Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
03/11/2021 - MODEL BUDDSODDIAD CYDFUDDIANNOL - PARTNERIAETH ADDYSG GYMRAEG YSGOLION YR 21AIN GANRIF - GWEITHRED YMLYNIAD ref: 1818 Argymhellion a gymeradwywyd
Roedd Sir Ddinbych, ynghyd â 23
Awdurdod Lleol arall a Sefydliadau Addysg Bellach wedi ymrwymo i Gytundeb
Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru gyda WEPCo ar 30 Medi 2020, pob
un yn “Gyfranogwyr Parhaus”, a WEPCo y cwmni cyd-fenter a sefydlwyd rhwng y
Partner Cyflenwi Sector Preifat (PCSP) ac is-gorff Banc Datblygu Cymru.
Ers ei gwblhau, mae pum Awdurdod Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach wedi mynegi dymuniad i ymrwymo i CPS i allu tynnu gwasanaethau i lawr o WEPCo fel Cydgyfranogwyr.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/11/2021
Yn effeithiol o: 03/11/2021
Penderfyniad:
I gymeradwyo ac ymrwymo i Weithred Ymlyniad i alluogi’r Cyfranogwyr sy’n Ymuno i fod yn barti ac wedi eu rhwymo i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol.