Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.
Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.
29/07/2022 - PENODI I FWRDD CYFARWYDDWYR CADWYN CLWYD ref: 2061 Argymhellion a gymeradwywyd
Penodi cynghorydd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Cadwyn Clwyd Cyfyngedig fel
cynrychiolydd enwebedig Sir Ddinbych.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 29/07/2022
Yn effeithiol o: 29/07/2022
Penderfyniad:
(i) Penodi’r Cynghorydd Emrys Wynne, aelod Cabinet arweiniol gyda
chyfrifoldeb am ddatblygu gwledig i Fwrdd Cyfarwyddwyr Cadwyn Clwyd; a
(ii) Cadarnhau bod cyfnod y penodiad yn cyd-fynd â thymor y Cyngor presennol oni bai y penodir rhywun newydd.
26/07/2022 - SUSTAINABLE COMMUNITIES FOR LEARNING - BAND B ref: 2058 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau barn y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg nad oedd unrhyw newid arwyddocaol wedi digwydd o ran cyflwr adeiladau ysgolion a bod y trefn polisi presennol ysgolion yn dal yn gyfredol a chywir.
26/07/2022 - PROCUREMENT OF NEW TEMPORARY EMERGENCY ACCOMMODATION SUPPORT SERVICE (HOMELESSNESS PREVENTION) ref: 2057 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo cychwyn y broses gaffael
fel sydd wedi’i nodi yn y Ffurflen Gomisiynu sydd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a
(b) cadarnhau ei fod wedi darllen ac wedi ystyried yr Asesiad Lles (Adroddiad Asesiad Effaith ar Les ar gyfer y Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai 2022 – 25 yn Atodiad 3 yr adroddiad)
26/07/2022 - SHARED PROSPERITY FUND ref: 2056 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo datblygiad pellach
rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Ddinbych ac yn rhanbarthol drwy fewnbwn
swyddogion, yn unol â’r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad;
(b) rhoi awdurdod dirprwyedig
i’r Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd i
ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth
Fuddsoddi Ranbarthol i alluogi i gyllid y rhaglen gael ei dynnu i lawr, a
(c) cefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol i gyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol i Lywodraeth y DU ac i arwain darpariaeth y rhaglen wedi hynny.
26/07/2022 - REVIEW OF CABINET DECISION RELATING TO THE PROPOSED SCHEME OF DELEGATED DECISION MAKING FOR LAND ACQUISITION (FREEHOLD AND LEASEHOLD) FOR CARBON SEQUESTRATION AND ECOLOGICAL IMPROVEMENT PURPOSES ref: 2055 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cydnabod
casgliadau, pryderon ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei
adolygiad o benderfyniad y Cabinet ar 15 Chwefror 2022 o ran ‘Cynllun Penderfyniadau Dirprwyedig
Arfaethedig ar gyfer Caffael Tir (Rhydd-ddaliadol a Lesddaliadol) i Ddibenion
Dal a Storio Carbon a Gwella Ecolegol’;
(b) yn cytuno i ailystyried ei
benderfyniad gwreiddiol, gyda’r bwriad o gyflymu’r broses benderfynu ar gyfer
prynu tir, ac fel rhan o’r adolygiad hwnnw bydd yn ystyried ac yn cymryd i
ystyriaeth yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu fel y nodir ym
mharagraff 3.2 o’r adroddiad, a
(c) gofyn i swyddogion ddod ag adroddiad gerbron y Cabinet ar yr adolygiad hwnnw, i’w ystyried gan y Cabinet ym mis Hydref.
26/07/2022 - BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET ref: 2060 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet.
26/07/2022 - ADRODDIAD CYLLID ref: 2059 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.
26/07/2022 - Cofnodion ref: 2054 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.
26/07/2022 - Materion Brys ref: 2053 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
Caniataodd yr Arweinydd i gwestiwn gael ei roi gerbron y Cabinet am ffioedd gofal ac i ateb gael ei roi hefyd.
26/07/2022 - DATGANIADAU O FUDDIANT ref: 2052 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
Datganodd yr aelodau canlynol ddiddordeb personol yn
rhaglen 8 ar y rhaglen ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Band B’ -
Roedd gan y Cynghorydd Gill German ddau o blant yn Ysgol
Uwchradd Prestatyn
Roedd gan y Cynghorydd Jason McLellan blentyn yn Ysgol
Uwchradd Prestatyn
Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
26/07/2022 - Ymddiheuriadau ref: 2051 Argymhellion a gymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 28/07/2022
Yn effeithiol o: 26/07/2022
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
22/07/2022 - DIADAU AR GYFER BWRDD SAFLE TREFTADAETH Y BYD A CHYD-BWYLLGOR ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL BRYNIAU CLWYD A DYFFRYN DYFRDWY ref: 2050 Argymhellion a gymeradwywyd
Penodi aelodau portffolio’r Cabinet i fod ar Fwrdd Safle Treftadaeth y Byd a Chyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/07/2022
Yn effeithiol o: 22/07/2022
Penderfyniad:
(i) Penodi’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y
Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth i fod ar Fwrdd Safle Treftadaeth y Byd;
(ii) Penodi’r Cynghorwyr Win Mullen-James ac Emrys Wynne i
fod ar Gyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy (AHNE); a
(ii) Chadarnhau bod cyfnod y penodiadau hyn am dymor y Cyngor presennol oni bai y penodir rhywun newydd.