Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
03/11/2020 - POLISI DYRANIADAU TAI A COVID 19 ref: 1516 Argymhellion a gymeradwywyd
Ceisio cymeradwyaeth i barhau gyda’r newid rhannol a dros dro i’r polisi dyraniadau ar gyfer tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych mewn ymateb i effaith Covid-19 ar lety dros dro / brys ar gyfer aelwydydd digartref.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/11/2020
Yn effeithiol o: 03/11/2020
Penderfyniad:
Parhau â’r diwygiad i’r Polisi Dyraniadau, am gyfnod pellach o 3 mis o 19 Hydref 2020.
22/10/2020 - NORTH EAST WALES ARCHIVES AND RUTHIN GAOL ref: 1513 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal.
Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a
Charchar Rhuthun, gwnaeth y Pwyllgor:
Benderfynu:
(i)
nodi’r
cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar
Rhuthun yn y dyfodol;
(ii)
cofnodi
pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr
Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Hyb yn yr
Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiannus; a
(iii)
bod canlyniadau Ymgynghoriad Mynediad
presennol Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu i aelodau er
gwybodaeth.
22/10/2020 - COMMUNITY BENEFITS POLICY ref: 1512 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw
un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynodd y Pwyllgor: - ar ôl ystyried y polisi -
(i)
cefnogi ei nodau a’i amcanion;
(ii)
cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2); ac
(iii)
argymell o
ran tudalen 4 y polisi, dan yr adran ‘Mentrau Cynaliadwyedd Amgylcheddol’, bod
y geiriau “cyfyngu ar lygredd” yn cael eu disodli â “cyfyngu ar lygredd lle
bo’n bosibl”.
22/10/2020 - IMPACT OF RUTHIN PRIMARY REVIEW ref: 1511 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal.
Penderfynodd y
Pwyllgor:
ar ôl ystyried y
canfyddiadau yn yr adroddiad ac a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth -
(i)
derbyn
y wybodaeth am effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun fel y’i haseswyd yn
erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
(ii)
cadarnhau,
fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1);
(iii)
bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi
i’w ddosbarthu i aelodau am yr effaith economaidd ar Rhewl yn dilyn cau’r ysgol
fel rhan o adolygiad addysg gynradd Rhuthun;
(iv)
bod
gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau sy’n cynnwys ystadegau’r Arolwg o’r
Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws Sir Ddinbych yn ddiweddar; a
(v)
bod
diolchgarwch aelodau yn cael ei gyfleu i holl staff yr ysgol, y Gwasanaeth
Addysg a Gwasanaethau eraill y Cyngor am eu hymdrechion a’u hymrwymiad o ran
sicrhau darpariaeth addysg a chefnogaeth i ddisgyblion y sir trwy gydol
pandemig COVID-19.
22/10/2020 - FEEDBACK FROM COMMITTEE REPRESENTATIVES ref: 1515 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Ni chafwyd
adborth.
22/10/2020 - Rhaglen Waith Archwilio ref: 1514 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw
un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynwyd: ar ôl rhoi
ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar yr arsylwadau a’r
awgrymiadau uchod -
(i)
cymeradwyo
rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a
(ii)
bod
cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Chwefror 2021 i
ystyried materion sy’n ymwneud â Phrosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff
22/10/2020 - Cofnodion ref: 1509 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd
pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei
erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais.
Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 fel cofnod cywir.
22/10/2020 - MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD ref: 1510 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran Gwaredu Tir
Wrth Ymyl Ysgol Pendref, Dinbych: Gwahoddodd y Cadeirydd yr Is-Gadeirydd i
annerch y Pwyllgor o ran ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei
archwiliad o’r penderfyniad uchod. Er
bod y Cabinet wedi trafod argymhellion y Pwyllgor yn fanwl ac roedd hanner
aelodau’r Cabinet wedi cefnogi argymhellion y Pwyllgor, roedd y Weithrediaeth
wedi cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd. Nododd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ei siom gyda’r
canlyniad, a holodd a allai’r Pwyllgorau Craffu fyth berswadio’r Cabinet i
adolygu eu penderfyniadau.
Dywedodd aelodau
Gweithrediaethau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod presennol eu bod o’r farn
bod y Pwyllgor Craffu wedi dal y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a’u
bod wedi creu trafodaeth adeiladol.
Roedd nifer o faterion wedi codi a oedd yn debygol o gael eu hystyried
wrth benderfynu ar bolisi cynllunio yn y dyfodol. Roedd defnyddio’r bleidlais fwrw wedi amlygu
bod Cabinet y Cyngor yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys aelodau â gwahanol
safbwyntiau.
22/10/2020 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 1508 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen, ‘Cofnodion’
gan ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen, ‘Effaith
Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun’:
Y Cynghorydd Huw
O Williams – mae’n rhiant i ddisgybl sy’n mynychu un o’r ysgolion
Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog
Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – mae’n Rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras
Y Cynghorydd
Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor
Aelod
Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Borthyn
Y Cynghorydd
Cheryl Williams – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Crist y Gair
Y Cynghorydd
Emrys Wynne – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn
Y Cynghorydd
Martyn Holland – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bro Famau
Y Cynghorydd Andrew Thomas – mae’n llywodraethwr yn un o ysgolion y sir
Y Cynghorydd Tina Jones – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Melyd
Y Cynghorydd Graham Timms – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân,
Llangollen
22/10/2020 - Ymddiheuriadau ref: 1507 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/10/2020
Yn effeithiol o: 22/10/2020
Penderfyniad:
Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Anton Sampson a’r Cynghorydd
Glenn Swingler.