr eitemau sy'n
cael eu rhoi mewn biniau. Dechreuodd y broses o gynorthwyo ac addysgu
preswylwyr am ailgylchu gyda’r cynllun 'Cadw i fyny a’r Jonesiaid’ a lansiwyd
yn 2019.
·
Nid yw geiriad ffyrdd heb eu
mabwysiadu yn y polisi yn newid. Roedd swyddogion yn teimlo fod hwn yn bolisi y
bydd angen ailedrych arno pan gaiff y model newydd ei roi ar waith;
·
Bydd treial
bach gyda biniau â microsglodion yn dechrau yng Ngorllewin y Rhyl ym mis
Chwefror 2022 Bydd yr aelodau'n cael adroddiad ar y
canlyniadau. Dim ond biniau du a sachau fydd yn cael microsglodyn ar hyn o bryd. Mae nifer o
wahanol opsiynau y gellir eu rhoi i preswylwyr ac mae swyddogion yn hapus i
asesu eu hanghenion.
·
Mae’r Ddeddf Diogelu’r
Amgylchedd yn rhoi arweiniad ar gyfer preswylwyr a busnesau. Mae’n rhoi
gwybodaeth i’r awdurdod ar gamau gorfodi. Mae contract gorfodi yn ei le gyda
District Enforcement ar gyfer patrolau sbwriel a baw cŵn.
·
Awgrymwyd bod aelodau etholedig yn cael profiad o'r
'gwasanaeth safonol’ ym mis Chwefror a mis Mawrth 2022. Byddai hyn yn caniatáu
i aelodau sydd ar hyn o bryd yn defnyddio'r gwasanaeth bin glas/du ymyl y
palmant brofi'r gwasanaeth newydd am wyth wythnos. Byddai adborth defnyddwyr ar y
gwasanaeth ‘newydd’ yn ddefnyddiol i gynllunio ar gyfer gweithrediad llawn y
gwasanaeth maes o law.
Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr ymateb manwl i bryderon a
chwestiynau’r aelodau.
Ar ôl i’r
Pwyllgor ystyried y wybodaeth fanwl a gyflwynwyd i’r aelodau ac ar ôl
trafodaeth fanwl ar y cynnwys
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
nodi’r
cynnydd y mae Tîm y Prosiect wedi’i wneud hyd yma er mwyn cyflwyno’r Gwasanaeth
Gwastraff ac Ailgylchu newydd i breswylwyr erbyn haf 2023.
(ii) cymeradwyo’r gyfres o bolisïau gwastraff
cartref ac ailgylchu (Atodiad II) a nodi bwriad y Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol i sicrhau y caiff y polisïau eu mabwysiadu drwy’r
broses penderfyniadau dirprwyedig erbyn mis Mawrth 2022, a
(iii)
gofyn
bod y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn cyflwyno adroddiad
arall i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar ganlyniadau’r prosiectau peilot yng
Ngorllewin y Rhyl (defnyddio microsglodion mewn cynwysyddion gwastraff), Bron y
Crêst (newid i’r gwasanaeth biniau cyffredin) a mentrau Profiad Ailgylchu
Aelodau Etholedig.
09/12/2021 - STAKEHOLDER/COMMUNITY ENGAGEMENT ACTIVITY FOR POTENTIAL CENTRAL RHYL AND CENTRAL PRESTATYN COASTAL DEFENCE SCHEMES ref: 1846 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd, ar y cyd
â’r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a'r Amgylchedd a'r Peiriannydd Risg
Llifogydd y gweithgaredd ymgysylltu â Rhanddeiliaid/Cymunedau ar Gynlluniau
Amddiffyn yr Arfordir posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn (a
ddosbarthwyd eisoes).
Yn ystod y cyflwyniad eglurodd yr Aelod Arweiniol a’r
swyddogion bod Craffu wedi gofyn am yr adroddiad er mwyn cael gwybodaeth am
gasgliadau’r ymgynghoriad cymunedol. Diolchwyd i Matthew Hazelwood – Rheolwr
Prosiect a oedd wedi cadeirio'r holl gyfarfodydd yn y Rhyl ac wedi gwneud
llawer o waith ar y cynllun.
