Penderfyniadau

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar gymerwyd gan council’s gyrff cymryd penderfyniadau.

Fe’ch hysbyswn bod ein Archif Penderfyniadau Dirprwyedig yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am gopi o benderfyniadau dirprwyedig a wnaethpwyd cyn 16 Medi 2020, cysylltwch â democrataidd@sirddinbych.gov.uk, gellir dod o hyd i benderfyniadau a wnaethpwyd ar ôl hynny isod.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

03/11/2021 - MODEL BUDDSODDIAD CYDFUDDIANNOL - PARTNERIAETH ADDYSG GYMRAEG YSGOLION YR 21AIN GANRIF - GWEITHRED YMLYNIAD ref: 1818    Argymhellion a gymeradwywyd

Roedd Sir Ddinbych, ynghyd â 23 Awdurdod Lleol arall a Sefydliadau Addysg Bellach wedi ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru gyda WEPCo ar 30 Medi 2020, pob un yn “Gyfranogwyr Parhaus”, a WEPCo y cwmni cyd-fenter a sefydlwyd rhwng y Partner Cyflenwi Sector Preifat (PCSP) ac is-gorff Banc Datblygu Cymru.

 

Ers ei gwblhau, mae pum Awdurdod Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach wedi mynegi dymuniad i ymrwymo i CPS i allu tynnu gwasanaethau i lawr o WEPCo fel Cydgyfranogwyr.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/11/2021

Yn effeithiol o: 03/11/2021

Penderfyniad:

I gymeradwyo ac ymrwymo i Weithred Ymlyniad i alluogi’r Cyfranogwyr sy’n Ymuno i fod yn barti ac wedi eu rhwymo i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol.


26/10/2021 - CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2021-2022 ref: 1817    Argymhellion a gymeradwywyd

Ceisio cymeradwyaeth i’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Interim hwn gyda'r nod o ymchwilio'n drylwyr i heriau cydraddoldeb wrth i ni ddatblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/10/2021

Yn effeithiol o: 26/10/2021

Penderfyniad:

Cytuno ar gynnwys a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol Dros Dro 2021 i 2022 Cyngor Sir Ddinbych mewn cysylltiad â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.