Dywedwyd wrth yr aelodau bod sesiwn ymgynghori ‘galw
heibio’ gyhoeddus ar gynllun amddiffyn arfordir Canol Prestatyn i’w chynnal ar
13 Rhagfyr 2021. Atgoffodd swyddogion yr aelodau bod adroddiad blaenorol wedi’i
gyflwyno i’r aelodau ac y gwnaed cais am adroddiad dilynol ar yr ymarfer
ymgysylltu.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor rhoddwyd y
manylion canlynol:
·
Mater technegol yng nghyfarfod diwethaf
Grŵp Ardal Aelodau Prestatyn arweiniodd at orfod trefnu’r diweddariad.
·
Yng nghlwb golff y Rhyl y mae'r risg
pennaf. Bydd cynnal a chadw gweddill y gwaith arfordirol gyda gobaith yn rhoi
50 mlynedd yn fwy o amddiffyniad. Pryder a gododd y swyddogion oedd y twyni yng
Ngronant. Roedd archwiliadau a monitro rheolaidd yn digwydd yn y safle a chaiff
prosiectau’r dyfodol eu trafod.
·
Mae’r ciosgau ger y traeth yn y Rhyl yn
cael eu trafod ar hyn o bryd. Mae’r tîm eiddo corfforaethol yn siarad â thenantiaid
a gweithredwyr y ciosgau. Ni fydd yn bosibl symud ymlaen â’r cynllun gyda’r
ciosgau presennol yn eu lle.
·
Mae cydweithio agos yn digwydd gydag
adrannau eraill ar gynlluniau posibl ar gyfer promenâd y Rhyl a bydd
hyn yn parhau i sicrhau bod yr holl gynlluniau a datblygiadau yn yr
ardal yn cydblethu.
·
Bydd ymgysylltiad yn parhau drwy
ddatblygu’r cynllun gyda phreswylwyr a gweithredwyr busnesau yn yr ardal. Bydd
trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol yn parhau drwy gydol y camau datblygu
ac adeiladu ac os bydd angen gellid ystyried cynigion ar gyfer addasiadau fel
sy'n briodol.
·
Yn
ddibynnol ar y tywydd ac amodau’r tir rhagwelir y bydd Cynllun Canol y Rhyl yn
cymryd hyd at ddwy flynedd a hanner i'w gwblhau, gyda Chynllun Canol Prestatyn yn
cymryd tua thair blynedd i'w gwblhau.
Bydd yn rhaid ymgymryd â Chynllun Canol Prestatyn, a fydd yn symud yn ei
flaen yn seiliedig ar amodau’r tir yn yr ardal, ar gyflymder arafach.
·
Mae gostyngiad mewn carbon wedi’i nodi
fel rhywbeth a fydd yn cael effaith gadarnhaol yn yr Asesiadau o Effaith ar Les
ar gyfer y ddau gynllun.
Diolchodd aelodau
i’r swyddogion a’r contractwyr am eu gwaith ar y cynllun.
Ar ddiwedd y
drafodaeth, yn amodol ar y sylwadau uchod:
Penderfynwyd: - Bod y Pwyllgor -
(i)
ar
ôl archwilio cwmpas a chasgliadau'r ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid a'r
cyhoedd ar y cynlluniau, yn argymell i'r Cabinet ei fod yn fodlon â'r modd y
cynhaliwyd yr ymgynghoriadau ac â’u casgliadau; a
(ii)
cadarnhau
ei fod, fel rhan o’i ystyriaethau, wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr
Asesiadau o Effaith ar Les (ynghlwm yn Atodiadau 3a a 3b yr adroddiad).
09/12/2021 - FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES ref: 1849 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw
adborth gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar unrhyw rai o Fyrddau na Grwpiau’r
Cyngor.
09/12/2021 - Rhaglen Waith Archwilio ref: 1848 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu (SC) adroddiad (wedi’i rannu eisoes) yn gofyn
i’r aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar y
materion perthnasol.
Cafwyd trafodaeth
ar y materion canlynol:-
·
Dywedodd
SC y bydd pedair eitem bwysig yn cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf. Ni soniwyd am unrhyw
eitemau eraill ar gyfer y cyfarfod hwn.
·
Ni chyfeiriwyd
unrhyw eitemau ychwanegol o’r cyfarfod diwethaf o Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021.
·
Yn y
cyfarfod diwethaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, trafododd
yr aelodau’r posibilrwydd o beidio cynnal cyfarfodydd Craffu yn y cyfnod cyn yr
etholiad ym mis Mai 2022. Yn y 6 wythnos
cyn yr etholiadau ni fyddai unrhyw benderfyniadau cynhennus yn cael eu gwneud.
Cytunwyd na fyddai cyfarfodydd Craffu yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw
oni bai bod eitem frys yn codi. Bydd cyfarfod olaf y Pwyllgor hwn cyn y cyfnod
cyn-etholiad hwnnw yn cael ei gynnal ar 10 Mawrth 2022.
·
Atgoffwyd
yr aelodau bod angen iddynt lenwi ffurflen cynnig pwnc craffu os oes unrhyw
fater y maent am iddo gael ei archwilio mewn manylder.
·
Rhoddodd
SC ddiweddariad i’r aelodau o’r cyfarfod diwethaf ar Ffos y Rhyl a Gwter
Prestatyn ac a yw'r awdurdod yn berchennog ar unrhyw dir torlannol yno.
Cadarnhaodd SC mai perchnogion y tir sy’n gyfrifol am gynnal ffiniau sy’n
cyffinio â’r ffos/gwter. Yn yr adroddiad a gafodd yr aelodau roedd lluniau'n
dangos y tir sy’n eiddo i CSDd.
Felly:
Penderfynwyd: - Yn
amodol ar y sylwadau uchod y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y
Pwyllgor
09/12/2021 - Cofnodion ref: 1845 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 21st
Ionawr 2021.
Materion yn codi:
Dywedodd y
Cynghorydd Brian Blakeney ei fod wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau ar gyfer y
cyfarfod ond nad oedd hynny wedi'i nodi yn y cofnodion.
Cyfeiriodd y
Cydlynydd Craffu'r aelodau at y ddogfen ‘Briff Gwybodaeth’ a ddosbarthwyd yn
gynharach yn yr wythnos a oedd yn rhoi diweddariad ar y camau gweithredu neu'r
ceisiadau a ddeilliodd o'r cyfarfod uchod a chynnydd o ran eu gweithredu a'u
darparu. Felly:
Penderfynwyd: - yn amodol ar nodi’r ymddiheuriad uchod, bod cofnodion y Pwyllgor Craffu
Cymunedau a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel
cofnod cywir.
09/12/2021 - MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD ref: 1844 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi’u codi gyda’r Cadeirydd na’r Is-gadeirydd cyn y cyfarfod.
09/12/2021 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1843 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad ar y cam hwn. Datganodd
y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol yn ystod eitem 6: 'Diweddariad
Cyffredinol ar y Model Gweithredu Gwastraff ac Ailgylchu Newydd a chynnydd o
ran Cyfathrebiadau’.
09/12/2021 - Ymddiheuriadau ref: 1842 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2022
Yn effeithiol o: 09/12/2021
Penderfyniad:
Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Huw O Williams (Cadeirydd). Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y
Cynghorydd Graham Timms yn ei absenoldeb.
10/01/2022 - ESTYNIAD I GYTUNDEB TGCh - SYSTEM AD ref: 1881 Argymhellion a gymeradwywyd
Ymestyn y cyfnod
dan gontract mewn perthynas â system wybodaeth Adnoddau Dynol y Cyngor gyda
chyflenwr y system bresennol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/01/2022
Yn effeithiol o: 10/01/2022
Penderfyniad:
Ymestyn y trefniant dan gontract ar gyfer system wybodaeth Adnoddau Dynol y Cyngor am gyfnod o dair blynedd er mwyn gallu cynnal proses gaffael briodol.
10/01/2022 - GORCHYMYN 202 CYNGOR SIR DDINBYCH (BWLCH YR OERNANT, LLANDEGLA) (CYFYNGIAD CYFLYMDER 40MYA) ref: 1880 Argymhellion a gymeradwywyd
Yn unol
â’r Gorchymyn Traffig uchod, gostwng y terfyn cyflymder ar yr A542 rhwng ei
chyffordd â’r A5104 a phwynt sydd 124.5 tua’r de o Britannia Inn o’r Terfyn
Cyflymder Cenedlaethol i 40mya.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/01/2022
Yn effeithiol o: 10/01/2022
Penderfyniad:
Cymeradwyo gweithredu’r Gorchymyn Traffig a ganlyn - Gorchymyn 202 Cyngor Sir Ddinbych (Bwlch yr Oernant, Llandegla) (Cyfyngiad Cyflymder 40mya).